Bwletin Newyddion: Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

25 Mawrth 2022


covid

Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau

Bydd Cymru'n parhau i lacio rhai or mesurau diogelu’r pandemig sy'n weddill yn raddol, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi (25 Mawrth).

O ddydd Llun ymlaen, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus.

Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.

Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau ar waith gan fod achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u hysgogi gan is-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron.

Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym wedi gweld cynnydd annymunol mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yn y rhan fwyaf o'r DU.

“Rydym wedi ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf yn ofalus ac mae angen inni gadw rhai mesurau diogelu cyfreithiol ar waith ychydig yn hirach, er mwyn helpu i ddiogelu Cymru.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull graddol a gofalus wrth inni lacio mesurau diogelu.

"Rydym ar y trywydd iawn i adael ymateb i argyfwng y pandemig y tu ôl inni a dysgu byw gyda’r coronafeirws yn ddiogel."

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram