Bwletin Newyddion: Busnesau twristiaeth Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y Pasg

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

4 Ebrill 2022


Folly Farm: Minister and others in front of Giraffe enclosure

Busnesau twristiaeth Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y Pasg

Wrth i fusnesau twristiaeth ledled Cymru baratoi ar gyfer y Pasg, ymwelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, â busnesau yn Sir Benfro sy'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn dilyn datblygiadau a buddsoddiad newydd.

Mae'r tîm yn Folly Farm wedi cael gaeaf prysur yn gweithio ar atyniadau newydd i gadw profiad yr ymwelydd yn un da ar gyfer gwesteion newydd a gwesteion sy'n dychwelyd. Cafodd llety newydd ei ddatblygu gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a chafodd y Gweinidog gyfle i weld un o'r tai moethus a fydd ar agor i'r cyhoedd yn yr haf.

Bydd wyth llety saffari arall yn cyrraedd ar ddiwedd y flwyddyn, a fydd yn edrych dros y lloc rhino. Cafodd y Gweinidog hefyd gyfle I weld y maes Carafanau sydd yr wythnos hon wedi cael ei graddio gyda 5 seren gan Croeso Cymru.

Yn ogystal â'r llety, mae datblygiadau eraill yn cynnwys ardal chwarae meddal dan do newydd, wyth o gloddwyr Takeuchi bach newydd sbon ar gyfer atyniad y Big Dig a ddarparwyd gan J Davies o Lanbedr Pont Steffan, corlan rhywogaethau brodorol newydd yn y sŵ, datblygiad gyda thema ar gyfer y padogau bridiau prin a cherbydau trên tir newydd.

Dywedodd Chris Ebsworth, rheolwr gyfarwyddwr Folly Farm:

“Rydym yn edrych ymlaen at dymor prysur y Easg a'r haf yn yr atyniad ar ôl cael hanner tymor mis Chwefror gwell nag erioed. Mae gennym lawer o archebion ar gyfer ein llety ac rydym yn edrych ymlaen at ein tymor gweithredu llawn cyntaf mewn dwy flynedd. Mae lefel uchel o fuddsoddiad y gaeaf hwn yn golygu bod llawer o atyniadau newydd i'w gweld ac mae ein cynllun cynnal a chadw blynyddol arferol yn golygu bod popeth yn edrych yn wych!”

Dywedodd Gweinidog yr Economi:

“Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'r economi ymwelwyr. Ddwy flynedd yn ôl, bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd iawn i gyfyngu ar deithio pobl er mwyn cadw Cymru'n ddiogel rhag Coronafeirws, a olygai nad oedd busnesau twristiaeth yn gallu croesawu ymwelwyr ar gyfer y Pasg.

“Fodd bynnag, mae ymchwil bellach yn dangos bod mwy o hyder a lefelau cyfforddusrwydd, ac mae'r cyhoedd yn y DU yn rhagweld y byddant yn cymryd llawer mwy o deithiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf, na'r 12 mis blaenorol.

“Mae ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru wedi bod yn cadw Cymru yn flaenllaw yn eu meddyliadu gydol y gaeaf, wrth i bobl adennill hyder ac edrych ymlaen at archebu gwyliau.

“Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth posibl i gefnogi busnesau Cymru. Rydym wedi darparu dros £2.6 biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall. Gwnaethom hefyd ymestyn ein pecyn rhyddhad ardrethi busnes o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden tan ddiwedd Mawrth 2022.

“Er mwyn cefnogi busnesau dros y 12 mis nesaf, rydym yn darparu pecyn gwerth £116 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau y mae pandemig COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt. Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50% drwy gydol 2022 a 2023.

“Wrth wella o'r pandemig, ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er lles Cymru ac er mwyn gwneud hyn byddwn yn tyfu twristiaeth drwy ymestyn y tymor, hyrwyddo Cymru yn ystod cyfnodau llai prysur o'r flwyddyn a hyrwyddo ardaloedd o Gymru sy'n dawelach.”

Un o'r heriau sy'n wynebu'r sector yn dilyn y pandemig yw recriwtio, gan fod llawer o fusnesau'n gweld prinder staff. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector ar ymgyrch recriwtio i dynnu sylw at yr ystod o gyfleoedd datblygu personol a'r llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael yn y sector.  Mae Folly Farm a The Grove Narberth wedi gweithio gyda Croeso Cymru ar yr ymgyrch Gwneuthurwyr Profiadau i dynnu sylw at swyddi fel gyrfaoedd.

Aeth y Gweinidog hefyd ar ymweliad â The Grove Narberth. Mae'r gwesty pum seren yn rhan o gasgliad Seren yng Nghymru, ac mae'r portffolio o leoliadau wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r materion recriwtio sy'n wynebu'r sector.

Ar ddechrau 2022 cyflwynwyd arferion gweithio hyblyg, sy'n golygu y gall pob aelod staff weithio i rota pedwar diwrnod yr wythnos heb unrhyw addasiad i gyflog, tra'n cael eu talu am unrhyw sifftiau ychwanegol.  Roedd gan y staff hynny a oedd am aros ar wythnos bum diwrnod yr opsiwn i wneud hynny hefyd. Mae'n dilyn cyflwyno wythnos pedwar diwrnod i gogyddion yn y gwesty yn 2016. Mae'r busnes hefyd wedi cyflwyno cynllun rhannu elw lle bydd aelodau o staff yn rhannu llwyddiant parhaus y busnes, ochr yn ochr â gwelliannau eraill i becynnau staff gan gynnwys gwobrau gwyliau gwasanaeth hir.

Dywedodd Neil Kedward, Rheolwr Gyfarwyddwr Seren:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud y newid cynyddol a phwysig hwn i'r unigolion ar draws ein busnesau The Grove Narberth, Coast Restaurant yn Saundersfoot, a’r Beach House Restaurant yn Oxwich. Rydym eisoes yn gweld effaith y newid hwn o ran helpu ein timau i ddod o hyd i gydbwysedd gwirioneddol yn eu bywydau, cael mwy o amser o safon gyda theulu a ffrindiau, a theimlo'n egnïol a chanolbwyntio mwy ar gyflawni eu hamcanion yn y gwaith.  Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol dros y blynyddoedd i gael y cynnyrch yn iawn ym mhob lleoliad, ac felly nawr rydym mewn sefyllfa dda i fuddsoddi llawer mwy yn ein pobl.”

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Wrth i ni adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl, drwy'r Warant i Bobl Ifanc a chynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf, gan gynnwys prentisiaethau.  Gall prentisiaethau helpu i sicrhau gweithlu yn y dyfodol, ysgogi ac arallgyfeirio - gan gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent hefyd yn hanfodol i'n cynlluniau adfer economaidd uchelgeisiol ar ôl Covid. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd prentisiaeth i bob oed dros y bum mlynedd nesaf.”



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram