1. Newyddion
Cyfle i ddweud eich dweud ar ein cylchlythyr!
Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar
gylchlythyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a bwletin Gwerth Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ac mae’n
hollbwysig i ni ar gyfer datblygu a gwella ein dulliau cyfathrebu yn y dyfodol.
Er mwyn casglu eich barn, rydym wedi creu’r
arolwg byr, dienw canlynol: https://www.surveymonkey.co.uk/r/VHZP52T
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau
yn cwblhau’r arolwg ar y ddolen uchod, erbyn dydd Gwener 24ain Chwefror. Diolch
ichi ymlaen llaw am eich adborth.
Rhifau ffôn newydd ar gyfer y Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol
Hoffwn eich hysbysu bod rhif staff y
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi’i drosglwyddo yn ddiweddar i rifau
ffôn 03000 newydd. Rydym wedi diweddaru Cyfeiriadur Cysylltiadau GCC i
adlewyrchu hyn ac mae copïau ar gael ar gais yn awr.
Mae’r Cyfeiriadur yn darparu dadansoddiad o staff y GCC sy’n gweithio ar draws
y saith categori, ynghyd â manylion eu meysydd gwaith penodol. Fe’i cynlluniwyd
i gynorthwyo cwsmeriaid i gysylltu â’r GCC gydag ymholiadau.
Mae'r Cyfeiriadur Cysylltiadau ar gael i gwsmeriaid, ar wefan GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13360&Path=1745-13360
Fel arall, cysylltwch â NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk i wneud cais am gopi.
Deddfwriaeth Cyfryngwyr IR35
Cadarnhaodd
Datganiad Hydref 2016 gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddfwriaeth
Cyfryngwyr (IR35) yn Ebrill 2017. Mae mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i
sicrhau bod y rhai sy’n derbyn arian cyhoeddus yn uniongyrchol yn talu’r lefel
gywir o dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac y bydd hyn yn cael effaith
ar gyflogi gweithwyr sy’n gweithredu drwy gyfryngwr, yn cynnwys eu cwmni
cyfyngedig eu hunain (h.y. Cwmni Gwasanaeth Personol). Bydd hyn yn rhoi llai o
gyfrifoldeb ar y gweithiwr i dalu’r lefelau cywir o dreth, a mwy o gyfrifoldeb
ar y corff sy’n ymgysylltu (asiantaeth gyflogi a chyflogwr y sector cyhoeddus).
Mae offer ar-lein yn cael ei ddatblygu i
helpu cyflogwyr i sefydlu a oes angen cymhwyso’r rheolau i gyfryngwyr ar gyfer
contractau dros dro unigol. Mae’r GCC hefyd yn gweithio gyda chyflenwyr ar y
fframwaith Gweithwyr Asiantaeth i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i
gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hon.
Bydd Gwerth Cymru yn cyhoeddi Nodyn Cyngor
Caffael gyda chanllaw pellach yn ystod y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, ar gyfer
y cwsmeriaid hynny sy’n defnyddio’r Gwasanaeth a Reolir gan y GCC ar gyfer y
fframwaith Darparu Gweithwyr Asiantaeth, bydd eich cyflenwr yn gallu darparu
gwybodaeth a chyngor pellach i chi ar y newidiadau hyn. Fel arall, cysylltwch
â’r tîm i drafod hyn: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk
Mae’n
bosibl cyfeirio ymholiadau penodol am y newidiadau deddfwriaethol i ir35@hmrc.gov.uk neu gallwch gysylltu â llinell gymorth
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0300 123 2326 i gael rhagor o wybodaeth.
Digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr
Bydd y GCC yn mynychu’r digwyddiad Cwrdd â’r
Prynwr yn Rhondda Cynon Taf yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, ddydd Gwener
3ydd Mawrth 2017 rhwng 10am - 3pm.
Mae’r
digwyddiad hwn, sydd yn ei nawfed flwyddyn, yn cael ei drefnu gan Wasanaeth
Caffael Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae’r digwyddiad yn dod â busnesau allweddol,
sefydliadau prynu’r sector cyhoeddus ac arbenigwyr diwydiannau ynghyd i gynnig
cyngor, cymorth a chyfle gwerthfawr i rwydweithio.
Eleni, mae Cyngor RhCT hefyd yn trefnu dau
ddigwyddiad allgymorth yn rhanbarth Cynon a Rhondda RhCT, fel a ganlyn:
- Digwyddiad
Cynon – Dydd Iau 9fed Mawrth 2017 yng Nghanolfan Arloesedd y Cymoedd rhwng 2.30pm - 6.30pm
- Digwyddiad
y Rhondda – Dydd Mawrth 14eg Mawrth 2017 yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad rhwng 2.30pm - 6.30pm
Gall
busnesau sy’n awyddus i rwydweithio ac archwilio’r posibilrwydd o sicrhau
contractau newydd gofrestru i fynychu’r digwyddiadau drwy gysylltu ag Annaleise
Eaves yng Nghyngor RhCT ar Annaleise.Eaves@rctcbc.gov.uk
2. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am
ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag
e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg
ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau
am y digwyddiadau.
Edrych i'r Dyfodol ar Ddigwyddiadau:
3. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Contract i Ddod
- Darparu
Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd – i’w gyhoeddi ddiwedd Chwefror.
Diweddariadau
- Halen
Craig (NPS-CFM-0018-15) a Deunyddiau Glanhau a Phorthorol
(NPS-CFM-0026-15) - mae ceisiadau am brisiau diwygiedig ar y fframweithiau
hyn wedi’u derbyn ac wedi’u cymeradwyo yn awr. Mae pob pris diwygiedig
wedi’u cynnwys yn y catalogau Basware yn awr ac mae rhestrau prisiau
diwygiedig ar gael ar wefan GwerthwchiGymru. Bydd unrhyw ddiweddariadau
sy’n cael eu cyflwyno i gatalogau cwsmeriaid unigol yn cael eu gweithredu
gan y cyflenwr. Cysylltwch â’r blwch postio isod i gael rhagor o
wybodaeth.
- Deunyddiau
Adeiladu Cyffredinol (NPS-CFM-0005-14) a Deunyddiau Gwresogi Trydanol a
Phlymio T(NPS-CFM-0005-14) - mae prisiau diwygiedig yn cael eu hystyried
ar gyfer y fframweithiau hyn. Cynghorir cwsmeriaid ynghylch unrhyw
ddiwygiadau ar ôl eu cwblhau.
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
-
Fframwaith
Cymru Gyfan ar gyfer Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo - mae’r fframwaith
hwn wedi’i ddyfarnu ac mae ar gael i’w ddefnyddio yn awr. Mae canllawiau a
gwybodaeth am brisiau ar gael i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru:
https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13084&Path=11755-13081-13084 Mae
digwyddiadau lansio wedi’u trefnu ym mis Chwefror a mis Mawrth yng ngogledd Cymru (10 Mawrth 2017) a de Cymru (16 Chwefror 2017),
er mwyn i gwsmeriaid gael cyfle i gwrdd â’r darparwr llwyddiannus a
chanfod beth sydd ar gael. Os ydych yn awyddus i fynychu un o’r
digwyddiadau hyn, cysylltwch â’r blwch postio isod i gael rhagor o
wybodaeth.
Adroddiadau Canlyniadau’r Grŵp Fforwm
Categorïau
Diweddariadau
-
Cyflenwi Papur Swyddfa, Copïo, Argraffu Digidol a Phapur Arbenigol (Lot 2) – gyda
thymor cychwynnol o ddwy flynedd ar gyfer y trefniant hwn, yn dod i ben 18
Ionawr 2017, mae’r GCC wedi ysgogi’r cyntaf o ddau gyfnod ymestynnol o
ddeuddeg mis. Bydd y cyfnod hwn rhwng 19 Ionawr 2017 a 18 Ionawr 2018.
Mae GwerthwchiGymru a Basware yn cael eu diweddaru gyda phrisiau a
chanllawiau, ac mae gwybodaeth am yr estyniad hwn wedi’i chyflwyno i
gwsmeriaid. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o
wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r blwch postio isod.
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
Hysbysiadau Contract i Ddod
- Llogi Cerbydau II (sy'n cynnwys Ceir
a Cherbydau Masnachol Ysgafn (o dan 3.5 tunnell GVW) a Cherbydau Arbenigol
(dros 3.5 tunnell GVW)) - i’w gyhoeddi ddechrau Chwefror.
Mae’r Gwerthusiad Opsiynau wedi’i gymeradwyo gan Grŵp Cyflawni'r GCC ac mae’r Grŵp Fforwm Categorïau wedi cwrdd i gytuno ar ddogfennaeth y
tendr. Cyflwynir dogfennaeth y
tendr wedi’u hail-ddrafftio i aelodau'r Grŵp Fforwm Categorïau ar gyfer
cymeradwyaeth derfynol.
Diweddariadau
- Partiau
Sbâr i Gerbydau – Lansiwyd y fframwaith mewn digwyddiad yn
Llanfair-ym-Muallt ar 18 Ionawr 2017. Yr oedd yn darparu cyfle i
gwsmeriaid gwrdd â’r cyflenwyr i gael dealltwriaeth o sut y bydd y
fframwaith yn gweithredu. Daeth nifer dda i’r digwyddiad, gyda chynrychiolwyr
o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. I gael gwybodaeth bellach am
sut i ymgysylltu â’r fframwaith hwn, cysylltwch â’r blwch postio isod.
- Tanwyddau
Hylif – mae cyfarfodydd i adolygu prisiau gyda chyflenwyr sydd wedi’u
cadarnhau ar gyfer diwedd mis Chwefror, cyn y bydd yn flwyddyn ers
cadarnhau’r cytundeb. Disgwylir i’r prisiau diwygiedig ddod i rym ym mis
Ebrill 2017.
- Cyflenwi
Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig – cwblhawyd cystadlaethau bychain yn
llwyddiannus ar gyfer Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Gwynedd. Mae
ymatebion masnachol yn cael eu meincnodi yn awr i sefydlu arbedion.
-
Cardiau
Tanwydd - noder bod newidiadau wedi’u gwneud i bersonél yn UK Fuels a bod
rheolwr cyfrif newydd yn awr ar gyfer sector cyhoeddus Cymru. Mae’r
canllaw i gwsmeriaid wedi’i ddiweddaru yn awr gyda manylion cyswllt newydd
ar GwerthwchiGymru.
- Offer
‘Tracio’ a ‘Thelemateg’ – mae cyfle i negodi’r prisiau ar gyfer amser
trwyddedau hysbysebu a chynnal a chadw os bydd rhanddeiliaid yn darparu’r
wybodaeth. Os bydd unrhyw gwsmer yn awyddus i geisio am hyn ar y cyd,
cysylltwch â’r blwch postio isod.
- Arolwg
Fflyd Blynyddol y GCC - er mwyn cyrraedd y nifer fwyaf o gwsmeriaid, rydym
wedi ail-agor yr Arolwg Fflyd Blynyddol. Dylai unrhyw gwsmer nad ydynt
wedi ymateb i hyn o’r blaen gysylltu â’r tîm ar y blwch postio isod i gael
copi. Bydd hyn yn helpu i ragweld piblinell gwaith GCC yn y dyfodol a nodi
meysydd blaenoriaeth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
Bwyd
Hysbysiadau Contract i Ddod
-
Cyhoeddir dau Hysbysiad Contract ddiwedd Chwefror
- Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a
Diod Ffres - Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a
Diod wedi’u Pecynnu
Diweddariadau
-
Digwyddiadau
lansio - lansiwyd digwyddiadau yn llwyddiannus ar gyfer cwsmeriaid a
gynhaliwyd yn dilyn dyfarnu’r cytundebau fframwaith ar gyfer ‘Cyflenwi a
Dosbarthu Brechdanau wedi’u Paratoi a Llenwadau Brechdanau’ a ‘Chyflenwi a
Dosbarthu Prydau wedi’u Rhewi ar Blât, Prydau Gweadog wedi’u Haddasu ac
wedi’u Rhewi a Chawl wedi’i Rewi’.
Mae canllaw ar gael i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=6480&Path=6480
Cysylltwch â’r blwch post Bwyd isod os oes angen
cymorth arnoch ar sut i ddefnyddio’r fframwaith.
- Mae tîm
categori Bwyd GCC wedi ymgysylltu’n ddiweddar â Fforymau Arlwyo Awdurdodau
Lleol a’r GIG, i drafod cynnwys y tendrau i ddod, a chynllunio gweithdai
gwneud penderfyniadau a fydd yn hysbysu’r tendrau i ddod. Cyfarfu’r tîm
hefyd â’r Grŵp Arlwyo Addysg Uwch ar 24 Ionawr i ddarparu gwybodaeth a
derbyn adborth ar y tendrau.
- Digwyddiadau ymgysylltu â’r
farchnad – yn dilyn cyhoeddi Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw ym mis
Tachwedd, a’r trafodaethau a gafwyd gydag aelodau’r Grŵp Fforwm Categorïau, mae
tîm categori Bwyd GCC wedi cysylltu â 600 o ddarpar ddarparwyr a’u gwahodd i fframweithiau
i fynychu ein digwyddiadau ymgysylltu â’r farchnad.
|
Digwyddiad ymgysylltu Bwyd yng Nghaerdydd
Cynhelir digwyddiadau pellach ymgysylltu â’r
farchnad ar:
- 31 Ionawr yn Llandrindod
- 7 Chwefror yng Nghaerfyrddin
Cysylltwch â’r blwch postio Bwyd isod i gael
rhagor o wybodaeth.
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
- Cyflenwi
Dyfeisiadau Aml-swyddogaeth a Nwyddau a Gwasanaethau Cysylltiedig - mae’r
fframwaith hwn yn weithredol yn awr ac ar gael i’w ddefnyddio. Bydd canllawiau i gwsmeriaid ar wefan GwerthwchiGymru yn fuan.
- Digido,
Storio a Gwaredu – mae’r fframwaith hwn yn weithredol yn awr ac ar gael
i’w ddefnyddio. Bydd canllawiau i gwsmeriaid ar wefan GwerthwchiGymru yn fuan.
Diweddariadau
- Fframwaith
Cynhyrchion a Gwasanaethau TG - bydd y tîm categori TGCh yn adolygu’r
fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG yn fuan, fframwaith a lansiwyd
ychydig dros flwyddyn yn ôl. Byddwn yn croesawu eich safbwyntiau a’ch
profiadau hyd yma. Yn dilyn yr adolygiad, byddwn yn ystyried p’un a ydym
am ymestyn y fframwaith y tu hwnt i’r cyfnod dwy flynedd gychwynnol. I
ddarparu adborth ar y fframwaith, cysylltwch â’r blwch postio TGCh isod.
- Digwyddiadau
cwrdd â Phrynwyr/Cyflenwyr – Rydym yn cynllunio’r ail gyfres o’r
digwyddiadau hyn ar gyfer gogledd a de Cymru, yn dilyn ein digwyddiadau
cychwynnol yn Ebrill 2017. Mae’r rhain wedi’u cynllunio, yn amodol ar
argaeledd lleoliadau, ar gyfer canol 2017. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn
yn gofyn am unrhyw awgrymiadau neu syniadau a allai fod gennych i helpu i
sicrhau bod digwyddiadau eleni yn llwyddiant.
-
Cynhyrchion
a Gwasanaethau TG
- Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda chyflenwyr y fframwaith
Cynhyrchion a Gwasanaethau TGCh, er mwyn sicrhau bod catalogau ar gael i
gyflenwyr a’u bod yn gyfredol. Mae catalogau dwbl ‘punch-out’ ar gael yn
awr drwy Basware. Bydd angen i gwsmeriaid sydd eisiau mynediad at yr
e-gatalogau ychwanegu catalogau cyflenwyr unigol yn adran ‘View’ Rheolwr
Cynnyrch Basware.
-
Gwasanaethau
Ceblo Strwythuredig - mae’r fframwaith hwn yn cynnig llwybr cydsyniol i’r
farchnad ar gyfer ystod o nwyddau a gwasanaethau rhwydwaith, seilwaith
telathrebu, a cheblau ffibr optig.
Cofiwch ystyried defnyddio’r fframwaith hwn wrth gynllunio unrhyw
brosiectau adeiladu neu adnewyddu. Mae canllaw ar gael ar GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=10720&Path=11764-10720
- Fframwaith
Teleffoni Cymru Gyfan (Cyfathrebiadau llinell sefydlog, VoIP, Symudol ac
Unedig) - mae’r cam cwmpasu wedi dechrau. Os hoffech gymryd rhan yn y
broses neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r blwch postio TGCh
isod.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
- Bagiau
Gwastraff Clinigol a Bagiau Sbwriel Ysbytai – mae’r fframwaith hwn wedi’i
ddyfarnu a bydd yn weithredol o ddiwedd Chwefror. Mae canllawiau i
gwsmeriaid, amserlenni masnachol a chatalogau yn cael eu paratoi yn awr ar
gyfer y dyddiad gweithredu. Penodwyd un cyflenwr, a lwyddodd i basio’r
holl brofion cynnyrch a gwerthusiadau technegol, gydag arbedion o 18% yn
cael eu cyflawni yn erbyn y prisiau presennol. Os oes angen rhagor o
wybodaeth arnoch ar y cam hwn, cysylltwch â’r blwch postio Gwasanaethau Pobl
isod.
Diweddariadau
- Bagiau
Gwaredu Gwastraff - mae nifer o gwsmeriaid wedi cymryd rhan mewn
cystadlaethau bychain a dyfarniadau uniongyrchol o dan y fframwaith, ac
maent yn cael mynediad at y cynnyrch gwarantedig a’r arbedion ariannol
sydd ar gael o dan y trefniant hwn. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu
gymorth arnoch i ddefnyddio’r fframwaith hwn, cysylltwch â’r blwch postio
Gwasanaethau Pobl isod.
- Hyfforddiant
Corfforaethol, Gwasanaethau Dysgu a Datblygu – mae GCC yn dymuno hysbysu
cwsmeriaid bod WEA YMCA Cymru wedi cyhoeddi enw masnachu newydd: Addysg
Oedolion Cymru. Mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at ei lansiad ffurfiol yn
2017, a bydd manylion am hyn yn cael eu cyhoeddi gan y sefydliad yn
agosach at y dyddiad.
-
Digwyddiad
Adnoddau Dynol – bu i’r tîm Gwasanaethau Pobl gynnal digwyddiad Adnoddau
Dynol yn ddiweddar yng Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y
digwyddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar fframweithiau canlynol GCC,
gyda phob un ohonynt wedi’u hanelu ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym
meysydd Adnoddau Dynol a Chyllid:
- Staff Asiantaeth
- Iechyd Galwedigaethol
- Teithio a Llety Busnes
- Buddiannau Cyflogeion
|
Digwyddiad Adnoddau Dynol y GCC - Canolfan Waterton
Cafodd cwsmeriaid gyfle yn y digwyddiad i gwrdd â nifer o gyflenwyr fframwaith amrywiol. Mae cwsmeriaid a chyflenwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol, ac rydym yn trefnu digwyddiad tebyg yn awr i’w gynnal yng ngogledd Cymru. Bydd manylion yn dilyn yn fuan, ac os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r blwch postio isod.
Cysylltu: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Contract
Hysbysiadau Contractau Arfaethedig
- Gwelliannau
a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref, Rhaglen Cymru Gynnes – disgwylir
y bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cam 1, y fframweithiau rheolwr
cynllun wedi’i Lleoli mewn Ardal, yn cael ei gyhoeddi yn ystod mis Rhagfyr 2016.
Bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cam 2, y rheolwr cynllun sy’n
seiliedig ar alw, yn cael ei gyhoeddi fis Chwefror 2017.
Diweddariadau
- Gwasanaethau
Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr – derbyniwyd ymateb aruthrol gan y farchnad,
gyda mwy na 400 o gyflwyniadau yn cael eu derbyn. Gydag ymateb mor uchel,
mae’r asesiad o’r ceisiadau yn cymryd ychydig mwy o amser nac a ragwelwyd,
ond disgwylir i’r fframwaith ddod yn weithredol ym mis Chwefror.
-
Ymgynghoriaeth
Adeiladu (Fframwaith Eiddo) – mae’r fframwaith hwn wedi’i ymestyn am 12
mis arall hyd at fis Rhagfyr 2017. Mae gwybodaeth gyfredol am brisiau a
chanllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=8020&Path=11752-7400-8020
- Fframweithiau
Ymgynghoriaeth Adeiladu – cynhelir ail gyfarfod y Panel Rheoli ar gyfer y
rhwydweithiau hyn ar 1 Chwefror yn y Drenewydd, Powys. Mae’r grŵp yn
cynnwys cwsmeriaid allweddol a’i gylch gwaith yw adolygu perfformiad y
cytundebau, rhannu arfer gorau ac ystyried trefniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r grŵp yn parhau i fod yn agored i aelodau newydd sydd â diddordeb yn
y fframweithiau hyn. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â blwch postio’r
Gwasanaethau Proffesiynol isod.
-
Hyfforddiant Cyfreithiol -
mae cyflenwyr sy’n rhan o’n fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr
yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau hyfforddiant a briffio. Bydd GCC yn
diweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau ac amserlenni i ddod, pan fyddwn yn eu derbyn
gan ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r amserlen bresennol ar gael ar-lein yma: http://gov.wales/docs/nps/161011-nps-events.docx
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
4. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 3.50% y flwyddyn ariannol hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £3,066,973 rhwng 1 Ebrill 2016 a 30 Tachwedd 2016.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
5. Newidiadau Staff GCC
Penodwyd Jessica Bearman yn ddiweddar gan GCC
yn Bennaeth newydd y Categori Bwyd.
Cafodd Paul Griffiths ei benodi yn Bennaeth
Rheoli Categorïau dros dro.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk
|