1. Newyddion
Grwpiau Fforwm Categori -
Eich gwahoddiad i gymryd rhan
© Hawlfraint y Goron
A hoffech chi helpu i lunio strategaethau
caffael y dyfodol yng Nghymru? Mae’r GCC bob amser yn chwilio am gynrychiolwyr
cwsmeriaid i fod yn rhan o Grwpiau Fforwm Categori (GFfCau).
Ym mhob ymarferiad caffael y mae’r GCC yn
gyfrifol amdano, mae GFfC o gynrychiolwyr cwsmeriaid yn cael ei ffurfio i
ganolbwyntio ar y maes gwaith penodol hwnnw. Er bod y GCC a chydweithwyr
caffael o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru’n cynnig arbenigedd ar gaffael,
rydym bob amser yn gwerthfawrogi arbenigedd a gwybodaeth dechnegol.
Rôl aelodau GFfC yw bod yn bresennol mewn o
leiaf un cyfarfod o’r GFfC (ond gall fod yn fwy nag un os oes cymhlethdod
ynghlwm wrth y caffael).
Mae bod yn aelod o GFfC yn eich galluogi chi
i:
- ystyried
y cyflenwyr yn y farchnad a phenderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o strwythuro
caffael
- dylanwadu
ar y fanyleb i wneud yn siŵr bod anghenion sefydliadau cwsmeriaid yn cael eu
diwallu
- meddwl
mewn ffordd wreiddiol ac ystyried gwahanol ffyrdd o gyflawni
- bod
yn gysylltiedig yn ffurfiol â gwerthuso’r cyflenwyr
Mae gwaith tîm llwyddiannus yn hanfodol, ac mae
cysyniad y GFfC wedi profi’i hun. Er enghraifft, mae GFfC Fflyd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o'r maes fflyd ar draws y sector cyhoeddus Cymreig, sydd â diddordeb yn y nwyddau penodol sy'n cael eu caffael. Mae'r strwythur cydweithredol wedi bod yn hynod lwyddiannus, gydag enghreifftiau o'r dull safonol hwn i'w gweld ar draws fframweithiau Llogi Cerbydau, Cardiau Tanwydd a Thanwyddau Hylif. Mae'r fframweithiau yma yn adrodd arbedion ar gyfartaledd o 2.50%, 7.70% a 3.64% yn y drefn honno ar gyfer 2015/16.
Pan fydd GFfC newydd yn cael ei sefydlu, bydd
y GCC yn gofyn bob amser i gynrychiolwyr sectorau sy’n eistedd ar Grŵp
Cyflawni’r GCC i gynnig enwau pobl a hoffai gymryd rhan. Neu, mae’r GCC yn
awyddus bob amser i glywed gan unigolion o fewn sefydliadau cwsmeriaid a hoffai
fod yn aelod o GFfC.
Os oes gennych chi sgiliau technegol yr ydych
yn credu a fyddai o fudd i GFfC, ac yr hoffech gymryd rhan, yna cysylltwch â'r GwasanaethCaffaelCenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk i drafod y mater. Mae Adroddiadau Canlyniad o gyfarfodydd GFfC blaenorol i'w cael ar GwerthwchiGymru a detholiad o gyfarfodydd GFfC y dyfodol i'w gweld yn yr adran 'Edrych i'r dyfodol' isod.
Gwobrau GO Cymru – eich cyfle olaf i enwebu!
A ydych chi wedi cyflwyno’ch enwebiadau ar
gyfer Gwobrau GO Cymru?
Os nad ydych – dim ond wythnos sydd ar ôl i
gyflwyno’ch enwebiad yn www.goawards.co.uk/cymru
Bydd y Gwobrau GO cyntaf yn cael eu cynnal
yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ar 6 Hydref 2016 ac maent yn agored i
sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae 8 o gategorïau i ddewis
o’u plith:
-
Gwobr
Cynaliadwyedd sy’n cynnwys Manteision Cymunedol a Cheisiadau ar y Cyd
-
Gwobr
Cydweithredu GO
-
Gwobr
Gwasanaeth Gorau GO
-
Gwobr
Arloesi neu Fenter y Flwyddyn GO
-
Gwobr Tîm
Caffael y Flwyddyn GO
-
Gwobr Person
Ifanc y Flwyddyn GO
-
Gwobr
Arweinyddiaeth Caffael y Flwyddyn GO
-
Gwobr
Cyfraniad Caffael y Flwyddyn GO
Bydd yr enwebiadau’n cau am 5pm ar ddydd Llun
8 Awst.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.goawards.co.uk/cymru
Fel rhan o'r Diwrnod Caffael yng Nghymru ar ddydd
Iau 6 Hydref, bydd Gwobrau GO Cymru’n cael eu cynnal fel rhan o ddigwyddiad min
nos Procurex Cymru yn Fyw 2016, sy’n digwydd yn gynharach y diwrnod hwnnw yn y
Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Gyda dros 1000 o gynrychiolwyr a 70 o
arddangoswyr wedi cofrestru’n barod – rydym yn rhagweld y bydd digwyddiad
eleni’n fwy ac yn well nag erioed: www.procurexlive.co.uk/cymru
Dadansoddiad Gwariant Cydweithredol y GCC
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r GCC wedi bod yn gweithio â chwsmeriaid
sector cyhoeddus Cymru i weithredu System Dadansoddi Gwariant Atamis mewn
sefydliadau sy’n cymryd rhan.
Mae’r system yn gyfle i gwsmeriaid i weld eu
gwybodaeth leol eu hunain ar gyfer buddiannau dadansoddiad gwariant, ac i wneud
gwaith adrodd dangosfwrdd dynamig. Gan roi adroddiadau cywir a manwl, mae’n
ysgafnhau’r baich o weithio â thaenlenni beichus o ddata.
Hyd yma, mae 49 o sefydliadau wedi cael
hyfforddiant ar ddefnyddio’r system, a bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod
2016-17 wrth i’r ymarferiad baratoi i gyflwyno’r system i sefydliadau
cwsmeriaid y GCC. Mae adborth gan gwsmeriaid ynghylch ei ddefnydd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae'r GCC yn ddiolchgar am eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad.
Mae mynediad at y data diweddaraf ar lefel categori a chyflenwyr yn hanfodol i’r GCC i gyflawni gwaith caffael ar y
cyd ac ar gyfer arbedion a strategaethau cwsmeriaid y GCC. Mae hefyd o ddefnydd i Werth Cymru i gydymffurfio ag
egwyddorion ehangach Polisi Caffael Cymru.
Os ydych yn aelod gwsmer y GCC, yna mae gan eich sefydliad fynediad at y system hon. Am ragor o wybodaeth am System Dadansoddi
Gwariant Atamis, cysylltwch â'ch tîm caffael neu Bennaeth Gwybodaeth Busnes y GCC Mark.Gwilym@cymru.gsi.gov.uk
Cyfeiriadur Cysylltiadau’r GCC
Rydym yn ddiweddar wedi diweddaru Cyfeiriadur
Cysylltiadau electronig y GCC ac mae copïau’n awr ar gael ar gais.
Mae’r Cyfeiriadur yn rhoi gwybodaeth am staff
y GCC sy’n gweithio â’r saith categori, ynghyd â manylion am eu meysydd gwaith
penodol. Mae wedi’i ddatblygu i gynorthwyo cwsmeriaid i gysylltu â’r GCC os oes
ganddynt ymholiadau.
Cysylltwch â Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am gopi.
|
|
|
Arbedion Diwedd y Flwyddyn
Mae'r GCC yn adrodd cyfanswm cyfradd arbedion o 8.70% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 yn erbyn cyfanswm y gwariant.
Mae cyfanswm yr arbedion yn erbyn y defnydd a adroddwyd o Gontractau a Chytundebau Fframwaith dan reolaeth. Mae hyn yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd proses ychwanegol a'r buddion o gytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r GCC.
Cyfanswm yr arbedion yw £9,811,057 o 1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth, 2016.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Newidiadau i Gylchlythyr y GCC
Mae ein tîm cyfathrebu wrthi ar hyn o bryd yn
adolygu sut yr ydym yn cyfathrebu â chi trwy’r GCC a Gwerth Cymru.
Yn ystod y misoedd nesaf byddem yn cyhoeddi arolwg, a hoffem glywed
gennych chi am ba agweddau ar Gylchlythyr y GCC a bwletinau Gwerth Cymru rydych
yn eu hoffi, a sut ydych chi’n meddwl y gellid eu gwella. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau cysylltwch â Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
Arolwg – Arferion Caffael Cynaliadwy yng Nghymru
Mae Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac
Adnoddau (WRAP) wedi datblygu arolwg byr i helpu i ganfod gweithgarwch Caffael
Cynaliadwy cyfredol yn y sector cyhoeddus ledled Cymru ac i helpu datblygiad y
Cynllun Effeithlonrwydd Gwastraff ac Adnoddau.
Mae’r arolwg yn berthnasol i’r rhai â
chyfrifoldebau am wneud penderfyniadau ac sydd â dylanwad dros gaffael nwyddau
a gwasanaethau mewn sefydliadau sector cyhoeddus. Bydd y canlyniadau’n cael eu
defnyddio i helpu i ganfod ac i deilwra deunyddiau, fel pecynnau cymorth a
chanllawiau, i helpu sefydliadau sector cyhoeddus i ddatblygu eu hymagwedd at
gaffael cynaliadwy.
Mae’r arolwg byr ar gael yma a daw i ben ar 31 Awst 2016.
Os oes
gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Susan Jay ar 07711 199964 neu Alice Tolley ar 07712 852013.
2. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am
ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl Rhagolwg canlynol. Cysylltwch ag
e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg
ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn a GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau
am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau Proffesiynol
3. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau
Contract Arfaethedig
- Cyflenwi Cyfarpar Goleuo Priffyrdd – disgwylir ei gyhoeddi fis Hydref 2016.
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Cam 2
Rheoli Cyfleusterau – disgwylir ei ddyfarnu ddiwedd Awst 2016.
- Prynu
Offer Llaw a Chyfarpar Trydanol Bychan - disgwylir ei ddyfarnu ar 1 Medi
2016.
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm
Categori
- Mae
Adroddiad Canlyniadau Cyflenwi Cyfarpar Goleuo Priffyrdd ar gael yn awr ar
wefan GwerthwchiGymru.
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
- Post, Cludo
ac Offer Ystafelloedd Post – dyfernir ar 4 Gorffennaf 2016. Mae canllaw
llawn ar gael ar GwerthwchiGymru.
Diweddariadau
-
Cyflenwi Offer Gwelededd Uchel ac Amddiffyn Personol (PPE) - Lifrai,
Dillad Gwaith a Hamdden – oherwydd amgylchiadau nad oedd wedi’u rhagweld,
mae’r fframwaith blaenorol wedi’i dynnu’n ôl. Yn dilyn adborth gan
gyflenwyr, rydym yn bwriadu cychwyn ar ymarferiad caffael newydd i sefydlu
fframwaith ym mis Medi 2016. Rydym yn cwrdd â thendrwyr ar hyn o bryd i
gasglu adborth ar y broses flaenorol i helpu i lunio’r ymarferiad tendro
nesaf. I sicrhau cyflenwadau yn ystod y broses ail dendro, rydym wedi
ymestyn cytundeb Consortiwm Prynu Cymru ar gyfer Cyflenwi Offer
Gwelededd Uchel ac Amddiffyn Personol tan 31 Rhagfyr 2016. Bydd holl
gatalogau cysylltiedig Basware yn cael eu diweddaru.
- Fframwaith
Cymru Gyfan y GCC ar gyfer Deunydd Swyddfa a Phapur Copïo – bydd yr amserlen a
gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer y dyfarniad yn cael ei hymestyn o Fedi
2016 i fis Tachwedd 2016. Y rheswm am yr oedi yw problemau â data a
gafwyd i boblogi amlen fasnachol y tendr. Yn achos cwsmeriaid sydd ar hyn
o bryd yn defnyddio’r trefniant pontio â Banner, noder fod y trefniant hwn
wedi cael ei ymestyn i gynnwys cyflenwadau rhwng 14 Gorffennaf 2016 a
dyfarnu’r cytundeb newydd. Mae’r catalogau Basware cysylltiedig wedi cael
eu hymestyn i adlewyrchu hyn.
- Fframwaith
Asiantaethau Cyfryngau – rydym yn bwriadu sefydlu Grŵp Fforwm Categori ar
gyfer adnewyddu’r fframwaith hwn. Cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod os
hoffech fod yn gysylltiedig, neu os oes gennych chi unrhyw adborth ar y
cytundeb presennol.
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Diweddariadau
- Teiars – Mae
gwaith y GCC o gydlynu cystadlaethau bach cydweithredol yn parhau, a
chafwyd adborth positif iawn gan gwsmeriaid ynglŷn ag arbedion hyd yma.
Daeth cam 1 y cystadlaethau bach i ben ar 30 Mehefin 2016. Dylai unrhyw
sefydliadau cwsmeriaid nad ydynt wedi cadarnhau eu bwriad eto i
ddefnyddio’r fframwaith gysylltu â’r cyfeiriad e-bost isod cyn gynted â
phosibl.
- Cardiau
Tanwydd a Thanwyddau Hylifol – bydd arolwg yn cael ei gyhoeddi i
gwsmeriaid cyn hir ynglŷn â darparu’r fframwaith hwn yn y dyfodol.
-
Darnau Sbâr
Cerbydau – mae’r gwaith i ddatblygu’r ddogfennaeth yn parhau. Nod y Grŵp
Fforwm Categori (GFfC) nesaf fydd cytuno ar y fanyleb a’r meini prawf
gwerthuso. Mae'r Gwerthusiad o'r Opsiynau wedi cael ei gytuno gan y GFfC a bydd yn cael ei anfon at Grŵp Cyflawni'r GCC i'w gymeradwyo yn ystod mis Awst. Mae'r prosiect ar amser i'r gwahoddiad i dendro gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2016, a'r dyfarniad i ddilyn ym mis Rhagfyr 2016 gyda'r fframwaith ar gael i'w ddefnyddio ym mis Ionawr 2017.
-
Byddwn yn
cyhoeddi arolwg categori ym mis Medi, gan roi cyfle i gwsmeriaid i roi
adborth ar ffurf Piblinell Fflyd yn y dyfodol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
Bwyd
Hysbysiadau Contractau Arfaethedig
- Diodydd
Ysgafn, Creision, Byrbrydau a Melysion – disgwylir iddo gael ei gyhoeddi
ddechrau Awst 2016.
- Cyflenwadau (Bwydydd,
Cyflenwadau a Bwydydd wedi’u Rhewi) – mae dogfennaeth y tendr yn cael ei
llunio ar hyn o bryd yn barod ar gyfer sylwadau terfynol a chymeradwyaeth
gan aelodau’r Grŵp Fforwm Categori.
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- 'Brechdanau
wedi’u Paratoi a Llenwadau Brechdanau’ a 'Prydau Bwyd wedi’u Rhewi ar Blât'
– rydym wedi cyrraedd y camau olaf o werthuso a chymedroli, a disgwylir y
bydd y fframweithiau’n cael eu dyfarnu’n gynnar fis Awst 2016.
Diweddariadau
- Cynhaliwyd
digwyddiadau samplo Prydau Bwyd wedi’u Rhewi ar Blât ar 2, 3 a 14 Gorffennaf
yng Ngogledd a De Cymru. Llawer o ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a oedd yn
bresennol yn y digwyddiadau.
- Mae
lleoliad cyfarfod Diogelwch Bwyd De Cymru ar ddydd Iau 4 Awst 2016 wedi
newid. Bydd y cyfarfod hwn yn awr yn cael ei gynnal yng Nghanolfan
Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod os
hoffech fod yn bresennol.
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Gwasanaethau
Ceblo Strwythuredig – disgwylir iddo fod yn weithredol ar 1 Awst 2016.
- Gwasanaethau
Sicrwydd Gwybodaeth – y dyddiad cau ar gyfer anfon tendrau oedd 20 Mehefin
2016. Mae’r gwaith o werthuso’r tendrau’n digwydd yn awr a disgwylir iddo
fod yn weithredol ar 19 Medi 2016.
Diweddariadau
- Digido,
Storio a Gwaredu – mae’r gwaith yn parhau i roi System Brynu Ddynamig ar
waith ar gyfer busnesau a gynorthwyir, gyda dyddiad gweithredu yn yr
arfaeth ar gyfer Hydref 2016.
- Dyfeisiadau
Aml Swyddogaeth a Gwasanaethau Argraffu a Reolir yn Fewnol – mae gwaith yn
mynd ymlaen i gwmpasu’r fframwaith posibl. Roedd nifer dda’n bresennol yng
nghyfarfod y Grŵp Fforwm Categori a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016. Bydd
y penderfyniad i fwrw ymlaen â’r caffael hwn yn ddibynnol ar gymeradwyaeth
Grŵp Cyflawni’r GCC.
- Cam 2 Piblinell TGCh y GCC –
diolch i bawb a ymatebodd i’r Arolwg Piblinell TGCh. Mae’r adborth yn awr yn
cael ei adolygu ac mae sawl sefydliad wedi cysylltu â ni gyda cheisiadau i
ganolbwyntio ar themâu penodol yn y dyfodol. Y themâu lle gwneir cais yw
Gwasanaethau Digidol, Gwasanaethau Seilwaith Ychwanegol, Cymwysiadau Busnes a
Nwyddau TGCh. Mae’r wybodaeth hon yn awr wedi’i defnyddio i greu piblinell cam
2 lefel uchel. Bydd y biblinell hon yn cael ei rhannu ag amryw o Grwpiau
Rheolwyr TGCh i gael adborth, i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y
blaenoriaethau cywir ar gyfer y dyfodol. Noder bydd y caffael terfynol yn
amodol ar gymeradwyaeth Grŵp Cyflawni’r GCC.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Cyflenwi
Bagiau Gwaredu Gwastraff – mae’r gwerthusiadau wedi’u cwblhau, ond bu peth
oedi o ganlyniad i labordai profi annibynnol trydydd parti. Disgwylir y
bydd y fframwaith yn awr yn weithredol ym mis Awst 2016.
- Gwasanaethau
Hyfforddi, Dysgu a Datblygiad Corfforaethol – cynhaliwyd y cyfarfod
consensws ar 20 Gorffennaf, a disgwylir y bydd y fframwaith yn cael ei
ddyfarnu ddiwedd Awst ac y bydd yn weithredol ar 1 Medi 2016.
Diweddariadau
- Cytundeb
Fframwaith Hyfforddiant yn y Gymraeg – cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Fforwm
Categori ar 21 Gorffennaf, gyda chynrychiolaeth o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg
Genedlaethol newydd a gyflwynodd ddiweddariad ar eu rôl a’u gwasanaethau
i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Iechyd
Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig – mae’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn awr wedi symud i’r toriad pris nesaf ar gyfer eu
gwasanaethau, gyda gostyngiad pellach mewn cost y pen. Rydym yn awr yn
cynnwys dros 60,000 o staff y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Gwasanaethau
Cymorth Yswiriant – disgwylir iddo gael ei ddyfarnu ym mis Awst 2016.
|
Diweddariadau
- Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr – rydym yn ddiolchgar am y cyfleoedd a gafwyd gan gydweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i drafod ein model, a hefyd i’r rhai hynny sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’n Grŵp Fforwm Categori ar ei newydd wedd. Mae eich adborth, eich sylwadau a’ch cyngor wedi arwain at ddatblygu model caffael newydd sy’n seiliedig ar hyblygrwydd, diweddaru dynamig a thryloywder llawn o brisiau bargyfreithwyr gydag opsiynau pellach i negodi wedi’u hymgorffori. Bydd y GFfC yn cwrdd cyn hir i gynnig sylwadau terfynol cyn i ni agor yr ymarferiad tendro ym mis Medi 2016.
- Ymgynghoriad Addysg – mae diffyg galw yn y maes hwn wedi arwain at benderfyniad i roi’r gorau i weithgarwch y prosiect hwn.
- Ymgynghoriad Modelau Cyflenwi Amgen – yn dilyn cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Flaenorol ym Mehefin 2016, rydym yn ymgysylltu â’r farchnad i gadarnhau ein hopsiwn terfynol ar gyfer cyflenwi’r gwasanaeth cynghori allweddol hwn.
-
Yswiriant – rydym wedi bod yn gweithio i osod nifer o gytundebau i gefnogi sefydliadau wrth gyflwyno atebion yswiriant. Bydd ein System Brynu Ddynamig Yswiriant (DPS) yn adnodd sy'n datblygu a fydd yn cynnwys darparwyr polisïau yswiriant ar gyfer eich holl anghenion yswiriant. Ochr yn ochr, bydd ein fframwaith Gwasanaethau Cymorth Yswiriant yn caniatáu i gwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau broceriaeth yswiriant a rheoli risg, arbenigwyr cyfreithia yswiriant ac arbenigedd trin hawliadau. Byddwn yn lansio'r ddau fframwaith; System Brynu Ddynamig Yswiriant, a Gwasanaethau Cymorth Yswiriant ym mis Medi 2016. Bydd cyfarfod y Grŵp Fforwm Categori yn cael ei gynnal ar 17 Awst 2016 er mwyn asesu'r ddarpariaeth ac i gynllunio'r camau nesaf.
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|