2. Eich gair. Ein gweithred
Gweler isod ddetholiad o faterion a godwyd yn
ystod y digwyddiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf a sut yr ydym yn gweithio i
fynd i’r afael â'r rhain yn ystod y misoedd nesaf:
© Hawlfraint y Goron (2014) Visit Wales
Eich gair: "Dydyn
ni ddim bob tro'n gwybod pryd mae cyfarfodydd Grŵp Fforwm Categori (GFfC) yn
cael eu cynnal a phwy sy'n perthyn i'r GFfC. Dydy'r penderfyniadau gan GFfC ddim
yn cael eu hegluro. Rhaid i'r wybodaeth hon fod mewn un lle a dylai fod yn
hawdd dod o hyd iddi"
Ein hymateb: "Mae
dyddiadau pob GFfC yn cael eu cyhoeddi yng Nghylchlythyr y GCC. Ar ben hynny
rydyn ni nawr wedi rhoi system ar waith sy'n golygu bod adroddiadau
canlyniadau CFG yn cael eu cyhoeddi ar
GwerthwchiGymru yn crynhoi pwy oedd yn bresennol a'r penderfyniadau allweddol
cafodd eu gwneud."
Eich gair: "Os
bydd GFfC yn gofyn am ohirio, oes modd symud y Biblinell?"
Ein hymateb: "Cytunwyd
bod modd symud Piblinell os yw'n cael ei gynnig gan y GFfC ac yn cael ei
sancsiynu gan Grŵp Cyflenwi'r GCC. Rydyn ni'n credu bod hyn yn gweithio'n dda,
gan fod GFfC wedi cynnig gohirio'n ddiweddar a chytunwyd ar hyn gan Grŵp
Cyflenwi'r GCC."
Eich gair: "Dydy
dyddiadau'r digwyddiadau sydd ar y gweill ddim yn cael eu dosbarthu."
Ein hymateb: "Rydyn
ni'n defnyddio Cylchlythyr y GCC i wella'r ffordd rydyn ni'n rhoi gwybod am
ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Mae adran newydd o'r enw 'Edrych Ymlaen' isod i
helpu gyda hyn.
3. Rhaglen waith
Gallwch ddod o hyd i restr o Fframweithiau cyfredol y GCC sydd ar gael i'w defnyddio ar wefan y GCC.
Ers mis Hydref, mae’r GCC wedi dyfarnu’r contractau canlynol:
Dechreuodd y
Fframwaith Atebion Teithio a Llety Busnes ar 12 Hydref 2015. Gall cwsmeriaid
ddyfarnu yn uniongyrchol i'r Cwmni Rheoli Teithio ar Lot 1 heb yr angen i redeg
unrhyw gystadleuaeth bellach. Bydd CTM Travel Ltd yn darparu gwasanaeth archebu
ac ymchwil ar-lein ac all-lein ar gyfer teithio o fewn y DU ac yn rhyngwladol,
a gwasanaethau cysylltiedig.
Mae pob un o’r tri
chyflenwr ar ddeg ar Lot 2 Cyfleusterau Cynhadledd yn fentrau bach a chanolig.
Bydd y GCC yn
trefnu digwyddiadau lansio i gwsmeriaid, er mwyn i randdeiliaid gwrdd â CTM
Travel Ltd. Cysylltwch â NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk am
ragor o wybodaeth.
4. Newyddion
Digwyddiad i Gyflenwyr
Gweithwyr Asiantaeth
I sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chi, rydym yn cynnal digwyddiadau i brynwyr a chyflenwr yn rheolaidd ar draws Cymru.
Fe gynhaliodd tîm categori Gwasanaethau Pobl y GCC
ddigwyddiad cyflenwyr yng nghanolbarth Cymru yn ddiweddar, er mwyn cefnogi’r
Fframwaith Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth a ddechreuodd
ar 8 Ebrill 2015. Mynychwyd y digwyddiad gan saith darparwr y fframwaith, ac
anogwyd busnesau bach a chanolig (BBaCHau) ledled Cymru i fynychu er mwyn gweld
y cyfleoedd sydd ar gael iddynt o fewn haenau’r Fframwaith. Fe wnaeth dros 30
ddarparwyr bach o weithwyr asiantaeth fynychu’r digwyddiad, a gynhaliwyd ar y
cyd â Busnes Cymru.
Bydd y GCC a'u darparwyr fframwaith yn
dibynnu'n helaeth ar allu BBaChau Cymru i gefnogi'r fframwaith drwy eu
darpariaeth o arbenigedd technegol a rhanbarthol. Roedd y digwyddiad yn
llwyddiant yn ôl adborth y darparwyr fframwaith a’r BBaChau, ac mae’r GCC yn
awyddus i gynnal rhagor o ddigwyddiadau i ategu dyfarniadau cwsmeriaid
rhanbarthol dros y misoedd nesaf.
Os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau, cysylltwch â ni ar NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
Fframwaith Iechyd
Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig
Mae'r
contract blaenorol Cymru gyfan ar gyfer Rhaglen Cymorth i Weithwyr wedi
dod i ben yn awr a’r darparwr newydd drwy Fframwaith Iechyd Galwedigaethol a
Gwasanaethau Cysylltiedig yw ‘Care First’. Rydym eisoes wedi cyrraedd ein nod cyntaf gyda mwy na 30,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yn gallu defnyddio'r gwasanaeth yn awr, gan arwain at ostyngiad pris pellach o 11% ar gyfer holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Mae yna 2 lefel o wasanaeth ar gael ar y
fframwaith; Craidd ac Uwch. Gweler ragor o fanylion ar wefan y GCC.
O Ymddygiad yn y
Maes Caffael i Gaffael Ymddygiadol
Mae Cangen y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) yng
Nghaerloyw yn eich gwahodd i ddod i wrando ar yr Athro Mike Lewis, arbenigwr
mewn Strategaeth Cyflenwi ym Mhrifysgol Caerfaddon sydd â diddordeb mewn
agweddau seicolegol o berthnasau caffael. Bydd cyfle hefyd i chi rwydweithio â
chyfoedion o'r Gadwyn Gyflenwi a Chaffael wrth i chi gyrraedd a bydd
danteithion Nadoligaidd a choffi/te ar gael ar ddechrau'r digwyddiad tymhorol!
"Er ein bod yn buddsoddi mewn technolegau a phrosesau, mae
pobl yn dal yn ganolog i gaffael, gan siapio'r ffordd mae systemau'n gweithio
a'u perfformiad. Mae llawer iawn o feddwl a dadansoddi wedi cael ei fuddsoddi i
ddeall y ffordd y dylai arweinwyr caffael ymddwyn ond ni fu cymaint o
ddatblygiad o ran ein dealltwriaeth o pam maen nhw'n ymddwyn fel y maen nhw.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ddisgyblaethau
swyddogaethol eraill, gan gynnwys cyllid, marchnata a gweithrediadau, wedi
dechrau ymgorffori syniadau o wyddorau seicolegol ac ymennydd a byddwn ni'n
dadlau ei bod hi’n hen bryd bod caffael yn gwneud yr un fath. Sut byddai
"caffael ymddygiadol" yn edrych a beth fyddai rhai o'r elfennau
personol a sefydliadol allweddol sy'n ychwanegu gwerth o ganlyniad i safbwynt
o'r fath?"
Dyddiad:
Dydd Mercher 02 Rhagfyr 2015, 18:30pm
Lleoliad:
UCAS (wrth ymyl y cae ras), Cheltenham
Ffi:
Aelodau - £0.00 y pen
Y rheini nad ydyn nhw'n aelodau - £0.00 y pen
Cofrestrwch
yma
eFasnachu Cymru – Gweminarau Procserve
Bydd Procserve, ein partneriaid eFasnachu Cymru, yn cynnal y
Gweminarau canlynol i gyflenwyr dros y misoedd nesaf. Mae'r gwasanaeth am ddim
i gyflenwyr a bydd yn cynnig trosolwg o’r system, cyngor a chefnogaeth, a
chyflwyno manteision eFasnachu.
Gall cyflenwyr gofrestru yma ar
gyfer sesiynau unigol.
25 Tachwedd 2015
Gweddarllediad ‘Bitesize’ – Sut i roi cynnwys ar Procserve 13:30 - 14:00
9 Rhagfyr 2015
Gweddarllediad Croesawu 13:15 - 14:15
5. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen llawn â phosibl i brynwyr a chyflenwyr o ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu'r tablau Edrych i'r Dyfodol isod. Cysylltwch â'r blwch post
categori perthnasol am ragor o wybodaeth, a chofiwch gadw llygad ar dudalennau
Twitter a LinkedIn y GCC a gwefan GwerthwchiGymru ar gyfer y newyddion
diweddaraf am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Gyflenwyr
Cofrestrwch ar gyfer y
digwyddiad Bwyd ar ddydd Mercher 11 Tachwedd yma
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Fflyd a Tharfnidiaeth
Bwyd
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Gwasanaethau Proffesiynol
6. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Bydd pob un wedi eu hysbysebu trwy wefan GwerthwchiGymru, fodd bynnag, gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Contract
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC)
- 'Offer
a Chyfarpar', a 'Lloriau, Gosodiadau a Ffitiadau'- enwebiadau wedi dod i law.
Os ydych yn gweithio i sefydliad yn sector cyhoeddus Cymru a bod gennych chi
ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â'r blwch post isod.
- Ynni –
Cwblhawyd y trosglwyddiad o dîm Consortiwm Prynu Cymru i'r GCC ar 1 Hydref 2015. Mae
digwyddiad GFfC yn cael ei gynllunio ar gyfer 8 Rhagfyr a bydd ceisiadau am
gyfranogwyr yn cael eu gwneud drwy Grŵp Cyflawni’r GCC. Bydd y GFfC yn helpu i
lunio strategaeth ynni’r dyfodol a bydd cyfranogwyr yn cwblhau adolygiad o'r
gwasanaeth a gynigir ar hyn o bryd.
Cyswllt:
NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Contract
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
- Fframwaith Gwasanaethau Argraffu Cymru Gyfan
– i'w ddyfarnu ym mis Tachwedd.
Contact: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
|
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
- Cyflenwi
Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig - i'w ddyfarnu ym mis Tachwedd.
Dychwelwyd y tendrau ac maent wrthi’n cael eu gwerthuso. Bydd y fframwaith yn
cynnwys gwasanaeth cyflenwi teiars, ffitio a thrwsio, ynghyd â'r holl
weithgareddau cysylltiedig eraill ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
Bydd rhagor o ganllawiau yn cael eu cyhoeddi ar wefan GwerthwchiGymru.
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC)
- GFfC
Darnau Sbâr Cerbydau wedi’i gynllunio ar gyfer mis Tachwedd
Galwad am Gystadlaethau a Gofynion
- Prydlesu Cerbydau - Rydym wrthi’n casglu gofynion i
sefydlu fframwaith Cymru gyfan. Os oes gan eich sefydliad ofyniad am brydlesu
cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r blwch post isod i gael holiadur byr.
-
Prynu
Cerbydau - Rydym wrthi’n casglu gofynion i gydgrynhoi gwariant a galw ac i
gynnal cystadleuaeth drwy ocsiynau gyda Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS). Os
oes gan eich sefydliad ofyniad am brynu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch
â'r blwch post isod am ragor o wybodaeth.
Dyddiadau allweddol i gwsmeriaid eu nodi.
Ymrwymiad nifer cwsmeriaid – rhowch wybod i ni erbyn dydd Mercher 20 Ionawr
2016. Cynhelir y digwyddiad e-Ocsiwn Byw ar ddydd
Iau 25 Chwefror 2016.
Mae 12 wythnos o amser arwain cyn cyflenwi.
Rydym yn gweithio'n agos gyda CCS ac mae’n bosibl y bydd hyblygrwydd i drefnu
digwyddiad ychwanegol, yn dibynnu ar eich gofynion ac argaeledd CCS. Cysylltwch
â ni.
-
Gwirio
Trwyddedau Gyrru – Oherwydd y newid i ddeddfwriaeth trwyddedau ym mis Ebrill
2015, mae yna ofyniad deddfwriaethol ar unwaith i wneud hyn ar gyfer y
Consortiwm Pwrcasu Cymreig. Os
oes gofyniad gan sefydliadau sy'n aelodau i wirio trwyddedau gyrru yn
flynyddol, gan gynnwys Fflyd Lwyd, cysylltwch â'r blwch post isod.
-
Darnau Sbâr Cerbydau – Rydym wrthi’n casglu
gwybodaeth ar gyfer darnau sbâr
cerbydau gan sefydliadau sy’n aelodau,
gan gynnwys awdurdodau lleol. Os oes gennych unrhyw ofynion, cysylltwch â'r
blwch post isod
Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
Bwyd
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC)
-
Ar 21 Hydref 2015, ystyriodd Grŵp Cyflawni’r
GCC bapurau opsiynau ar gyfer 'Brechdanau a Paratowyd, Llenwadau Brechdanau a
Darpariaeth Bwffe' a 'Prydau wedi'u rhewi ar blât'. Bydd y gofyniad yn cael ei ddatblygu a'i
drafod yng nghyfarfod y Grŵp Fforwm Categori Bwyd yn Swyddfa Llywodraeth Cymru,
Bedwas, 11 Tachwedd 2015. Os hoffech chi fod yn gynrychiolydd sector cyhoeddus Cymru
yn y grŵp hwn, cysylltwch â'r blwch post isod.
Cyswllt: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
- Cynnyrch
a Gwasanaethau TG – dychwelwyd y tendrau ac maent wrthi’n cael eu gwerthuso. I'w ddyfarnu diwedd mis Tachwedd.
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC)
- Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig - Adroddiad
Canlyniadau GFfC nawr ar gael ar GwerthwchiGymru. Ail gyfarfod y GFfC wedi’i
drefnu ar ddydd Mercher 11 Tachwedd 2015 gyda chysylltiad fideo
rhwng Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas a Chyffordd Llandudno.
Diweddariadau
- Rhannwyd strategaeth ddiwygiedig categori
TGCh gyda Grŵp Cyflawni’r GCC. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi dechrau i
hysbysu a blaenoriaethu cyflawni piblinell TGCh. Bydd y canlyniadau yn cael eu
cynnwys yn y strategaeth ddiwygiedig a'u cyflwyno i Grŵp Cyflawni’r GCC.
-
Cyfarpar TG a Gwasanaethau Cysylltiedig –
ITEAS (III) wedi’i ymestyn tan 31 Rhagfyr 2015.
- Bydd y fframwaith Digido, Storio a Gwaredu yn
fframwaith neilltuedig.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
-
Fframwaith
Darparu Atebion Teithio a Llety Busnes – dyfarnwyd 12 Hydref 2015.
Mae Lot 1 yn cynnig Cwmni Rheoli Teithio sengl, gan alluogi dyfarniad
uniongyrchol a lleihau graddfeydd amser i ymgysylltu a gweithredu.
Mae Lot 2 yn cynnig catalog o Gyfleusterau Cynhadledd ar draws rhanbarthau daearyddol yng Nghymru.
- Gwasanaeth a Reolir ar
gyfer Cynlluniau Buddion i Weithwyr – i'w ddyfarnu diwedd mis
Tachwedd.
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC)
- Fframwaith
Hyfforddiant Corfforaethol Dysgu a Datblygu Cymru Gyfan - bydd y
Fframwaith hwn yn darparu ystod o gyflenwyr yn gyfrifol am bob agwedd ar
gefnogi a darparu hyfforddiant. Os hoffech chi fod yn gynrychiolydd sector
cyhoeddus Cymru, cysylltwch â'r blwch post isod.
Diweddariadau
- Fframwaith
Hyfforddiant Corfforaethol Dysgu a Datblygu Cymru Gyfan - rydym wrthi'n
symud ymlaen ymatebion Holiadur Cwmpasu. Yn dilyn ein digwyddiad ar 20
Hydref, mae digwyddiadau penodol yn cael eu cynllunio yng ngogledd a de
Cymru dros y misoedd nesaf (gweler yr adran Edrych i’r Dyfodol uchod).
-
Iechyd
Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig – Mae yna weithgaredd rheolaidd
ar fini-gystadlaethau ar gyfer y fframwaith hwn. Os bydd angen unrhyw
gymorth ychwanegol gyda manylebau neu weithredu drwy eDendroCymru arnoch,
cysylltwch â'r blwch post isod.
-
Technolegau
a Gwasanaethau Cynorthwyol – mae’r catalogau electronig yn cael eu
datblygu gyda phob un o’r naw cyflenwr ar gyfer Lot 1 - Teleofal a
Chynnyrch Gofal â Thechnoleg a byddant ar gael ar wefan GwerthwchiGymru a
ProcServe cyn bo hir.
Ar gyfer Lotiau 2 - 4 mae yna ddwy ffordd o
redeg trefniant o'r Fframwaith, naill ai drwy gynnal ymarfer cystadleuaeth
pellach neu drwy ddyfarniad uniongyrchol. Gellir dyfarnu’n uniongyrchol lle
mae'n bosibl sefydlu’r cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd ar sail y telerau
a nodir yn y Cytundeb Fframwaith, a lle bod POB gwasanaeth sydd ei angen a
thelerau contract arfaethedig wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Fframwaith a'r
Fanyleb. Os bydd angen unrhyw gymorth gyda'r cystadlaethau pellach arnoch,
cysylltwch â'r blwch post isod.
Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Diweddariadau
- Ymgynghoriaeth
Adeiladu (Isadeiledd) Cam 3 – gyda’r gwerthusiad yn dod i ben bydd y
fframwaith terfynol yn ein cynnig tri cham o ymgynghoriaeth adeiladu ar
gael o 1 Rhagfyr 2015 ymlaen. I gael gwybodaeth am y gwasanaethau
ymgynghori sydd ar gael o dan gamau 1 a 2 ewch i wefan GwerthwchiGymru.
- Fframwaith
Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr y GCC - mae gwaith yn parhau i
gwblhau'r gofynion.
- Ymgynghoriaeth
Busnes – mae tri maes craidd o weithgarwch wedi cael eu nodi yng nghyfnod
agoriadol yr is-gategori hwn; cymorth Model Darparu Amgen, Ymgynghoriaeth
Addysg a Fframwaith Partner Effeithlonrwydd. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno
i'r Grŵp Cyflawni ym mis Tachwedd. Os ydych yn gweithio i sefydliad yn sector
cyhoeddus Cymru a bod gennych chi diddordeb mewn cymryd rhan yn y Grŵp
Fforwm Categori, cysylltwch â'r blwch post isod.
- Gwasanaethau
Yswiriant – cymeradwywyd y papur opsiynau yn argymell cyflwyno system
brynu yswiriant ddeinamig a fframweithiau cysylltiedig ar gyfer
broceriaeth a rheoli risg, trin hawliadau a chymorth ymgyfreitha yswiriant
yng nghyfarfod y Grŵp Cyflawni ym mis Hydref. Mae gwaith yn mynd rhagddo
gyda’r Grŵp Fforwm Categori i ddatblygu cyfres lawn o ddogfennau tendro.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
7. Arbedion
Ar hyn o bryd, mae'r GCC yn rhedeg ar 4.82% o gyfradd redeg
ar yr holl arbedion yn erbyn gwariant drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith
a reolir, sy'n cynnwys arbedion ychwanegol ar gontractau wedi’u negodi a
chytundebau a drosglwyddir.
Cyfanswm cyffredinol yr arbedion yw £1,936,010, rhwng 1af
Ebrill 2015 a 31ain Awst 2015.
Os bydd angen eglurhad pellach o'r arbedion
hyn arnoch, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector yn y GCC neu'ch Pennaeth
Caffael.
8. Taflu Golwg
Y mis yma rydym yn canolbwyntio ar Red Dragon Flagmakers,
gwneuthurwyr fflagiau sy'n cael eu gwnïo yn y ffordd draddodiadol gyda chydwybod
gymdeithasol, sydd â gweithdai yn Abertawe ac yng Ngwlad yr Haf ac a lansiwyd
ym mis Ionawr 2014.
Wedi tarddu o gwmni gweithgynhyrchu fflagiau traddodiadol
teuluol sy'n bodoli ers 45 o flynyddoedd, Red Dragon Flagmakers, nod masnach
cofrestredig Red Dragon Manufacturing Ltd, yw'r unig wneuthurwr fflagiau yn y
DU sy'n gorfforedig ac yn cael ei weithredu fel cwmni budd cymdeithasol. Does
dim cyfranddalwyr ac felly mae'r elw i gyd yn mynd yn ôl i'r busnes tuag at
ddatblygiad personol a phroffesiynol y tîm o staff a hyfforddir yn fewnol i
gyd.
Mae Red Dragon Flagmakers yn cefnogi arferion gweithio
hyblyg ac yn recriwtio drwy bartneriaid strategol, gan gynnwys Shaw Trust,
Remploy a JCP. Mae cyfleoedd cyfartal a chynnwys pawb wrth galon eu gwaith.
Mae'r cwmni'n cyflwyno hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd i ddatblygu a llwyddo
yn y cwmni, dim ots beth yw cefndir, addysg na hanes personol pobl. Mae'r
gwerthiant yn galluogi elw sy'n cefnogi recriwtio ac adfer pobl ychwanegol mewn
cymunedau lleol, sy'n cael eu hyfforddi wedyn ar gyfer cyflogaeth tymor hir a
chynaliadwy.
Gan wneud defnydd o'u gweithlu medrus a'u cyfleusterau
gweithgynhyrchu, mae Red Dragon Flagmakers yn torri, yn gwnïo ac yn gorffen eu
fflagiau'n broffesiynol, gan hefyd gynnig gweithgynhyrchu tecstilau i fusnesau
eraill, prototeipio cynnyrch newydd a defnyddio'r gadwyn gyflenwi a
chyfleusterau cynhyrchu. Hefyd mae'r busnes yn gweithio'n agos gyda mentrau
bychain a chanolig eraill i gyflawni prosiectau sydd angen cyflenwi, cynnal a
chadw a gosod polion fflagiau ledled y DU.
Red Dragon Flagmakers oedd cyflenwyr swyddogol
Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru yn 2014, gan wneud yr holl fflagiau seremonïol.
Hefyd mae'r busnes yn gwerthu i ddefnyddwyr ar-lein ac o fusnes i fusnes i bob
sector o'r farchnad sydd eisiau'r fflagiau wedi'u gwnïo'n draddodiadol gorau
un. Yn ddiweddar mae'r Prif Weithredwr, Jo Ashburner Farr, wedi cyrraedd rhestr
fer Entrepreneur Gweithgynhyrchu y Flwyddyn yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Cymru
eleni a hefyd roedd y busnes yn Rownd Derfynol gwobrau Mentrau Cymdeithasol
Cymru 2015.
Mae Red Dragon Flagmakers yn aelodau o WCVA, Canolfan Cydweithredol
Cymru a Social Enterprise UK.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i
www.reddragonflagmakers.co.uk
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|