Sharon Lovell
Croeso i rifyn diweddaraf Bwletin Gwaith Ieuenctid Cymru. Mae'n dechrau teimlo'n debycach i'r gwanwyn, sy'n siŵr o'ch rhoi mewn hwyliau da.
Mae'r rhifyn hwn o'r bwletin yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Fe welwch ragor o wybodaeth, cymorth ac offer yn y rhifyn hwn a all helpu ein sector gwaith ieuenctid yn ystod y cyfnod heriol hwn.
|
|
|
Gobeithiaf y byddwch eisoes yn ymwybodol bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cefnogaeth bellach i’r sector gwaith ieuenctid yn ddiweddar. Rwy’n croesawu’r cymorth ychwanegol hwn ac yn gobeithio y bydd yn cymryd rhywfaint o bwysau oddi ar sector sydd eisoes dan bwysau ac yn diogelu gwasanaethau presennol wrth i ni symud yr argymhellion yn "Mae’n Bryd Cyflawni" ymlaen i gynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Mae'n bleser gennyf roi gwybod i chi fod yr holl Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu (GCG) bellach wedi cyfarfod am y tro cyntaf. Bydd rhagor o fanylion am eu haelodaeth a'u cylch gorchwyl yn cael eu rhannu yn y rhifyn nesaf.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn a drafodwyd yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ym mis Chwefror drwy edrych ar y cofnodion diweddaraf. Fe welwch fod cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Pobl Ifanc wedi ymuno â ni, sy’n cael ei gydgysylltu ar ran Llywodraeth Cymru gan EYST, Llamau ac Urdd Gobaith Cymru.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda chi i gyd eleni i wneud yn siŵr bod gwasanaethau gwaith ieuenctid yn ffynnu i bobl ifanc yng Nghymru.
Digwyddiad ysbrydoledig Hawl i Holi dan arweiniad Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent
Mae Holi Ieuenctid Gwent yn cael ei gynnal gan bobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ynghyd â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau i banel o weithwyr proffesiynol sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o faterion y mae pobl ifanc wedi dweud sy’n bwysig iddyn nhw.
Bu pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent gwrdd â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd sawl tro i gynllunio’r digwyddiad. Roedd gan bob un ohonynt rolau gwahanol i’w chwarae yn y digwyddiad gyda Chadetiaid Heddlu Gwent yn croesawu a chefnogi pobl, Chloe Simmonds ac Ellie Pickering yn rheoli’r meicroffonau crwydro, Mia Stinton a Bethany Pomroy yn arwain ar y cyfryngau cymdeithasol, Laura Preston o Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn darparu cefnogaeth yn y Gymraeg a Rhianna Lewis yn cymryd rôl heriol y Cadeirydd am y noson.
Mae Rhianna yn aelod o Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent, Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac yn aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Flaenau Gwent. Mae hi'n astudio gwleidyddiaeth yn y coleg ac mae'n frwd dros gefnogi plant a phobl ifanc i gael llais.
Eglurodd Rhianna, “Mae bod yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU wedi fy helpu i fagu hyder gan fy mod wedi cael y cyfle i drafod ac arwain ar bynciau sy’n bwysig i mi ac i blant a phobl ifanc eraill. Roedd cadeirio’r digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid yn brofiad da iawn, yn ogystal â chyflawni fy angerdd i ganiatáu i blant a phobl ifanc ymgysylltu a dadlau am bynciau sydd o bwys iddynt.
“Roedd y digwyddiad eleni yn dda iawn. Fe’i cynhaliwyd ar 15 Mawrth yng Ngholeg Gwent gyda dros 100 o bobl ifanc yn bresennol, a oedd yn wych. Roeddwn yn teimlo'n gyffrous ac yn nerfus am gadeirio - yn bendant yn nerfus pan welais faint o bobl oedd yn cyrraedd! Cefais gyfle i gwrdd ag aelodau’r panel cyn i’r digwyddiad ddechrau ac roedden nhw’n groesawgar iawn – fe aethon nhw allan o’u ffordd i wneud yn siŵr fy mod i’n teimlo’n gyfforddus.”
Dim ond cwestiynau gan bobl ifanc yr oeddem ni’n eu cymryd, ac roedd y panel yn cynnwys Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, a Dr Jane Dickson, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roeddwn i'n meddwl bod amrywiaeth dda o gwestiynau. Roedd yn amlwg bod gan lawer o bobl ifanc bryderon am gostau byw, newid hinsawdd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio e-sigaréts. Roedd yna hefyd fater iechyd rhywiol ac yn benodol y syniad bod angen moderneiddio’r wybodaeth a ddarperir trwy ysgolion, a oedd yn bwysig.”
Mynychodd sawl sefydliad hefyd, i wrando ar farn y bobl ifanc ac i ddarparu gwybodaeth a chymorth. Roedd y rhain yn cynnwys, Fearless, Gwent N-gage Cymorth Cyffuriau ac Alcohol, Comisiynydd Plant Cymru, Cadetiaid Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Empire Fighting Chance, grŵp bocsio lleol a ariennir gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gynnig gweithgareddau dargyfeiriol i bobl ifanc yng Ngwent.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae'r Sesiwn Holi Ieuenctid yn cael ei yrru a’i gyflwyno gan bobl ifanc. Mae’r penderfyniadau a gymerwn fel cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau ac mae ond yn iawn eu bod yn cael y cyfle i’n dwyn i gyfrif.
“Hwn oedd ein pumed digwyddiad, ac rwy’n parhau i gael fy mhlesio gan lefel y manylder ac ehangder y cwestiynau a ofynnir gan bobl ifanc, mae’r digwyddiad wedi dod yn llwyfan pwysig i bobl ifanc gael lleisio eu barn.”
I gael gwybod mwy am eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu lleol a’i rôl, ewch i Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu: https://www.apccs.police.uk/cymdeithas-comisiynwyr-yr-heddlu-a-throseddu/
Argyfwng costau byw – sut mae’r sector yn ymateb?
I bob sefydliad yng Nghymru, mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod costau’n codi – ar gyfer eiddo, biliau, gweithgareddau a darparu gwasanaethau.
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae gwasanaethau gwaith ieuenctid Awdurdodau Lleol ledled Cymru a sefydliadau’r sector gwirfoddol yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi pobl ifanc, boed hynny drwy ailgynllunio gwasanaethau neu ehangu’r ddarpariaeth.
Mae’r ddwy enghraifft isod yn amlygu sut mae dulliau o ddarparu gwasanaethau wedi addasu i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael y math o gymorth sydd ei angen arnynt.
|
|
Foothold Cymru – cefnogi pobl ifanc sy’n profi tlodi bwyd
Elusen cyfiawnder cymdeithasol yw Foothold Cymru sy’n mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau tlodi ac anghydraddoldeb.
Mae gan lawer o'i brosiectau a gwasanaethau hanes hir o gefnogi anghenion pobl ifanc a gwneud newid parhaol yn y gymuned.
Eglurodd Kelly Tomlinson, Rheolwr Prosiect yn Foothold Cymru, sut roedd eu tîm wedi gwneud newidiadau mewn ymateb i weld drostynt eu hunain sut mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn cael effaith negyddol ar bobl ifanc.
|
“Mae'r argyfwng costau byw hwn yn effeithio ar bawb, ond mae'n cael effaith aruthrol ar y bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymateb mewn gwahanol ffyrdd i geisio cefnogaeth a chymorth lle gallwn.
Mae tlodi bwyd yn her enfawr ar hyn o bryd. Rydym yn cynnal dosbarthiadau coginio, felly rydym wedi bod yn helpu pobl ifanc yn ein dosbarthiadau i goginio dognau mwy fel y gellir mynd â'r rhain adref i fwydo'r teulu neu gellir eu dosbarthu trwy ein Storfa Fwyd Cymunedol. Rydym hefyd yn cynnal Cynllun Popty Araf lle mae pobl ifanc a'u teuluoedd yn dod i sesiwn arddangos ac yn cael benthyg Popty Araf am dri mis, ynghyd â llyfr ryseitiau yn llawn prydau iach, cost isel.
Mae ein Hyb Cynnes ar agor ddwywaith yr wythnos ac yn ogystal â darparu gofod cynnes, mae digon o gawl a bara wedi'u coginio'n ffres hefyd ar gael. Mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn gwneud defnydd o’r ddarpariaeth hon, ond rydym hefyd yn gweld aelodau eraill o’r gymuned, efallai na fyddem yn disgwyl eu gweld fel arfer.”
Mae tîm Foothold Cymru yn ymwybodol o'r angen i gefnogi ei wirfoddolwyr ifanc hefyd, gan gynnwys y rhai sy'n rhedeg ei Storfa Fwyd Gymunedol. Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn cael bag o fwyd am ddim bob wythnos fel 'diolch' am eu gwirfoddoli sydd wedi eu cefnogi'n ariannol.
Mae mentrau eraill yn cynnwys Oergell Gymunedol, 'banciau' Dillad a Gwisg Ysgol, Llyfrgell Benthyg Offer a Storfa Sgrap… oll gyda'r nod o gefnogi'r hyn sydd ei angen ar bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru, ar hyn o bryd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Hafan | Foothold Cymru
Swansea MAD – cefnogi cynhwysiant digidol (a llawer mwy!)
Mae Swansea MAD yn darparu mannau diogel cynhwysol i bobl ifanc gael mynediad at eiriolaeth, celfyddydau creadigol, cynhwysiant digidol, addysg, cymorth cyflogadwyedd, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau i hyrwyddo tegwch a pherthyn.
|
|
|
Mae ei leoliad yng nghanol Abertawe yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, y mae galw mawr amdanynt bob amser. Fodd bynnag, yn ôl Rachel Benson, Cyfarwyddwr Codi Arian a Chynaliadwyedd, mae'r tîm hefyd yn gweld angen cynyddol am 'hanfodion', megis bwyd a diodydd poeth, pethau ymolchi a chynhyrchion mislif am ddim ac mae'n darparu rhain.
Mae Rachel hefyd yn nodi bod yr “argyfwng costau byw yn effeithio ar fynediad digidol pobl ifanc. Yn Swansea MAD rydym yn darparu cardiau SIM, dyfeisiau digidol a data, mynediad i'r rhyngrwyd a gweithdai a chymorth digidol. Mae pwyntiau gwefru hefyd ar gael i bobl ifanc wefru eu ffonau a’u dyfeisiau.”
Am ragor o wybodaeth ar Swansea MAD, ewch i Swansea MAD | Swansea MAD
Adolygiad Ariannu Gwaith Ieuenctid
Mewn ymateb i’r argymhellion yn adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid dros dro, mae adolygiad o’r ariannu sydd ar gael i’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru bellach ar y gweill. Mae angen yr adolygiad i'n helpu i ddeall yn well sut mae pob agwedd ar ariannu ar gyfer gwaith ieuenctid gan gynnwys sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ac i nodi o bosibl a allem fod yn gwneud pethau'n wahanol i sicrhau cysondeb o ran cyfleoedd i bob person ifanc.
Camau nesaf
Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan gonsortiwm o Sefydliadau Addysg Uwch, sy’n cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae grŵp llywio, sy’n cynnwys aelodau’r Bwrdd Dros Dro, y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, CLlLC, ETS, CGA a chynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol ac a gynhelir, ar waith i hysbysu a llywio cylch gwaith a chynnydd yr adolygiad hwn.
Mae tri cham i'r adolygiad.
- Mae cam un yn canolbwyntio ar dreialu dulliau o gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir, a’n bod yn gallu cwblhau’r adolygiad llawn ledled Cymru mewn modd cadarn. Fe'i cynhelir mewn pedair ardal beilot: Casnewydd, Powys, Abertawe a Wrecsam, a bydd yn cynnwys gwasanaethau a sefydliadau gwirfoddol a statudol. Bydd ystod eang o sefydliadau yn cael eu cynnwys i sicrhau bod cymysgedd da o wasanaethau yn cael eu hystyried. Disgwylir i’r cam cyntaf hwn gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2023, a chyhoeddir adroddiad cychwynnol ym mis Mai. Bydd y cam hwn yn hysbysu camau dau a thri o'r gwaith hwn.
- Bydd cam dau yn ehangu'r adolygiad i bob rhan o Gymru.
- Bydd cam tri yn cynnal dadansoddiad cost a budd, os yw cam un yn nodi y bydd digon o wybodaeth ar gael i wneud hynny.
Mae disgwyl i'r adolygiad llawn, pe baem yn gallu ymgymryd â'r tri cham, gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024. Bydd diweddariadau'n cael eu rhannu gyda'r sector wrth i ni ddysgu o'r ymchwil.
Mwy o hyfforddiant ymwybyddiaeth ariannol am ddim yng Nghymru
Mae Dangos, y prosiect hyfforddiant ymwybyddiaeth ariannol ar-lein rhad ac am ddim yng Nghymru, wedi cael ei adnewyddu am drydedd flwyddyn gan Lywodraeth Cymru. Eleni, yn ogystal â’i gyrsiau sylfaenol a chanolradd, mae Dangos yn ehangu ei gynnig i gynnwys sesiynau pwrpasol sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc.
Bydd y rhain yn cyd-fynd â'r sesiynau canolradd presennol ac yn darparu gwybodaeth fanwl â ffocws. Mae cyrsiau e-ddysgu ar gael hefyd.
Mae Dangos hefyd wedi lansio fforwm ar-lein rhad ac am ddim sy’n cynnwys diweddariadau newyddion ar gymorth ariannol yng Nghymru, lle i drafod materion ac i gael mynediad at becynnau gwybodaeth diweddaraf Dangos ac adnoddau eraill. Cynhelir gweminarau misol newydd hefyd. Mae'r rhain yn cael eu recordio a gellir eu cyrchu unrhyw bryd ar fforwm Dangos.
Gellir bwcio sesiynau unigol ar dangos.cymru a gellir trefnu sesiynau mewnol ar gyfer timau trwy e-bostio info@dangos.wales. Mae fforwm Dangos ar gael yn https://dangos.wrac.wales
Archwilio'r Cysylltiadau – Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid
Mae Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, mae gweithwyr chwarae yn gweithio gyda phlant oed ysgol yn bennaf. Ond i lawer o bobl ifanc yn eu harddegau, chwarae yw’r brif ffordd o hyd i archwilio a dysgu am y byd o’u cwmpas.
|
|
|
Mae Chwarae Cymru yn cynnal gweminar ar 18 Ebrill 2023 sy’n archwilio’r hyn y gall gweithwyr chwarae a gweithwyr ieuenctid ei ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at y canlynol: gweithwyr chwarae, gweithwyr ieuenctid, rheolwyr gwaith chwarae a gwaith ieuenctid, cyflogwyr a hyfforddwyr, gweithwyr datblygu cymunedol, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth neu i gofrestru.
|
|
DigiCymru - Cymorth Digidol Am Ddim i'r Trydydd Sector yng Nghymru
Mae ProMo-Cymru yn cynnig sesiynau cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth DigiCymru yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector sydd yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
|
Gall DigiCymru gynnig pob math o gymorth digidol. Cysylltwch â'r gwasanaeth i roi gwybod am unrhyw her neu broblem ddigidol sydd gennych. Bydd posib dewis amser, a bydd eich arbenigwr digidol yn cysylltu i drefnu cyfarfod un i un cychwynnol gyda chi.
Gall amrywio o ddeall pa offer digidol sydd a'r gael a sut gallant eich helpu chi; eich cefnogi i adeiladu a defnyddio eich offer eich hun; dangos sut gallech chi adeiladu pethau eich hunain; neu eich cefnogi gydag unrhyw broblemau technolegol. Beth am gymryd golwg?
Dysgwch fwy neu bwciwch slot
Dyddiad ar gyfer Dyddiaduron Rheolwyr Gwaith Ieuenctid!
Mae dyddiadau bellach ar gael ar gyfer Rhaglen Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid. Os ydych yn gyfrifol am arwain neu reoli swyddogaethau gwaith ieuenctid eich sefydliad, neu ran sylweddol ohonynt, yna gallai'r cwrs hwn fod i chi. Mae'n gyfle gwych i wella sgiliau a hyder i arwain gwasanaethau gwaith ieuenctid yn effeithiol ar adeg o gymhlethdod a newid sylweddol yng Nghymru. Cydlynir y rhaglen gan ETS Cymru a’i chefnogi gan CLlLC, CWVYS, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru, TAG Cymru (darparwyr hyfforddiant Gwaith Ieuenctid ar lefel AU ac AB) a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Dyma drosolwg o'r rhaglen nesaf.
Ymsefydlu [ar-lein]: 6 Mehefin 12pm
Modiwl 1 Arwain Gwaith Ieuenctid modern: 13-14 Mehefin [Wrecsam]
Modiwl 2 Arwain a rheoli’r gwaith o gyflawni Gwaith Ieuenctid o ansawdd uchel: 12-13 Gorffennaf [Wrecsam]
Modiwl 3 Arwain a rheoli Gwaith Ieuenctid ar draws y system gyfan: 13-14 Medi [Wrecsam]
Sylwch, heblaw am yr ymsefydlu, bydd modiwlau'n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb, yng Ngogledd Cymru.
* Cafodd y Rhaglen Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid ei chymeradwyo’n ddiweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Bydd manylion y broses ymgeisio yn cael eu cyhoeddi maes o law ond os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag emma@ec-consultancy.co.uk.
Mae Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop (ERYICA) yn fudiad Ewropeaidd annibynnol, sy'n cynnwys cyrff a rhwydweithiau cydgysylltu gwybodaeth ieuenctid cenedlaethol a rhanbarthol. Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru sy'n talu am aelodaeth Cymru yn ERYICA, sy’n golygu bod cyfleoedd ar gael i weithwyr ieuenctid, rheolwyr, gwirfoddolwyr ac ati yn y sectorau gwirfoddol a statudol yng Nghymru.
|
|
|
Mae ERYICA yn trefnu digwyddiadau rhithwir a gweminarau. Eleni, mae Blwyddyn Ewropeaidd Sgiliau 2023 yn rhoi lle canolog i ddatblygu sgiliau ac mae sawl cyfle hyfforddi ar gael i ymarferwyr Gwaith Ieuenctid.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Angelina Pereira Gonçalves - Cydlynydd Gwasanaeth Aelodau angelina.pereira@eryica.org neu ewch i wefan ERYICA.
Mae adroddiad diweddar Youth Scotland yn dangos sut mae ei raglenni'n effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan dlodi ac yn gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae’r adroddiad yn nodi sut mae’r sector gwaith ieuenctid yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. Am fwy o wybodaeth, gweler:
Gweithredu ar Dlodi | Youth Scotland
Effaith Gwaith Ieuenctid Cymunedol Cyffredinol yn Yr Alban | Youth Scotland
Llongyfarchiadau i Wasanaethau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ar gael eu Marc Ansawdd Arian, ac i Plant y Cymoedd ar eu Marc Ansawdd Efydd yn ddiweddar. Pob lwc i Princes Trust Cymru wrth iddyn nhw groesawu aseswyr ar gyfer eu Marc Ansawdd Efydd. |
|
|
Fe wnaeth CGA hefyd gynnal diwrnod datblygu ar gyfer aseswyr y marc Ansawdd ym mis Chwefror. Roedd y diwrnod yn llawn cyfleoedd i'n carfan gyfredol o aseswyr presennol ddatblygu eu sgiliau a rhannu arfer da. Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn aseswr, ewch i’r wefan.
Sut mae gwaith ieuenctid o ansawdd da a’i effaith yn helpu gyda gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru?
Mae Cadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Sharon Lovell wedi ysgrifennu blog ynghylch sut gall gwaith ieuenctid o safon gefnogi a thrawsnewid bywydau pobl ifanc. Gallwch ddarllen y blog ar wefan CGA, ynghyd â nifer o flogiau eraill ar faterion addysgol a phroffesiynol.
|
|
Dysgu proffesiynol gydag Addysgwyr Cymru
Os ydych am ddatblygu eich gyrfa, gall Addysgwyr Cymru helpu.
Mae’r tîm ar gael i roi gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i’ch helpu i fynd â’ch gyrfa i’r cam nesaf.
|
P’un a ydych yn chwilio am swydd newydd, yn archwilio cyfleoedd dysgu proffesiynol, neu angen gwybodaeth ar gymwysterau, cysylltwch â’r tîm heddiw, neu ewch i wefan Addysgwyr Cymru.
Lansiwyd Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru 2023 yn ddiweddar!
Hoffech chi i blant/pobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw gael eu cydnabod am eu cyfraniad at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb mewn digwyddiad rhyngwladol yng Nghymru?
|
|
|
Os felly, anogwch nhw i wneud cais ar gyfer Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2023. Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad llawnach o'r categorïau, a thelerau ac amodau'r Gwobrau, yma, yn ogystal â ffurflen gais.
|
|
Mae Panel Cynghori Ieuenctid Vibe yn chwilio am aelodau newydd!
|
Mae Vibe Youth yn Abertawe yn chwilio am bobl ifanc (11-25 oed) i ymuno â'i banel cynghori. Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a helpu i lunio sut mae Vibe Youth yn gweithio. Am ragor o wybodaeth ar Vibe Youth, cliciwch yma, neu cysylltwch ag info@vibeyouth.co.uk yn uniongyrchol.
Angen cyngor ar siarad â phobl ifanc am arian?
Os ydych yn cael eich hun yn siarad am arian gyda phobl ifanc, hoffem glywed gennych! Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch cefnogi chi ac eraill mewn rolau tebyg. I helpu, cwblhewch yr arolwg byr (5 munud) hwn https://harlowconsulting.welcomesyourfeedback.net/MaPSPractitionerSurvey2023
E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y bwletin nesaf.
Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|