Cymerwch ran yn ‘Gwylio Adar yr Ysgol’ y RSPB o 5 Ionawr hyd at 13 Chwefror. Beth am i ddysgwyr wario awr yn gwylio a recordio gwahanol fathau o adar sy’n bodoli ym meysydd gwyrdd yr ysgol? Bydd y wybodaeth a gesglir yn ffurfio rhan o arolwg cenedlaethol y RSPB. Mae adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim ar gael i gefnogi’r gweithgaredd.
Mae’r gweithdai’n ffordd wych i annog ysgolion i ymweld â’r safle hanesyddol yma sy’n llai adnabyddus. Mae’r gweithgareddau ymarferol yn Nhretŵr yn cynnig y cysylltiad cyntaf tuag at edrych ar gyfnod y Tuduriaid yn y De. Mae’r diwrnod yn gyfle gwych i’r disgyblion a’r athrawon adnabod y gorffennol y tu allan i’r dosbarth gan wneud dysgu’n hwyl.
Clybiau STEM LEGO ar ôl ysgol
O 20 Ionawr 2015 bydd G2G Communities CIC yn lansio dau glwb STEM LEGO ar ôl ysgol newydd. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu gweithio ag ystod eang o ddeunyddiau Addysg LEGO a bydd gweithgareddau’n cynnwys adrodd storïau’n ddigidol, ac adeiladu a rhaglennu robotiaid WeDo LEGO. Ar gyfer plant 7-10 oed yw clwb dydd Mawrth a bydd clwb dydd Iau i’r rhai sy’n 11 oed a throsodd. Bydd y ddau glwb am gyfnod o 6 wythnos yn Stiwdio Arloesedd Addysg LEGO yn Rhyl.
Rhaglen genedlaethol i blant oedran Derbyn yng Nghymru i gefnogi llythrennedd a rhifedd yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae gweithgareddau Rhufeinig ar gael nawr o Dref Rufeinig Caerwent
Mae gweithgareddau newydd, sy’n defnyddio Gwyddoniaeth, Technoleg a Rhifedd, yn Nhref Rufeinig Caerwent, ger Casnewydd, ar gael nawr i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae dwy sesiwn hanner diwrnod ar gael, yn astudio bywyd dydd i ddydd y Rhufeiniaid ac adeiladau Rhufeinig, gyda chyfleoedd i wisgo lan, trin a thrafod gwrthrychau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a dylunio. Am fwy o wybodaeth, neu i archebu lle: Cadw.education@wales.gsi.gov.uk