1. Newyddion
Mae Steven Morgan yn bwriadu ymddeol fel Cadeirydd Bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC). Mae Steven Morgan wedi cadeirio Bwrdd y GCC ers iddo gael ei benodi ym mis Chwefror 2014 drwy’r broses penodiadau cyhoeddus.
Sefydlwyd Bwrdd y GCC i roi cymorth a chyfeiriad strategol i Gyfarwyddwr y GCC ac i sicrhau bod y GCC yn gyfrwng effeithiol o roi trefniadau caffael ar y cyd ar waith sy’n darparu gwerth am arian i’r sector cyhoeddus yng Nghymru - diwallu anghenion cwsmeriaid a chroesawu polisi caffael y Gweinidogion; a chymryd cyfrifoldeb am y gweithio mewn partneriaeth llwyddiannus rhwng y GCC a’r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru.
Bydd Steven yn ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Masnachol, y Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Gorffennaf ac mae hyn yn cyd-fynd â diwedd ei gyfnod fel Cadeirydd Bwrdd y GCC.
Yr Is-gadeirydd presennol, Neil Frow, fydd yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd y Bwrdd.
Mae Adroddiad Blynyddol 2015/16 y GCC ar gael ar ein gwefan. I weld yr adroddiad, ewch i: http://gov.wales/docs/nps/170510-annual-report-cy.pdf
Rhifau ffôn newydd y
GCC
Cofiwch fod staff y GCC wedi
trosglwyddo i rifau ffôn 03000 yn gynharach eleni. Rydym wedi diweddaru
Cyfeirlyfr Cysylltiadau’r GCC i adlewyrchu hyn.
Mae’r Cyfeirlyfr yn trefnu staff y GCC fesul saith categori, ynghyd â manylion
eu meysydd gwaith penodol. Y bwriad yw cynorthwyo cwsmeriaid i gysylltu â’r GCC
gyda’u hymholiadau.
Mae’r Cyfeirlyfr Cysylltiadau ar gael i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru. Neu cysylltwch â NPSCommunications@wales.gsi.gov.uk
i ofyn am gopi.
Rhestr o'r
Fframweithiau Byw
Mae’r rhestr o
Fframweithiau’r GCC sydd ar gael i'w ddefnyddio wedi cael ei ddiweddaru i
adlewyrchu’r fframweithiau sydd wedi cael eu dyfarnu’n ddiweddar. Mae ar gael
ar ein gwefan.
Procurex
2017
Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio
Procurex 2017, a bydd yn cael ei gynnal yn Arena Motorpoint ar 9 Tachwedd.
Gyda mwy o lawer i’w gadarnhau, bydd y diwrnod wedi’i drefnu yn seiliedig ar y pedair strategaeth drawsbynciol sy'n rhan o ymrwymiadau Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru, sef Ffyniannus a Diogel, Iach ac Egnïol, Uchelgais a Dysgu ac Unedig a Cysylltiedig.
Gallwch gael gwybod rhagor am Procurex Cymru yn
y fan yma a gallwch weld Procurex
Cymru y llynedd yn y fan yma.
2.Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau
Fframweithiau ar fin cael eu dyfarnu
Mae fframwaith y GCC ar gyfer Cynnal
a Chadw Lifftiau Grisiau Domestig, Lifftiau Teithwyr a Lifftiau Nwyddau i fod i
gael ei ddyfarnu ar 1 Awst 2017. Bydd
Canllaw'r Fframwaith ar gael ar GwerthwchiGymru ar ôl y dyddiad pryd y bydd yn
dod ‘yn fyw’.
Gweithio i gael y prisiau gorau i’n cwsmeriaid
Yn rhifyn mis Ionawr 2017 o Gylchlythyr
y GCC, fe wnaethom ni roi gwybod bod y GCC yn cael ceisiadau i amrywio
prisiau’r fframwaith Deunyddiau Adeiladu Cyffredinol ar gyfer ail ben-blwydd y
fframwaith ar 6 Chwefror 2017.
Cwblhawyd
y trafodaethau ar eich rhan. Mewn adeg heriol oherwydd bod arian cyfredol yn
anwadal, rydym wedi llwyddo i gytuno y bydd oedi cyn gweithredu’r codiadau pris
a hefyd y gostyngiadau i'r codiadau pris gwreiddiol y gofynnwyd amdanynt.
Mae
catalogau diwygiedig y fframwaith, gyda manylion y prisiau newydd a’r dyddiadau
gweithredu, ar gael nawr ar wefan GwerthwchiGymru yn y fan yma.
Diweddariadau
- Mae
tendr y GCC ar gyfer Darparu Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd yn fyw ar hyn o
bryd, a’r dyddiad cau yw 16 Mehefin.
- Mae
Accommodation Furniture Solutions Ltd, sydd ar fframwaith y GCC ar gyfer
Darparu Dodrefn (NPS-CFM-0006-14), wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Mae rhestr ddiwygiedig o'r cyflenwyr a’r
canllawiau wedi cael eu huwchlwytho i GwerthwchiGymru ar gyfer sefydliadau sy’n
Gwsmeriaid.
- Mae’n
ddrwg gennym gyhoeddi bod Boiler Plant Maintenance (Glamorgan) wedi cael ei
dynnu o’u Fframwaith Rheoli Cyfleusterau Cam 2 - Cynnal a Chadw Mecanyddol
(NPS-CFM-0042-16). Mae’r Rheolwr-Gyfarwyddwr a pherchennog y busnes wedi
ymddeol a chafodd y busnes ei gau. Mae rhestr ddiwygiedig o'r cyflenwyr
a’r canllawiau wedi cael eu huwchlwytho i GwerthwchiGymru ar gyfer sefydliadau
sy’n Gwsmeriaid.
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Diweddariadau
Tra ydym yn cwblhau'r gwaith o
werthuso’r Fframwaith newydd ar gyfer y Cyfryngau, er mwyn sicrhau bod gennym
wasanaeth parhaus, rydym wedi ymestyn y Fframwaith Asiantaethau’r Cyfryngau hyd
at 31 Gorffennaf 2017. Cytunwyd ar hyn yn ffurfiol gydag 8 o’r 9 Cyflenwr sydd
ar y trefniant presennol. Oherwydd nifer yr ymatebion a gafwyd, rydym hefyd
wedi symud y dyddiad pryd mae’r Fframwaith yn mynd yn fyw i 17 Gorffennaf
2017.
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Fframweithiau
ar fin cael eu dyfarnu
Hurio Cerbydau II – ar fin cael ei
ddyfarnu ar 31 Mai 2017. 2 flynedd fydd cyfnod cychwynnol y contract, gyda’r
opsiwn i ymestyn am 2 flynedd arall fesul cyfnodau nad ydynt yn fwy na 12 mis.
Bydd rhagor o fanylion ar gael ar GwerthwchiGymru ar ôl dyfarnu.
Diweddariadau
- Mae
ATS wedi cynnwys Codiadau Pris ar y fframwaith Teiars yn dilyn codiadau gan eu
gwneuthurwyr nhw. Rydym wedi gweithio'n galed gyda'r cyflenwr i leihau
effaith hyn ar ein cwsmeriaid, ac rydym wedi negodi codiadau % is. Rhoddir y
manylion llawn ar GwerthwchiGymru a’u dosbarthu i Reolwyr Fflyd. Mae’r GCC yn
parhau i weithio’n agos â’r ATS i ganfod brandiau cyfatebol o'r un safon ac
ansawdd er mwyn lleihau rhagor ar y codiad pris. Bydd Rheolwr Cyfrifon Pwrpasol
ATS hefyd yn gweithio’n agos â chwsmeriaid unigol i sicrhau’r canlyniad
masnachol gorau posibl. Bydd y prisiau’n codi ar 1 Mehefin 2017.
- Cynhelir
cyfarfod nesaf y Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru gyfan am 10am ar 6
Mehefin yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd. Os ydych yn
dymuno dod, anfonwch neges i flwch post y fflyd.
-
Mae
Fflyd y GCC eisiau adborth drwy holiadur am y modd y mae Sefydliadau'r Sector
Cyhoeddus yng Nghymru wedi mabwysiadu, neu wrthi’n ystyried mabwysiadu, carbon
isel neu danwydd arall ar gyfer cerbydau eu fflyd. I lenwi'r holiadur,
ewch i https://www.surveymonkey.co.uk/r/J23Y9KL
- Rydym
yn gweithio gyda Rheolwyr Fflyd i ddatblygu’r hyn sydd yn yr arfaeth ar gyfer
caffael drwy fframweithiau yn y dyfodol.
Rydym wrthi’n sefydlu gweithgorau i edrych ar safoni manylebau cerbydau
a modelau costio oes gyfan. Os hoffai unrhyw Gwsmer gymryd rhan, dylai gysylltu
â blwch post Fflyd y GCC:
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
Bwyd
Hysbysiadau
dyfarnu contractau
Mae tendr y GCC ar gyfer Bwydydd a
Diodydd Ffres (gan gynnwys Cig wedi’i Rewi) bellach yn fyw, a gellir mynd iddo
drwy system e-Dendro Cymru. Mae’r hysbysiad contract sy’n disgrifio’r gofyniad
wedi cael ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru. Rhaid i gynigwyr gyflwyno eu tendrau drwy idders must
submit their tenders through eDendro Cymru, ac os nad ydynt wedi gwneud eisoes
bydd angen iddynt gofrestru yn: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml
Cefnogi
Cyflenwyr i Dendro
I godi
ymwybyddiaeth ymysg cynigwyr am ddisgwyliadau'r broses dendro mae tîm Bwyd y
GCC wedi cynnal pedwar Digwyddiad Gwybodaeth i Gynigwyr ledled Cymru. Roedd y
rhain yn ceisio cefnogi cynigwyr i ddeall Sut i Dendro. Bydd deunyddiau'r digwyddiad ar gael cyn bo
hir i bob cynigydd drwy e-Dendro Cymru.
Cyhoeddi Adroddiadau Canlyniadau
Mae’r Adroddiadau Canlyniad ar gyfer
Grwpiau Fforwm Categori Bwyd mis Mawrth ac Ebrill wedi cael eu cyhoeddi ar
GwerthwchiGymru
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Fframweithiau
Newydd ar y gweill:
1) Fframwaith Gwasanaethau Digidol
Rydym wrthi’n cwmpasu
Fframwaith Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cymru gyfan, i ymorol am sbectrwm eang
o wasanaethau ac offer digidol, ynghyd â rhoi llwybr i’r farchnad ar gyfer
datrysiadau arloesol a phwrpasol. Rydym
wedi cynnal y Fforwm Categori cychwynnol i drafod hyd a lled y Cytundeb ond
rydym yn awyddus i gael rhagor o fewnbwn er mwyn sicrhau bod gofynion
Cwsmeriaid yn cael eu hystyried wrth gwmpasu’r Cytundeb. Felly, byddem yn falch
petaech yn gallu rhoi o’ch amser i lenwi'r holiadur byr sy’n atodedig.
Ni ddylai gymryd ond
rhyw 2-3 munud i'w lenwi, a bydd yn gymorth inni ffurfio cytundeb a fydd yn
diwallu anghenion y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Fersiwn Gymraeg: http://doo.vote/fframwaith-gwasanaethau-digidol-i-gymru-gyfan
Fersiwn Saesneg http://doo.vote/nps_digital_services_framework
I gael rhagor o
wybodaeth, cysylltwch ag: NPSICTCategoryTeam@Wales.gsi.gov.uk
2) Gwasanaethau Ychwanegol
Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)
Mae hyn yn edrych ar ddatrysiadau hyblyg sy’n
gweithio; gwasanaethau teleffoni; a chysylltedd i ategu arlwy presennol PSBA.
3) Ymgynghoriadau Technoleg
Darparu mynediad i brynu eich holl gymorth
ymgynghoriadau technegol.
Rydym yn bwriadu ymgysylltu â chwsmeriaid
ledled Cymru i drafod y tri maes sydd ar y gweill – rydym eisiau deall eich
blaenoriaethau yn y meysydd hyn fel y gallwn eu hystyried wrth ddylunio ein
strategaethau. Anfonwch neges e-bost atom os hoffech roi mewnbwn: NPSICTCategoryTeam@wales.gsi.gov.uk
Fframweithiau
Digidol a TGCh Presennol y GCC
- Cynnyrch a Gwasanaethau Technoleg
Gwybodaeth – 12 lot yn ymwneud â chaledwedd, meddalwedd a datrysiadau integredig.
- Ceblau Strwythuredig – cofiwch am
hyn wrth gomisiynu adeiladau newydd, ailwampiadau ac adnewyddu cit (mae
manylion ar gael hefyd ar faes categori’r GCC ar gyfer rheoli cyfleusterau ac
adeiladu)
- Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth
- Dyfeisiau Aml-swyddogaeth ac Argraffu
- Digideiddio, Storio a Gwaredu
Mae canllaw mwy manwl ar bob fframwaith ar
gael yn GwerthwchiGymru https://www.sell2wales.gov.wales/ContractsAndResources/Info.aspx
Digwyddiadau:
Byddwn
yn nigwyddiad Cymru Ddigidol 2017 ym mis Medi, ac rydym yn gweithio’n agos â’r
tîm trefnu i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r digwyddiad ar gyfer ein
cyflenwyr a’n cwsmeriaid.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Pobl
Fframweithiau
ar fin cael eu dyfarnu
1) Mae disgwyl i Gyflenwi Dillad Llachar, Cyfarpar Amddiffyn Personol, Iwnifformiau, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden gael ei ddyfarnu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 3 Gorffennaf
2) Mae disgwyl i'r Fframwaith Prynu ar gyfer y Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Gwasanaethau Cysylltiadau Cyhoeddus gael ei ddyfarnu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Gorffennaf.
Cysylltu: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Fframweithiau
Newydd
Mae’r Cytundeb Gwasanaethau Cyfreithiol
gan Fargyfreithwyr ar gael erbyn hyn i’w ddefnyddio gan y sector cyhoeddus yng
Nghymru. Mae’r Cytundeb yn cynnig mynediad at Fargyfreithwyr a
gymeradwywyd ymlaen llaw mewn dau ddeg pedwar o ddisgyblaethau sy’n debyg i
gategorïau Cronfa Indemniad Bar Mutual. Mae rhestr lawn o’r
Bargyfreithwyr; manylion cyswllt; a’r disgyblaethau ar gael yn yr offer hidlo
sydd yn GwerthwchiGymru.
Dyma Gytundeb Panel penagored, a bydd yn
parhau ar agor i ganiatáu lle i newydd-ddyfodiad drwy gydol ei oes. Os
oes angen cymorth arnoch chi neu eich timau cyfreithiol i ddefnyddio’r cytundeb
hwn, neu os ydych yn dymuno gweld sut mae’r offer hidlo’n gweithio, anfonwch
neges i NPSProfessionalServices@wales.gsi.gov.uk .
Diweddariadau
-
Roedd
yn bleser gennym siarad yn seminar Cymdeithas Rheolwyr Risg Awdurdodau Lleol
(ALARM) Cymru yn Llandrindod ym mis Ebrill. Yn y digwyddiad, roeddem yn gallu
rhannu’r modd yr oedd System Brynu Ddeinamig Yswiriant yn gweithio, a sut gallu
sefydliadau gael cymorth gan y fframwaith cysylltiedig ar gyfer Gwasanaeth
Cymorth Yswiriant. I ddilyn, cafwyd sesiwn Holi ac Ateb
fywiog lle’r oedd yn glir bod angen i nifer o sefydliadau adnewyddu premiymau o
fis Ebrill 2018 ymlaen. Byddem yn falch o gefnogi sefydliadau i gynnal
gweithgareddau caffael drwy'r fframwaith, ac roeddem yn gofyn i'r sefydliadau
gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl i roi eu gofynion arfaethedig.
- Mae
Cyflenwyr ar fframwaith y GCC ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr
yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hyfforddi a briffio. Cyn bo hir, bydd
y GCC yn diweddaru rhestr o'r digwyddiadau sydd ar y gweill ond yn y cyfamser gellir
cael y rhestr gyfredol ar-lein yn y fan yma
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk
|