Cylchlythyr mis Mehefin y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Mehefin 2016

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Edrych i'r Dyfodol

3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

 

1. Newyddion

Digidol 2016


Yn ddiweddar daeth tîm Categori TGCh y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ynghyd ag arweinwyr diwydiant allweddol o’r Deyrnas Unedig a diwydiant technegol byd-eang yn nigwyddiad Digidol 2016 yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

 

Yn yr arddangosfa a’r gynhadledd ddeuddydd daeth tua 2,000 o gynrychiolwyr ynghyd, yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw ym maes technoleg ac arloesedd digidol. Yn y digwyddiad edrychwyd sut y gellir defnyddio tueddiadau digidol i helpu economi Cymru.

 

Meddai David Nicholson, Pennaeth Masnachol a Chaffael TG:

 

"Rhoddodd digwyddiad Digidol 2016 gyfle i’r tîm categori TGCh gyfarfod rhai o’r busnesau technegol mwyaf arloesol yng Nghymru. Rhoddodd staff arweiniad i gwmnïau technegol newydd ar sut i ymdrin â sector cyhoeddus Cymru, a chafwyd cyfle i gyfarfod â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector TGCh ehangach, i drafod cyfleoedd i gydweithio i gynorthwyo BBChau Cymru."

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r fframweithiau TGCh presennol, cysylltwch â NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk.


Mynnwch lais yn ymgynghoriad Caffael Llywodraeth Cymru

 

Nid oes llawer o amser ar ôl i roi eich sylwadau a’ch barn ynglŷn â chyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth ar gaffael cyhoeddus ar draws sector cyhoeddus Cymru.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Mehefin 2016. Mae eich mewnbwn yn bwysig i helpu i ddylanwadu ar unrhyw ddeddfwriaeth maes o law.

 

Gallwch weld yr ymgynghoriad a chael mwy o wybodaeth ar adran ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru.


Canllaw Ceisiadau ar y Cyd – Gweithdai Consortia

 

Cynhelir cyfres o weithdai am ddim wedi eu trefnu gan Ysgol Fusnes Caerdydd a Gwerth Cymru ym Mehefin a Gorffennaf. Bydd y rhain yn gyfle i drafod y manteision a’r heriau wrth wneud cais ar y cyd, a cheir canllawiau ymarferol ynglŷn â chynllunio gwaith caffael, llunio consortia ac ysgrifennu tendrau.

 

Mae’r gweithdai, a ariennir gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi eu hanelu at dimau caffael a chyflenwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais fel consortiwm.

 

Dyma’r manylion a’r lleoliadau:

Dydd Llun 27 Mehefin           10am – 3pm Canolfan Reolaeth Bangor

Dydd Mercher 29 Mehefin    10am - 3pm Holiday Inn, Caerdydd

Dydd Iau 7 Gorffennaf             10am – 3pm Gardd Fotaneg Cymru, Sir Gaerfyrddin

 

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, anfonwch e-bost at Jane Lynch o’r grŵp llywio Ceisiadau ar y Cyd.


2. Edrych i'r Dyfodol

Er mwyn sicrhau bod y prynwyr a’r cyflenwyr yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl Rhagolwg canlynol. Cysylltwch ag e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn a GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am y digwyddiadau.


Digwyddiadau i Brynwyr

Mehefin Edrych i'r Dyfodol i Brynwyr

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch post cyfatebol isod:

 

Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Fflyd a Thrafnidiaeth

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau

Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol


5. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Construction and Facilities Management

Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau


Hysbysiadau Contract

 

  • Darparu Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Cam 2 (yn cynnwys Gwasanaethau Mecanyddol, Cynnal Offer Tân, Gwasanaethau Rheoli Pla a Chyflenwadau, a Gwasanaethau Diogelwch) – cyflwynwyd 10 Mehefin 2016. Dyddiad cau ar gyfer ymatebion 7 Gorffennaf 2016.

 

Hysbysiadau Contract sydd ar Droed

  • Prynu Offer Llaw a Chyfarpar Trydan Bach – i’w gyhoeddi ddiwedd Mehefin 2016.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

  • Prynu Offer Llaw a Chyfarpar Trydan Bach – gofynnir i sefydliadau cwsmeriaid enwebu cynrychiolwyr sector i helpu i werthuso’r tendrau. Cysylltwch â’r blwch post isod os oes gennych ddiddordeb.

 

Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk


Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


Hysbysiadau Contract sydd ar Droed

  • Fframwaith Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïwr Cymru Gyfan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol – mae data ar ddefnydd cwsmeriaid ar gyfer y tendr yn cael ei gwblhau a chyflwynir yr hysbysiad contract ddiwedd Mehefin.

 

Hysbysiadau Dyfarnu Contract sydd ar Droed

  • Gwasanaethau Post a Chludwyr a Chyfarpar yr Ystafell Bost – mae gwerthusiadau wrthi’n cael eu cwblhau a bydd y fframwaith yn mynd yn fyw ddechrau Gorffennaf.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

  • Cyflenwi Dillad Llachar a Chyfarpar Diogelu Personol, Iwnifformau, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden - oherwydd amgylchiadau annisgwyl mae'r cam o ddyfarnu'r fframwaith wedi cael ei dynnu'n ôl. Byddwn yn dechrau ymarfer caffael newydd i sefydlu fframwaith yng nghanol mis Gorffennaf. I sicrhau cyflenwad yn ystod y broses ail-dendro, rydym wedi ymestyn cytundeb presennol Consortiwm Prynu Cymru ar gyfer Cyflenwi Dillad Diogelwch a Chyfarpar Diogelu Personol.
  • Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:

    - Gwasanaethau Post a Chludwyr a Chyfarpar yr Ystafell Bost - 4 Gorffennaf 2016
    - Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïwr - 17 Hydref 2016

     

    Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk

     


    Fflyd a Thrafnidiaeth

    Fflyd a Thrafnidiaeth


    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Teiars – mae’r  Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cydlynu mân gystadlaethau cydweithredol, ac mae wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan gwsmeriaid ynglŷn ag arbedion a wnaed hyd yma. Mae cwsmeriaid wedi adrodd hyd at 5% o arbedion trwy ddefnyddio'r fframwaith. Bydd Cam 1 o’r mân gystadlaethau’n dod i ben ar 30 Mehefin 2016.Os oes unrhyw sefydliad cwsmeriaid heb gadarnhau eto eu bwriad i ddefnyddio’r fframwaith, cysylltwch â’r blwch post isod cyn gynted â phosibl.
    • Cardiau Tanwydd – bu i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ymgymryd â Chystadleuaeth Bellach yn erbyn Cytundeb Fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron ar gyfer Cardiau Tanwydd a Gwasanaethau Cysylltiedig Cyf: RM1027. Mae cwsmeriaid y GCC wedi gweld buddion megis pris 'Platts plus' ar gyfer tanwydd o'i gymharu â phrisiau'r orsaf bwmpio. Mae cwsmeriaid wedi adrodd arbedion ar danwydd o hyd at 4 ceiniog fesul litr ac wedi osgoi costau megis costau trafod, hyd at £1.90 fesul pryniant. Dylai unrhyw gwsmer sy’n dymuno defnyddio’r telerau y cytunwyd arnynt o dan y fân gystadleuaeth gysylltu â’r blwch post isod. Nodwch y bydd grŵp defnyddwyr Cardiau Tanwydd Cymru Gyfan yn cyfarfod ar 28 Mehefin yn Llanfair-ym-Muallt, ac mae croeso i bob cwsmer fod yn bresennol.
    • Tanwydd Hylif - Rydym wrthi’n cynllunio digwyddiad i gwsmeriaid, i esbonio manteision ymddiogelu rhag chwyddiant cost diesel. Dylai sefydliadau sydd â diddordeb gysylltu â'r blwch post isod am ragor o wybodaeth.
    • Cyn hir byddwn yn cyflwyno arolwg categori, gan roi cyfle i gwsmeriaid roi adborth i ddylanwadu ar Gynllun Gwaith Fflyd yn y dyfodol. Cysylltwch â’r blwch isod am ragor o wybodaeth.

     

    Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk


    Bwyd


    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:

      Brechdanau Parod a Llenwadau Brechdanau - 4 Gorffennaf 2016
      Cyflenwi Prydau Rhewedig ar Blât - 4 Gorffennaf 2016
      - Diodydd Meddal (gan gynnwys Dŵr), Creision Tatws, Byrbrydau a Melysion - 29 Awst 2016
      Groseriaeth, Bwydydd wedi’u Rhewi a Nwyddau - 17 Hydref 2016
      - Bara, Rholiau, Teisennau a Chynnyrch Cysylltiedig - 26 Medi 2016
      - Diodydd Alcoholaidd - 26 Medi 2016
      - Llestri Arlwyo Tafladwy - 17 Hydref 2016


    Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk


    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

     

    Hysbysiadau Contract sydd ar Droed

    • Digido, Storio a Gwaredu - rydym yn ymgymryd â gwaith ar elfennau cyfreithiol y fframwaith wrth gefn arfaethedig hwn, gan ddefnyddio System Brynu Ddynamig.

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract sydd ar Droed

    • Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig – mae’r gwaith gwerthuso wedi ei gwblhau, ac rydym yn symud ymlaen i’r cam dyfarnu.

     

    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth – yn fuan byddwn yn estyn gwahoddiad drwy’r Grŵp Fforwm Categori, i wirfoddolwyr gymryd rhan yn y gwaith o werthuso’r fframwaith hwn. Cysylltwch â’r blwch post isod os ydych yn dymuno cymryd rhan.
    • Dyfeisiau Amlswyddogaeth a Gwasanaethau Argraffu a Reolir yn Fewnol - mae holiadur wedi ei gyflwyno i gasglu gofynion cwsmeriaid. Cynhelir cyfarfod o’r Grŵp Fforwm Categori ar 14 Gorffennaf 2016 i drafod yr opsiynau isod:
      Contract yn ôl y gofyn oddi ar Fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron newydd gyda’r bwriad o’i ddyfarnu ddiwedd mis Hydref 2016; neu
      - fod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn sefydlu fframwaith yn benodol ar gyfer cwsmeriaid o Gymru (yn cynnwys strwythur lotiau posibl)
      Cysylltwch â’r blwch post isod os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol.
    • Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:

      - Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth - 15 Awst 2016
      - Digido, Storio a Gwaredu - 15 Awst 2016

     

    Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk


    Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract sydd ar Droed

    • Darparu Bagiau Gwaredu Gwastraff – mae’r gwaith gwerthuso bellach wedi ei gwblhau, ond bu peth oedi oherwydd labordai profi annibynnol trydydd parti. Bydd y fframwaith yn mynd yn fyw ar yr wythnos yn dechrau 8 Awst 2016.


    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Hyfforddiant Corfforaethol, Gwasanaethau Dysgu a Datblygu – mae’r tendr hwn yn awr dan werthusiad technegol ac i'w gwblhau ganol mis Gorffennaf 2016. Cynhelir cyfarfod consensws ar 20 Gorffennaf, a rhagwelir y bydd y fframwaith yn cychwyn ar 1 Medi, 2016.

     

    Cysylltu: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk


    Gwasanaethau Proffesiynol

    Gwasanaethau Proffesiynol

     

    Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

    • Modelau Darparu Eraill – cyhoeddwyd 16 Mehefin 2016. Bydd y fframwaith yn cynnig mynediad at gyngor arbenigol a fydd yn helpu sefydliadau gwmpasu a chynnig modelau eraill o ddarparu ystod o wasanaethau.

     

     Hysbysiadau Contract

     

     

    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Gwasanaethau Bargyfreithwyr – rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymarferiad ymgynghori helaeth ar ein dull caffael gyda’r sector cyhoeddus a siambrau bargyfreithwyr. Rydym yn ddiolchgar am yr adborth gwerthfawr iawn yr ydym wedi ei dderbyn hyd yma, ac edrychwn ymlaen at adborth pellach yn yr wythnosau nesaf.

       

      Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


      Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

      e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk