1. Newyddion
Y GCC yn cefnogi Procurex Cymru Byw 2016 a Gwobrau GO Cymru
2016/17
Ydych
chi'n barod i gymryd rhan yn Niwrnod Caffael yng Nghymru?
Mae Procurex Cymru Byw yn
dychwelyd i Gaerdydd eleni, yn dilyn llwyddiant anhygoel y digwyddiad cyntaf
o’i fath yn 2015. Yn dilyn y digwyddiad, a fydd yn mynd rhagddo yn Arena
Motorpoint ar 6 Hydref 2016, bydd seremoni agoriadol Gwobrau GO Cymru yn cael
ei chynnal y noson honno yng ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd.
Bydd y Diwrnod Caffael hwn
yn cynyddu dealltwriaeth a gwybodaeth prynwyr a chyflenwyr fel ei gilydd sy’n
rhan o’r broses gaffael gyhoeddus. Drwy amrywiaeth o gyflwyniadau ac
arddangosfeydd, bydd pawb sy’n bresennol yn gallu dysgu mwy am y newidiadau
deddfwriaethol a’r mentrau sydd ar y gweill sy’n mynd rhagddynt yn y farchnad
ddatblygol hon.
Bydd cyfleoedd i
rwydweithio ac ymgysylltu â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ar
draws cymuned prynwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys cynrychiolwyr
o lywodraeth leol, iechyd, addysg, tai a Llywodraeth Cymru.
Roedd dros 500 o bobl yn
bresennol yn nigwyddiad Procurex Cymru Byw 2015 - peidiwch â cholli eich cyfle
i fod yn rhan o’r digwyddiad eleni!
I gael rhagor o wybodaeth
am sut i gofrestru ewch i: www.procurexwales.co.uk a www.goawards.co.uk/cymru
Digwyddiadau Lansio Cynhyrchion a
Gwasanaethau TG
Cynhaliodd tîm Categori TGCh y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) ddigwyddiadau
yn Abertawe a Llandudno fis diwethaf, ar gyfer y Cytundeb Fframwaith
Cynhyrchion a Gwasanaethau TG (ITPS) a gafodd ei roi ar waith ar 4 Ionawr. Arddangoswyd yn y digwyddiadau nifer o
nwyddau a gwasanaethau cyflenwyr y fframwaith i brynwyr yn y sector cyhoeddus
yng Nghymru, ac roeddent yn gyfle i gwsmeriaid ddysgu mwy am sut i ddefnyddio’r
fframwaith.
Roedd 106 o brynwyr yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru a 31 o fusnesau bach a chanolig yn bresennol yn y
digwyddiad, y cyntaf o’r math hwn.
Dywedodd David Nicholson,
Pennaeth yr Uned Fasnachol a Chaffael TGCh:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad
gwych ac roedd yn gyfle i’r tîm categori gwrdd â’r prynwyr a’r cyflenwyr a
gweld pa fantais a gwahaniaeth go iawn mae contractau TGCh y GCC yn dechrau ei
wneud”.
Mae’r adborth wedi bod yn
gadarnhaol iawn ac mae cyflenwyr bellach yn hyrwyddo’r fframwaith drwy
weithredu ar gyfleoedd i brynwyr a chyflenwyr, gydag un busnes bach a chanolig
yn Wrecsam yn cael ei ychwanegu at gadwyn gyflenwi un o gyflenwyr fframwaith
ITPS o fewn wythnos i’r digwyddiad.
Ymhlith y cyflenwyr
fframwaith ITPS a oedd yn bresennol roedd Centerprise; Comcen; Comparex;
Computacenter; Dell; Millennium Business Systems; Softcat; SCC; a XMA. Ymhlith y gwerthwyr partner ITPS a oedd yn
bresennol hefyd roedd; Cisco; Citrix; EMC; HP; Lenovo; Microsoft; Toshiba;
Epson; Promethean; Polycom; SMART; Yorktel; ElectraNet; NC; Clevertouch;
Alcatel-Lucent; Brocade; Huawei; Digital Message; UCi2i; Nimble; Checkpoint; ac
AMD.
Darllenwch fwy am Fframwaith ITPS y GCC yma.
Cysylltwch â NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk os hoffech drafod y
Fframwaith
|
Gwerthusiadau Fframwaith Bwyd y GCC
Mae’r gwaith sydd ar y gweill yng Nghategori Bwyd y GCC yn mynd rhagddo ac fe
gynhaliwyd gwerthusiadau yn ddiweddar yng Ngogledd a De Cymru ar gyfer y
cytundeb fframwaith sydd ar droed ar gyfer Brechdanau Parod a Llenwadau
Brechdanau.
Hoffai’r GCC ddiolch i’r holl randdeiliaid a roddodd o’u hamser i gymryd rhan
yn y diwrnodau gwerthuso. Bwriedir
rhoi’r cytundeb fframwaith Brechdanau Parod a Llenwadau Brechdanau ar waith ym
mis Mehefin 2016.
I gael rhagor o wybodaeth
am y cytundebau fframwaith Bwyd sydd ar droed, cysylltwch â thîm Bwyd y GCC ar NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
|
2. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau bod y
prynwyr a’r cyflenwyr yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am
ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl Rhagolwg canlynol. Cysylltwch ag
e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg
ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn a GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau
am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Gwasanaethau Corfforaethol
a Chymorth Busnes
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Technoleg
Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau
Proffesiynol
5. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Tybiannol
Hysbysiadau Contractau sydd ar Droed
-
Cam 2 Rheoli Cyfleusterau -
bwriedir ei gyhoeddi 1 Mehefin 2016.
Adroddiadau ar Ganlyniadau
Grwpiau Fforwm Categori
Diweddariadau
-
Cafodd yr amserlenni eu
hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Cam 2 Rheoli Cyfleusterau - 1 Awst 2016 - Offer Adeiladu: Llogi Offer a Pheriannau heb eu gweithredu â llaw - 27 Mawrth 2017
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Dyfarnu
Contractau sydd ar Droed
-
Cyflenwi Dillad Llachar a
Chyfarpar Diogelu Personol, Iwnifformau, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden -
mae’r gwerthusiadau wedi dod i ben ac rydym yn awr yn symud i'r cam dyfarnu.
Diweddariadau
-
Fframwaith y GCC Cymru gyfan ar gyfer Offer Swyddfa a Phapur Copïo -
hoffai’r GCC ofyn i sefydliadau enwebu cynrychiolwyr o’r sector i
gynorthwyo gyda’r gwerthusiadau tendro.
Cysylltwch â’r e-bost isod os oes gennych ddiddordeb.
-
Papur Swyddfa, Copïo, Digidol ac
‘Offset’ Eitem 2 NPS-CS-0013-14 - gofynnir i gwsmeriaid nodi bod Corporate
Express bellach yn masnachu fel Staples. Gofynnir i unrhyw gwsmeriaid sy’n
cwblhau rhagor o gystadlaethau gysylltu ag andy.coxon@staples.com. Bydd canllawiau cyflym i
gwsmeriaid newydd yn cael eu lanlwytho i wefan GwerthwchiGymru ynghyd â’r
manylion cyswllt diweddaraf. Caiff
adolygiad nwyddau craidd ei gynnal hefyd yn ystod y misoedd nesaf a chaiff
catalogau newydd eu lanlwytho i GwerthwchiGymru a’r Rheolwr Cynnyrch ePS.
-
Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Offer Swyddfa a Phapur Copïo - 19 Medi 2016
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Diweddariadau
-
Teiars - bydd y GCC yn parhau i
gydlynu cystadlaethau bach ar y cyd.
Dylai cwsmeriaid gysylltu â'r e-bost isod os yw eu sefydliad yn
awyddus i gymryd rhan yn y cystadlaethau bach hyn. Mae'r GCC nid yn unig
yn ceisio tynnu baich y cystadlaethau bach oddi ar gwsmeriaid, ond mae’r
holl gystadlaethau bach a gynhaliwyd hyd yma wedi arwain at arbedion.
-
Cardiau Tanwydd - cynhaliodd y GCC
Gystadleuaeth Arall yn erbyn Cytundeb Fframwaith Gwasanaeth Masnachol y
Goron ar gyfer Cardiau Tanwydd a Gwasanaethau Cysylltiedig, Cyf: RM1027. Dylai
unrhyw gwsmer sy’n awyddus i ddefnyddio’r telerau y cytunwyd arnynt o dan
y gystadleuaeth fach gysylltu â'r e-bost isod. Dylech nodi y caiff cyfarfod grŵp
defnyddwyr Cerdyn Tanwydd Cymru Gyfan ei gynnal ar 28 Mehefin ac mae
croeso i’r holl randdeiliaid fod yn bresennol.
-
Cafodd yr Amserlenni eu hadolygu a
dyma fanylion y penawdau ar gyfer y dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Darnau Sbâr Cerbydau - 2 Ionawr 2017
- Gwiriadau Trwydded Yrru - Mae trafodaethau pellach yn mynd rhagddynt gyda’r
DVLA.
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
Bwyd
Hysbysiadau Dyfarnu
Contractau sydd ar Droed
- Brechdanau Parod a Llenwadau
Brechdanau - bwriedir ei ddyfarnu a’i roi ar waith ym mis Mehefin 2016.
- Cyflenwi Prydau Rhewedig ar Blât - bwriedir ei
ddyfarnu a’i roi ar waith ym mis Mehefin 2016.
Diweddariadau
-
Mae Katie Wilson MCIPS bellach
wedi ymuno â’r tîm, fel olynydd i Mark Grant, Pennaeth y Categori.
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Contractau
-
Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth -
cyhoeddwyd 7 Mai 2016. Y dyddiad
cau ar gyfer cyflwyniadau yw 20 Mehefin 2016.
Hysbysiadau Contractau sydd
ar Droed
-
Digideiddio, Storio a Gwaredu -
i'w gyhoeddi ym mis Mawrth.
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
sydd ar Droed
-
Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig
- bwriedir rhoi’r cytundeb ar waith ganol Mehefin.
Diweddariadau - Diolch yn
Fawr gan Dîm Categori TGCh!
-
Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd
at waith y Categori TGCh dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn cynnwys:
- Mynd i ddigwyddiadau lansio Fframwaith ITPS i gwrdd â’r cyflenwyr ac i
gael rhagor o wybodaeth am y cytundeb fframwaith.
- Rhoi adborth drwy Arolwg Boddhad Cwsmeriaid ITPS ar eich profiad o
ddefnyddio’r Fframwaith ITPS. Caiff yr adborth ei ddefnyddio i nodi
meysydd i’w gwella a fydd yn destun trafod ymhlith cyflenwyr yn eu
cyfarfodydd adolygu.
- Lleisio eich barn ar y gwaith ddylai fod ar y gweill yn y Categori TGCh
yn y dyfodol drwy’r holiadur Llunio Amserlenni Gwaith yn y Dyfodol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi buddsoddi amser ac ymdrech i
gefnogi’r categori dros y chwe mis diwethaf.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Hysbysiadau Contractau
Hysbysiadau Dyfarnu
Contractau sydd ar Droed
-
Darparu Biniau Gwaredu Gwastraff -
bwriedir ei ddyfarnu ddiwedd Mai a’i roi ar waith ar 6 Mehefin 2016.
Adroddiadau ar Ganlyniadau
Grwpiau Fforwm Categori
Diweddariadau
-
Gwasanaethau Dysgu a Datblygu a
Hyfforddi Corfforaethol - angen Aelodau o’r Panel Gwerthuso.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am gynrychiolwyr sefydliadol i gymryd rhan
mewn proses werthuso ar gyfer y fframwaith uchod. Bydd y fframwaith yn cynnwys 8 Eitem ac
mae’n bosibl gwirfoddoli ar gyfer Eitemau penodol os dymunwch. Dyma’r Eitemau:
Eitem 1 - Deddfwriaeth a Materion Cyfansoddiadol
Eitem 2 - Polisi a Sgiliau Gweinidogol
Eitem 3 - Cronfa fedrus o hyfforddwyr/hwyluswyr i ddarparu deunyddiau
hyfforddi presennol cwsmeriaid (Cymraeg a Saesneg)
Eitem 4 - Asesiad Seicometrig, adborth 360 a Datblygu Tîm
Eitem 5 - Sgiliau Craidd yn cynnwys; Rheoli Pobl; Materion Adnoddau Dynol;
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; Cyfathrebu; Sgiliau Cyswllt
Cwsmeriaid; Rheoli Prosiect a Rhaglenni; Cyllid a Dysgu Achrededig
Eitem 6 - Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Eitem 7 - Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
Eitem 8 - Hyfforddiant Lles
Os hoffech ymuno â’r tîm gwerthuso, cysylltwch â’r e-bost isod am ragor o
wybodaeth.
Cysylltu: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Gwybodaeth
Ymlaen Llaw sydd ar Droed
-
Modelau Darparu Amgen - i’w
cyhoeddi’r wythnos sy’n dechrau 6 Mehefin 2016.
Hysbysiadau
Contractau sydd ar Droed
-
Yswiriant - i’w gyhoeddi’r wythnos
sy’n dechrau 23 Mai 2016. Bydd hyn yn cynnwys broceriaeth; rheoli risgiau;
delio â hawliadau a gwasanaethau ymgyfreitha yswiriant amddiffyn.
Adroddiadau ar Ganlyniadau
Grwpiau Fforwm Categori
Diweddariadau
-
Gwasanaethau Bargyfreithwyr -
rydym wrthi’n ymgynghori’n helaeth ar ein dull caffael gyda’r sector
cyhoeddus a siambrau bargyfreithwyr.
Hyd yma, rydym wedi bod yn ddiolchgar o gael adborth gwerthfawr
iawn ac edrychwn ymlaen at gael rhagor o adborth yn yr wythnosau i ddod.
-
Fframweithiau Presennol - os bydd
unrhyw sefydliad yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r
fframweithiau Gwasanaethau Proffesiynol presennol, byddem yn hynod falch o
ymuno â chi yn eich swyddfeydd i roi sesiwn friffio i chi. Cysylltwch â’r e-bost isod i fynegi
diddordeb.
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
|
6. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 4.68% y flwyddyn ariannol
hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn
yn cynnwys arebdion wedi'u negodi a chytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r
GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £4,491,826 rhwng 1 Ebrill 2015 a 29 Chwefror 2016.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch
â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|