Cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau.
Daw sylwadau’r Prif Weinidog ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws. Dywedodd bod y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella yn dilyn brig diweddar mewn achosion a achoswyd gan is-deip BA.2 omicron.
Ond mae cyfraddau achosion Covid yn parhau i fod yn uchel, felly bydd cadw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn helpu i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, staff ac ymwelwyr.
Mae’r Prif Weinidog yn awyddus hefyd i annog pawb i barhau i gymryd camau i leihau lledaeniad coronafeirws drwy ddilyn set o gamau syml i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru.
Mae’r camau hyn yn cynnwys hunanynysu os ydych yn sâl neu wedi cael prawf Covid-19 positif; gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur o dan do, cwrdd ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl; awyru mannau dan do a golchi dwylo’n rheolaidd.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Nid yw’r pandemig ar ben ond rydym yn gweld rhai arwyddion calonogol bod y lefel uchel o heintiadau ar draws Cymru’n gostwng.
“Mae camau y gall pob un ohonom eu cymryd i’n diogelu ein hunain tra bod coronafeirws ar led, a lleihau lledaeniad y feirws ymhellach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn y mannau lle mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin, ac yn byw. Dyma pam y byddwn yn cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig iawn eich bod yn sicrhau eich bod wedi cael eich brechlynnau Covid a phigiad atgyfnerthu’r gwanwyn – os ydych yn gymwys. Os oes gennych symptomau Covid neu os ydych wedi cael prawf Covid positif, arhoswch gartref a helpu i dorri trosglwyddiad yr haint.
“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru.”
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 26 Mai.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (6 Mai 2022) | LLYW.CYMRU.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|