Cylchlythyr mis Mawrth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Awst 2017

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

3. Diweddariadau Staff y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

1. Newyddion


Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Procurex Cymru 2017?

 

Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio Procurex 2017 a fydd yn cael ei gynnal yn Arena Motor Point ar 9 Tachwedd.
Gyda llawer mwy i’w gadarnhau, bydd y diwrnod yn cael ei drefnu o amgylch y pedair strategaeth drawsbynciol yn ymrwymiadau Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru, sef Ffyniannus a Diogel, Iach ac Egnïol, Uchelgais a Dysgu ac Unedig a Chysylltiedig.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Procurex Cymru yma a gallwch weld digwyddiad Procurex Wales y llynedd yma.

Procurex

Bilingual Go Awards 2017

Gwobrau Go Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau!

Mae Gwobrau GO Cymru ar agor yn awr ar gyfer ceisiadau.  Gallwch fynychu’r gwobrau, sy’n cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yn rhad ac am ddim a byddant yn dathlu llwyddiant y rhai ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i economi Cymru.
Cynhelir y seremoni ddydd Iau, 9 Tachwedd 2017 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar ôl Cynhadledd Procurex.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.goawards.co.uk/cymru/


Cyfeiriadau e-bost newydd ar gyfer staff y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Mae cyfeiriadau e-bost ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac ar draws Llywodraeth Cymru wedi newid;
Bydd y newid yn golygu bod ein cyfeiriadau e-bost yn newid o @Wales.GSi.Gov.UK i gyfeiriad e-bost @gov.wales newydd.  Mae hyn yn effeithio ar bob cyfeiriad e-bost, gan gynnwys blychau post unigol a grŵp.

Bydd yr hen gyfeiriadau e-bost @wales.GSi.gov.uk yn parhau i fod yn weithredol am tua 12 mis a bydd negeseuon e-bost sy’n defnyddio’r cyfeiriad @GSi yn cael eu dosbarthu i’r cyfeiriad @gov.wales newydd.


EU

Taflen ffeithiau am drafodaethau ‘Brexit’ ar gael

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi taflen ffeithiau ar y sefyllfa ers i’r DU danio Erthygl 50 a ‘Brexit’. I gael rhagor o wybodaeth a gweld y datblygiadau diweddaraf yn y trafodaethau ewch i:
http://europa.eu/rapid/press-release_MEMO-17-2001_en.htm


Rhestr o Fframweithiau Byw

Mae’r rhestr o Fframweithiau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sydd ar gael i’w defnyddio wedi’i diweddaru i adlewyrchu fframweithiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar. Mae’r rhestr hon ar gael ar ein gwefan.



Hyfforddiant am ddim

Mae hi yn bleser i ni gyhoeddi digwyddiad hyfforddiant a rhwydweithio yn ein swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ar ddydd Mercher, 13 Medi 2017.
Bydd y diwrnod yn dechrau am 9:30y.b. ac yn gorffen am 4y.p. fan bellaf. Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan Veale Wasbrough Vizards LLP, IBIS World ac Atamis.
 

 Bydd y sesiynau yn rhoi trosolwg o'r ddeddfwriaeth caffael DU a'r UE a diweddariad ar achosion gyfraith ddiweddar. Bydd IBIS World yn rhoi cyflwyniad i’w adroddiadau ymchwil diwydiant, ac Atamis yn rhoi trosolwg o ateb dadansoddiad gwariant.  Am fwy o wybodaeth neu i gadarnhau eich presenoldeb, anfonwch e-bost

NPSStakeholderEngagement@gov.wales


Swyddi gwag

Mae cyfle gwych wedi codi i Uwch Swyddog Caffael ymuno ag Uned Caffael Cydweithredol y tri Heddlu yn Ne Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân Freeman, Arweinydd Caffael Strategol yn sian.freeman@south-wales.pnn.police.uk    Ffôn symudol: 0782 583 1338


2. Gweithgarwch cyfredol ac sydd ar y gweill yn ôl categori

Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Bydd pob un yn cael ei hysbysebu drwy GwerthwchiGymru, fodd bynnag, a wnewch chi rannu’r wybodaeth hon gyda chymaint o gyflenwyr â phosibl yr ydych yn credu fyddai â diddordeb yn hyn.
 
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â’r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau

Fframweithiau i’w dyfarnu:

ae’r Fframwaith ar gyfer Darparu Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd yn cael ei werthuso yn awr a disgwylir iddo gael ei ddyfarnu ganol Medi 2017. Bydd yr holl ddogfennaeth Canllaw ar y Fframweithiau ar gael o GwerthwchiGymru ar ôl ei ddyfarnu.

 

Fframweithiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar:

Cafodd y Fframwaith ar gyfer Darparu Gwaith Cynnal a Chadw a Gosod Lifftiau Cadair Teithwyr a Nwyddau a Domestig ei ddyfarnu ar 1 Awst.  Bydd Canllaw’r Fframwaith ar gael ar wefan GwerthwchiGymru yn y man. Mae Tîm y Categori yn croesawu unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Fframwaith.

 

Diweddariadau:

Mae fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Glanhau a Phorthorol wedi’i ymestyn at 15 Mehefin 2018. Mae canllaw diwygiedig y Fframwaith wedi’i gynnwys ar GwerthwchiGymru i adlewyrchu’r estyniad hwn.

 

Cysylltwch â NPSConstruction&FM@gov.cymru

 


Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Diweddariadau:


Fframwaith Prynu Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Chysylltiadau Cyhoeddus:

Mae lotiau 2 a 3 y fframwaith (Gwasanaethau Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Chysylltiadau Cyhoeddus) wedi’u dyfarnu ac mae’r cytundeb yn weithredol yn awr.  Bydd Lot 1, Prynu Cyfryngau yn cael ei ail-gyflwyno fel tendr yn 2017 am na chafodd ei ddyfarnu. Bydd y lot Prynu Cyfryngau sy’n rhan o’r Fframwaith Gwasanaethau Asiantaethau’r Cyfryngau Cymru Gyfan, sydd wedi penodi Golley Slater fel yr unig gyflenwr, yn cael ei ymestyn i gwmpasu gofynion cwsmeriaid yn y cyfamser. Cysylltwch â’n blwch postio os oes gennych unrhyw ymholiadau.

 

Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol, Gwelededd Uchel, Iwnifform, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden:

Oherwydd yr angen i sicrhau bod ein fforwm categori wedi cael cyfle i gyfranogi’n llawn yn y cam gwerthuso, disgwylir i’r fframwaith hwn fod yn weithredol yr wythnos sy’n dechrau 4 Medi.  Mae Fframwaith presennol Consortiwm Prynu Cymru yn cael ei ymestyn hyd at ddydd Gwener 1 Medi i gwmpasu gofynion cwsmeriaid hyd at y dyddiad hwn.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Defnyddiau Traul Argraffwyr III:

Daeth y fframwaith hwn i ben ar 31 Gorffennaf 2017. Mae’n bosibl cyflwyno unrhyw ofynion ar gyfer defnyddiau traul argraffwyr drwy Lot 2 y MFD a’r Cytundeb Fframwaith Gwasanaethau Cysylltiedig sy’n cael ei redeg gan y Tîm Categori TG.  Cysylltwch â NPSICTCategoryTeam@gov.wales i gael rhagor o wybodaeth.

 

Trefniant Pontio Deunydd Ysgrifennu:

Daeth y trefniant pontio deunydd ysgrifennu gyda Banner i ben ar 14 Gorffennaf 2017.  Dylid cyfeirio holl ofynion deunydd ysgrifennu cwsmeriaid yn awr drwy fframwaith sefydledig y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwi Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo.

Cysylltwch â: NPSCorporateServices@cymru.gov


Fflyd a Thrafnidiaeth

Diweddariadau


• Telemateg Cerbydau – Sefydlwyd grŵp ffocws ar gyfer y gofyniad hwn. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 7 Mehefin 2017 i ystyried yr opsiynau caffael ar gyfer Telemateg Cerbydau a dechrau’r broses o gwmpasu’r prosiect. Mae aelodaeth y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector rhanddeiliaid o bob rhan o Sector Cyhoeddus Cymru. Canlyniad cychwynnol y cyfarfod hwn oedd yr angen am ragor o wybodaeth felly cynhaliwyd arolwg.  Mae tîm Fflyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dadansoddi canlyniadau’r arolwg er mwyn hysbysu cwmpas a gofynion y prosiect. Mae cofnodion y cyfarfod hwn ar gael ar wefan GwerthwchiGymru.

 

• Rhannau Sbâr Cerbydau – Cynhaliwyd fforwm agored wedi’i gydlynu gan dîm fflyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar 28 Mehefin 2017 yn swyddfa Bedwas Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar ran sefydliadau de Cymru i drafod gweithredu’r fframwaith newydd gyda Fleetwheel Cyf (wedi’u cefnogi gan Truckparts). Cafwyd presenoldeb da yn y digwyddiad gyda thrafodaethau cadarnhaol iawn. Ers y digwyddiad hwn mae mwy o sefydliadau cwsmeriaid wedi cofrestru’n llwyddiannus i’r Fframwaith ac rydym yn barod i helpu eraill sy’n dymuno ei ddefnyddio.

 

• Llogi Cerbydau II – Datblygwyd cyfrifydd Cyfraddau diwygiedig ac mae ar gael ar GwerthwchiGymru. Gwnaethom hyn er mwyn i gwsmeriaid allu canfod yr opsiwn sy’n cynnig y gwerth am arian gorau wrth logi cerbydau. Mae’r gwelliannau datblygu a wnaed i’r offer yn cynnwys:

  • Cyfanswm y costau llogi ar gyfer pob Math o Gerbyd gyda nodweddion ymarferol ychwanegol i ddiffinio’r cyfnod llogi gofynnol er mwyn casglu cyfraddau perthnasol at ddibenion cymharu a graddio.
  • Cynnwys costau dechrau’n gynnar ar y tab gwybodaeth ychwanegol.

Yn unol â’r cytundeb fframwaith, mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ceisio costau ychwanegol ar gyfer cerbydau Lot 2 (Cerbydau Masnachol Ysgafn) ac wedi ychwanegu Pennod 8 (marciau cerbydau lifrai) a golau ar gyfer y rhestr brisiau. Mae’r cyfraddau wedi’u llwytho i’r cyfrifydd cyfraddau.

Noder, oherwydd natur ddynamig y Fframwaith hwn, byddem yn atgoffa cwsmeriaid i lwytho’r fersiwn diweddaraf o’r cyfrifydd cyfraddau o GwerthwchiGymru pan fydd angen iddynt wneud hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth fasnachol ddiweddaraf.

 

• Cardiau Tanwydd – Mae’r cytundeb canslo presennol gyda fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) yn dod i ben ar 13 Mai 2018.  Mae tîm Fflyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ymgysylltu â CCS o ran eu fframwaith newydd, a byddant yn ymgysylltu â chwsmeriaid yn fuan i drafod y ddarpariaeth yn y dyfodol.

 

• Rydym yn gweithio gydag aelodau grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan i ddatblygu proses gaffael ar gyfer Fflyd yn y dyfodol.  Rydym yn sefydlu gweithgorau yn awr i ystyried y meysydd gwaith canlynol:

  • Safoni manylebau cerbydau
  • Modelau prisio oes gyfan
  • Gwiriadau Trwyddedau Gyrwyr
  • Llogi Cerbydau
  • Darparu Tanwydd Hylifol yn y dyfodol (derbyn yr estyniad 12 mis terfynol neu ail-dendro)

Gall unrhyw Gwsmer sy’n dymuno cymryd rhan yn unrhyw rai o’r prosiectau hyn neu wybodaeth bellach gysylltu i ddechrau â blwch postio fflyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.


Cysylltwch âNPSFleet@cymru.gov


Bwyd

Bwyd  

Hysbysiadau dyfarnu contractau

Fframweithiau i’w dyfarnu Mae tendr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Bwyd Ffres a Diodydd (gan gynnwys Cig wedi Rhewi) wedi’i werthuso ac mae’r Llythyrau Bwriad i Ddyfarnu wedi’u cyflwyno i’r Ymgeiswyr.  Yn amodol ar gwblhau cam y Bwriad i Ddyfarnu cyhoeddir y Llythyrau Dyfarnu Terfynol yn Awst 2017.  Ar ôl cyflwyno’r ddogfennaeth ddyfarnu derfynol, byddwn yn dosbarthu “Hysbysiad o Ddyfarniad” gyda’r manylion yn cael eu llwytho i https://www.sell2wales.gov.wales/.

 

Tendrau Presennol:

Cyhoeddwyd tendr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diod wedi’u Pecynnu – Cyfeirnod NPS-FOOD-0069-16 ar 11 Awst.

Mae hysbysiad contract OJEU yn disgrifio’r gofynion ar gael ar GwerthwchiGymru. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu tendrau drwy eDendro Cymru ac mae angen cofrestru yn: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/cym/login.shtml

Digwyddiadau:

Cynorthwyo Cyflenwyr i Dendro
I gynorthwyo ymgeiswyr i ddeall disgwyliadau’r broses dendro, byddwn yn cynnal dau Ddigwyddiad i Ymgeiswyr (un yn ne Cymru ar 22 Awst ac un yng ngogledd Cymru ar 23 Awst).  Mae’r manylion ar gael yn Hysbyseb OJEU ar <https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/>  Mae angen i ymgeiswyr gofrestru er mwyn mynychu, a hynny drwy anfon e-bost i’r blwch postio bwyd neu drwy borth negeseuon eDendroCymru.

Pan fydd y digwyddiadau i ymgeiswyr wedi’u cynnal bydd y sleidiau/gwybodaeth ar gael i bob ymgeisydd drwy eDendro Cymru.

 

Cysylltwch âNPSFood@gov.cymru


Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Diweddariadau

Fframwaith Gwasanaethau Digidol:
Rydym yn parhau i gwmpasu Fframwaith/Fframweithiau Digidol Cymru Gyfan, sy’n cwmpasu ystod eang o wasanaethau ac offer digidol, yn ogystal â darparu llwybr i’r farchnad ar gyfer atebion arloesol a phwrpasol.  Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ymgysylltu â’r farchnad yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chafwyd presenoldeb da yno gyda mwy na 90 o sefydliadau yn eu mynychu dros y ddau ddiwrnod.  Cafodd y sesiynau eu cynnal fel ymgynghoriad - fe wnaethom ofyn i’r farchnad roi eu sylwadau ar ein syniadau cychwynnol ar ôl ystyried yr adborth cychwynnol gan gwsmeriaid a dderbyniwyd.  Yn y digwyddiad hwn cafwyd adborth gwerthfawr gan y cynrychiolwyr, a defnyddiwyd yr adborth hwn i ddatblygu ein syniadau. Rydym yn ail-gysylltu â’n cwsmeriaid yn awr ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru i ail-drafod a phrofi’r canlyniadau cyn llunio rhestr fer derfynol o fframweithiau i’w cyflwyno drwy ein prosesau llywodraethu. 

Os hoffech wybod mwy am y Fframwaith/Fframweithiau Gwasanaethau Digidol neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau, cysylltwch â thîm y categori.

 

Fframwaith Cynnyrch a Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth:
Bydd y fframwaith hwn yn dod i ben yn Ionawr 2018. Rydym yn dadansoddi’r opsiynau ar gyfer y fframwaith hwn yn awr, sy’n cynnwys ymestyn y Fframwaith. Fel rhan o’r broses rheoli cyflenwyr a chontractau, datblygwyd methodoleg feincnodi sydd wedi’i phrofi ar y fframwaith cynnyrch a gwasanaethau technoleg gwybodaeth.  Nod hyn yw sicrhau gwerth am arian gwell o’r cynnyrch a’r gwasanaethau yn y fframwaith. Ar ôl profi’r dull hwn bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweddill y Fframweithiau yn y categori hwn.

 

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw adborth ar unrhyw rai o’r fframweithiau sy’n cael eu rheoli gan y tîm.

 

Digwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Mae’r tîm categori yn gweithio gyda thîm Sectorau TGCh Llywodraeth Cymru i hyrwyddo digwyddiad Digidol 2017 a gynhelir yn y Tramshed yng Nghaerdydd o 18 i 19 Medi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:  http://digital-festival.co.uk/

Cysylltwch âNPSICTCategoryTeam@gov.cymru


Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl

Digwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Fframwaith Gwasanaeth Rheoledig ar gyfer darparu Gweithwyr Asiantaeth: Cynhelir cyfarfod o’r Grŵp Fforwm Categori am 10am ar 27 Medi ym Medwas. Mae gwahoddiadau wedi’u hanfon i’r Grŵp Fforwm Categori ond os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad hyd yma a’ch bod yn awyddus i fynychu’r cyfarfod, rhowch wybod i ni.

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Chysylltiedig

Bydd cyfarfodydd adolygu cyflenwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gyda chyflenwyr y Fframwaith Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Thechnolegau Cynorthwyol yn cael eu cynnal yn fuan.  Os hoffech godi unrhyw faterion neu bryderon ynglŷn â pherfformiad cyflenwr i’w trafod yn y cyfarfodydd, cysylltwch â ni.

Cynhelir cyfarfod nesaf Iechyd Galwedigaethol y Grŵp Fforwm Categori ddydd Mercher 1 Tachwedd am 1:00pm hyd at 4:30pm drwy fideo gynhadledd.  Bydd y cyfleusterau cynadledda ar gael rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas (Caerffili) a Chyffordd Llandudno (Conwy).  Os hoffech chi fynychu’r naill leoliad neu’r llall, cysylltwch â ni drwy ein blwch postio.
 
Cysylltwch â: NPSPeopleServicesutilities@gov.cymru

 


Gwasanaethau Proffesiynol

 
Diweddariadau:

Gwelliannau a Chyngor Arbed Ynni yn y Cartref: Rhaglen Cartrefi Cynnes Cymru – Disgwylir i’r Hysbysiad Contract i Ddarparwr Gwasanaeth Reoli a Chyflenwi Cynllun Tlodi Tanwydd Seiliedig ar Alw Cymru Gyfan (Nest) gael ei gyflwyno ym mis Awst. Dilynir hyn gan yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cynllun Tlodi Tanwydd Seiliedig ar Ardal Cymru Gyfan (Arbed).

Cyfarfu’r Panel Rheoli Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu: ym mis Gorffennaf a phenderfynodd, mewn egwyddor, i adnewyddu’r Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) cyn estyniad terfynol yr opsiwn ddiwedd 2017.  Mae gwaith yn parhau i ddatblygu model newydd ar gyfer y cytundeb ac rydym yn croesawu eich mewnbwn.

Hyfforddiant Cyfreithiol ar gael

Mae cyflenwyr yn y fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnig ystod eang o hyfforddiant cyfreithiol a digwyddiadau briffio am ddim ac am dâl.  Mae’r amserlen ar gael yma http://gov.wales/docs/nps/170711-nps-events.docx

 

Cysylltwch â: NPSProfessionalServices@gov.cymru



3. Diweddariadau Staff y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Mae Paul Griffiths, wedi’i ddyrchafu o’r swydd Pennaeth y Categori Gwasanaethau Proffesiynol i fod yn Bennaeth parhaol Rheoli Categorïau (lle bydd yn goruchwylio holl gategorïau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol).


O 1 Medi ymlaen bydd Jackie Kay yn Arweinydd Categori ar gyfer Gwasanaethau Proffesiynol yn ogystal â Fflyd. Enw newydd y tîm fydd Gwasanaethau Proffesiynol a Fflyd. Os oes gennych chi ymholiadau sy’n ymwneud â Fflyd, anfonwch e-bost i NPSFleet@gov.cymru  Os oes gennych chi ymholiadau sy’n ymwneud â Gwasanaethau Proffesiynol, anfonwch e-bost i NPSProfessionalServices@gov.cymru a bydd aelod perthnasol o’r tîm yn delio â’ch neges.


Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

e-bostiwch: NPSCommunications@.gov.cymru