Cyfleoedd i fynychu arddangosfeydd a gweithdai y Diwydiant Teithio 2022 & 2023
Ar hyn o bryd mae Croeso Cymru yn cynllunio rhaglen digwyddiadau Busnes i Fusnes y Diwydiant Teithio (B2B) ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023. Bydd cyfuniad o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithdai wyneb yn wyneb a rhithwir.
Mae'r digwyddiadau arfaethedig yn cynnwys:
Bydd cyhoeddiad am ddigwyddiadau VisitBritain yn dilyn cyn bo hir.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb i fynychu'r digwyddiadau hyn, er mwyn cael dealltwriaeth o'r galw gan fusnesau Cymru cyn trafod y manylion terfynol gyda threfnwyr y digwyddiad, gan gynnwys gofod(au) a chostau.
I gymryd rhan mae'n rhaid i chi fod â diddordeb a gallu contractio, gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio a chynnig comisiwn / cyfraddau net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.
Darganfyddwch fwy ar Travel Trade exhibitions and workshops 2022–2023 CY | Drupal (gov.wales) a chyflwynwch eich ffurflen 'Datganiad o Ddiddordeb' erbyn 13 Mai 2022.
Sylwch nad yw llenwi'r ffurflen hon yn gwarantu eich lle yn y digwyddiad. Bydd y costau i gyflenwyr yn amodol ar ddull y trefnwyr perthnasol. Mae rhai trefnwyr yn codi tâl uniongyrchol; i eraill bydd Croeso Cymru yn gwerthu lle(oedd) ar – manylion am y gost i'w darparu unwaith y byddant yn hysbys, yn dilyn mynegiant o ddiddordeb.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm y Diwydiant Teithio ar traveltradewales@gov.cymru.
Gan fod Croeso Cymru yn aelod o'r Coach Tourism Association ac UKinbound, byddwn hefyd yn cymryd rhan yn eu prif ddigwyddiadau.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|