1. Newyddion
Mini-gystadlaethau - dechreuwch wneud arbedion heddiw!
|
|
Ar hyn o bryd mae’r GCC yn cydlynu nifer o
fini-gystadlaethau caffael ar ran sefydliadau cwsmeriaid yn y sector cyhoeddus
yng Nghymru. Dyluniwyd y rhain i ysgafnhau baich cwsmeriaid sy’n ymgymryd â
phroses dendro lawn, ac er mwyn helpu i ysgogi gwell cyfraddau arbedion.
|
Mae nifer o gwsmeriaid eisoes wedi manteisio ar
y cyfle hwn, ac wedi adrodd am arbedion da hyd yma.
Roedd gan y cystadlaethau cydweithredol ychwanegol o dan fframwaith Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth, werth contractau cyfunol o bron i £40m, ac yn dilyn yr ymarferiad caffael a arweiniwyd gan y GCC, adroddwyd am arbedion o tua 5% yn erbyn y cyfraddau fframwaith.
Hefyd, mae’r adborth gan gwsmeriaid ar fini-gystadlaethau cydweithredol o dan fframwaith Cyflenwi Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae cwsmeriaid y GCC wedi adrodd am arbedion o rhwng 9% - 36% drwy ddyfarnu uniongyrchol drwy’r fframwaith hwn. Drwy fini-gystadlaethau cydweithredol a gynhaliwyd gan y GCC ar ran cwsmeriaid, adroddwyd am arbedion o rhwng 10% - 26%. Mae mini-gystadlaethau wedi helpu i gwsmeriaid y GCC greu arbedion ychwanegol o 2% ar gyfartaledd.
Dywedodd Sue Day, Swyddog Caffael Strategol,
Cyngor Sir Fynwy:
“Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Fynwy
wedi cymryd rhan mewn nifer o fini-gystadlaethau cydweithredol a gynhaliwyd gan
y GCC; roedd y nwyddau dan sylw yn cynnwys Staff Asiantaeth, Teiars a
Gwasanaethau Cysylltiedig, a Chardiau Tanwydd.
Fel awdurdod lleol bychan rydym yn ddibynnol iawn ar fframweithiau’r GCC
fel ein llwybr i’r farchnad; mae’n ysgafnhau’r baich o gynnal proses dendro lawn
ac mae’n darparu arbedion maint allai arwain at fwy o arbedion mewn perthynas â
chyfraddau fframwaith y cytunwyd arnynt eisoes. Byddwn yn parhau i archwilio
cyfleoedd i gydweithredu yn y dyfodol gyda chymorth ein cydweithwyr yn y GCC.”
Mae'r GCC yn awyddus i hwyluso mini-gystadlaethau dan y cytundeb Gwasanaethau Yswiriant a dyfarnwyd yn ddiweddar. Os oes gan unrhyw gwsmer ofyniad, ac yn awyddus i archwilio mini-gystadlaethau, gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth: http://nps.gov.wales/news/mini-competitions?lang=cy
Procurex Cymru Byw!
Cynhaliwyd yr ail
ddigwyddiad Procurex Cymru Byw ar 6 Hydref 2016 yn Arena Motorpoint Caerdydd.
Bu i dros 1000 o gynrychiolwyr fynychu’r cynulliad mwyaf erioed yng Nghymru o
weithwyr caffael proffesiynol a chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a
phreifat.
Roedd y digwyddiad yn
cynnig cyfle unigryw i’r sectorau cyhoeddus a phreifat i arddangos arloesedd, rhwydweithio a chydweithio, a gwella eu sgiliau a gwybodaeth drwy amrywiaeth o barthau hyfforddiant, cymorth ac arweiniad.
Roedd niferoedd llawn o
staff Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol,
Gwasanaethau Caffael Corfforaethol, Gwerth Cymru, Caffael Trafnidiaeth,
Gwerthwch i Gymru a Busnes Cymru ar gael i roi cyngor a chymorth ym Mhafiliwn
Llywodraeth Cymru drwy gydol y dydd. Gweler rhagor o wybodaeth a dolen i oriel lluniau ar ein gwefan: http://nps.gov.wales/news/procurex-wales-live?lang=cy
Llwyddiant
i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yng Ngwobrau GO!
Mae’r Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol (GCC) a Llywodraeth Cymru wedi cael eu henwi’n enillwyr yng
Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru 2016/17.
Cynhaliwyd Gwobrau GO Cymru
ar 6 Hydref 2016 a bu i’r tîm ennill categori ‘Gwobr Arloesedd neu Fenter GO y
Flwyddyn - Llywodraeth Ganolog a’r GIG’.
Gweler rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: http://nps.gov.wales/news/go-awards-success?lang=cy
Diwrnod
Sector Addysg Bellach
Bu i'r colegau Addysg Bellach (AB) yng Nghymru a'r GCC yn dyfnhau ymgysylltiad yn ystod y Diwrnod Sector AB a gynhaliwyd ar 22 Medi. Amcanion y diwrnod oedd deall y
sector yn well a gwella mynediad at gyfleoedd caffael cydweithredol.
Gyda chynrychiolaeth o naw o’r 14 coleg ar draws Cymru, daeth Penaethiaid Caffael at ei gilydd i rannu arfer gorau a dysgu mwy am ddefnyddio fframweithiau'r GCC.
Bu i’r rhai a fynychodd roi cefnogaeth ragorol
i gynnal Diwrnod Sector AB arall, a mynegodd 90% y byddai diwrnod arall yn
ddefnyddiol iddynt. Bydd Diwrnod Sector AB nesaf y GCC yn cael ei gynnal ar 30
Tachwedd. Rydym wrth ein bodd bod Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnig cynnal y
digwyddiad hwn yn eu campws newydd ar Ffordd Dumballs. Bydd gwahoddiadau yn
cael eu hanfon i golegau AB yn fuan.
Darllenwch mwy am y diwrnod Sector Addysg Bellach ar ein gwefan: http://nps.gov.wales/news/further-education-sector-day?lang=cy
Gwelliannau
a chyngor ar Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref
Bydd y GCC yn cynnal dwy broses gaffael fawr mewn partneriaeth â
Llywodraeth Cymru; cynllun Arbed 3 a
Nest. Mae Nest yn gynllun a arweinir gan alw ar gyfer cartrefi daliadaeth
breifat unigol ar draws Cymru, yn seiliedig ar gynhwysedd deiliad y tŷ. Mae
Arbed 3 yn seiliedig ar ardal, ar gyfer ‘strydoedd’ o gartrefi â phob math o
ddeiliadaeth.
Mae’r ddau weithgaredd ar
hyn o bryd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng rheolwyr cynlluniau, ac er mwyn cael
gwared â dyblygu a sicrhau dilyniant bydd y GCC yn arwain y gweithgaredd caffael.
Bydd y cynllun Arbed hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau rheoli cynlluniau
i’w defnyddio gan awdurdodau lleol, er mwy sicrhau bod cyllid Arbed 3 yn cael
ei ddefnyddio’n gyflym.
Mae’r GCC wedi cyhoeddi
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar GwerthwchiGymru er
mwyn ategu’r ymarfer o ymgysylltu â’r farchnad, ac yna bydd yn cyflwyno
opsiynau i Grŵp Cyflawni’r GCC. Mae manylion am ddigwyddiadau rhanddeiliaid y
sector cyhoeddus ar gael yn y tabl ‘Edrych i'r Dyfodol’ isod.
2. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am
ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag
e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg
ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau
am y digwyddiadau.
Edrych i'r Dyfodol ar Ddigwyddiadau i Brynwyr:
3. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau
Hysbysiadau Dyfarnu
Contractau
Diweddariadau
-
Darparu
Cynnyrch Goleuo Priffyrdd - rydym yn chwilio am gynrychiolwyr y sector i ymuno â'r Grŵp Fforwm Categori ar gyfer y fframwaith hwn. Cysylltwch â'r blwch post isod os hoffech gymryd rhan.
- Bydd y GCC yn dechrau gwaith cyn bo hir ar ddatblygu fframwaith ar gyfer Cynnal a Chadw, a Gosod Lifftiau Teithwyr. Bydd Grŵp Fforwm Categori yn cael ei sefydlu i lywio'r fframwaith dros y misoedd nesaf. Cysylltwch â'r blwch post isod am ragor o wybodaeth.
- Llogi Peiriannau a Chyfarpar heb eu gweithredu - cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Fforwm Categori (GFfC) ar 2 Tachwedd. Bydd cwmpas llawn y fframwaith yn cael ei gytuno gan y GFfC, ond disgwylir y bydd yn cynnwys ystod o gyfarpar megis rholeri ffordd, pympiau dŵr a chynwysyddion ar y safle. Disgwylir i'r cytundeb gychwyn ym mis Mawrth 2017.
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Diweddariadau
- Cyflenwi Offer
Gwelededd Uchel ac Offer Diogelwch Personol (PPE), Lifrai, Dillad Gwaith a
Dillad Hamdden - mae cytundeb Consortiwm Prynu Cymru a’r catalogau cysylltiedig
wedi cael eu hymestyn fel cam interim. Rydym yn y broses o ddrafftio
gwerthusiad opsiynau newydd i’w adolygu gan y Grŵp Fforwm Categori a’r
Grŵp Cyflawni.
- Offer Swyddfa
a Phapur Llungopïwr - y terfyn amser ar gyfer cyflwyno oedd 19 Medi 2016, ac
ar hyn o bryd mae gwerthusiadau technegol yn cael eu cynnal.
- Fframwaith
Asiantaeth Cyfryngau - rydym yn bwriadu sefydlu Grŵp Fforwm Categori ar
gyfer adnewyddu’r fframwaith hwn. Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp yma yn cael
ei gynnal ar 16 Tachwedd 2016 yn Swyddfa Llywodraeth Cymru, Bedwas, gyda
chyfleusterau cynadledda fideo i Gyffordd Llandudno. Cysylltwch â’r blwch
postio isod os hoffech gymryd rhan, neu os oes gennych unrhyw adborth ar y
cytundeb presennol.
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
-
Fframwaith
ar gyfer Llogi Cerbydau Arbenigol dros 3.5 Tunnell GVW yn ôl y Galw - cyhoeddwyd
ar 26 Medi 2016. Mae’r fframwaith cyfredol ar gyfer Llogi Cerbydau
Arbenigol drwy’r Cerdyn Pryniant Cymreig dan arweiniad Cyngor Dinas
Casnewydd yn dod i ben ar 1 Mai 2017. Yn fuan bydd y GCC yn sefydlu Grŵp
Fforwm Categori (GFfC) ar gyfer y fframwaith hwn. Gall cwsmeriaid sydd â
diddordeb mewn cymryd rhan fel cynrychiolwyr y sector gysylltu â’r blwch
postio isod.
Diweddariadau
-
Cardiau Tanwydd - bu i’r GCC gynnal
digwyddiad Tanwydd ar 7 Medi mewn cydweithrediad â CCS a Chardiau Tanwydd
y DU. Mae cyflwyniadau’r digwyddiad ar gael drwy anfon cais i’r blwch
postio isod. Bydd Gareth Bicker o Gardiau Tanwydd y DU yn hapus o ymweld ag
unrhyw sefydliadau cwsmeriaid sydd â diddordeb. Cysylltwch â’r blwch
postio isod os hoffech gael mwy o wybodaeth.
- Teiars - erbyn
hyn mae’r mini-gystadlaethau a’r dyfarniadau uniongyrchol wedi’u cwblhau
ar gyfer bron y cyfan o gwsmeriaid y GCC. Mae’r arbedion i gwsmeriaid
rhwng 9% - 45%. Mae cwsmeriaid sy’n ymgymryd â dyfarniad uniongyrchol wedi
adrodd am arbedion o 9% ar gyfartaledd. Mae cwsmeriaid sydd wedi ymgymryd
â chystadleuaeth ychwanegol drwy dîm Fflyd y GCC wedi adrodd am arbedion o
11% ar gyfartaledd.
- Arolwg Fflyd Blynyddol y
GCC - Mae’r arolwg hwn yn amcanu at gasglu data ar broffil fflyd y sector
cyhoeddus yng Nghymru a dadansoddiad o gostau cwsmeriaid unigol er mwyn rhoi
golwg i ni ar “gost oes gyfan” gweithrediadau, a hysbysu piblinell y GCC yn y
dyfodol. Os ydych yn dymuno cwblhau’r arolwg hwn, ac nad ydych wedi derbyn copi
hyd yma, cysylltwch â’r blwch postio isod. Y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r
arolwg hwn yw 7 Tachwedd 2017.
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
Bwyd
Hysbysiadau i Ddod am
Gontractau a Ddyfarnwyd
- Brechdanau wedi eu Paratoi a Llenwadau
Brechdanau; a Phlatiau o Brydau Bwyd wedi’u Rhewi - mae’r ddau fframwaith
ar hyn o bryd yn cael eu gwerthuso a byddant yn cael eu dyfarnu ym mis
Tachwedd.
Hysbysiadau Gwybodaeth
Ymlaen Llaw i Ddod
- Bydd Hysbysiad
Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer yr un ar ddeg o gontractau/fframweithiau
sydd ar ôl yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Tachwedd, a bydd y prosesau
caffael yn cychwyn yn gynnar yn 2017.
Diweddariadau
-
Yn ddiweddar cafwyd tri aelod newydd ar dîm bwyd y GCC:
- Lynda Scutt yn ymuno fel Pennaeth Categori
- Jill Gomez yn ymuno fel Rheolwraig categori
- mae Mark Grant nawr yn Gynghorydd Categori
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Contractau
Hysbysiadau i Ddod am
Gontractau a Ddyfarnwyd
-
Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth - mae
gwerthuso tendrau a gwiriadau sicrwydd ansawdd bron â chael eu cwblhau, a
bwriedir mynd yn fyw ddiwedd mis Hydref. Diolch i bob aelod o’r Grŵp
Fforwm categori ac i’r gwerthuswyr am eu gwaith caled ar y fframwaith hwn.
Diweddariadau
- Mae cam nesaf
y Biblinell TGCh wedi cael ei baratoi yn dilyn arolwg cwsmeriaid a
gasglodd ofynion ar draws y sectorau. Rhoddwyd cyflwyniad ar y cam nesaf
arfaethedig i SOCTIM ar 28 Gorffennaf. Os hoffech gymryd rhan yn yr arolwg
o hyd neu dderbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r blwch postio TGCh isod.
Byddwn yn rhannu’r biblinell arfaethedig yn ystod yr wythnosau nesaf, ac
fe’i cyflwynwyd i gynulleidfaoedd yn nigwyddiad Procurex Cymru ar 6
Hydref.
- Dyfeisiadau
Amlswyddogaethol a Gwasanaethau Argraffu a Reolir yn Fewnol - mae gwaith
yn mynd rhagddo i gwmpasu’r fframwaith. Cynhaliwyd gweithgor technegol ar
7 Medi 2016 er mwyn trafod y gofynion penodol a’r manylebau technegol ar
gyfer y rhestr Nwyddau Craidd. Mae’r Gwerthusiad Opsiynau hefyd wedi cael
ei gylchredeg i Grŵp Cyflawni'r GCC er mwyn ei gymeradwyo. Diolch i bawb
sydd wedi mynychu’r cyfarfodydd, ac am eich cefnogaeth barhaus. Rydym yn
dal i chwilio am arbenigwyr technegol er mwyn ffurfio’r panel gwerthuso,
ac os ydych yn barod i gynorthwyo cysylltwch â’r blwch postio TGCh isod.
-
Mae gwaith wedi cychwyn er mwyn edrych ar
ofynion fframwaith rheoli
gwybodaeth myfyrwyr. Os hoffech gymryd rhan neu os ydych eisiau mwy o
wybodaeth, cysylltwch â’r blwch postio TGCh isod.
- Ar hyn o bryd
mae’r arolygon bodlonrwydd yn nwylo’r cwsmeriaid, a bydd hynny yn arwain at ail set o
gyfarfodydd arolwg ar gyfer y fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG
(ITPS). Mae adolygiad o’r nwyddau craidd er mwyn diweddaru catalogau ITPS
hefyd yn mynd rhagddo a bwriedir i’r catalogau diwygiedig fod ar gael ym
mis Hydref. Bwriedir i hynny ddelio â phroblem catalogau coll a brofwyd
gydag ambell un o lotiau’r fframwaith.
- Rydym wrthi’n
meddwl am yr ail set o ddigwyddiadau ‘Cyfarfod â’r Prynwr/Cyflenwr’ ar
gyfer Gogledd a De Cymru, yn dilyn ein digwyddiadau cychwynnol ym mis
Ebrill 2016. Mae’r rhain wedi eu cynllunio ar gyfer canol 2017. Yn ystod y
misoedd nesaf byddwn yn gofyn am unrhyw awgrymiadau neu syniadau sydd
gennych er mwyn sicrhau bod y digwyddiad y flwyddyn nesaf yn llwyddiannus.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl
Hysbysiadau Dyfarnu
Contractau
Diweddariadau
-
Fframwaith Buddion Cyflogeion - mae Cynllun Aberthu Cyflog Sgrinio
Iechyd a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig ag Iechyd yn cynnwys
Cynlluniau Arian Parod Iechyd ac Yswiriant Bywyd ar gael nawr i’r holl
sefydliadau cwsmeriaid o dan Fframwaith Buddion Cyflogeion.
-
O ganlyniad i ymgynghoriad HMRC ar
aberthu cyflog sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd digwyddiadau i gwsmeriaid
yn cael eu trefnu ar gyfer dechrau’r flwyddyn nesaf, ar ôl cyhoeddi
datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd, pan fydd unrhyw newidiadau yn cael eu
hadlewyrchu. Mae mwy o wybodaeth am ymgynghoriad
HMRC ar gael ar-lein yma.
- Bydd
digwyddiad Adnoddau Dynol yn cael ei gynnal ar 22 Tachwedd 2016 yng
Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, fydd yn cynnig cyfle i gyfarfod
Rheolwyr Categori’r GCC a darparwyr fframwaith. Hefyd, mae’r GCC yn
awyddus i dderbyn eich syniadau ynglŷn ag unrhyw weithgaredd caffael
Adnoddau Dynol yn y dyfodol y gall y GCC eu helpu. Mae mwy o fanylion ar
gael yn yr adran ‘Edrych Ymlaen’ uchod.
Cysylltu: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Contractau
-
Gwasanaethau Cyfreithiol gan
Fargyfreithwyr -
cyhoeddwyd 10 Hydref 2016. Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener,
18 Tachwedd 2016. Cynhaliwyd mwy o brofion ar y model gyda’r farchnad,
Cyngor y Bar a’r Grŵp Fforwm Categori, a chadarnhawyd eu bod oll yn fodlon
â’r dull caffael.
|
Diweddariadau
-
Gwasanaethau Yswiriant- rydym yn awyddus
i gefnogi sefydliadau sy’n cymryd eu camau cyntaf wrth ddefnyddio’r
fframwaith hwn. Os bydd gennych unrhyw anghenion, cysylltwch â’r blwch
postio isod i drafod y cymorth sydd ar gael. Recordiwyd a chynhaliwyd gweminar
drwy Gymdeithas Rheolwyr Risg Awdurdodau Lleol (ALARM) ym mis Medi, gan
roi sylw i’r cytundeb a sut y’i defnyddir.
http://www.alarm-uk.org/login?ReturnUrl=/events-and-webinars/past-webinars
-
Hyfforddiant
ymwybyddiaeth Contract Gwasanaethau Proffesiynol NEC3 - bu i dros 90 o
gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus fynychu’r digwyddiadau a hwyluswyd gan
GCC ac a gynhaliwyd gan un o’n darparwyd fframweithiau, WSP. Mae mwy o
wybodaeth ar gael ar ein gwefan: http://nps.gov.wales/news/nec-3-professional-training?lang=cy
-
Hyfforddiant
Cyfreithiol - mae cyflenwyr ein fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan
gyfreithwyr yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau hyfforddi a briffio. Mae
amserlen lawn ar gael ar-lein yma.
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
4. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 3.29% y flwyddyn ariannol hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £1,258,228 rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Gorffennaf 2016.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|