Bwletin Newyddion: “Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn helpu i ddiogelu ein gilydd” – Y Prif Weinidog Mark Drakeford

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

14 Ebrill 2022


Covid Update

“Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn helpu i ddiogelu ein gilydd” – Y Prif Weinidog Mark Drakeford

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn bwysig parhau i wneud y pethau syml i ddiogelu iechyd y cyhoedd i reoli lledaeniad y coronafeirws.

Soniodd am bum peth hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud, gan gynnwys aros gartref os oes gennym symptomau’r coronafeirws.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws.

Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym am y tair wythnos nesaf, gan barhau i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws.

Ond bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol i’r coronafeirws yn dod i ben ddydd Llun 18 Ebrill. Bydd busnesau’n parhau i gael eu hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Bydd parhau i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws lle mae rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin ac yn byw, gan ddiogelu staff hefyd.

“Ry’n ni’n cadw’r gofyniad penodol hwn tra’r ydym yn parhau i symud yn raddol ac yn ofalus y tu hwnt i’r ymateb brys a symud oddi wrth yr amddiffyniadau cyfreithiol sydd wedi bod mewn grym dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Dyw hyn ddim yn golygu bod y pandemig drosodd. Yn anffodus, mae’r coronafeirws dal yma – ry’n ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros y mis diwethaf, gyda niferoedd mawr o bobl yn mynd yn sâl a chynnydd yn y niferoedd sy’n gorfod mynd i ysbyty.

“Ry’n ni’n gobeithio ein bod yn dechrau troi’r cornel. Ond mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd camau i ddiogelu ein gilydd. Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl o’n cwmpas – fel y mae wedi’i wneud ers dechrau’r pandemig.

“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru a mwynhau dyfodol gwell.”

Cael y brechlyn yw’r peth pwysicaf y gall pawb ei wneud i ddiogelu eu hunain – mae brechiad atgyfnerthu ar gael y gwanwyn hwn i bobl 75 mlwydd oed a hŷn; pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a phobl 12 mlwydd oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan. Mae byrddau iechyd yn anfon gwahoddiadau i bawb cymwys.

Mae gwahoddiadau hefyd yn cael eu hanfon i deuluoedd sydd â phlant rhwng 5 ac 11 mlwydd oed sydd nawr yn gymwys am ddos sylfaenol o frechlyn Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pum cam syml y gall pobl eu cymryd i helpu i ddiogelu pawb:

  1. Aros gartref (hunanynysu) os ydych yn sâl neu’n profi’n bositif am y coronafeirws.
  2. Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus prysur o dan do.
  3. Cwrdd yn yr awyr agored pan fo’n bosibl ac awyru mannau o dan do yn dda os byddwch yn cwrdd o dan do.
  4. Cymryd camau ychwanegol pan fyddwch yn ymweld â phobl agored i niwed. Dylech osgoi cwrdd â nhw os yw’n bosibl os oes gennych unrhyw symptomau haint anadlol.
  5. Golchi dwylo’n rheolaidd a gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn pan fyddwch yn peswch ac yn tisian.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 5 Mai.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar:


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram