Bwletin Gwaith Ieuenctid

Ionawr 2023

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

sharon

Sharon Lovell

Yn gyntaf, hoffwn ddymuno flwyddyn newydd dda i chi gyd.

Roedd yn wych gweld cymaint ohonoch yn Neuadd Brangwyn ym mis Rhagfyr ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 – am ddigwyddiad gwych!

Roeddwn mor falch o’r cyfoeth o ddarpariaeth gwaith ieuenctid a ddangoswyd mor hyfryd yn y lleoliad anhygoel hwnnw a’r ffordd ysbrydoledig y mae’r sector gwaith ieuenctid yn parhau bod mor arloesol gyda phobl ifanc a'r gwasanaethau ieuenctid arbennig sy'n digwydd yng Nghymru.

Gwn fod llawer ohonom yn wynebu cyfnod anodd ar hyn o bryd wrth i bwysau'r argyfwng costau byw effeithio ar ein gwasanaethau, ein cymunedau ac ein pobl ifanc. Rwyf wedi bod llawn parch tuag at eich gwytnwch yn wyneb y pwysau hyn.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhai ohonoch sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r Grwpiau Gweithredu Cyfranogiad newydd – bydd y grwpiau hyn a’ch mewnbwn yn amhrisiadwy wrth i ni symud ymlaen yn gyflym i ystyried yr 14 argymhelliad a wnaed gan y Bwrdd Dros Dro a datblygu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae'r grwpiau newydd hyn oll yn bwriadu ymgynnull am y tro cyntaf ym mis Chwefror. Dylai'r rhai sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â'r grwpiau hyn fod wedi derbyn gwybodaeth bellach am y camau nesaf erbyn hyn.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â phobl ifanc wrth i ni ddechrau’r cyfnod newydd hwn o waith, drwy’r Pwyllgor Pobl Ifanc a bod yn greadigol gyda ffyrdd newydd o gysylltu â phobl ifanc, drwy adeiladu ar lwyddiant arolygon ‘Dewch i Siarad’, gan fwydo i mewn i Argymhelliad y Bwrdd Dros Dro i adeiladu strwythur llywodraethu a arweinir gan bobl ifanc.

Mae adolygiad o’r cyllid sydd ar gael i’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac sy’n cael ei wario ganddo, bellach ar y gweill. Edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi maes o law ond os gofynnir i chi gymryd rhan yn y gwaith hwn, hoffwn eich annog i gymryd rhan. 

Hoffwn gloi gyda nodyn atgoffa o bwysigrwydd ymateb i’r ymgynghoriad ar gategorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg – y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 17 Chwefror. Ceir rhagor o fanylion yma.

Llais Person Ifanc

Mae Lucy Palmer, 21, o Promo Cymru wedi’i swyno gan sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n bwysig i bobl ifanc. Mae hi hefyd yn angerddol am leihau gwahaniaethu a hyrwyddo derbyn amrywiaeth yn ein cymunedau.

Yn ei herthygl isod mae Lucy yn disgrifio sut y bu’n cyfweld â phobl ifanc yn Pride Cymru fel rhan o ymgyrch #MwyNaMis TheSprout. Defnyddiwyd ei chyfweliadau i ddatblygu cynnwys ar gyfer cyfrif TikTok TheSprout i helpu i godi ymwybyddiaeth o deimladau pobl ifanc am gyfeiriadedd rhywiol a rhywedd a'u dealltwriaeth ohonynt.

Cafwyd ymateb enfawr i'r postiadau ac mae Lucy yn esbonio sut roedd hi'n teimlo am hyn, gan roi cipolwg ar yr hyn y mae hi wedi'i ddysgu o'r profiad.

Lucy Palmer

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel platfform i godi ymwybyddiaeth am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc.

Yn Pride Cymru daeth yr angerdd hwn i’r amlwg wrth i’m cydweithiwr a minnau gael cyfweld â 21 o bobl ifanc groyw, ddiddorol ar gyfer cyfrif TikTok TheSprout.

 

I ddechrau roedd y cysyniad o siarad â dieithriaid ar gamera yn frawychus. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a gyfwelwyd gennym yr un oedran â ni felly roedd yn teimlo'n chyfforddus ac roedd y bobl y gwnaethom eu cyfweld yn ymddangos yn agored ag onest gyda'u hatebion. Roedd ein meicroffon bach hefyd yn gwneud i bobl chwerthin a helpodd hynny i dorri'r iâ!

Gan fy mod yn berson cwiar fy hun roeddwn i'n meddwl fy mod yn gwybod y rhan fwyaf o'r hyn sydd i'w wybod am rywioldeb; ond dysgais gymaint am hunaniaethau rhywiol newydd a'r gwahaniaethau sy'n bodoli ynddynt.

Ar ôl i ni olygu'r cyfweliadau a dechrau eu huwchlwytho i TikTok, cawsant eu hoffi gan filoedd o bobl. Roedd ein cyfrif yn llawn sylwadau cadarnhaol a phobl yn eu hoffi. Fodd bynnag, ar ôl i un fideo yn benodol fynd yn firaol, gyda mwy na 3.5 miliwn o bobl yn ei wylio, dechreuodd miloedd o sylwadau atgas ymddangos. Nid oeddwn erioed wedi profi gwahaniaethu oherwydd fy nghyfeiriadedd rhywiol, felly roedd darllen cymaint o wahaniaethu wedi'i dargedu at bobl rhwng 16-18 yn bennaf yn dorcalonnus. Fe wnaeth fy atgoffa pa mor hawdd yw hi i amgylchynu'ch hun mewn siambr adlais o dderbyn ar-lein a pheidio â wynebu casineb o'r fath. Roedd rheoli'r sylwadau yn anodd, ond roedd yn atgof da iawn o'r heriau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu.

Ar yr ochr gadarnhaol serch hynny, mae’r profiad wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw cael cynnwys fel hyn oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu llais.

Roedd y bobl ifanc yn hapus iawn i gael cyfle i fynegi eu barn, rhannu profiadau ac egluro pa mor ddeinamig y gall rhywioldeb fod. Mae cymryd rhan wedi fy helpu i weld sut y gall creu cynnwys gyda phobl ifanc addysgu pobl am faterion o bwys a gall helpu i annog pobl i dderbyn ei gilydd.  

Roedd ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis yn gyfle gwych i bobl ifanc rannu eu hunaniaeth a’u barn am fod yn LGBTQ+ yng Nghymru. Roedd yr ymgyrch yn cynnig llwyfan i bobl ifanc LGBTQ+ ddefnyddio eu lleisiau a chael eu clywed, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang. Mae’r casineb a gafwyd yn y sylwadau yn adleisio cymaint ymhellach sydd angen i ni fynd fel cymdeithas i sicrhau bod pobl ifanc LGBTQ+ yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi, eu derbyn a’u cynnwys."

Darllenwch fwy am ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar wefan TheSprout.

Pride cymraeg

Ffocws Arbennig: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

crown cym

 

EYST Cymru yn derbyn Gwobr Gwirfoddoli Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II.

Llongyfarchiadau mawr i EYST Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr fel un o ddim ond 20 elusen genedlaethol i dderbyn Gwobr Gwirfoddoli Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II.

Mae hyn i gydnabod y cymorth y mae EYST yn ei gynnig i bobl ifanc BME, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae EYST yn darparu cefnogaeth benodol i bobl ifanc 16-25 oed trwy dri phrosiect: BME Youth Invest, The Think Project and the Young, Migrant and Welsh project, a oedd â’r nod o ymgysylltu â phobl o leiafrifoedd ethnig 16-25 oed i archwilio a chofnodi eu profiadau trwy greu ffilmiau i gynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o hanes a threftadaeth amrywiol Cymru.

Mae Gwobr Gwirfoddoli Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II yn wobr unwaith ac am byth a grëwyd i nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II ac 20 mlynedd o Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS). Mae’r rhestr lawn o ddyfarnwyr i’w gweld yn:  https://qavs.dcms.gov.uk/news

Am fwy o wybodaeth gweler: Ynglŷn ag EYST (yn Saesneg)

eyst

Yng Nghymru

emma chivers

 

Datblygu Arweinyddiaeth: Cynghorydd Newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn cael ei benodi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru 

Mae Emma Chivers wedi'i phenodi'n Gynghorydd Arwain Gwaith Ieuenctid ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (AGAA). 

Bydd Emma yn gweithio gyda’r sector gwaith ieuenctid i helpu i gynrychioli’r llais ‘gwaith ieuenctid’ a hyrwyddo diddordebau perthnasol o fewn yr AGAA Cymru a systemau addysg eraill.

Bydd Emma yn gweithio i'r AGAA Cymru am bedwar diwrnod y mis, gan weithio gydag arweinwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid i ddarparu cefnogaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd arweinyddiaeth a hyrwyddo arferion arweinyddiaeth da. Mae sawl cyfle i Arweinwyr Gwaith Ieuenctid gydweithio i wneud hyn, ac mae Emma yn awyddus i glywed sut y credwch y gall hi gefnogi a hwyluso hyn i ddigwydd yn ymarferol.

Mae gan Emma sawl rôl arall hefyd. Ar hyn o bryd hi yw’r hyfforddwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid ar gyfer Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru, sydd wedi’i chymeradwyo’n ddiweddar gan yr AGAA Cymru.  Ar hyn o bryd mae Emma yn aelod o’r Grŵp Llywio Arwain a Rheolaeth, a rhan o’i rôl gyda'r AGAA Cymru yw datblygu’r berthynas hon ymhellach.

Mae gan Emma dros bum mlynedd ar hugain o brofiad mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned ac mae wedi ymrwymo i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar bolisi ac arfer arwain a rheolaeth. Os hoffech edrych yn agosach ar waith yr AGAA Cymru, neu os oes gennych ddiddordeb mewn darparu astudiaeth achos ar arfer arweinyddiaeth dda, neu ddod yn Gydymaith, yna gallwch gael rhagor o wybodaeth yma neu cysylltwch ag Emma am sgwrs anffurfiol, drwy emma@ec-consultancy.co.uk.

Gwella Lles Ariannol trwy sgiliau ymarferol

maps

Mae llawer o weithwyr ieuenctid yn siarad â phlant a phobl ifanc am arian, yn darparu addysg ariannol anffurfiol ac yn cefnogi mynediad at arweiniad ariannol, gan ddibynnu'n aml ar ffynonellau gwybodaeth ad hoc, neu brofiad personol. Gan gydnabod yr angen am wybodaeth ddibynadwy a chywir, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi datblygu canllaw i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gyda’r nod o wella eu lles ariannol.

Nod y canllaw yw helpu awdurdodau lleol a staff gwasanaethau plant eraill, sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchiadau agored i niwed, i ymgorffori cyfleoedd ar gyfer dysgu am arian yn y cymorth a ddarperir ganddynt.  Mae'r Gwasanaeth hefyd wedi datblygu pecyn cymorth i ymarferwyr ledled y DU, gydag awgrymiadau ar arferion da a chyfeirio at adnoddau a gwasanaethau a all eu cefnogi i siarad â phlant a phobl ifanc am arian, darparu addysg ariannol anffurfiol a chefnogi mynediad at ganllawiau arian. Mae canllaw a phecyn cymorth Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

O amgylch y Byd

Cymerwch olwg ar Ganllaw newydd ERYICA ar Gyfranogiad Ieuenctid mewn Gwybodaeth Ieuenctid

 

eryica

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop  (ERYICA) ac Eurodesk ganllaw i gyfranogiad ieuenctid mewn gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid.

Nod y canllaw yw cefnogi darparwyr gwybodaeth ieuenctid i gynnwys pobl ifanc wrth ddylunio, darparu, lledaenu, gwerthuso a llywodraethu gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid. Mae'r cyhoeddiad yn rhoi trosolwg o bolisïau a safonau cyfranogiad ieuenctid a modelau cyfranogiad gwahanol. Ategir y canllaw gan awgrymiadau pendant, enghreifftiau o arferion da a rhestr adnoddau. Cynhyrchwyd y canllaw ar y cyd ag Eurodesk a grŵp o wirfoddolwyr ifanc. Gallwch ei lawrlwytho yma.

Mae ERYICA yn sefydliad Ewropeaidd annibynnol, sy'n cynnwys cyrff a rhwydweithiau cydlynu gwybodaeth ieuenctid cenedlaethol a rhanbarthol. Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru sy'n talu am aelodaeth Cymru yn ERYICA , sy’n golygu bod cyfleoedd (gan gynnwys gweminarau a digwyddiadau rhithwir rheolaidd) ar gael i weithwyr ieuenctid, rheolwyr, gwirfoddolwyr ac ati yn y sectorau gwirfoddol a statudol yng Nghymru.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

qm

 

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn parhau i ffynnu gyda mwy o sefydliadau’n derbyn achrediad yn 2022.

Llongyfarchiadau i Wrecsam ar eu Marc Ansawdd Arian, Welsh ICE am ennill eu Marc Ansawdd Efydd, a Sir Gaerfyrddin am eu Marc Ansawdd Aur. Pob lwc i Wasanaethau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot gyda’u cyflwyniad Arian ac Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru a Phlant y Cymoedd, wrth iddynt groesawu aseswyr i wneud eu Marc Ansawdd Efydd.

Rydym hefyd yn falch o gadarnhau y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i ddarparu a datblygu’r Marc Ansawdd yng Nghymru yn ystod 2023.

ewc

Ydych Chi Wedi Clywed?

Ceisiadau ar agor! Sefydliad Cymunedol Cymru - Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Mae’r Principality wedi lansio Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol newydd gwerth £500,000 gyda Sefydliad Cymunedol Cymru. Bydd grantiau yn helpu sefydliadau trydydd sector a chymunedol i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu ystod o sgiliau bywyd ymarferol. Y dyddiad cau i wneud cais am grant yw 8 Chwefror 2023. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Taith 1

Diweddariad Taith Cymru!

Mae cyllid Taith Llwybr 1 yn darparu symudiadau corfforol, rhithwir a chyfunol, allanol a mewnol i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. Dysgwch sut i gymryd rhan Taith Cymru.

Dysgu proffesiynol gydag Addysgwyr Cymru

Os ydych chi am ddatblygu eich gyrfa, gall Addysgwyr Cymru helpu. Mae tîm Addysgwyr Cymru ar gael i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i ddatblygu'ch gyrfa. P’un a ydych yn chwilio am swydd newydd, yn archwilio cyfleoedd dysgu proffesiynol neu angen gwybodaeth am gymwysterau, cysylltwch â’r tîm heddiw, neu ewch i wefan Addysgwyr Cymru.

educators wales

Hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn rhad ac am ddim!

Mae tîm Addysgwyr Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r sector gwaith ieuenctid i adolygu a diweddaru'r tudalennau gyrfaoedd ar wefan Addysgwyr Cymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl ddarparwyr hyfforddiant perthnasol yn hysbysebu eu cymwysterau a'u cyfleoedd dysgu proffesiynol. Os yw eich sefydliad yn darparu cymwysterau, dysgu proffesiynol neu swyddi gweigion gallwch hyrwyddo eich cyfleoedd yn rhad ac am ddim ar Addysgwyr Cymru. Cofrestrwch nawr drwy'r wefan neu cysylltwch â'r tîm am ragor o wybodaeth.

Gwobrau Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog – lleihau rhwystrau i addysg a chyflogaeth

Mae cyllid o hyd at £500 ar gael i helpu i gael gwared ar rwystrau i addysg neu gyflogaeth i bobl ifanc. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi ariannu pob math o bethau! O liniaduron, offer trin gwallt a gwaith barbwr, i wisgoedd ar gyfer pobl ifanc sy'n cofrestru yn y coleg, i gostau teithio mis cyntaf swydd newydd, neu ddillad ar gyfer cyfweliad. Cysylltwch ar 0800 842 842 neu ewch i: Cael cyllid i hyfforddi a dysgu | Help ar gyfer pobl ifanc am ragor o wybodaeth.

yha

Rhowch rhywbeth yn ôl a chefnogwch elusen ieuenctid: Cyfleoedd gwirfoddoli YHA i bobl 18+ oed

Beth am wirfoddoli mewn amgylchedd cefnogol gyda thîm cyfeillgar, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd! Darperir costau llety a theithio. Mae pob gwyliau gweithio'n cynnwys pryd o fwyd fel diolch a rhywfaint o amser rhydd er mwyn i chi allu archwilio'r ardal gyfagos!  Mwy o wybodaeth yma: Digwyddiadau YHA (Cymru a Lloegr)

O dan 25 ac yn chwilio am gymorth busnes?

Mae Syniadau Mawr Cymru yma i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru.

Mae'r tîm yn cynnal gweminarau gwych i gefnogi'r rhai sy'n cychwyn ac yn rhedeg busnesau yn ystod y misoedd nesaf. Mae gweminarau AM DDIM ac yn agored i unrhyw un o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau cliciwch yma.

Diweddariad ar y Grwpiau Gweithredu Cyfranogiad (IPGs). 

Diolch i bawb a fynegodd ddiddordeb yn y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu (IPGs).

Dylai pawb a fynegodd ddiddordeb fod wedi derbyn ymateb erbyn hyn. Unwaith y bydd cyfarfodydd yn dechrau, bydd gwybodaeth am Gylch Gorchwyl a chynlluniau gwaith yn cael eu cadw ar dudalen y Bwrdd Gwaith Ieuenctid: Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid | LLYW.CYMRU

Meic

Byddwch yn Rhan o'r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: