Cylchlythyr mis Tachwedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Tachwedd 2016

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Edrych i'r Dyfodol

3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

4. Arbedion

 

1. Newyddion


Hawlfraint y Goron

Trydan 100% adnewyddadwy i Gwsmeriaid Ynni’r GCC erbyn 2017

 

Bydd yr holl drydan a brynir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan y GCC yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2017, meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd Lesley Griffiths mewn cyhoeddiad cyn iddi fynychu trafodaethau COP22 ar yr hinsawdd ym Marrakesh.

 

Ar ôl Ebrill 2017, bydd pob un o gwsmeriaid y GCC yn cael 100% o’u trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Daw o leiaf 50% ohono o ffynonellau Cymreig, gyda nod i gynyddu hyn i 100%.

 

Mae Cymru’n arwain y ffordd o ran datblygu cynaliadwy, ac roedd yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gynnwys cyfeiriad mewn cyfraith at Amcanion Datblygu Cynaliadwy’r DU, trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Am ragor o wybodaeth am Gyfleustodau’r GCC, cysylltwch â’r tîm yn NPSUtilities@cymru.gsi.gov.uk 

 

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/newsroom/environmentandcountryside/2016/161111-100-percent-renewable-electricity-for-public-services-ahead-of-cop22/?skip=1&lang=cy


Gwasanaethau Pobl

Fframwaith Buddiannau Gweithwyr y GCC


Ers lansio Fframwaith Buddiannau Gweithwyr y GCC ym mis Rhagfyr 2015, mae dros 30 o sefydliadau ledled Cymru wedi ymgysylltu â'r Darparwr Gwasanaeth a Reolir, iCOM Works Ltd a’u partneriaid fframwaith. Mae nifer o gwsmeriaid eisoes wedi cychwyn ar gynlluniau neu yn y broses o roi cynlluniau ar waith drwy'r fframwaith dros y misoedd nesaf. Mae adborth a gafwyd hyn yma wedi bod yn bositif dros ben, gyda llawer yn tynnu sylw at ystod eang y cynhyrchion a’r pris.

 

Yn ddiweddar lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) HWB buddiannau wedi’u brandio, pecyn manwerthu a ffordd o fyw, Cynlluniau Talebau Beicio i’r Gwaith a Gofal Plant.

 

Meddai Bethan Williams, Cynghorydd Llesiant gyda CNC, wrth sôn am y cynlluniau sydd ar gael o dan fframwaith y GCC, “Mae argaeledd y pecyn buddiannau i’n staff wedi bod yn llwyddiant ac mae wedi eu galluogi i fanteisio ar arbedion sylweddol ar bryniadau. Mae’r staff yn ein sefydliad wedi croesawu hyn. Byddem yn argymell bod sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru’n cynnig buddiannau o’r fath i’w staff a byddem yn argymell gweithio ag iCom sydd wedi cynnig lefel wych o wasanaeth a chymorth trwy gydol y paratoadau ar gyfer lansio ein hwb buddiannau newydd - NRW Rewards."


Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi rhoi ar waith nifer o atebion drwy'r rhaglen "Our Uni Rewards", sy'n cynnig pecyn disgowntiau manwerthu a ffordd o fyw, cynllun aberthu cyflog Ceir Gwyrdd a chynllun Beicio i'r gwaith. Mae'r atebion hyn, ynghyd ag ystod o fuddiannau mewnol i weithwyr sydd eisoes ar waith, wedi cael eu hymgorffori mewn HWB buddiannau gweithwyr gwbl hygyrch y gall gweithwyr ddefnyddio ar unrhyw adeg o'r dydd.

 

Gall iCOM Works Ltd gynnig mynediad at nifer o gynlluniau buddiannau gweithwyr gwahanol ar gyfer cwsmeriaid. Drwy'r pecyn disgowntiau manwerthu a ffordd o fyw, mae gweithwyr mewn sefydliadau yn mwynhau arbedion sylweddol ar ystod eang o eitemau bob dydd. Mae'r rhain, ynghyd â'r arbedion sydd ar gael drwy'r gwahanol gynlluniau aberthu cyflog, yn sicrhau bod buddiannau ar gael i bawb. Ceir enghreifftiau isod o arbedion y gellir eu gwneud trwy’r gwahanol gynlluniau:

 

Arbedion Cyfartalog o ddydd i ddydd y flwyddyn:

Bwydydd: £240 
Yswiriant Car a Chartref: £160
Gwyliau: £100
Bwyta Allan: £150
Y Stryd Fawr Leol: £150

 

Dros £1,500 y Flwyddyn o Arbedion Arferol Aberthu Cyflog:

Cynllun Ceir Gwyrdd Newydd

Technoleg Cartref a Phersonol

Talebau Gofal Plant

Beicio i’r Gwaith

 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt pe bai sefydliadau cwsmer y GCC yn dymuno trafod y cyfleoedd sydd ar gael ar gael ar wefan GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=8163&Path=11756-8163


Arbedion Sylweddol i'w cael ar Fframwaith Bagiau Gwaredu Gwastraff

 

Ym mis Awst cafodd fframwaith ar gyfer bagiau gwaredu gwastraff sy'n cynnig arbedion hyd at 23.5% ei ddyfarnu.

 

Dyfarnwyd y fframwaith gan y Tîm Gwasanaethau Pobl ac mae ar hyn o bryd wedi’i rannu’n bum lot i ateb anghenion gwahanol y cwsmeriaid:

  • LOT 1: Bagiau Sbwriel Domestig a Masnachol
  • LOT 2: Bagiau Ailgylchu
  • LOT 3: Bagiau Mewnol Compostio
  • LOT 5: Bagiau Gwastraff Amrywiol
  • LOT 6: Ffedogau Polythen Dwysedd Isel 


Ni ddyfarnwyd Lot 4 - Bagiau Gwastraff Clinigol fel rhan o'r fframwaith hwn o ganlyniad i newidiadau angenrheidiol yn y fanyleb. Bydd yn cael ei ddyfarnu fel fframwaith ar wahân ym mis Rhagfyr ac yn weithredol ym mis Chwefror, ac yn cael ei ddefnyddio yn bennaf gan y sector Iechyd.

 

Mae'r ffigurau arbedion posibl isod wedi cael eu pennu gan ddefnyddio prisiau cyfartalog presennol ar draws nifer o gyflenwyr, o'u cymharu â'r cyflenwr safle cyntaf ym mhob lot o fewn fframwaith y GCC, sydd yn eu tro yn cynnig y prisiau mwyaf cystadleuol.

 

Arbedion Lotiau 1 a 2

Arbedion lotiau 3 a 6


Roedd yn rhaid i gynnyrch pob cyflenwr llwyddiannus basio profion a oedd yn adlewyrchu’r defnydd a wneir o’r bagiau yn y cartref. Gwnaethpwyd hyn mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyflenwyr Glanhau a Hylendid, West Yorkshire Materials Testing Laboratory a Phrifysgol Bangor.

 

Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r CFG a’r Panel Gwerthuso, a fu’n helpu i ddatblygu’r fframwaith ac rydym yn awyddus i barhau i weithio â’r CFG a chwsmeriaid eraill i edrych ar fuddiannau sydd ynghlwm wrth safoni cynhyrchion yn y dyfodol a’r arbedion pellach y gall hyn ei gyflawni.


Diolch hefyd i Gyngor Dinas Casnewydd, y gwnaethom gyfarfod â hwy i sefydlu rhywfaint o gefndir a dealltwriaeth o'r gwaith a wnaed ar y fframwaith WPC blaenorol.


Gweler rhagor o fanylion ar y fframwaith, gan gynnwys canllawiau i gwsmeriaid ar wefan Gwerthwchigymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=10960&Path=11756-10960

 

Am ragor o fanylion am y fframwaith, cysylltwch â: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk


Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli Fframweithiau newydd y GCC! Cofrestrwch heddiw!


A hoffech chi gael eich diweddaru bob tro mae fframwaith newydd yn cael ei ddyfarnu gan y GCC? Pam na wnewch chi gofrestru i gael ein bwletin Hysbysiadau Dyfarnu?

 

Mae’r Hysbysiadau’n cynnwys gwybodaeth allweddol pan fydd fframwaith newydd yn cael ei gyhoeddi, gan gynnwys manylion am gyflenwyr, trefniadau’r lotiau a dolenni at ganllaw llawn i gwsmeriaid.


Cofrestrwch heddiw trwy fynd i'ch hoffterau defnyddiwr, a dewiswch ‘Notices of Award' i dderbyn Hysbysiadau dwyieithog.


Fframwaith Cyfathrebu a Marchnata


Dyfarnwyd Fframwaith Cyfathrebu a Marchnata Llywodraeth Cymru C118-2013-14 ar 27 Mai 2015 ar gyfer cyfnod o dair blynedd, ac mae ar gael i gwsmeriaid y GCC ei ddefnyddio.
 
Mae'r fframwaith yn cynnig atebion ar gyfer nifer o wasanaethau cyfathrebu a marchnata, gan gynnwys: Dylunio Graffig; Marchnata Digidol; DVD, Fideo a Ffilmio; Animeiddio 3D; Rheoli Digwyddiadau; Gwasanaethau Clyweled; Cyfarpar a Baneri Cludadwy.
 
Mae rhagor o wybodaeth ar y fframwaith, gan gynnwys manylion llawn y gwasanaethau sydd ar gael o dan bob Lot i'w gweld ar wefan GwerthwchiGymru:
https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=6580&Path=11755-13065-6580


2. Edrych i'r Dyfodol


Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am y digwyddiadau.


Edrych i'r Dyfodol ar Ddigwyddiadau:

http://gov.wales/docs/caecd/publications/161130-forward-look-cy.pdf


3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.

 

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau


Adroddiadau Grŵp Fforwm Categori

 

Diweddariadau

  • Cyfleustodau – rhwng hyn ac Ebrill 2017, byddwn yn gweithio ar Wasanaethau Gweithredwyr Mesuryddion a LPG. Byddwn yn cysylltu â phob parti perthnasol yn ystod y mis nesaf. Os oes gennych chi ymholiadau penodol ar Gyfleustodau, cysylltwch â NPSUtilities@cymru.gsi.gov.uk

     


    Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

    Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


    Hysbysiadau Dyfarnu Contractau i Ddod

    • Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo – mae’r fframwaith hwn yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a disgwylir ei ddyfarnu ym mis Rhagfyr, yn amodol ar gyfnod segur o 10 diwrnod. Disgwylir y bydd y fframwaith yn weithredol yng nghanol mis Ionawr, yn dilyn cyfnod gweithredu o bedair wythnos i adeiladu'r catalog rhestr graidd ar y system Basware.

     

    Diweddariadau

    • Cyflenwi Papur Copïo, Argraffu Digidol a Phapur Gwrthbwyso – gyda diwedd y cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd yn dynesu ym mis Ionawr 2017, rydym yn gweithio â chyflenwyr i ymestyn y trefniadau presennol am gyfnod o 12 mis, fel yr amlinellwyd yn amserlenni’r contract. Os oes gan gwsmeriaid unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod.
    • Cyflenwi Offer Gwelededd Uchel a Diogelu Personol (PPE), Lifrai, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden. Rydym yn y broses o drefnu diwrnod cyflenwyr i ymgysylltu â’r farchnad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod.
    • Fframwaith Asiantaethau'r Cyfryngau - mae'r GCC yn parhau i ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr, a bydd yr Arfarniad Opsiynau ar gyfer y fframwaith hwn yn cael ei gyflwyno i'r Grŵp Cyflawni'r GCC yn y flwyddyn newydd.


    Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk

         


        Fflyd a Thrafnidiaeth

        Fflyd a Thrafnidiaeth


        Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

         

        Hysbysiadau Dyfarnu Contractau i Ddod

        • Darnau Sbâr Cerbydau – mae tendrau’n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Mae archwiliadau diwydrwydd dyladwy’n cael eu cynnal, a disgwylir y bydd y fframwaith yn cael ei ddyfarnu ym mis Rhagfyr 2016, ac yn weithredol ym mis Ionawr 2017.

         

        Diweddariadau

        • Llogi Cerbydau - yn dilyn adborth cwsmeriaid ni fydd fframwaith Llogi Cerbydau presennol y GCC ar gyfer Ceir a Cherbydau Masnachol Ysgafn (LCV) o dan 3.5 Tunnell yn cael ei ymestyn yn y torbwynt pris ym mis Ebrill 2017. Gwnaethpwyd penderfyniad i ail-dendro’r nwyddau hyn. Y bwriad yw rhannu Ceir a LCVs yn ddwy lot ar wahân er mwyn cynyddu nifer y cyflenwyr. Daw’r fframwaith cyfredol ar gyfer Llogi Cerbydau Arbenigol a osodir gan y WPC a’i arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd i ben ar 1 Mai 2017 a bydd yn rhan o’r aildendr Llogi Cerbydau fel lot ar wahân. Disgwylir y bydd cytundeb newydd y GCC yn dod i rym ym mis Mai 2017.
        • Llogi Cerbydau  (ail-dendro) - cafodd cyfarfod cyntaf y Grŵp Fforwm Categori (CFG)  ei gynnal ar 10 Tachwedd 2016, a chynhaliwyd dau ddigwyddiad cyflenwyr ar 21 a 22 Tachwedd - cafwyd adborth cadarnhaol ynghylch y strategaeth arfaethedig. Mae’r Arfarniad o Opsiynau wedi'i gytuno gan y CFG a bydd yn cael ei ddanfon i'r Grŵp Cyflawni i'w gymeradwyo yn fuan. Yn y cyfamser, mae'r dogfennau gofynion  yn cael eu paratoi ar gyfer eu dosbarthu i aelodau’r CFG i glywed eu sylwadau ym mis Rhagfyr.
        • Tanwydd Hylif - Bydd estyniad o 12 mis yn cael ei ddefnyddio ar y fframwaith hwn (dyddiad terfyn newydd 07/04/2018) gydag adolygiad ar brisiau yn cael ei gynnal gyda'r holl gyflenwyr ar y fframwaith, o fis Chwefror 2017.
        • Gwirio Trwyddedau Gyrru – mae’r prosiect hwn wedi’i ohirio am y tro ac mae’r Piblinell Fflyd wedi cael ei newid i adlewyrchu hyn.
        • Cardiau Tanwydd – mae’r GCC wedi cynnal cystadleuaeth bellach o dan y fframwaith CCS ar gyfer Cardiau Tanwydd. Mae mabwysiadu’r cyflenwr hwn o dan gystadleuaeth fach y GCC yn cynnig cyfle i gwsmeriaid i fanteisio ar:
          - Dim ffioedd trafodion
          - Prisio Platts yn hytrach na phrisiau Pympiau
          - Dim ffioedd cardiau am y 12 mis cyntaf ac yna £6 y cerdyn
          - Opsiynau cardiau lluosog ar gael o dan un anfoneb wedi’i chydgrynhoi i gynyddu dalgylch
          Dylai unrhyw gwsmeriaid a hoffai gymryd rhan gysylltu â chyfeiriad y Fflyd isod.
        • Arolwg Fflyd Blynyddol y GCC – er mwyn cyrraedd cymaint o gwsmeriaid â phosibl, rydym wedi ailagor yr Arolwg Fflyd Blynyddol. Gall unrhyw gwsmer nad yw wedi ymateb hyd yma, gysylltu â’r tîm yn y cyfeiriad e-bost isod i gael copi. Bydd hyn yn helpu i ragweld piblinell gwaith y GCC ar gyfer y dyfodol ac i ganfod meysydd blaenoriaeth ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.

               

              Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk


              Bwyd 


              Hysbysiadau Dyfarnu Contractau

               

              Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

               


              Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk


              Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

              Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

               

              Hysbysiadau Dyfarnu Contractau

               

              Diweddariad

              • Dyfeisiadau Aml-swyddogaeth a Nwyddau a Gwasanaethau Cysylltiedig – mae'r tendr eisoes wedi cau, gyda'r gwerthusiadau i gael eu cwblhau cyn gwyliau'r Nadolig. Rydym yn dal i chwilio am arbenigwyr technegol i fod yn aelodau o’r panel gwerthuso ac os ydych chi’n barod i helpu, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost TGCh isod. Disgwylir y bydd y fframwaith yn cael ei ddyfarnu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau'r 16 Ionawr 2017.
              • Fframwaith Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr - mae gwaith wedi cychwyn i edrych ar y gofynion ar gyfer y fframwaith hwn. Os hoffech chi gymryd rhan neu os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost TGCh isod.
              • Digwyddiadau 'Cwrdd â’r Prynwr / Cyflenwr’ - rydym yn dal i ystyried yr ail gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y De a’r Gogledd, yn dilyn ein digwyddiadau cyntaf ym mis Ebrill 2016. Mae’r rhain wedi’u cynllunio ar gyfer canol 2017. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gofyn am unrhyw awgrymiadau neu syniadau i helpu i wneud digwyddiadau’r flwyddyn nesaf yn llwyddiant.
              • Cynnyrch a Gwasanaethau TGCh (ITPS)
                - Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â chyflenwyr y fframwaith, i sicrhau bod catalogau cyflenwyr ar gael ac yn gyfoes. Mae catalogau dwbl ITPS ar gael yn awr trwy Basware. Bydd angen i gwsmeriaid sydd eisiau gweld yr e-gatalogau hyn ychwanegu catalogau cyflenwyr unigol yn yr adran 'View' yn Product Manager Basware.
                - Mae’r ail gyfres o gyfarfodydd adolygu cyflenwyr ITPS wedi dod i ben. Trafodwyd pob agwedd ar berfformiad cyflenwyr, gan gynnwys canlyniadau’r Arolwg Bodlonrwydd Cwsmeriaid a gwblhawyd yn ddiweddar, â chyflenwyr ITPS yn y cyfarfodydd hyn.
              • Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig - mae'r fframwaith wedi bod ar waith er 1 Awst 2016, gan gynnig llwybr sy’n cydymffurfio â’r farchnad ar gyfer ystod o nwyddau a gwasanaethau rhwydwaith,  asgwrn cefn telathrebu a cheblau ffeibr optig ar GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=10720&Path=11764-10720
              • Fframwaith Cymru gyfan ar gyfer Teleffoni (llinell sefydlog, VoIP, Symudol a Chyfathrebu Unedig) - mae'r ymarfer cwmpasu wedi dechrau. Os hoffech fod yn rhan o'r broses neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r blwch post TGCh isod.


                Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk


                Gwasanaethau Proffesiynol

                Gwasanaethau Proffesiynol

                 

                 

                Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig

                 


                 

                Hysbysiadau Contractau Arfaethedig

                • Gwelliannau a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref, Rhaglen Cymru Gynnes – disgwylir y bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cam 1, y fframweithiau rheolwr cynllun wedi’i Lleoli mewn Ardal, yn cael ei gyhoeddi yn ystod mis Rhagfyr 2016. Bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cam 2, y rheolwr cynllun sy’n seiliedig ar alw, yn cael ei gyhoeddi fis Chwefror 2017.
                • Fframwaith Ymgynghoriaeth Peirianneg Awdurdod Lleol De Orllewin Cymru – disgwylir y bydd yr Hysbysiad Contract yn cael ei gyhoeddi ddechrau Ionawr 2017.

                 

                Adroddiad Canlyniadau Grŵp Fforwm Categori

                 

                 

                Diweddariad

                • Mae nifer o weithgareddau ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr wedi cael eu cynnal yn ystod Tachwedd, i ategu ein rhaglen gaffael gyfredol. Mae’r rhain yn cynnwys: sesiynau ymwybyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr, gyda dros 20 o siambrau’n cymryd rhan. Hefyd, mae’r dogfennau canllaw eDendr wedi cael eu rhannu â phob siambr a bargyfreithiwr ar ein rhestrau datganiad o ddiddordeb.
                  - Digwyddiadau’r Rhaglen Cymru Gynnes yn y De a’r Gogledd. Rhannwyd syniadau ac awgrymiadau mewn ffordd agored a phositif mewn digwyddiadau cwsmeriaid. Roedd dros 45 yn bresennol mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r farchnad a gynhaliwyd yn y De a’r Gogledd, gan gynnig golwg ar y rhaglen gaffael arfaethedig.
                  – Diwrnod gwybodaeth am y farchnad Ymgynghoriaeth Peirianneg De Orllewin Cymru, a gynhaliwyd yn Llanelli gyda dros 50 yn bresennol o bob rhan o’r sector cyflenwi. Cafwyd cyflwyniadau gan y GCC a Chyngor Sir Caerfyrddin, ac fe’u dilynwyd gan sesiwn holi ac ateb fywiog, a chyfle i rwydweithio â chyflenwyr i annog bidio ar y cyd o bosibl. Bu’r GCC hefyd yn casglu adborth ar y model caffael arfaethedig. Diolch i’r tîm yng Nghyngor Sir Caerfyrddin am ddigwyddiad mor drefnus a buddiol.
                  Am ragor o wybodaeth am unrhyw rai o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod.
                • Hyfforddiant Cyfreithiol – mae cyflenwyr ar ein fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr yn cynnig ystod eang o hyfforddiant a digwyddiadau briffio. Rydym yn diweddaru'r digwyddiadau a'r amserlen ar gyfer blwyddyn nesaf. Mae amserlen lawn i'w gweld ar-lein yma.


                Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


                4. Arbedion

                 

                Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 3.34% y flwyddyn ariannol hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r GCC. 

                 

                Mae'r arbedion yn hafal i £1,944,872 rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Medi 2016.

                 

                Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC  neu'ch Pennaeth Caffael.


                Ni fydd Cylchlythyr y GCC y mis nesaf

                 

                Oherwydd gwyliau’r Nadolig ni fydd rhifyn o Gylchlythyr y GCC yn cael ei gyhoeddi fis Rhagfyr. Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Ionawr 2017.

                 

                Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r GCC yn NationalProcurementService@wales.gsi.gov.uk

                 

                Mwynhewch wyliau’r Nadolig!


                Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

                e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk