2. Newyddion
Llwyddiant yn y
Gwobrau Cyfleoedd Llywodraeth
Ddydd Mawrth, 8 Mawrth, cafodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a
Gwerth Cymru eu cydnabod yn y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus -
Cyfleoedd Llywodraeth eleni. Dyfarnwyd Gwobr ‘Canmoliaeth Uchel’ i ni am ein
gwaith cydweithredol ar y Canllaw ar Gyflwyno Cynnig ar y Cyd yn y categori
‘Gwobr Menter neu Arloesi ym maes Caffael y Flwyddyn - Cyfleoedd Llywodraeth -
Sefydliadau Eraill’. Mae’r Canllaw
ar Gyflwyno Cynnig ar y Cyd wedi’i ddylunio i’w gwneud
yn haws i gonsortia gystadlu am gontractau sector cyhoeddus, a’u hennill. Mae llawer o'r gwaith ceisiadau ar y cyd wedi cael ei gyflawni gan gydweithwyr Fflyd. Diolch i bawb a gefnogodd y cysyniad Cynigion ar y Cyd, a'i wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus - Cyfleoedd
Llywodraeth yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth a chyrhaeddiad yn y sector
caffael, ac wedi bod yn feincnod i fesur cynnydd o ran comisiynu, caffael a
darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y 16 mlynedd diwethaf. Llongyfarchiadau
i’r holl enillwyr ac i bawb a gafodd ei enwebu. Mae modd gweld rhestr lawn o'r enillwyr ar wefan GoAwards.
Digwyddiad Lansio Fframwaith
Cynlluniau Buddion Gweithwyr
Cafodd y digwyddiad i lansio’r Cynlluniau
Buddion Gweithwyr i gwsmeriaid ei gynnal yng
Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr ar 10 Chwefror.
Roedd y Darparwr Gwasanaeth a Reolir, iCOM Works Ltd, a nifer o’u
partneriaid arbenigol wrth law i gynnig cyngor ac i ddangos y gwahanol
Gynlluniau Aberthu Cyflog sy’n cael eu cynnig drwy'r Fframwaith. Mae'r rhain yn
cynnwys:
-
cynllun
talebau gofal plant
-
cynllun
beicio i’r gwaith.
-
cynllun car
-
cynllun ffôn
symudol a thechnoleg
-
cynllun prynu
gwyliau blynyddol
-
cynllun
parcio yn y gweithle
-
cynllun
teithio i’r gwaith.
-
cynllun
sgrinio iechyd
- cynllun dysgu personol
Cynhelir y digwyddiad nesaf yn
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno ddydd Gwener 18 Mawrth.
Cysylltwch â NPSPeopleServices&Utilities@wales.gsi.gov.uk os ydych yn dymuno trafod y Fframwaith neu ddod i'r
digwyddiad.
|
|
|
Digwyddiad Cwrdd
â’r Prynwr yn Rhondda Cynon Taf
Bu busnesau sy’n gobeithio rhwydweithio a sicrhau contractau
newydd yn yr wythfed Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr blynyddol a gynhaliwyd fis
Chwefror.
Bu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y digwyddiad, a drefnwyd
gan Wasanaeth Caffael Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r digwyddiad yn dod â busnesau
allweddol, sefydliadau prynu’r sector cyhoeddus ac arbenigwyr y diwydiant at ei
gilydd i gynnig cyngor, cymorth a chyfle gwerthfawr i rwydweithio.
Diolch i’r holl fusnesau a ddaeth i ymweld â ni ar stondin y
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i drafod y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd
ac sydd ar y gweill. Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein
contractau/cytundebau fframwaith presennol neu rai sydd i ddod, ewch
i’n gwefan.
Daeth cyfanswm o 216 o bobl o 162 o sefydliadau i'r digwyddiad.
|
3. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen
llawn â phosibl i brynwyr a chyflenwyr am ddigwyddiadau'r GCC, rydym
wedi creu'r tablau Edrych i'r Dyfodol isod. Cysylltwch â'r blwch post categori
perthnasol am ragor o wybodaeth, a chofiwch gadw llygad ar dudalennau Twitter a LinkedIn
y GCC a gwefan GwerthwchiGymru
ar gyfer y newyddion diweddaraf am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Gyflenwyr
Os ydych yn gwybod am gyflenwr allai fod â diddordeb mewn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, rhowch wybod iddyn nhw.
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Technoleg
Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau
Proffesiynol
4. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Diweddariadau
- Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Cyfarpar Adeiladu: Prynu a Llogi Offer Llaw a Chyfarpar - Wythnos yn cychwyn 29 Awst 2016 - Cyfarpar Adeiladu: Prynu a Llogi Peiriannau a Chyfarpar - Wythnos yn cychwyn 3 Hydref 2016.
Cyswllt:
NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Contract
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm Categori (CFG)
Diweddariadau
-
Cyflenwi
Dillad Llachar a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE), Iwnifformau, Dillad
Gwaith a Dillad Hamdden - rydym yn y cam gwerthuso ar hyn o bryd. Trefnir
digwyddiadau samplo ddiwedd mis Mawrth/dechrau Ebrill. I gael rhagor o
wybodaeth, cysylltwch â’r blwch post isod.
Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Diweddariadau
-
Cyflenwi Teiars - Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i gydlynu mini-gystadlaethau cydweithredol.
Dylai cwsmeriaid gysylltu â'r blwch post isod os yw eu sefydliad yn
awyddus i gymryd rhan yn y mini-gystadlaethau hyn. Mae'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol yn ceisio tynnu baich y mini-gystadlaethau oddi ar
gwsmeriaid ond mae disgwyl i’r ymrwymiad ar y cyd wella canlyniadau hefyd.
-
Cardiau Tanwydd - Cynhaliodd y GCC Gystadleuaeth Bellach yn erbyn Cytundeb Fframwaith Cardiau Tanwydd a Gwasanaethau Cysylltiedig Gwasanaeth Masnachol y Goron Cyf: RM1027. Dylai unrhyw gwsmer sy'n dymuno defnyddio'r telerau y cytunwyd arnynt o dan y mini-gystadleuaeth, gysylltu â'r blwch post isod.
-
Darnau Sbâr i Gerbydau - Cynhaliwyd digwyddiad Ceisiadau ar y Cyd llwyddiannus ar 11 Mawrth 2016, gyda chyflenwyr a fynegodd ddiddordeb mewn ffurfio consortia i ymateb i'r tendr sydd i ddod. Mae cyfarfod Grŵp Fforwm Categori yn cael ei gynllunio ym mis Mawrth/Ebrill. Bydd cynrychiolwyr rhanddeiliaid yn cael gwybod cyn gynted â phosib.
-
Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Darnau Sbâr i Gerbydau - Wythnos yn cychwyn 3 Hydref 2016 - Gwirio Trwyddedau Gyrru - Wythnos yn cychwyn 1 Awst 2016
Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
|
Bwyd
Hysbysiadau Contract
Hysbysiadau Contract sydd ar y gweill
- Cyflenwi
Prydau wedi’u Rhewi ar Blât - i'w ryddhau yn yr wythnos yn dechrau 21
Mawrth 2016.
|
Diweddariadau
Cafodd yr Amserlenni Bwyd eu hadolygu a dyma fanylion y penawdau ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Brechdanau Parod a Llenwadau Brechdanau - 4 Mai - Prydau wedi’u Rhewi ar Blât - 25th Mai - Diodydd Meddal, Creision Tatws, Byrbrydau a Melysion - 29 Mehefin - Groseriaeth, Bwydydd wedi’u Rhewi a Nwyddau - 3 Awst - Bara, Rholiau, Teisennau a Chynnyrch Cysylltiedig - 24 Awst - Diodydd Alcoholaidd - 24 Awst
Gofynnir i sefydliadau sicrhau eu bod yn gwneud y trefniadau lleol angenrheidiol i barhau â’r cyflenwadau.
Cyswllt: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Contract
Hysbysiadau Contract sydd ar y gweill
- Gwasanaethau Sicrwydd Gwybodaeth - i'w gyhoeddi ym mis Mawrth yn yr adran Hysbysiadau
ar wefan GwerthwchiGymru.
-
Digideiddio,
Storio a Gwaredu - i'w gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd hon yn System Brynu
Ddeinamig Neilltuedig. Gwahoddir busnesau cymwys, fel y disgrifir dan Erthygl
20 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, i wneud cais i gael eu cynnwys ar y
System Brynu Ddeinamig ar gyfer y ddwy lot ganlynol:
Lot 1 - Digideiddio, Storio a Gwaredu Cofnodion Lot 2 - Gwaredu, Ailgylchu ac Ail-ddefnyddio Asedau TGCh
Diweddariadau
-
Byddwn yn cyhoeddi holiadur i sefydliadau sy'n gwsmeriaid, i gael adborth er mwyn dechrau mapio'r
cyfnodau nesaf o’r gwaith TGCh sydd ar y gweill. Os hoffech wirio bod gennym ni'r cysylltiadau cywir, cysylltwch â'r blwch post isod.
- Mae Dyfeisiau Aml-swyddogaeth (MFDs) wedi symud o'r categori
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes i'r Categori TGCh. Dechreuir ymgysylltu ym mis Mawrth ynglŷn â
darparu'r gofyniad hwn.
-
Cafodd yr amserlenni eu hadolygu a dyma'r manylion ar gyfer dyddiadau cychwyn a newidiwyd:
- Gwasanaethau Ceblau Strwythurol - ceir oedi a byddwn yn hysbysu cwsmeriaid o'r dyddiadau newydd cyn gynted â phosib. - Digideiddio, Storio a Gwaredu - Wythnos yn dechrau 13 Mehefin 2016.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Hysbysiadau Contract sydd ar y gweill
- Darparu Bagiau Gwaredu Gwastraff - i'w gyhoeddi ym mis Mawrth.
- Hyfforddiant Cymraeg - i'w gyhoeddi ym mis Mawrth.
- Dysgu, Datblygu a Hyfforddiant Corfforaethol, Cam 1 - i'w gyhoeddi ym mis Ebrill.
Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Diweddariadau
- Rydym eisoes wedi cael ymateb gwych i'r posibilrwydd fod y
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar
Gontract Gwasanaethau Proffesiynol NEC 3. Mae amser o hyd i gofrestru eich
diddordeb mewn dod ar y cyrsiau hyn. Cysylltwch â Kathryn Jones drwy’r blwch
post isod.
|
Grwpiau Fforwm Categori - Galwad am gynrychiolwyr
- Gwasanaethau Bargyfreithwyr - rydym wedi cwrdd â nifer o
Benaethiaid timau Cyfreithiol drwy gydol Ionawr a Chwefror i sicrhau
cynrychiolaeth ar ein Grŵp Fforwm Categori a sefydlwyd i roi cyfle i
sefydliadau gyfrannu at broses dendro Gwasanaethau Bargyfreithwyr. Ond byddem
yn falch iawn o ymgysylltu rhagor, ac os oes unrhyw un yn dymuno cyfarfod i
drafod ymhellach, cysylltwch â’r blwch post isod.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
5. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 4.82% y flwyddyn ariannol
hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn
yn cynnwys arebdion wedi'u negodi a chytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r
GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £3,542,187 rhwng 1 Ebrill 2015 a 31
Rhagfyr 2015.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch
â'ch Cynrychiolydd
Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|