2. Eich gair. Ein gweithred
Gweler isod ddetholiad o faterion a godwyd yn ystod y digwyddiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf a sut yr ydym yn gweithio i fynd i’r afael â'r rhain yn ystod y misoedd nesaf:
© Hawlfraint y Goron (2014) Visit Wales
Eich gair: "Pwy yw ein cynrychiolwyr sector ar y Grŵp
Cyflawni?"
Ein hymateb: Mae'r holl gynrychiolwyr sector wedi’u rhestru ar
dudalen y Grŵp Cyflawni ar ein gwefan.
Eich gair: "Ble gallwn ddod o hyd i Biblinellau’r GCC a
rhestr o Fframweithiau cyfredol y GCC?"
Ein hymateb: Mae Piblinellau chwe chategori’r GCC i'w gweld ar
ein gwefan. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru bob mis yn dilyn cyfarfodydd y
Grŵp Cyflawni. Mae gennym hefyd restr o holl Fframweithiau cyfredol y GCC, sy'n
cynnwys dolenni i bob Hysbysiad Dyfarnu Contract ar GwerthwchiGymru, ac byddant
yn cael ei diweddaru yn dilyn dyfarniad
pob fframwaith newydd.
Eich gair: "Mae'n anodd dod o hyd i wybodaeth ar
GwerthwchiGymru. Nid yw'r wefan yn hawdd ei defnyddio.
Ein hymateb: Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n adnewyddu cynnwys y
GCC ar GwerthwchiGymru. Mae ardal newydd benodol i’r GCC yn cael ei datblygu, i
gynnwys gwybodaeth am fframweithiau ar draws pob categori, adroddiadau grwpiau
fforwm categori, manylion am ddigwyddiadau, cylchlythyrau a chyhoeddiadau.
Eich gair: Hoffem weld ymgysylltiad gwell gyda thimau
caffael ac arbenigwyr technegol, a mwy o ddigwyddiadau cyflenwyr yng Ngogledd Cymru.
Ein hymateb: Byddwn yn dechrau i drefnu’r cyfarfodydd hyn o
fis Medi
3. Newyddion
Telathrebu Llinell
Sefydlog
Mae’r GCC yn mynd
i gynnal cystadleuaeth gyfanredol bellach ar gyfer Telathrebu Llinell Sefydlog
ar ran sefydliadau sydd â diddordeb o dan 'Lot 3 Teleffoni Traddodiadol' o Fframwaith
newydd Gwasanaeth Masnachol y Goron, 'Gwasanaethau Rhwydwaith RM1045'. Bydd y
gystadleuaeth yn arwain at gontractau cyd-derfynol gydag un cyflenwr am gyfnod cychwynnol
hyd at fis Medi 2017, gydag opsiwn am estyniad hyd at 12 mis ychwanegol.
Mae Gwasanaeth
Masnachol y Goron wedi nodi arbedion cyraeddadwy oddeutu 15%, gydag arbedion
posibl oddeutu 30% ar gyfer sefydliadau sydd ar gontract treigl sy'n bodoli
eisoes, sydd heb fod yn destun proses gystadleuaeth.
Mae’r GCC yn
bwriadu cynnal yr ymarfer gystadleuaeth hon unwaith yn unig, a byddwn yn gallu
nodi dyddiad trawsnewid pob sefydliad. Mae dal angen i sefydliadau nad ydynt
angen adnewyddu eu contract tan fis Awst 2016, ddarparu gwybodaeth ar gyfer y
gystadleuaeth hon nawr.
Mae'n rhaid i
sefydliadau sydd â diddordeb ddarparu'r holl ddata y gofynnir amdano erbyn y
dyddiad cau, sef 19 Awst 2015. Mae cyfarfodydd Grwpiau Fforwm Categori (GFfC) wedi
eu cynllunio ar 18 Awst 2015 i gytuno ar y meini prawf gwerthuso a gofynion
penodol. I gael rhagor o wybodaeth a dogfennau templed, neu i fynegi diddordeb
mewn mynychu'r GFfC, cysylltwch â blwch post TGCh y GCC: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Fframwaith
Effeithlonrwydd Adnoddau i Gymru - dathlu carreg filltir ei flwyddyn gyntaf
Cymru Effeithlon
yw’r gwasanaeth cyswllt Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cymorth ar ddefnyddio
adnoddau; ynni, gwastraff a dŵr, yn fwy effeithlon ar gyfer cartrefi, busnesau,
cymunedau, a'r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus. Gall y gwasanaeth adnabod y
llwybr mwyaf priodol at gyngor a chymorth cywir ar sail amgylchiadau ac
anghenion - naill ai'n uniongyrchol o raglenni Llywodraeth Cymru neu o raglenni
y gallwch eu defnyddio ar Fframwaith Effeithlonrwydd Adnoddau y GCC.
Roedd 21
Gorffennaf 2015 yn nodi’r pen-blwydd cyntaf ers i
Fframwaith Effeithlonrwydd Adnoddau i Gymru fod yn weithredol.
Mae'r Fframwaith
yn cynnig opsiynau caffael cadarn ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i
gyflawni atebion ynni, dŵr a gwastraff mwy effeithlon. Wedi’i rannu'n ddwy lot,
mae cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at gyngor ac arweiniad arbenigol ar
effeithlonrwydd adnoddau, ynghyd â gwasanaethau ar gyfer gwerthuso rhaglenni neu brofi ar
gyfer mentrau’r dyfodol.
Mae ystod eang o
gontractau mawr a bach wedi cael eu gosod drwy'r Fframwaith, gan gefnogi’r
sectorau cyhoeddus a phreifat, a grwpiau cymunedol i gyflwyno cynlluniau
arloesol. Mae gweithgarwch sydd ar y gweill yn cynnwys penodi darparwyr i
ymgymryd ag adolygiadau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar draws Cymru a
chyflwyno rhaglen wastraff fawr.
Mae dros
£4.6miliwn wedi ei wario drwy'r Fframwaith, gan wireddu arbedion o £783,757.44.
Hyd yn hyn, mae tua £13.7miliwn o weithgarwch wedi'i osod neu ar fin cael ei
osod drwy'r Fframwaith.
Ceir canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Fframwaith ar GwerthwchiGymru.
Grwpiau
Fforwm Categori
Rydym yn awr yn adrodd canlyniadau Grwpiau Fforwm
Categori ar wefan GwerthwchiGymru.
4. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os
hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm
perthnasol drwy ebost.
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
- Mae’r
GCC wedi penodi Banner Business Services Ltd fel y darparwr deunydd ysgrifennu
am 12 mis yn weithredol o 15 Gorffennaf 2015 yn dilyn mini gystadleuaeth a
gynhaliwyd yn erbyn Fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron RM3703. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru cyn bo hir.
- Cyflenwi
Dillad Diogelwch a Chyfarpar Diogelu Personol - Rhif Contract WPC/B193/11.
Mae'r Fframwaith hwn wedi'i ymestyn am gyfnod o 12 mis pellach hyd at 31
Gorffennaf 2016. Bydd gwybodaeth Fframwaith yn ymddangos cyn bo hir yn ardal
Contractau, Fframweithiau ac Adnoddau ar wefan GwerthwchiGymru.
- Cyflenwi
Nwyddau Traul Argraffydd (III) - Mae'r Fframwaith hwn wedi cael ei ymestyn am
gyfnod pellach o 2 flynedd hyd at 31 Gorffennaf 2017.
Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw
- Gwasanaethau Cynnal a Chadw TG a Cheblau; a Digido,
Storio a Gwaredu. I gael eu cyhoeddi ym mis Awst.
Hysbysiadau Contract
Diweddariadau
-
Telathrebu Sefydlog – Trefniant cyfanredol i
ddod ym mis Awst (yn ddibynnol ar ddyfarniad Gwasanaeth Masnachol y Goron o'i
Fframwaith Gwasanaethau Rhwydwaith RM1045). Gweler y wybodaeth dan adran ‘Newyddion’ uchod.
Contact: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Pobl a
Chyfleustodau
Hysbysiadau Contract
Diweddariadau
-
Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig, NPS-PSU-0012-14 –
Mini-gystadleuaeth Cydweithredol. Mae nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru wedi bod mewn cyswllt â’r GCC i
gynnal mini-gystadleuaeth cydweithredol ar eu rhan ar gyfer darparu
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol. Ar hyn o bryd mae gennym sefydliadau sydd â
diddordeb ar sail Cymru gyfan a sail Caerdydd a'r Fro. Os hoffai’ch sefydliad
gael ei gynnwys (nid oes rhaid i chi fod yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru)
cysylltwch â'r blwch post isod.
Grwpiau Fforwm Categori
-
Grŵp Fforwm Categori Gweithwyr Asiantaeth - De Cymru, 27 Awst 2015.
Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau
Proffesiynol
Hysbysiadau Contract
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
-
Fframwaith Gwasanaethau Casglu Arian a Fframwaith
Ymgynghoriaeth Adeiladu Isadeiledd (Cyfnod 2) – i gael eu dyfarnu ym mis Awst.
Diweddariadau
- Ymgynghoriaeth Busnes - Ar hyn o bryd rydym yn cynnal
ymarfer cwmpasu ar gyfer gofynion defnyddwyr. Anfonwch e-bost at y blwch post
isod os hoffech gymryd rhan neu i dderbyn copi o'r holiadur.
-
Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) – Mae’r
canllawiau wedi'u diweddaru ar GwerthwchiGymru i adlewyrchu'r gwelliannau a
wnaed i weithrediad y Fframwaith. Yn dilyn adborth gan gyflenwyr fframwaith,
rydym hefyd yn gofyn eich bod yn defnyddio'r templedi dyfynbris safonol ar GwerthwchiGymru
wrth gynnal mini-gystadlaethau.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
5. Arbedion
Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o’r
arbedion sydd wedi cael eu cyflawni a’r gwariant yn ôl categori, rhwng 1 Ebrill
2015 a 31 Mai 2015.
Ar hyn o bryd, mae’r GCC yn rhedeg ar gyfradd redeg o
3.30% ar arbedion yn erbyn gwariant drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith
wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys ystod o Gytundebau sydd wedi'u trosglwyddo
i’r GCC.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn,
cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
6. Taflu Golwg
Y mis hwn rydym yn trafod Acommodation Furniture
Solutions Ltd. Mae’n fusnes a gefnogir ac mae wedi cael ei gynnwys yn ddiweddar yng
Nghytundeb Fframwaith Darparu Atebion Dodrefn y GCC.
Gwneuthurwr Dodrefn Contract yw Accommodation Furniture
Solutions (AFS) sydd wedi ei leoli ar safle hen ffatri Remploy yn Abertawe, De
Cymru, gan arbenigo mewn dodrefn ac atebion storio llety ac addysg.
Mae AFS yn cynnig amrywiaeth o ddodrefn o ansawdd uchel,
sydd ar gael i sefydliadau sy’n aelodau o’r GCC, ar Lotiau 3 a 6 o’r Fframwaith
Darparu Atebion Dodrefn. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys dolen i gatalogau a
phrisoedd, ar gael ar wefan y GCC.
Mae AFS yn fusnes a gefnogir ac fe'i cofrestrwyd ym mis
Mawrth 2013 gyda chymorth gan gynllun Grant Cymorth i Gyflogwyr Llywodraeth
Cymru, pan wnaeth saith cyn-weithiwr Remploy fuddsoddi eu harian diswyddo i
ffurfio menter gydweithredol. Yn gadarnhaol am bobl anabl, mae 100 y cant o'r
gweithlu yn bobl ag anableddau. Ers ei ddechrau, mae'r gweithlu wedi tyfu i 22
o weithwyr ac mae'r sylfaen cwsmeriaid wedi ehangu'n gyflym.
Mae gan fusnesau a gefnogir weithlu sy'n cynnwys dros 50%
o bobl anabl, nad ydynt yn gallu ymgymryd â gwaith yn y farchnad lafur agored
oherwydd natur neu ddifrifoldeb eu hanabledd.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.afs-wales.com
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|