Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Mai 2022


chef

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Wythnos Twristiaeth Cymru 2022,15 – 22 Mai: Cymerwch ran; Dewch i Lunio’r Dyfodol: adolygiad o weithgareddau’r cynllun adfer; NODYN ATGOFFA: Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw 13 Mai - Cyfleoedd i fynychu arddangosfeydd a gweithdai y Diwydiant Teithio 2022 & 2023; Y Diwydiant Teithio: Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd – recordiad o weminar a gwybodaeth bellach ar gael; Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru; Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad Twristiaeth dros Wynedd; Croeso Sir Benfro: Digwyddiadau ymgynghori ar Dwristiaeth yn Sir Benfro; Pub is the Hub 2022 – grantiau cymunedol; Jiwbilî Platinwm y Frenhines: Oriau trwyddedu; Ymfudwyr a Chyflogaeth


Wythnos Twristiaeth Cymru 2022,15 – 22 Mai: Cymerwch ran

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle i safleoedd twristiaeth ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o'r sector ac arddangos ansawdd yr hyn sydd ar gael i dwristiaid – twristiaid o’r DU a thwristiaid rhyngwladol. 

Eleni mae'r thema ar gyfer yr wythnos yn cefnogi ymgyrch sgiliau a recriwtio’r sector  Twristiaeth a Lletygarwch, sef #crewyrprofiad – gan helpu i dynnu sylw at yrfaoedd a chyfleoedd gwaith yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn 2021 gan Groeso Cymru, ar y cyd â Phartneriaeth Twristiaeth a Sgiliau Cymru – partneriaeth a arweinir gan y diwydiant. Mae'r ymgyrch yn cefnogi'r sector ac yn codi ymwybyddiaeth o'r niferoedd uchel o swyddi gwag a'r amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Neges yr ymgyrch yw ymunwch â'r crewyr profiad, ac mae’r neges yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chymru’n Gweithio Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Cymru’n Gweithio (llyw.cymru).

Dysgwch fwy am Wythnos Twristiaeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ichi gymryd rhan a digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yma: Wythnos Twristiaeth Cymru – Cynghrair Twristiaeth Cymru (wta.org.uk).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno ar y cyfryngau cymdeithasol: Cadwch lygad am swyddi gan ddefnyddio #crewyrprofiad a'u rhannu ar draws eich platfformau – helpwch ni i annog rhagor o bobl i weithio maes twristiaeth a lletygarwch.


Dewch i Lunio’r Dyfodol: adolygiad o weithgareddau’r cynllun adfer

Pan gyhoeddwyd y cynllun adfer (Dewch i Lunio’r Dyfodol) ym mis Mawrth 2021 fe'i cynlluniwyd fel haen ychwanegol o ymyriadau mewn ymateb i'r heriau uniongyrchol a achosir gan bandemig COVID-19. Wedyn byddai'n pontio'n ôl i gynllun gweithredu Croeso Cymru (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025).

Cafodd y cynllun adfer ei lywio gan randdeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae'r rhanddeiliaid hynny wedi parhau i chwarae rhan ganolog amhrisiadwy drwy gydol cyfnod y cynllun, yn enwedig drwy eu gwahanol gweithgareddau a'u hadborth i Lywodraeth Cymru – sydd wedi helpu i lunio llawer o'r ymyriadau ar y cyd wrth iddynt gael eu cyflwyno.

Mae adolygiad o’r gweithgareddau yn y cynllun hwnnw (sy’n cynnwys Mawrth 2021 – Mawrth 2022) bellach ar gael. 


NODYN ATGOFFA: Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw 13 Mai - Cyfleoedd i fynychu arddangosfeydd a gweithdai y Diwydiant Teithio 2022 & 2023

Ar hyn o bryd mae Croeso Cymru yn cynllunio rhaglen digwyddiadau Busnes i Fusnes y Diwydiant Teithio (B2B) ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023, ac yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb i asesu’r galw.  Bydd cyfuniad o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithdai wyneb yn wyneb a rhithwir.

Mae'r digwyddiadau arfaethedig yn cynnwys:

(Bydd cyhoeddiad am ddigwyddiadau VisitBritain yn dilyn cyn bo hir.)

Darllenwch yr holl fanylion yn ein bwletin blaenorol a dysgwch fwy yn Arddangosfeydd a Gweithdai y Diwydiant Teithio 2022 – 2023 | Busnes Cymru (llyw.cymru).

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich 'Datganiad o Ddiddordeb' yw 13 Mai 2022.


Y Diwydiant Teithio: Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd – recordiad o weminar a gwybodaeth bellach ar gael

Ar 4 Mai, fe ymunodd Croeso Cymru â Mike Newman o b2me Tourism Marketing Ltd i ddarparu gweminar hyfforddi am ddim. Roedd yn amlinellu’r cyfleoedd ar gyfer gweithio gyda'r Diwydiant Teithio ac yn tynnu sylw at dueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn dilyn COVID.

Roedd y gweminar yn rhoi cyfle i fusnesau ddysgu mwy am y Diwydiant Teithio a sut i ddechrau gweithio yn y sector hwn, yn ogystal â diweddaru gwybodaeth y rheini sydd eisoes yn gyfarwydd â gweithio yn y diwydiant.

Mae pecyn cymorth ar gyfer y Diwydiant Teithio a recordiad o’r sesiwn ar gael yma: Gweminar Fasnach Deithio – Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd - 4 Mai 2022 | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

Dathlodd y Prif Weinidog 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru gydag ymweliad i gwrdd â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw.

Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd sy'n dathlu Llwybr Arfordir Cymru drwy gydol 2022, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosodiadau celf.

Darllenwch y cyhoeddiad llawn yn Llyw.Cymru a gwelwch Ddatganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru (11 Mai 2022) | LLYW.CYMRU.

Mae’r adolygiad a’r argymhellion ar gyfer datblygu Llwybr Arfordir Cymru yn y dyfodol wedi cael eu cyhoeddi ac maent ar gael yma Llwybr Arfordir Cymru: adolygiad dengmlwyddiant | LLYW.CYMRU.


Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad Twristiaeth dros Wynedd

Mae Cynllun Llysgennad Gwynedd yn cynnig cyfle hyfforddi ar-lein i wella eich gwybodaeth am y cynnig twristiaeth yng Ngwynedd gyfan; ei thirweddau trawiadol, anturiaethau awyr agored, ei diwylliant bywiog a’i threftadaeth gyfoethog.

Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Gwynedd byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi profiad cyffredinol yr ymwelydd.

Dysgwch sut i gymryd rhan yma: Cwrs Llysgennad Gwynedd – Llysgenhadon Cymru a dysgwch fwy am Gynllun Llysgenhadon Cymru yn: Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)


Croeso Sir Benfro: Digwyddiadau ymgynghori ar Dwristiaeth yn Sir Benfro

Mae Croeso Sir Benfro yn cynnal digwyddiad yn Sir Benfro ar gyfer y diwydiant twristiaeth, rhanddeiliaid lleol a'r rhai y mae twristiaeth yn effeithio ar eu gwaith – boed hynny’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol – i geisio mewnbwn i'w cynllun twristiaeth rhanbarthol.

Dysgwch fwy ac archebwch le yn Consultation on Tourism in Pembrokeshire Tickets, Thu, May 26, 2022 at 2:00 PM | Eventbrite.


Pub is the Hub 2022 – grantiau cymunedol

Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, trwyddedeion a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gefnogi a chynnal gwasanaethau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd Cronfa Gwasanaethau Cymunedol Pub is the Hub yn cynorthwyo prosiectau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu i gynnig gwasanaeth sydd eisoes wedi'i golli, megis siop leol, llyfrgell, swyddfa bost neu ganolfan gymunedol, neu’n annog tafarndai i gaffael cynnyrch lleol, darparu prydau ysgol, hyfforddiant TG a gwasanaethau eglwysig.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Pub is the Hub 2022 – grantiau cymunedol | Busnes Cymru (gov.wales)


Jiwbilî Platinwm y Frenhines: Oriau trwyddedu

Bydd y DU yn dathlu 70 mlwyddiant o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines gyda phenwythnos o ddathliadau. 

Mae'r Senedd wedi pasio gorchymyn i ymestyn oriau trwyddedu mewn tafarndai, clybiau a bariau o 11pm i 1am. Bydd yr estyniad ar gyfer dydd Iau 2 Mehefin i ddydd Sadwrn 4 Mehefin.

Cewch ragor o wybodaeth ar Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2022 | Busnes Cymru (gov.wales).


Ymfudwyr a Chyflogaeth

Gallai busnesau sy'n chwilio am staff lenwi swyddi gwag a bylchau sgiliau drwy gyflogi ymfudwyr sy'n dod i Gymru i ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth.

Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth a chymorth i fusnesau o unrhyw fath a maint.

Dysgwch fwy yma: AilGychwyn | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram