2. Newyddion
Digwyddiadau caffael rhanbarthol: Archebwch eich lle
Erbyn hyn mae gennym dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau caffael rhanbarthol. Ar yr agenda fydd y Datganiad Polisi Caffael Cymru diwygiedig, y cyfleoedd a gyflwynir gan Dynodi, a phiblinell a Chynllun Busnes y GCC.
Digwyddiad De Cymru - 3 Gorffennaf, 9:30-13:00, Canolfan Waterton, Pen-y-bont
Digwyddiad Gogledd Cymru - 23 Gorffennaf, 9:30-13:00, Gladsdir, Llanrwst
I archebu eich lle, anfonwch e-bost at: Rebecca.Rees2@cymru.gsi.gov.uk
Mini-Gystadleuaeth Deunydd Ysgrifennu a Phapur
Mae'r GCC yn cynnal mini-gystadleuaeth Deunydd Ysgrifennu a Phapur ar hyn o bryd, yn erbyn Fframwaith Cyflenwadau Swyddfa ar gyfer y Sector Cyhoeddus Ehangach, Gwasanaethau Masnachol y Goron RM3703. Mae ceisiadau wedi'u cyflwyno ac yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Bydd y mini-gystadleuaeth yn arwain at benodiad sengl, a fydd yn cael ei ddyfarnu ym mis Gorffennaf.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fframweithiau a Chontractau Cyfredol Mae rhestr o bob Fframwaith a Chontract Cyfredol y GCC bellach ar gael ar ein gwefan.
Gwasanaethau Asiantaethau'r Cyfryngau A
ydych yn ymwybodol bod gan y GCC fframwaith ar gyfer Gwasanaethau Asiantaethau’r
Cyfryngau? Mae'r
Fframwaith wedi'i rannu'n dair lot ac yn cynnwys gwahanol fathau o hysbysebion
ar draws yr holl gyfryngau.
Mae'n cynnwys cyhoeddiadau cenedlaethol,
rhanbarthol a lleol, a chyfnodolion, cylchgronau a gwefannau proffesiynol yn y
DU a thramor yn unol â gofynion penodol y cwsmer.
Gweler mwy ar ein Gwefan.
3. Rhaglen Waith
Ers mis Mehefin, mae’r GCC wedi dyfarnu’r contractau canlynol:
4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori
Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy ebost.
|
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
- Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Llachar - Gwisgoedd, Dillad gwaith a dillad hamdden - Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw 20 Mehefin.
- Offer Post, Negeswyr ac Ystafell Bost - Grwpiau Fforwm Categori ar 14 Gorffennaf (Gogledd Cymru) a'r 29 Gorffennaf (De Cymru).
Cyswllt:
NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
- Cymeradwyodd Grŵp Cyflawni'r GCC argymhelliad ddefnyddio Fframwaith Prynu Cerbydau Gwasanaethau Masnachol y Goron RM1070 yn ddiweddar. Aeth y Fframwaith hwn yn fyw ar 2 Rhagfyr 2011 ac mae'n dod i ben Rhagfyr 1 2018.
Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
|
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Yn dilyn digwyddiad llwyddianus i gyflenwyr ar 1 Gorffennaf, gyda thros 50 o gwmnïau a bron 100 o bobl, bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cynhyrchion a Gwasanaethau TG yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
- Telathrebu Sefydlog - Trefniant yn ôl y gofyn i ddod ym mis Gorffennaf/Awst (yn ddibynnol ar ddyfarniad Gwasanaethau Masnachol y Goron o'u Fframwaith Gwasanaethau Rhwydwaith RM1045).
Cyswllt:
NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
- Darparu Atebion Teithio a Llety Busnes: Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract ar 15 Mehefin. Ymatebion i'w dychwelyd erbyn 23 Gorffennaf 2015. Mae angen enwebeion ar gyfer y Panel Gwerthuso - e-bostiwch y blwch post isod os oes diddordeb gennych.
- Hysbysiadau Contract sydd ar y gweill ym mis Gorffennaf: Buddion Staff, Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol
- Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol - Digwyddiadau Gwybodaeth i Gyflenwyr:
Dydd Llun, 13 Gorffennaf, 13:00 - 15:30pm, Canolfan Dechnoleg Waterton, Pen-y-bont Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf, 13:00 - 15:30pm, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
- Eitemau Cyfarpar Cymunedol AW3996: Cyfarfod Grŵp Ffocws Cwsmeriaid Cymru Gyfan, Dydd Iau 9 Gorffennaf 10am-15:30pm, Llandrindod
- Hyfforddiant Staff Adnoddau Dynol: Rydym wrthi'n pennu cwmpas gofynion defnyddwyr ar hyn o bryd. Anfonwch e-bost at y blwch post isod os hoffech gymryd rhan neu dderbyn copi o'r holiadur.
- Mae ein fframwaith Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth wedi bod yn weithredol ers 2 fis. Os nad ydych wedi ymgysylltu, neu os hoffech dderbyn y Pecyn Defnyddwyr i Gwsmeriaid eto, cysylltwch â'r tîm ar y blwch post isod. Bydd y fframwaith yn helpu i ateb gofynion eich sefydliad ar gyfer gweithwyr dros dro, a bydd y tîm categori yn hapus i drafod y fframwaith, ateb unrhyw ymholiadau, a chynorthwyo eich sefydliad wrth ymgysylltu a gweithredu'r gwasanaeth ar lefel leol.
Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
Gwasanaethau Proffesiynol
- Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu Isadeiledd (Cam 2) - Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 2 Gorffennaf.
- Fframwaith Gwasanaethau Casglu Arian - Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6 Gorffennaf.
- Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol (Cyfreithwyr) i gael ei ddyfarnu ym mis Gorffennaf
- Gwasanaethau Yswiriant - Fforwm Categori wedi'i drefnu 9 Gorffennaf gyda chynhadledd fideo rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas a Chyffordd Llandudno.
|
-
Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) - Digwyddiadau Cyflenwyr:
Dydd Llun, 13 Gorffennaf, 13:30 - 15:30pm, Canolfan Dechnoleg Waterton, Pen-y-bont Dydd Llun, 20 Gorffennaf, 13:30 - 15:30pm, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno. Croesawn gynrychiolwyr o'n 73 sefydliad sy'n aelodau i gwrdd â chyflenwyr y fframwaith.
- Cyn hir, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad Contract am Ymgynghoriaeth Adeiladu Isadeiledd (Cam 3). Fel rhan o'r cam hwn byddwn yn edrych i benodi ymgynghorwyr Rheoli Cyfleusterau i gynorthwyo sefydliadau wrth gynllunio a monitro gweithgarwch yn y dyfodol trwy Fframwaith Rheoli Cyfleusterau y GCC.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
5. Arbedion
Gall y GCC adrodd arbedion ariannol o £7.9miliwn.
Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o’r arbedion sydd wedi cael eu cyflawni, yn ôl categori, rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.
Ar hyn o bryd, mae’r GCC yn rhedeg ar gyfradd redeg o 7.46% ar arbedion yn erbyn gwariant drwy gontractau a fframweithiau wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys ystod o gontractau sydd wedi'u trosglwyddo gan nifer o sefydliadau allanol yn ystod y flwyddyn ariannol 2014/15.
6. Taflu Golwg
Busnes Dodrefn sefydledig yw’r Ministry of
Furniture, a ddeilliodd o Remploy Furniture gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Yn
2015, cawsant eu penodi gan Remploy Limited i weithredu fel ymgynghorwyr ar
gyfer eitemau etifeddol Remploy Furniture.
Mae'r busnes a gefnogir wedi ei berchen gan,
ac yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan bobl sy'n gweithio yn y cwmni, gan gynnwys
rheolwyr a staff sydd yn cyn-weithwyr Remploy Furniture.
Mae mwy na hanner o'r gweithlu yn bobl ag
anableddau, yn gweithio yn y swyddfa busnes ac o fewn y gadwyn gyflenwi
gweithgynhyrchu. Drwy ymarfer ymagwedd gadarnhaol at gyflogi pobl ag anableddau
a’r rhai sydd bellaf o'r farchnad swyddi, mae'r busnes yn gweithio'n gyson gyda
chyflenwyr a rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn rhannu ffocws tebyg ar eu
heffaith gymdeithasol.
Mae’r Ministry of Furniture yn ffynhonnellu,
gwerthuso a dwyn ynghyd cynhyrchion sy'n addas at ddiben amgylcheddau dysgu a
gweithio cyfoes. Mae'r rhain ar gael i sefydliadau sy'n aelodau’r GCC ar Lot 6
o'n Fframwaith Darparu Atebion Dodrefn:
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ministryoffurniture.com
Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC, e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|