|
Rhifyn 3 Gorffennaf 2014
|
|
|
|
|
Ydych chi’n darllen y cylchlythyr hwn yn Gymraeg?
Er ein bod wedi cyhoeddi ein cylchlythyron yn ddwyieithog ers y
dechrau, roedd yn rhaid i’r darllenwyr danysgrifio i’r fersiwn Saesneg a
chlicio trwodd wedyn er mwyn gweld y Gymraeg. Ond yn ddiweddar rydyn ni wedi gwella
ein system gylchlythyron fel bod modd ichi dderbyn y cylchlythyr yn eich dewis
iaith yn syth. Tanysgrifiwch yn awr i’w gael yn Gymraeg!
|
|
Llywodraeth Cymru yn y Dwyrain Canol a
Gogledd Affrica
Mae gan Lywodraeth
Cymru swyddfa yn Dubai ers 2004. Yn Llysgenhadaeth Prydain y mae’r swyddfa ond
mae’n gwasanaethu’r holl farchnadoedd ar draws y Dwyrain Canol a Gogledd
Affrica. Mae’n hyrwyddo Cymru yn y gwledydd hyn ac yn cynnig cyngor a
chefnogaeth o bob math i gwmnïau sy’n allforio o Gymru.
Os hoffech wybod mwy am y
swyddfa a’i gwasanaethau, cysylltwch â Busnes
Cymru.
|
Teithiau masnach
Er bod dulliau cyfathrebu modern yn ei gwneud yn haws ac yn rhwyddach meithrin cysylltiadau dros y byd, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno ei bod yn well cynnal busnes wyneb yn wyneb pryd bynnag y bo modd.
Gallwn ni eich helpu chi i gyrraedd eich marchnad. Mae ein rhaglen ni o deithiau masnach yn gyfle i chi gynnal trafodaethau gwerthfawr a dylanwadol iawn gyda darpar gwsmeriaid.
Os ydych chi’n awyddus i sefydlu cysylltiadau â chwsmeriaid yn y Dwyrain Canol, pam nad ymunwch chi ag un o’n teithiau masnach neu sioeau arddangos yno:
• Taith fasnach i GITEX, Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig – 11-17 Hydref 2014
• Taith fasnach i’r Big 5, Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig – 15-21 Tachwedd 2014
• Taith fasnach i Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig – 15-21 Tachwedd 2014
• Taith fasnach i Arab Health, yr Emiraethau Arabaidd Unedig – 24-30 Ionawr 2015
• Taith fasnach i Qatar ac Oman – 7-13 Chwefror, 2015
• Taith fasnach i Gulf Food, Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig – 19-22 Chwefror, 2015
Darllenwch ragor am ein rhaglen o deithiau masnach ac arddangosfeydd.
|
|
|
Cymdeithas y Dwyrain Canol
Cymdeithas y Dwyrain
Canol (Middle East Association - (MEA) yw prif fforwm busnes y Deyrnas
Unedig ar gyfer hyrwyddo masnach a buddsoddi gyda’r Dwyrain Canol a Gogledd
Affrica. Gyda’u rhwydwaith o gysylltiadau mewn llywodraethau ac yn y sector
preifat gall y gymdeithas helpu cwmnïau drwy roi gwybodaeth, mynediad a
chanllawiau iddynt ddatblygu eu busnes yn llwyddiannus ar draws y Dwyrain
Canol a Gogledd Affrica. Dysgwch ragor am yr MEA a’u teithiau masnach
tramor.
|
Gwerddon o Gyfleoedd
Mae economi gwledydd y Gwlff yn parhau i dyfu ac mae yno ddigonedd o gyfleoedd busnes mewn amrywiol sectorau. Y prif farchnadoedd twf yw:
Oman:
Olew a nwy yw sylfaen economi Oman ond mae’r wlad yn prysur ddatblygu diwydiannau eraill newydd hefyd, gan gynnwys cynhyrchion olew (petrogemegion/mhetalau), porthladdoedd a logisteg, pysgodfeydd a thwristiaeth fodern a ffyniannus. Mae Prydain wedi bod yn masnachu gydag Oman ers dros 350 o flynyddoedd ac mae nwyddau a gwasanaethau o Brydain yn adnabyddus a phoblogaidd yno. Caiff safonau Prydeinig eu defnyddio a’u derbyn yn eang hefyd, felly mae Oman yn farchnad werth chweil i allforwyr o Gymru.
|
|
|
Qatar:
Yn sgîl llwyddiant nwy hylifedig naturiol, Qatar sydd â’r
Cynnyrch Domestig Gros uchaf y pen yn y byd. Bydd Qatar yn buddsoddi hyd at
$220 biliwn mewn seilwaith dros yr 8
mlynedd nesaf wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022 a’r Weledigaeth
Genedlaethol 2030. Gydag economi sy’n tyfu’n gyflym a lefelau uchel o gyfoeth
personol mae yma archwaeth am nwyddau a gwasanaethau o ansawdd. Mae Qatar yn
farchnad addawol a chyffrous dros ben i gwmnïau sy’n allforio felly.
|
|
|
Yr Emiraethau Arabaidd Unedig (UAE):
Yr Emiraethau Arabaidd Unedig yw trydedd farchnad
allforio fwyaf Cymru. Er bod nwy ac olew’n dal yn bwysig yno mae arallgyfeirio
economaidd wedi ysgogi twf cryf mewn amryw o sectorau eraill hefyd. Bellach, yr
Emiraethau yw canolbwynt byd busnes, logisteg, y cyfryngau a hamdden yn y
Dwyrain Canol. Disgwylir y bydd EXPO 2020 yn Dubai yn ychwanegu US$23 biliwn
arall i’r economi. Wrth i’r economi ffynnu a chyfoeth y bobl dyfu mae yma fwy a
mwy o awydd i brynu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd. Caiff cynnyrch o Brydain
eu cydnabod a’u gwerthfawrogi’n fawr yno ac o’r herwydd mae’r Emiraethau
Arabaidd yn dal i gynnig cyfleoedd busnes heb eu hail i allforwyr o Gymru.
|
|
|
Saudi Arabia:
Dyma’r economi fwyaf yn y
Dwyrain Canol, sy’n gyfrifol am 25% o Gynnyrch Domestig Gros. Gan fod refeniw
olew yn uwch nag erioed gwelwyd cynnydd yn y gwariant cyhoeddus ar seilwaith a
lles. Mae hyn yn cynnwys prosiectau mawr ym maes ynni, dŵr; olew, neu a
phetrogemegion; cyfathrebu; trafnidiaeth; mwyngloddio; adeiladu a seilwaith
cymdeithasol. Mae gan Brydain berthynas hanesyddol gref â Saudi Arabia, a’r
wlad hon yw ein partner masnach mwyaf ni yn y Dwyrain canol o hyd. Mae cwmnïau
o Gymru yn llwyddo yn y farchnad allforio hon wrth iddi barhau i dyfu.
|
Kuwait:
Mae economi Kuwait yn ddibynnol iawn ar refeniw olew ond bydd Gynllun Datblygu Kuwait yn lleihau’r ddibyniaeth honno. Cyhoeddwyd y cynllun yn 2009 a’i nod yw trawsnewid Kuwait o wlad ddibynnol ar olew i ganolfan fasnachol ac ariannol bwysig. Buddsoddwyd mewn amrywiaeth o sectorau economaidd, yn enwedig adeiladu, addysg a hyfforddiant, yr amgylchedd, awyrennau, gofal iechyd, amddiffyn a diogelwch a manwerthu. Mae cwmnïau o Brydain yn uchel eu parch am eu sgiliau ymgynghori, technoleg, hyfforddiant a’u gwaith caleda c mae gan Kuwait berthynas dda gyda Phrydain ers tro byd. Mae Kuwait yn farchnad ddynamig ac agored i allforwyr o Gymru.
Os hoffech ymchwilio ymhellach i’r marchnadoedd hyn, cysylltwch â’n tîm masnach ni. Gallwn ddarparu cefnogaeth wedi’i deilwra i’ch cwmni chi, boed ar gyfer canfod y llwybr gorau i dorri trwodd i farchnadoedd Asia, nodi’r cyfleoedd yn y marchnadoedd hynny neu ymweld â’r gwledydd ar un o’n teithiau masnach ni.
|
Seminarau Allforio
Er mwyn eich
helpu chi i baratoi ar gyfer marchnadoedd tramor, rydyn ni’n cynnal seminarau
rheolaidd am gyfleoedd y farchnad a phrosesau allforio. Mae’r seminarau hyn
yn ddefnyddiol ar gyfer casglu gwybodaeth am y materion allforio diweddaraf
ond maen nhw hefyd yn gyfle i rwydweithio â busnesau o’r un anian. Daeth dros
50 o gwmnïau o bob rhan o Gymru i seminar a gynhalion ni ar gyfleoedd busnes
yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn ddiweddar.
Rydyn ni’n
datblygu ein rhaglen o seminarau allforio ar gyfer yr hydref nesaf - cadwch
lygad am y manylion yng nghylchlythyr nesaf Allforio Cymru. Mae nifer o sefydliadau eraill yn cynnal seminarau ledled Cymru
i gwmnïau sy’n allforio. Dyma rai ohonynt: Mae Cymdeithas Cwmnïau Allforio Gorllewin Cymru
yn rhoi cymorth i allforwyr ar draws y De. Maen nhw’n cynnal seminarau
rheolaidd ar amryw o faterion perthnasol. Mae Centre for Business yn cynnal cyrsiau
ymarferol i gwmnïau ar y gwahanol gamau yn y broses allforio. Cyngor Busnes
Tsieina a Phrydain yw prif sefydliad y
Deyrnas Unedig ar gyfer hyrwyddo masnach a buddsoddi yn Tsieina. Maen nhw’n
cynnal seminarau a gweithdai cymorth i gwmnïau sy’n edrych ar y farchnad yn
Tsieina, gan gynnwys gweithdai cymorth rheolaidd yng Nghymru. Mae Siambr Fasnach Gorllewin Caer a Gogledd Cymru yn
rhoi cefnogaeth i allforwyr o bob rhan o’r Gogledd. Maen nhw’n cynnal cyrsiau
ar amryw o bynciau yn ymwneud ag allforio.
|
|
Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.
Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.
|
Wefan
Wales.com
Cymru.gov.uk
Tanysgrifiwch yn Saesneg
Dad-danysgrifiwch
|
Having trouble viewing this email? View it as a Web page.
|
© Hawlfraint y Goron 2014
|