Bwletin Newyddion: Sgiliau; Dathlu Lletygarwch yng Nghymru; y cynllun Barod Amdani yn dod i ben

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Mawrth 2022


Female waitress holding tray

Y rhai sy’n creu profiadau – y diweddaraf am yr ymgyrch sgiliau a recriwtio

Mae Croeso Cymru yn parhau i weithio ar ymgyrch y Rhai sy’n Creu Profiadau i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch drwy dynnu sylw at gyfleoedd gyrfa ac annog pobl i fanteisio ar swyddi gwag. 

Mae chwe astudiaeth achos ar gael bellach ar ffilm ar: Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch (llyw.cymru) (sgroliwch i lawr ar y wefan i'w gweld i gyd); a gallwch lawrlwytho asedau ymgyrchu a'r pecyn cymorth i helpu busnesau i recriwtio staff o Assets: EMCP | Croeso Cymru

Mae gweithgarwch yr ymgyrch yn cynnwys –

Partneriaeth mis Mawrth Media Wales: Cyhoeddwyd erthygl a oedd yn canolbwyntio ar gogyddion a staff cegin – rolau y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant. Gwelwyd yr erthygl ar WalesOnline, North Wales Live, y South Wales Evening Post, y Daily Post, a’r South Wales Echo. Roedd yn adrodd hanes 3 chogydd sydd ar frig y proffesiwn ac un prentis-gogyddac mae i’w weld yma.

Misoedd Mawrth ac Ebrill - Cyfres 'Sut i': Mae cyfres o ffilmiau byr, difyr sy'n hoelio sylw ar rai o'r sgiliau y gall pobl eu meithrin wrth weithio mewn rolau lletygarwch allweddol yn cael eu rhannu ar draws sianeli cymdeithasol Cymru'n Gweithio. Yn ogystal â gweithio gyda'r lleoliadau a'r unigolion dan sylw i rannu eu profiadau drwy eu sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, rydym hefyd yn mynd ati, drwy gynnal ymchwil cynulleidfaoedd, i dargedu dylanwadwyr allweddol er mwyn rhannu a hau'r cynnwys ymhellach. Mae’r ffilmiau'n cynnwys -

Hysbysebion y talwyd amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol: Ymhlith yr hysbysebion a fydd yn cael eu dangos am gyfnod o bythefnos o 21 Mawrth ymlaen y mae polau straeon ar Instagram, riliau, hysbysebion ar Facebook ac hysbysebion ar TikTok a Snapchat – i gyd wedi'u creu ar sail cynnwys a grëwyd o leoliadau ledled Cymru gan ymgyrch y Rhai sy’n Creu Profiadau o leoliadau. Mae'r hysbyseb ddiweddaraf ar TikTok yn hoelio sylw ar yr hyblygrwydd sy’n gysylltiedig â gyrfa mewn lletygarwch a thwristiaeth. Mae hysbysebion blaenorol ar TikTok blaenorol wedi canolbwyntio ar yr hwyl a’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â gyrfa mewn lletygarwch. Cofiwch ymuno â ni ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannwch y cynnwys gan ddefnyddio #creuwyrprofiadau.


Angerdd ac optimistiaeth i'r diwydiant lletygarwch mewn pencampwriaethau coginio

Cafodd Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC), a drefnwyd gan Gymdeithas Goginio Cymru ac a noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru a Llywodraeth Cymru, eu cynnal ym mis Chwefror 2022 ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos, Gogledd Cymru ar ôl bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig. 

Cyhoeddwyd mai Dalton Weir, is-gogydd yn y Cottage Loaf, Llandudno, oedd Cogydd Iau newydd Cymru. Yn ogystal ag ennill Tlws y Ddraig, mae'n mynd ymlaen i rownd gynderfynol cystadleuaeth Cogydd Cenedlaethol Ifanc y Flwyddyn, a gynhelir gan Urdd Crefft y Cogyddion.

Charlotte Latham, prentis gogydd yn Chartists 1770 yng Ngwesty Trewythen, Llanidloes, enillodd ragbrawf Cymru o Gogydd Risotto Ifanc y DU ac Iwerddon, a gynhelir gan gwmni Riso Gallo, a Her Ryngwladol Prif Gwrs. Roedd Charlotte, sy'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol y ddwy gystadleuaeth, hefyd yn ddirprwy gogydd i'r

is-gogydd Matthew Smith yn rownd derfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru.

I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth, yr enillwyr a’r gwaith ewch i wefan Cymdeithas Goginio Cymru.


Bwytai gorau Cymru yn serennu

Mae bwytai gorau Cymru wedi dathlu llwyddiant yn ddiweddar. Dyfarnwyd sêr i rai ohonynt am y tro cyntaf erioed ac mae eraill wedi cadw’r sêr a ddyfarnwyd iddynt eisoes gan y canllaw mwyaf ei fri i fwytai’r DU ac Iwerddon – Canllaw Michelin ar gyfer Prydaion Fawr ac Iwerddon 2022.

Dyfarnwyd sêr i gyfanswm o saith bwyty yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Bwytai gorau Cymru yn serennu | Busnes Cymru – Bwyd a diod (llyw.cymru)

Mae’r canlyniadau llawn yng Nghanllaw Michelin ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon 2022 i’w gweld yma.


Cymorth gyda sgiliau a recriwtio: Busnes Cymru − Yn Gefn i Chi

P'un a ydych am helpu’ch gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn fuddiol i'ch busnes neu ddod â doniau newydd i mewn i'ch tîm, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o raglenni drwy Busnes Cymru a all roi help llaw ichi gyda’ch anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma: Yn Gefn i Chi | Busnes Cymru Porth Sgiliau (llyw.cymru)

Mae llyfryn sy'n rhoi manylion y cymorth recriwtio a hyfforddi sydd ar gael i'w weld yma.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth i recriwtio a hyfforddi staff yn y diwydiant twristiaeth ar gael yma: Sgiliau a Recriwtio | Drupal (llyw.cymru).


Barod Amdani yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

Bydd ‘Barod Amdani’, sef safon y diwydiant sydd wedi cefnogi busnesau drwy gydol y pandemig yn cau ar 31 Mawrth 2022.

Mae Croeso Cymru, VisitEngland, VisitScotland a Tourism Northern Ireland wedi cytuno bod y fenter bartneriaeth allweddol hon wedi cyflawni ei nod, ac ar y cyd maent yn diolch i’r holl fusnesau a wnaeth fynd i’r afael â’r her a'n galluogodd i ddangos y protocolau COVID-19 y maent wedi'u rhoi ar waith i gadw ymwelwyr yn ddiogel.

Cewch ragor o wybodaeth ar: Mae Barod Amdani yn dod i ben ar 31 Mawrth | Mae Barod Amdani (visitbritain.com).

Sylwer: (yn unol â’r cyhoeddiad a wnaed gan Llywodraeth Cymru ar 25 Mawrth), rhaid i fusnesau twristiaeth barhau i gynnal asesiadau risg ac i roi mesurau rhesymol ar waith yng ngoleuni’r asesiadau hynny.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram