Cylchlythyr mis Mawrth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Mawrth 2017

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Edrych i'r Dyfodol

3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

4. Newidiadau Staff y GCC

 

1. Newyddion


David Noble

CIPS yn cyhoeddi newyddion trist

 

Bydd cydweithwyr caffael yng Nghymru yn drist o glywed bod CIPS wedi cyhoeddi bod y Prif Weithredwr, David Noble wedi marw’n annisgwyl ddydd Gwener 24 Chwefror ar ôl salwch byr.


Mae David yn gadael ar ei ôl ei arweinyddiaeth bendant o’r corff proffesiynol mwyaf yn y byd ar gyfer caffael a’r gadwyn gyflenwi a’r modd yr oedd o blaid y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.


Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda theulu David a’r staff yn CIPS.


Darllen mwy: http://nps.gov.wales/news/cips-announces-sad-news?skip=1&lang=cy


Lansio Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol

 

Mae Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi newydd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yng Nghaerdydd heddiw.


Diben y Cod yw sicrhau arferion cyflogaeth da ar gyfer y miliynau o weithwyr sy'n rhan o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.

  

Bydd disgwyl i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael arian gan y sector cyhoeddus ymrwymo i'r Cod hwn. Mae sefydliadau a busnesau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i ymrwymo iddo hefyd.

 

Darllen mwy: http://gov.wales/newsroom/finance1/2017/58948814/?skip=1&lang=cy


Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn Rhondda Cynon Taf


Llun o'r digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr


Yn ddiweddar, bu'r GCC yn arddangos yn nigwyddiad Cwrdd â’r Prynwr Rhondda Cynon Taf yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant.


Fe wnaeth y Cynghorydd Norris, Aelod o'r Cabinet dros Fusnes y Cyngor, agor y digwyddiad yn swyddogol, ar y cyd â Steve Lock, Pennaeth Caffael. Cafodd y digwyddiad ei drefnu'n rhagorol, a daeth 177 o bobl yno o 144 o sefydliadau.


Roedd staff y GCC yno i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau sydd eisiau cyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn gyfle amhrisiadwy i gwrdd ag amrywiaeth eang o gyflenwyr ac i ddeall eu problemau a’u pryderon, yn ogystal â’u helpu i ddeall sut mae’r GCC yn mynd ati i ddatblygu a darparu ei waith caffael.


Diolch yn fawr i bawb yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf a fu’n gysylltiedig â darparu digwyddiad mor llwyddiannus.


Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo


Digwyddiad Lansio Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo


Daeth y Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo yn weithredol ar 16 Ionawr 2017.


Yn ddiweddar, mae’r GCC wedi cynnal digwyddiadau lansio i gwsmeriaid yn ne Cymru ar 16 Chwefror ac yng ngogledd Cymru ar 10 Mawrth, gyda chyfanswm o 28 o sefydliadau sy’n gwsmeriaid i'r GCC yn mynychu.


Fe wnaeth yr unig ddarparwr, sef Lyreco UK Ltd, gyflwyno manylion y fframwaith newydd a oedd yn cynnwys trosolwg o'r fframwaith; nwyddau swyddfa a phapur; systemau archebu; trefniadau danfon; rheoli cyfrifon pwrpasol; mentrau amgylcheddol; manteision i'r gymuned a defnyddio’r Gymraeg.


Roedd Rheolwyr Cyfrifon allweddol Lyreco a Thîm Gwasanaethau Corfforaethol y GCC yno ar ôl y cyflwyniad i drafod gofynion penodol y cwsmeriaid ac erbyn hyn mae nifer o gwsmeriaid wrthi’n rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer y fframwaith newydd.


Mae canllawiau i gwsmeriaid ar gyfer y fframwaith ar gael ar wefan GwerthwchiGymru:
https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13081&Path=11755-13081


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith, cysylltwch â NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk


Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Caffael


Yn dilyn proses ddethol fanwl, mae Graham Davies wedi cael ei ddyrchafu i swydd Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Cludwyr Iechyd ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).


Penodwyd Graham bron dri deg mlynedd i’r diwrnod ar ôl iddo ddechrau ei yrfa yn GIG Cymru yn Ionawr 1987, lle cododd drwy’r rhengoedd o’r swydd isaf un.


Dywedodd Graham “Mae’n bleser mawr gennyf ymgymryd â'r swydd newydd a heriol yma, a gobeithio y gallaf wneud defnydd da o’m holl brofiad i helpu i wneud gwelliannau mawr i GIG Cymru, yn ariannol ac o ran gwasanaethau.


Dywedodd Mark Roscrow, Cyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Cludwyr Iechyd PCGC, “Mae’r penodiad hwn yn dangos y cyfleoedd gyrfaol posibl y gellir eu cael ym maes Caffael yn y GIG yng Nghymru.  Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu penodi Graham ar ôl proses ymestynnol iawn. Mae’n dod â thoreth o brofiad o'r GIG i'r swydd gan ei fod wedi gweithio ymhob rhan o’r broses P2P, ac mae’n dangos beth ellir ei gyflawni gyda gwaith caled, ymrwymiad a pharodrwydd yn gyffredinol i symud i gyfleoedd eraill wrth iddynt ymddangos dros y blynyddoedd.”


2. Edrych i'r Dyfodol


Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am y digwyddiadau.


Edrych i'r Dyfodol ar Ddigwyddiadau:

http://gov.wales/docs/nps/forward-look-march-2017-cy.pdf



3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau


Hysbysiadau Contractau i Ddod

  • Darparu Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd - i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2017.


Diweddariadau

 

  • Fframwaith Deunyddiau Glanhau a Gofalu - bydd rhestri diwygiedig o brisiau a diweddariadau pwysig yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar GwerthwchiGymru. Bydd prisiau newydd yn cael eu cynnwys ar gyfer Newhall Janitorial, sy'n ymorol am ardaloedd y De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
  • Fframwaith Rheoli Cyfleusterau (Gwasanaeth a Reolir) - bydd rhestri diwygiedig o gysylltiadau cyflenwyr yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar GwerthwchiGymru. Mae Cofley, sydd wedi’i gynnwys ar y tair Lot Gwasanaeth, wedi ail-frandio, ac yn cael ei adnabod dan yr enw Engie erbyn hyn. Bydd manylion cysylltu newydd yn cael eu cynnwys hefyd.
  • Gweithredwr Mesurydd - fel y cytunwyd â Grŵp Fforwm y Categori, bydd cwsmeriaid y GCC, o 1 Ebrill 2017 ymlaen, yn defnyddio fframwaith NEPO ar gyfer eu Gweithredwr Mesurydd Trydan bob Hanner Awr. Dyfarnwyd y fframwaith yr wythnos diwethaf, ac roedd Wester Power Distribution sef cyflenwr presennol Consortiwm Prynu Cymru yn llwyddiannus ar y fframwaith cyflenwr sengl yma.   Bydd y cyflenwadau’n cael eu trosglwyddo drosodd yn awtomatig i'r cyfraddau newydd ar 1 Ebrill 2017. Cysylltwch â blwch post Cyfleustodau i gael rhagor o wybodaeth: NPSUtilities@cymru.gsi.gov.uk


Adroddiadau ar Ganlyniadau Grwpiau Fforwm y Categori

 

Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk

 


Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


Hysbysiadau Contractau

 

Hysbysiadau Contractau i Ddod

  • Dillad Llachar, Cyfarpar Amddiffyn Personol, Iwnifformiau, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden - i gael ei gyhoeddi yr wythnos yn cychwyn 3 Ebrill 2017.


Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk

       


      Fflyd a Thrafnidiaeth

       

      Diweddariadau

              • Cytundeb Fframwaith y GCC ar gyfer darpariaeth Hurio Cerbydau ar gyfer Ceir a Cherbydau Masnachol Ysgafn ar gyfer cerbydau dan 3.5t GVW (NPS-FT-009-15) - mae’r fframwaith wedi cael ei ymestyn am fis (21 Ebrill 2017 - 20 Mai 2017) mewn perthynas â Lotiau 1 a 2, er mwyn sicrhau bod cyflenwad yn parhau tra bydd iteriad nesaf y fframwaith yn cael ei dendro. Rhyddhawyd a llofnodwyd llythyrau estyniad gydag Aberconwy Car & Van Hire; Europcar; Days; Burnt Tree; a Mike's Garage. Sylwch: Gwrthododd Thrifty Car and Van Hire ymestyn ac ni fydd yn ddarparwr ar y fframwaith o 21 Ebrill 2017 ymlaen. Rhoddwyd gwybod am hyn i'r cwsmeriaid y bydd y canlyniad hwn yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.  Mae Lot 3, mewn perthynas â Rhannu Ceir Corfforaethol, wrthi'n cael ei ymestyn gyda’r tri chyflenwr presennol am gyfnod pellach o 12 mis dan yr un telerau ac amodau sydd yn y fframwaith.
              • Tanwydd Hylif - mae’r GCC wedi cynnal cyfarfodydd adolygu prisiau gyda’r cyflenwyr presennol ym mis Chwefror 2017, cyn pen-blwydd cyntaf y cytundeb sef mis Ebrill 2017, ac wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad mewn prisiau. Daw’r prisiau a’r sefyllfa ar y raddfa i rym o'r 9fed Ebrill 2017. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hysbysu am y prisiau newydd yn fuan.
              • ‘Meddalwedd Tracio’ - mae cyfle i negodi prisiau ar gyfer amser awyr trwyddedau a chynnal a chadw os yw’r rhanddeiliaid yn darparu’r wybodaeth. Bydd y GCC yn danfon taenlen yn fuan, i gwsmeriaid gwblhau gyda'u gwybodaeth gyfredol. 
              • Arolwg Blynyddol ar Fflyd GCC - er mwyn cyrraedd y sylfaen cwsmeriaid ehangaf posibl, rydym wedi ailagor Arolwg Blynyddol y Fflyd. Dylai unrhyw gwsmer sydd heb ymateb o'r blaen gysylltu â’r tîm yn y blwch postio isod i gael copi. Bydd hyn yn gymorth i ragweld yr hyn sydd yn yr arfaeth gan y GCC a chanfod y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.
              • Gwirio Trwyddedau Gyrru - yn dilyn trafodaethau gyda chwsmeriaid, penderfynwyd newid ffocws y prosiect hwn i edrych ar atebion meddalwedd ar gyfer gwirio trwydded trydydd parti. Bydd gofyn i gwsmeriaid i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'r nifer o wiriadau / y lefel o wirio sydd eu hangen. Gofynnir i unrhyw gwsmeriaid sydd â diddordeb gymryd rhan, i gysylltu â blwch postio Fflyd y GCC isod.
              • Safoni Manylebau Cerbydau - bydd y GCC yn sefydlu gweithgor i fwrw ymlaen gyda safoni manylebau penodol cerbydau. 
              • Datgomisiynu a Gwaredu Cerbydau - mae Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan wedi gofyn i'r GCC ystyried ychwanegu hyn fel fframwaith i'r biblinell Fflyd, mewn perthynas â cheir, cerbydau masnachol ysgafn, cerbydau nwyddau trwm a pheiriannau. Bydd y broses gwmpasu yn dechrau cyn bo hir. Gofynnir i unrhyw gwsmeriaid sydd â diddordeb yn y maes hwn, i gysylltu â blwch postio Fflyd isod.


              Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk


              Bwyd

              Bwyd  


              Diweddariadau

              • Caffael bwyd - yn ddiweddar fe wnaeth y GCC gyflwyno gwerthusiadau o’r dewisiadau caffael ar gyfer ‘Diodydd a Bwydydd Ffres’ a ‘Diodydd a Bwydydd wedi’u Pecynnu’ ar gyfer Grŵp Cyflenwi'r GCC. Roedd yr adborth a gafwyd gan y Grŵp Cyflenwi yn werthfawr iawn. Roedd yr aelodau’n gwerthfawrogi bod llawer o waith ymgysylltu wedi digwydd wrth ddatblygu'r dulliau, ond rhybuddiwyd y GCC am bryderon a ddaeth gan nifer o gyflenwyr lleol am y model ardaloedd daearyddol o fewn caffael ‘Bwydydd a Diodydd Ffres’. Yn benodol, ni fyddai modd i nifer o gyflenwyr lleol sy'n cyflenwi i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd gyflenwi i’r ardaloedd a ddarparwyd. Cytunwyd i ganiatáu i gynigwyr posibl ddangos ym mha ardaloedd awdurdodau lleol y gallent gynnig o fewn yr ardaloedd arfaethedig. Er mwyn sicrhau dealltwriaeth gadarn, bydd y GCC yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr i rannu'r dull newydd. O ganlyniad i hyn, bydd rhywfaint o oedi cyn cyhoeddi’r Hysbysiadau Contractau a fydd bellach yn digwydd o ganol fis Ebrill ymlaen.
              • Cyfarfodydd rhagarweiniol - cynhaliwyd cyfarfodydd llwyddiannus yng ngogledd Cymru, gan alluogi Pennaeth y Categori i ddeall gofynion awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam. Bu’r cyfarfodydd hyn hefyd yn rhoi cip ar ansawdd rhagorol y ddarpariaeth mewn mannau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar fentrau bwyd cynaliadwy yn Sir y Fflint. Mae’r GCC yn gobeithio defnyddio Grŵp Fforwm y Categori fel y fforwm i rannu arferion da o'r fath yn y dyfodol.
              • Gweithdai Penderfynu - hoffai tîm categori Bwyd y GCC ddiolch i'r cwsmeriaid a’r rhanddeiliaid am yr amser a gysegrwyd i’r Gweithdai Penderfynu yn ddiweddar. Roedd y rhain yn fforymau trafod rhagorol i gadarnhau rhai agweddau pwysig ar ddogfennau’r tendr er mwyn sicrhau bod y fframweithiau’n addas i'r diben ar ôl dyfarnu.
              • Digwyddiadau Ymgysylltu â’r Farchnad - cynhaliwyd pedwar digwyddiad llwyddiannus ledled Cymru yn ddiweddar, gan ymgysylltu â 103 o gyflenwyr posibl, ac roedd 67 ohonynt yn rhai Cymreig. Roedd y digwyddiadau’n gyfle i gyflenwyr posibl ddeall proses dendro’r GCC, gan gynnwys dulliau ar gyfer cynnig ar y cyd, ac ymgorffori cynaliadwyedd a manteision cymunedol i gynigion i dendro.


              Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk


              Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

                

              Diweddariadau

              • TGCh yn yr arfaeth gan y GCC - mae’r tîm TGCh yn ystyried sefydlu fframweithiau ar gyfer y canlynol:
                - Gwasanaethau Integreiddio Systemau/Digidol
                - Ymgynghoriadau Technoleg
                - Gwasanaethau Teleffoni a Seilwaith Cysylltiedig; a
                - System Rheoli Gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag Addysg (ERMIS, - SIMS o'r blaen)
                Mae’r GCC yn y cyfnod cwmpasu ar hyn o bryd; yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i asesu'r gofynion, ac mae’n edrych ymlaen at ddyfarnu'r fframweithiau yn niwedd 2017/dechrau 2018. Rhoddwyd gwybod am y TGCh sydd yn yr arfaeth i fwy na 50 o gyflenwyr posibl mewn digwyddiad briffio yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad briffio cyflenwyr penodol ERIMS, a daeth adborth cadarnhaol am y fframwaith arfaethedig.
              • Nwyddau a Gwasanaeth TG (ITPS) - oherwydd yr ansicrwydd na welwyd o'r blaen yn y farchnad, penderfynodd y GCC ganiatau i brisiau godi y tu allan i'r broses amrywio prisiau sydd yn Nhelerau ac Amodau'r ITPS er mwyn lleihau'r baich ar gyflenwyr ac er mwyn sicrhau bod y prisiau’n gynaliadwy. Dyma’r unig gyfle i gyflenwyr gynyddu prisiau cyn yr Adolygiad nesaf o Nwyddau Craidd (nid yw hyn yn gosod cynsail ar gyfer amrywio prisiau yn y dyfodol). Bydd y GCC yn parhau i fonitro amgylchiadau’r farchnad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â blwch postio’r TGCh isod.
              • Fframwaith Dyfeisiau Aml-Swyddogaeth a Gwasanaethau Cysylltiedig – bu’r fframwaith yn weithredol ers mis Ionawr eleni. Sefydlwyd Lot 2 ar gyfer Nwyddau Traul Argraffydd i gymryd lle'r Fframwaith Nwyddau Traul Argraffydd (III), sy’n dod i ben ym mis Gorffennaf 2017. Drwy newid i ddefnyddio’r fframwaith newydd, gall cwsmeriaid gyflawni mwy o arbedion na’r rhai sydd eisoes ar gael drwy’r Cytundeb Nwyddau Traul Argraffydd (III). Gweler y basgedi Nwyddau Craidd ar gyfer y tri chyflenwr ar wefan GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13161&Path=11764-13140-13161
                Mae gan UK Laser Supplies gatalog fyw ar Basware, ac mae’r GCC yn gweithio gyda Banner ac XMA i gyhoeddi eu catalogau. Am ragor o gyngor, cysylltwch â'r blwch post isod.
              • Fframweithiau sydd ar gael i'w defnyddio - os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw brosiectau adeiladu/adnewyddu (neu brosiectau perthnasol eraill), cofiwch ystyried y fframweithiau TGCh a ganlyn i'w defnyddio i ddarparu nwyddau a gwasanaethau:
                - ITPS - ar gyfer meddalwedd a chaledwedd
                - Ceblau Strwythuredig - ar gyfer eich holl anghenion ceblau
                - Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth - ar gyfer profi diogeled
                - Dyfeisiau Amlddefnydd - ar gyfer dyfeisiau a gwasanaethau cysylltiedig
                - Digideiddio, Storio a Gwaredu - ar gyfer gwaredu cofnodion ac offer yn ddiogel
                Gweler manylion a chanllawiau ar y fframweithiau uchod ar wefan GwerthwchiGymru:
                https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?Type=11764&Path=11764


                  Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk


                  Gwasanaethau Pobl

                  Gwasanaethau Pobl

                   

                  Diweddariadau

                  • Cynlluniau Buddion Gweithwyr - cynhaliwyd dau ddigwyddiad i gwsmeriaid yn ne a gogledd Cymru yn ddiweddar, i roi gwybod i gwsmeriaid am newidiadau sy’n ymwneud â Chyllid a Thollau EM i gynlluniau buddion gweithwyr. Mynychodd ICOM y digwyddiadau, darparwr y gwasanaeth a reolir yn ogystal â sefydliadau partneriaethol a wnaeth gyflwyno gwybodaeth am y newidiadau i'r cynllun. Ceir rhagor o wybodaeth am y fframwaith ar wefan GwerthwchiGymru:
                    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=8163&Path=11756-8163
                  • Staff Asiantaeth - rhoddwyd canllawiau i gwsmeriaid ar y fframwaith staff asiantaeth i dynnu sylw at y newidiadau deddfwriaethol yn ymwneud ag IR35 a’r ardoll prentisiaethau a ddaw cyn bo hir. Mae’r canllawiau’n adlewyrchu'r gwaith helaeth a wnaed gan dîm y categori i ymchwilio i effeithiau’r newidiadau deddfwriaethol ar y fframwaith. Os nad ydych wedi cael copi o'r canllawiau a’ch bod yn dymuno cael un, cysylltwch â blwch postio'r categori. 
                  • Fframwaith Dysgu, Hyfforddi a Datblygu Corfforaethol – cynhaliwyd y gyfres gyntaf o adolygiadau cyflenwyr gyda phump o'r cyflenwyr a benodwyd ar y fframwaith, a chynhelir yr adolygiadau sy’n weddill dros yr wythnosau nesaf. Bu’r adborth gan gyflenwyr yn gadarnhaol o ran y cyfleoedd y mae’r fframwaith wedi’u rhoi iddynt. Ceir rhagor o wybodaeth am y fframwaith drwy gysylltu â blwch postio’r categori isod, neu ar wefan GwerthwchiGymru: 
                    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=11360&Path=11756-11360
                  • Mae tîm y categori’n brysur yn ceisio cefnogi sefydliadau sy’n gwsmeriaid i gynnal rhagor o ymarferiadau cystadlu ar ôl cydweithio'n llwyddiannus o’r blaen dan y fframweithiau staff asiantaeth ac iechyd galwedigaethol. Yn benodol, rydym yn bwriadu cefnogi cwsmeriaid i gynnal ymarferiadau cyfun yn ôl y galw dan y fframweithiau Bagiau Gwastraff a Dysgu, Hyfforddi a Datblygu Corfforaethol.  Os yw cwsmeriaid yn dymuno mynegi diddordeb mewn cael cymorth, dylent gysylltu â blwch postio’r categori. 


                  Cysylltu: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk


                  Gwasanaethau Proffesiynol

                    

                  Diweddariadau


                  • Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr - yn dilyn rhyw 400 o ymatebion, mae’r gwaith o werthuso'r ceisiadau wedi cael ei gwblhau ac mae’r ymgeisydd wedi cael gwybod am y canlyniad.   Mae’r Grŵp Fforwm y Categori yn helpu i siapio a chynllunio sesiynau ymwybyddiaeth posibl, i roi arweiniad i gwsmeriaid ar y ffordd orau o weithredu'r cytundeb yn y dyfodol.
                  • Gwelliannau a Chyngor ar Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref, Cymru Gynnes - er mwyn darparu’r contractau gorau o’u math sy’n llwyr gofleidio nifer o feysydd polisi newydd, mae’r gwaith o gaffael ar gyfer y fframweithiau rheolwyr cynlluniau ar sail ardaloedd a’r contract rheolwyr cynlluniau ar sail y galw wedi dod i stop am ychydig er mwyn sicrhau bod yr ymgysylltiad angenrheidiol yn digwydd. Rhoddir gwybod am yr amserlen ddiwygiedig yng nghylchlythyr nesaf y GCC.
                  • Fframweithiau Ymgynghoriaeth Adeiladu - mae ail gyfarfod Panel Rheoli Grŵp Fforwm y Categori ar gyfer y fframweithiau hyn wedi cael ei aildrefnu i’w gynnal ym mis Ebrill yn y Drenewydd, Powys er mwyn sicrhau bod gweithgareddau sydd yn yr arfaeth yn cael eu hystyried yn fwy effeithiol. Mae’r grŵp yn cynnwys cwsmeriaid allweddol, gyda’r cylch gwaith i adolygu perfformiad y cytundebau, rhannu arferion da ac ystyried trefniadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r grŵp yn dal ar agor i aelodau newydd sydd â diddordeb yn y fframweithiau hyn. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â blwch post Gwasanaethau Proffesiynol isod.
                  • Hyfforddiant Cyfreithiol - mae cyflenwyr ar ein fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hyfforddi a briffio. Bydd y GCC yn diweddaru'r rhestr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill ac amserlenni, fel y dônt gan ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol. Gellir cael yr amserlen gyfredol ar-lein yn y fan ymahttp://gov.wales/docs/nps/161011-nps-events.docx


                  Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


                  4. Newidiadau Staff y GCC

                   

                  Mae’r GCC wedi penodi Robin Roberts yn Bennaeth Categori Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau.


                  Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

                  e-bostiwch: NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk