Bwletin Gwaith Ieuenctid

Mehefin 2022

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd newydd y Bwrdd

sharon

Sharon Lovell

Pleser o’r mwyaf yw ysgrifennu atoch fel Cadeirydd newydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi wrth i ni fwrw ymlaen i weithredu argymhellion adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’.

Cam nesaf y gwaith pwysig hwn fydd sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Dim ond gyda’r cydweithio rhwng y sector a Llywodraeth Cymru y bu’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma yn bosibl, a byddaf yn parhau i ymgysylltu â chi i gyd wrth i ni ddechrau ar y cam nesaf.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’m cyd-aelodau ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a’r Pwyllgor Pobl Ifanc sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Mae’r ymroddiad, yr ymrwymiad a’r angerdd at waith ieuenctid wedi bod yn rhagorol yn ystod cyfnod heriol iawn. Diolch i Jo Simms, Eleri Thomas, Efa Gruffudd Jones, Simon Stewart a Dusty Kennedy. Mae Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Keith Towler, wedi dangos arweiniad rhagorol ac rwy’n gwybod bod yr ymroddiad y mae wedi’i ddangos a’r ffordd y mae wedi parchu ac ymgysylltu â’r sector wedi cyfrannu at ymrwymiad o £11.4 miliwn ychwanegol dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi gweithredu’r argymhellion. Diolch, Keith.

Rwy’n edrych ymlaen at recriwtio unigolion i Fwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a all roi ein gweledigaeth ar waith. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r hysbyseb hwn mor eang â phosib drwy’ch rhwydweithiau, er mwyn annog amrediad eang ac amrywiol o ymgeiswyr. Gyda’n gilydd, byddwn yn blaenoriaethu ein cynllun gwaith ac yn gweithio gyda phobl ifanc a’r sector i gyflawni hyn. Bydd dechrau’r gwaith hwnnw yn edrych ar adolygiad o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gryfhau deddfwriaeth a rôlau/cyfrifoldebau unrhyw gorff cenedlaethol posibl. Byddaf yn ymrwymo i weithio gyda phobl ifanc i sicrhau eu bod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Wrth i ni i gyd edrych ymlaen at Wythnos Gwaith Ieuenctid (23-30 Mehefin), mae’r bwletin hwn yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â chreu gweithlu sy’n gynaliadwy ledled Cymru; gan ystyried yr amrywiaeth yn ein hiaith a’n diwylliant cyfoethog a gweithio tuag at sicrhau ei fod yn sector sy’n cael ei ddeall a’i werthfawrogi.

Rwyf am eich gadael gyda dyfyniad gan berson ifanc i ddangos y gwahaniaeth rydych CHI a gwaith ieuenctid yn ei wneud.

Mae gwaith ieuenctid yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nerbyn; dyma’r unig le rwy’n teimlo y galla i fod yn fi fy hun. Mae’n lle diogel iawn, dwi’n gallu gweld fy ffrindiau a chael hwyl. Pan oeddwn i’n ddigartref, fe wnaethon nhw roi to uwch fy mhen, pan oeddwn i’n teimlo ar goll, fe ddaethon nhw o hyd i fi - dwi eisiau bod yn weithiwr ieuenctid un diwrnod.”

Llais Person Ifanc

Stori Mari: gwirfoddoli yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Mae Mari Roberts o Fetws Gwerful Goch yn 16 mlwydd oed ac yn mynychu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Roedd Mari’n aelod o’r ‘Criw Croeso’ yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych ac mae hi’n rhannu’r profiad o wirfoddoli hefo nhw am yr wythnos – yn dosbarthu mapiau, ateb cwestiynau a rhoi cyngor i bobl ar y maes.

“Mi wnes i wir fwynhau fy hun yn gwirfoddoli yn ystod yr Eisteddfod. Un o’r uchafbwyntiau oedd gwisgo fyny fel Mr Urdd, hefo pobl o bob oed yn ciwio fyny i gael ‘selffi’ hefo Mr Urdd!

Mari

Gawson ni gymaint o hwyl, hyd yn oed pan oedden ni’n golchi llestri i’r bobl ifanc oedd yn cystadlu gyda CogUrdd.

Mi wnaeth y tocynnau am ddim eleni andros o wahaniaeth – mi wnaeth gymaint o bobl leol ddod draw. Daeth fy ffrindiau i gyd, hyd yn oed y rhai sydd ddim fel arfer yn mynd i’r Eisteddfod, a mi roedd yna gymaint o gyffro a hwyl ar y maes. Mi roedd yn brofiad grêt cael dangos iddyn nhw beth oedd Eisteddfod – y stondinau, y gweithgareddau a’r bandiau byw ddiwedd yr wythnos.”

Roedd Mari’n aelod o gast sioe “Fi ‘di Fi” a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer pobl ifanc Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Glan Clwyd gan Angharad Llwyd Beech ac Ynyr Llwyd. “Roedden ni wedi dechrau ymarfer yn 2020, ac roedd yn wych cyfarfod pobl ifanc eraill yn yr ardal oedd eisiau bod yn rhan o’r sioe. Wedyn pan ddaeth Covid doedden ni ddim yn gwybod a fydden ni byth yn llwyfannu’r sioe. Felly roedd bod nôl hefo’n gilydd unwaith eto’n brofiad anhygoel a roedd gweld y sioe’n dod at ei gilydd yn brofiad mor gyffrous. O’r diwedd roedden ni’n cael perfformio’n fyw o flaen cynulleidfa go iawn a roedd bod ar y llwyfan yn perfformio hefo pobl ifanc eraill yn wefreiddiol.”

Bu Mari hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod gyda’r ysgol ac ennill y wobr 1af gyda ‘Academi Indigo’ am Ddetholiad o Ddrama Gerdd. “Roedd cystadlu hefo fy ffrindiau ac ennill y wobr 1af yn gymaint o fraint. Roedd rhai o’r aelodau wedi dysgu Cymraeg am y tro cynta er mwyn cystadlu a dysgu’r caneuon yn Gymraeg. Roedd yn brofiad gwych gallu cynrychioli ei ardal a chael hwyl yn dysgu caneuon a sgiliau newydd. Roedd ennill y wobr gyntaf yn eisin ar y gacen.”

“Roedd yr Eisteddfod eleni wir yn teimlo fel ei fod yn rhan ohonan ni, y bobl ifanc lleol. Roedd yr Urdd wedi rhoi cymaint o gyfleon i bobl fel fi. Ac mi roedd mor ysbrydoledig i ni gael dangos ein talent, ein iaith a’n treftadaeth i bobl eraill oedd yn mynychu’r Eisteddfod. Dwi’n meddwl y bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r iaith ac i bobl ifanc eraill yn yr ardal. Mae o wedi ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg ac i garu’r Eisteddfod.

“Os ydi’r Eisteddfod yn dod i ardal byddwn i bendant yn argymell gwirfoddoli yno – roedd yn brofiad anhygoel. Nawn ni byth anghofio’r Eisteddfod yma, a da ni’n barod yn gwneud cynlluniau i fynd yn 2023!”

Ffocws Arbennig: Ddatblygu’r Gweithlu

Yn y rhifyn hwn, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu. Mae Sharon Lovell yn trafod pam mae creu gwasanaeth ieuenctid sy’n cael ei sbarduno gan weithlu cynaliadwy sy’n darparu dull un sector o werthfawrogi’r hyn mae gwaith ieuenctid yn ei wneud yn un o flaenoriaethau’r Bwrdd.

“Mae datblygu’r gweithlu yn hynod bwysig. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud cynnydd - gan godi ymwybyddiaeth o waith ieuenctid fel dewis gyrfa a lle i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u hyfforddi’n briodol. Mae darparu hyfforddiant a chyfleoedd parhaus i staff a gwirfoddolwyr gael mynediad at ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn hollbwysig i greu cynaliadwyedd. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod pobl ifanc yn cyflawni rhagoriaeth mewn darpariaeth gwaith ieuenctid.

Mae argymhelliad 13 yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’ yn disgrifio pwysigrwydd datblygu cynllun datblygu’r gweithlu sy’n mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw, sefydlu, dyrchafiad, datblygu gyrfa a gwirfoddoli gwerthoedd. Mae’n gynllun a fydd yn codi safonau gwaith ieuenctid.

Gwyddom fod y sector yn llawn sgiliau ond yr hyn sy’n heriol i ni yw rhannu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon ar draws meysydd polisi eraill. Mae methodolegau, egwyddorion ac arferion gwaith ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth enfawr mewn lleoliadau eraill megis addysg, iechyd, tai, hamdden a gofal cymdeithasol. Byddai datblygu a gweithredu cynllun datblygu gweithlu ar gyfer gwaith ieuenctid a grëwyd yn genedlaethol ond sy’n caniatáu lle ar gyfer anghenion rhanbarthol a lleol yn sbarduno cynnydd tuag at sicrhau bod gennym wasanaeth amrywiol a hygyrch sy’n diwallu anghenion pob person ifanc.

Mae rhai o’r materion y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw ymhellach wrth i ni symud ymlaen yn cynnwys "A ydym eisiau sector a arolygir? Sut mae cryfhau’r broses o gofrestru gweithwyr ieuenctid, sut rydym yn gweithredu fframwaith canlyniadau sy’n adlewyrchu go iawn y gwahaniaeth mae gwaith ieuenctid yn ei wneud a sut mae pobl ifanc yn ganolog i ddiffinio’r canlyniadau hynny?

Mae gwybodaeth a mannau digidol wedi dod mor bwysig yn ogystal â gwaith wyneb yn wyneb. Mae'n rhaid i ni gefnogi ein gweithlu i feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwybodaeth ieuenctid wrth gadw pobl ifanc yn ddiogel tra'n eu galluogi i gael yr hawl i gael mynediad at wybodaeth ar yr un pryd.

Rwy’n gwybod bod y sector gwaith ieuenctid eisoes yn llawn unigolion creadigol, medrus ac ymroddedig, a bydd ein gwaith wrth symud ymlaen yn cryfhau hyder ac uchelgeisiau gwasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer”.

Dechrau arni mewn Gwaith Ieuenctid

Kelly YMCA

Mae Kelly Powell yn ei blwyddyn gyntaf o astudio (Lefel 4) ar gyfer y BA (Anrh) mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (JNC) ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae Kelly, sydd ar leoliad ym YMCA Abertawe ar hyn o bryd, yn esbonio ei phrofiad o ddechrau gyrfa mewn gwaith ieuenctid.

“Mae fy llwybr i mewn i waith ieuenctid wedi bod yn un rhyfedd!

Roedden i wastad wedi bod eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc a, chyn y pandemig, roeddwn i yn y broses o ddod yn Gynorthwyydd Addysgu mewn ysgol. Pan gaewyd yr ysgol oherwydd y coronafeirws, penderfynais ddilyn cwrs diogelu a oedd yn cael ei gynnig gan yr YMCA yn Abertawe. Roeddwn i wedi gweld y cwrs drwy hap a damwain, pan ddechreuais i fynd i’r YMCA i ddefnyddio’r gampfa – felly fe wnes i gofrestru yn bennaf gan fy mod i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol pan fyddwn i’n dychwelyd i’r ysgol.

Unwaith i mi ddechrau ymwneud â’r YMCA a threulio amser yno, dechreuais sylweddoli bod cymaint am waith ieuenctid a oedd yn apelio ataf – doeddwn i erioed wedi meddwl am y peth mewn gwirionedd.

Dwi wrth fy modd â’r ffaith bod cyfranogiad yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac yn wirfoddol, a dwi wrth fy modd gyda’r syniad o weithio gyda phobl o bob oedran. Mae’r cwrs diogelu wedi rhoi hwb i’m hyder a, phan ddaeth i ben, penderfynais wneud cais i barhau i astudio – dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.

Mae’r cwrs dwi’n ei astudio nawr wedi’i leoli yn Wrecsam, ond dwi’n gallu astudio ar-lein. Mae’r cymorth gan yr adran wedi bod yn wych – mae pawb yn groesawgar iawn, sy’n bwysig iawn i mi, yn enwedig gan fy mod i’n ddyslecsig, felly mae rhai agweddau ar astudio yn heriol i mi. Mae’r cwrs yn darparu llawer o wybodaeth am theori gwaith ieuenctid a chymunedol, yn ogystal â’r cyfle i gael lleoliad gwaith a dysgu gan weithwyr proffesiynol eraill. Dwi wedi cael cefnogaeth wych, sy’n bwysig iawn pan rydych chi’n astudio ac yn gweithio. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd cael pobl o gwmpas sydd wedi bod drwy’r hyn rydych chi’n ei wneud - yn fy marn i, mae hyn yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy’n dysgu ar-lein, lle nad oes gennych chi gymorth pobl eraill yn yr ystafell ddosbarth.

Dwi ar leoliad yn yr YMCA yn Abertawe ar hyn o bryd, sy’n wych ac mae’r cymorth wedi bod yn wych yma. Dwi wedi bod yn gweithio ar brosiect cyflogadwyedd, dwi wedi helpu i gynllunio gweithdai, rhedeg clwb ieuenctid ac, ar hyn o bryd, dwi’n helpu i gynllunio gweithgareddau Haf o Hwyl. Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr dwi  wedi’i ddysgu am weithio gyda phobl ifanc yw pwysigrwydd dod i’w hadnabod, deall eu straeon a chael fy arwain ganddyn nhw. Mae meithrin perthynas â phobl ifanc a phennu sut i’w helpu yn rhoi boddhad mawr i mi. Dwi wrth fy modd!

Ym mis Medi, bydda i’n dechrau blwyddyn nesaf y cwrs (Lefel 5) ac, ar ôl i mi raddio, dwi’n edrych ymlaen at weld pa gyfleoedd a ddaw yn sgil gweithio ym maes gwaith ieuenctid.”

Yng Nghymru

Ar draws y sector gwaith ieuenctid, cydnabyddir bod recriwtio gweithwyr ieuenctid â chymwysterau proffesiynol (sy’n gymwys adeg eu penodi) yn her.

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn defnyddio dull prentisiaeth i helpu i oresgyn hyn.

ceredigion cc

Mae’n cyfuno gwaith ac astudio ac yn rhoi cyfle i brentisiaid ennill profiad gwerthfawr yn y gwaith wrth astudio tuag at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant. Cytunodd rhai o’r prentisiaid hynny i rannu eu straeon…

Stori Gareth, Cyngor Sir Ceredigion

Mae stori prentisiaeth ddiweddar Gareth yn cael sylw mewn ffilm hyrwyddo gan Gofalwn.Cymru yma: Fersiwn Saesneg, Isdeitlau Cymraeg.

gareth

Aeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ati i roi cynnig ar Gynllun Prentisiaeth Corfforaethol a gynhaliwyd gan Dîm Dysgu a Datblygu’r Cyngor am y tro cyntaf yn 2019, gan benodi Gareth John, a oedd wedi graddio yn ddiweddar. Roedd ymrwymiad ac ymdrech Gareth i ddysgu a datblygu yn y maes yn glir.

Enillodd brofiad mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, gan gynnwys ysgolion, allgymorth, cyfranogiad a mynediad agored. O ganlyniad i’r cynllun prentisiaeth, ynghyd â’i ddull naturiol a medrus o ymdrin â gwaith ieuenctid, aeth Gareth ymlaen i gael cyflogaeth barhaol fel gweithiwr ieuenctid llawn amser gyda’r tîm. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at gwblhau ei gymhwyster Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid. Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n argymell prentisiaeth i eraill fel llwybr i yrfa tymor hwy, dywedodd Gareth, "Yn bendant[...], ar ôl mynd drwy’r flwyddyn brentisiaeth a chael swydd lawn amser yn y gwasanaeth ieuenctid, mi wnes i sylweddoli pa mor lwcus oeddwn i i gael y cyfle i fod yn brentis. Gallwch ennill gwybodaeth a phrofiad helaeth am y gwasanaeth, gan ennill cyflog da ar yr un pryd.”

Stori Annie, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi cynnal rhaglen brentisiaeth gwaith ieuenctid lwyddiannus.  Mae Annie Green, sy’n 21 oed, yn rhan o’r garfan ddiweddaraf i gwblhau’r cynllun, ynghyd â Shona Johnson, 24 oed, Kaci Oram, 20 oed, Ella Judge, 20 oed, a Gabrielle Jolliffee, 21 oed.

annie

Mewn dull partneriaeth waith, caiff prentisiaid eu cyflogi fel hyfforddeion ar raglen un flwyddyn sy’n cynnwys sesiynau dysgu seiliedig ar waith ac a addysgir, gyda chyflogaeth â thâl am 30 awr yr wythnos ar gyflog prentisiaeth o fewn Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen.  

Mae prentisiaid sy’n cwblhau’r rhaglen hyfforddi yn ennill cymwysterau gwaith ieuenctid achrededig y Cyd-bwyllgor Negodi (JNC), yn ogystal â phrofiad ymarferol mewn lleoliad gwaith ieuenctid. Mae prentisiaid hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, sy’n ymdrin â phynciau megis gweithio mewn tîm, sgiliau cyfathrebu, ymarfer ar leoliad a chynnydd personol.

Mae Annie yn disgrifio sut mae’r cynllun wedi ei chefnogi i gydnabod ei huchelgeisiau ei hun i fod yn weithiwr ieuenctid, gan esbonio "mae wedi bod yn gyfle dysgu gwych i mi gan nad oedd gen i’r hyder i fanteisio ar hyfforddiant ffurfiol yn fy ngholeg lleol.

“Dwi wedi gallu profi sut beth yw gweithio mewn amgylchedd go iawn, dwi wedi ennill cymaint o sgiliau newydd a dwi wedi magu hyder. Yn ogystal, mae gen i gymhwyster cydnabyddedig a fydd yn fy helpu i roi hwb i’m gyrfa ym maes gwaith ieuenctid. A dwi wrth fy modd yn fwy na dim byd arall mod i wedi cael lle yn y brifysgol ym mis Medi. “

Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau yng Nghymru. Prentisiaethau | LLYW.CYMRU

O amgylch y Byd

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Canmlwyddiant yr Urdd: Yr Argyfwng Hinsawdd

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Canmlwyddiant yr Urdd ar gyfer 2022 yn alwad i weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio pwysigrwydd a grym eu llais i annog llywodraethau a chorfforaethau mawr i gymryd camau brys i achub ein planed.

Ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, lansiwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022 mewn digwyddiad pwrpasol yng nghwmni’r Prif Weinidog Mark Drakeford yng Nghanolfan Heddwch Nobel, Oslo, Norwy. Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd y myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a greodd neges eleni.

Er mwyn cryfhau pwysigrwydd rhyngwladol y neges, ffurfiwyd partneriaeth ffurfiol rhwng myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a grŵp o fyfyrwyr o’r Brifysgol Gwyddorau Bywyd yn Norwy.

Cofnododd y myfyrwyr gyfres o addewidion argyfwng hinsawdd personol sy’n cynnwys teithio llai, prynu cynnyrch lleol, gwneud gwell defnydd o golur, osgoi ffasiwn cyflym ac ymgyrchu ar faterion amgylcheddol. Gellir gweld yr addewidion unigol yma.

urdd100

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r Marc Ansawdd yn cefnogi ac yn cydnabod gwella safonau o ran darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwaith ieuenctid ledled Cymru. Mae’n helpu’r sefydliadau hynny i arddangos a dathlu rhagoriaeth yn eu gwaith gyda phobl ifanc.

Y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a NYAS Cymru yw’r sefydliadau diweddaraf i ennill y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (QMYW) yng Nghymru. Ar ôl asesiad cadarn, dyfarnwyd y wobr efydd i EYST a NYAS Cymru, tra bod Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi adnewyddu ei wobr arian.

Darllenwch amdano ar wefan CGA.

quality mark

Ydych Chi Wedi Clywed?

Cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol

A hoffech chi’r wybodaeth a’r sgiliau i ddylunio gwasanaethau digidol gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y person? Mae ProMo-Cymru, drwy raglen Newid, yn darparu cwrs Dylunio Gwasanaethau modiwlaidd am ddim i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae’n darparu mynediad at offer ac adnoddau digidol am ddim, a sgiliau i ddatrys heriau bywyd go iawn. Dysgwch fwy.

yww c

23-30 Mehefin yw Wythnos Gwaith Ieuenctid – ydych chi’n barod?

Dilynwch @YWWales ar Twitter a Facebook i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau Wythnos Gwaith Ieuenctid, a lawr lwythwch adnoddau o wefan CWVYS yma.

Wythnos Gwaith Ieuenctid – cofrestrwch ar gyfer dau ddigwyddiad  arbennig ar-lein

Cofrestrwch yma ar gyfer gweminar Wythnos Gwaith Ieuenctid arbennig a gynhelir gan CGA ac sy’n cynnwys Jim Sweeney MBE (cyn-Brif Weithredwr, YouthLink Scotland), ac yn rhoi cipolwg ar y dulliau a arweiniodd at sector unedig â ffocws yn yr Alban. Ymunwch â’r sgwrs: 23 Mehefin, 4-5.30pm, a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb.

Cofrestrwch yma ar gyfer gweithdy Wythnos Gwaith Ieuenctid ar-lein am ddim, ‘Adeiladu gwydnwch a chefnogi lles i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc’, bydd y gweithdy (ar 28 Mehefin, 10.00-12.00) yn cael ei arwain gan Victoria English, ymgynghorydd iechyd meddwl arobryn.

yww

Mordeithiau Preswyl Her Cymru

Mae gan Her Cymru anturiaethau anhygoel a chyffrous ar y moroedd mawr i’w cynnig i bobl ifanc yr haf hwn. Mae mordeithiau preswyl yr haf ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed wedi’u cynllunio ar gyfer dyddiadau ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst, gyda bwrsariaethau ar gael i helpu gyda chostau. Dysgwch fwy yma.

Plan International yn lansio Young Change Maker Grant Scheme 2.0

Mae’r grant hwn yn ariannu pobl ifanc yng Nghymru i redeg prosiectau yn eu cymuned sy’n cefnogi cydraddoldeb rhywiol. Gall sefydliadau ieuenctid hefyd gefnogi’r prosiect i bobl ifanc a chael y cyllid ar eu rhan. Mae’r grant yn agored i unrhyw un 13-24 oed ac sy’n byw yng Nghymru. Dysgwch fwy yma. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Gorffennaf.

plan int
urdd games

Gemau Stryd yr Urdd, Caerdydd, 18-19 Mehefin

Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos chwaraeon sy’n newydd i’r Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad, gan annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gŵyl ym Mae Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Addysgwyr Cymru

Gofalwch eich bod yn edrych ar Addysgwyr Cymru, y gwasanaeth am ddim. Mae’n cynnig mynediad diderfyn i chi at gannoedd o swyddi, cyfleoedd dysgu proffesiynol a gwybodaeth am lwybrau gyrfa ar draws y sector addysg yng Nghymru.

ewc

A yw eich cofnod cofrestru CGA yn gywir?

Gyda’r cyfnod cofrestru ar gyfer 2022-23 wedi dod i ben, mae’n amser perffaith i wirio bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir. Gallwch wirio eich cofnod nawr drwy fewngofnodi i MyEWC.

Mwy o reolaeth gyda diweddariad newydd y PDP

Mae diweddariad diweddar i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) bellach yn rhoi mwy o reolaeth i chi ynghylch fel yr ydych chi’n rhyngweithio â’ch safonau proffesiynol. Dysgwch fwy ar wefan CGA.

Pa mor hygyrch yw gwasanaethau CGA?

Mae CGA yn awyddus i wybod sut y gall wella hygyrchedd eu cyfathrebiadau a’u gwasanaethau. Mynegwch eich barn drwy gwblhau’r arolwg byr hwn.

ewc

Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru

Mae CGGC wedi lansio cylch ariannu 2022/23 ar gyfer Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Mehefin. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Gwneud gwahaniaeth: dod yn llywodraethwr ysgol

Mae byrddau llywodraethu ysgolion angen pobl ag ystod eang o sgiliau i redeg yn effeithiol. A allwch chi helpu i gefnogi pobl ifanc yn eich cymuned drwy wirfoddoli? Bydd yr elusen Llywodraethwyr i Ysgolion yn eich cefnogi i ddod o hyd i ysgol leol sydd mewn angen. Cofrestrwch yma ar gyfer gweminar ar 29 Mehefin sy’n rhoi gwybodaeth am y rôl, neu cliciwch yma i wneud cais.

Sioe Addysg Genedlaethol 2022

7 Hydref 2022, Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Archebwch eich tocyn mynediad AM DDIM heddiw a dewch i ddweud Helo i @YWWales ar sondin 59! 

E-bostiwch info@nationaleducationshow.com ar gyfer archebion grŵp i gael mynediad AM DDIM i’r.

Digwyddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg sydd ar y gweill

Cymerwch olwg ac archebwch eich lle. Mae digwyddiadau mis Mehefin yn cynnwys: Aros yn Iach: Strategaethau iechyd meddwl a lles ymarferol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru (ewc.wales); yn ogystal â digwyddiad Wythnos Gwaith Ieuenctid arbennig: “Does neb mor glyfar â phawb”: astudiaeth achos mewn cyfranogi a phartneriaeth (ewc.wales).

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: