Bwletin Gwaith Ieuenctid

Mawrth 2022

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Keith edited

Llais Keith

Mae bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y byd yn gallu bod yn rhywbeth cadarnhaol iawn, a’n helpu i ddysgu a’n hannog i wneud pethau sy’n gwneud gwahaniaeth. Ond mae’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin yn ei gwneud hi’n anodd teimlo’n gadarnhaol am unrhyw beth.

Bydd gan blant a phobl ifanc yng Nghymru gwestiynau am ryfel a’i effaith - ac mae’n bwysig iawn gwrando ar beth mae pobl ifanc yn ei ddweud a’i deimlo, ac ateb eu cwestiynau gorau gallwn ni.

Mae’r erthygl ‘Standing with Ukraine’ (isod) yn darparu dolenni i wefannau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a Meic Cymru, sy’n cynnwys cyngor ac adnoddau rhagorol. Mae Meic Cymru, er enghraifft, yn cynnwys erthyglau ar esbonio rhyfel Rwsia a Wcráin ac ymdrin â phethau trallodus ar y newyddion, a allai fod yn ddefnyddiol i gefnogi sgyrsiau gyda’ch pobl ifanc.

Dyma fy neges olaf i chi fel Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Er gwaethaf yr heriau parhaus gyda Covid a’i effaith ar ein cymunedau, wrth i’r cyfyngiadau a osodwyd arnom ni i gyd gan y pandemig godi ddiwedd y mis hwn, gallwn ddechrau edrych at amser cadarnhaol i waith ieuenctid yng Nghymru.

Ymatebodd y Gweinidog yn gadarnhaol iawn i argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ac mae’r broses wedi dechrau i recriwtio Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu Gwaith Ieuenctid newydd. Mae’r Cadeirydd yn debygol o gael ei benodi ym mis Ebrill ac aelodau’r bwrdd ddechrau’r haf.

Bydd llawer o waith i’w wneud wrth i’r Bwrdd barhau i gydweithio â phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid. Mae’r holl argymhellion a wnaed yn bwysig wrth gwrs, ond bydd sefydlu strwythur llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid, cryfhau’r ddeddfwriaeth, sefydlu corff cenedlaethol a chynnal adolygiad cyllid yn seiliedig ar dystiolaeth yn gosod y sylfaen ar gyfer popeth fydd yn dilyn. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi £11.4 miliwn o arian newydd dros y tair blynedd nesaf i weithredu’r argymhellion.

Mae wedi bod yn bleser llwyr cael cadeirio’r Bwrdd Dros Dro dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gan y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru gymaint o gryfderau ac mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda phawb ohonoch wrth i chi barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru. Rwy’n gwybod y byddwch chi’n cefnogi’r cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredu newydd. Os byddant yn derbyn yr un gefnogaeth ag a gefais i a’r Bwrdd Dros Dro gennych, byddant yn ffodus iawn.

Diolch i bawb am eich cymorth a’ch gwaith caled. Fydden ni ddim ble rydym ni fel sector pe na fyddech chi wedi mynd ati i gydweithio ar lunio model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Fe fyddaf yn gwylio’ch datblygiad gyda diddordeb… pob lwc pawb!

Llais Person Ifanc

Mae’r heriau parhaus sy’n codi o’r pandemig, a’r pryderon am faterion cyfoes ehangach yn parhau i gael effaith sylweddol ar fywydau a lles pobl ifanc. Crystal Forbes, 15 oed, sy’n esbonio sut mae Grŵp Seren, a sefydlwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy y llynedd, wedi ei helpu hi i ymdopi â rhai o’r heriau hyn.

“Yn ystod Covid pan oedd yr ysgol ar gau a ninnau’n methu gweld ein ffrindiau, fe gawson ni ymweliadau carreg y drws a theithiau cerdded lles sicrhau ein bod ni’n cadw mewn cysylltiad. Weithiau roedden ni’n cyfarfod o dan gasebo y tu allan i wneud gweithgareddau hwyliog - a dyna ble cafwyd y syniad o greu Grŵp Seren. Ni’r aelodau ddewisodd yr enw ac mae nawr wedi ehangu i gynnwys pobl ifanc o wahanol ardaloedd o’r sir.

YPV

Gallwn gyfarfod bob dydd Iau ac mae llawer o weithgareddau wedi’u trefnu, a chwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol sy’n gyfle i ddysgu sgiliau defnyddiol fel coginio i chi’ch hun, cadw’n ddiogel, bod yn iach a dysgu sut i gyllidebu a rheoli arian.

Rwy’n meddwl bod yr holl weithgareddau ymarferol a chymdeithasol wedi bod o help mawr i fi a’r lleill i gael hwyl, ond hefyd i fod yn drefnus, ymdopi â phwysau a theimlo llai o straen – yn enwedig gan fod pawb yn dysgu gyda’i gilydd ac yn cael llawer o gymorth.

Mae’r grŵp wedi bod yn bwysig iawn gan ei fod wedi’n dysgu beth allwn ni ei wneud drosom ni’n hunain, ac wedi’n helpu ni i weld ble mae cael gwahanol fathau o gymorth a chyngor.”

Ffocws Arbennig

Gwrando Gwell, Canlyniadau Gwell

Deb Austin

Yn ddiweddar, trefnodd Deb Austin, Arweinydd Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP), ddigwyddiad ar gyfer pobl ifanc, T4CYP, Comisiynydd Plant Cymru a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru.

Nod y ‘Digwyddiad Gwrando’ ar y cyd oedd rhoi cyfle i Blant a Phobl Ifanc herio cynrychiolwyr y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar eu cynnydd o ran gweithredu Dim Drws Anghywir a NYTH/NEST.

Sef adnoddau cynllunio i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy’n ceisio sicrhau dull ‘system gyfan’ o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a’u teuluoedd ehangach ledled Cymru.

Ehangwyd y sesiwn i gynnwys cynrychiolwyr plant a phobl ifanc y tu hwnt i’r prif sefydliadau ac roeddent yn cynnwys cyfranogwyr o Promo Cymru, Gwaith Ieuenctid a CWVYS, yn ogystal â chynrychiolaeth gref o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Deb Austin article

Wrth fyfyrio ar y canlyniadau, dywedodd Deb, “fe nododd y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan rai blaenoriaethau pwysig iawn. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen i gefnogi pobl ifanc sy’n aros i weld gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd meddwl. Roedden nhw hefyd yn cynnwys yr angen am fwy o ddewisiadau ac opsiynau o ran sut i gael gafael ar gymorth, er enghraifft edrych ar ffyrdd eraill o gyfathrebu gan fod llawer o bobl ifanc ddim yn hoffi’r ffôn, a’i bod yn well ganddyn nhw dderbyn neges destun. Blaenoriaeth arall oedd yr angen i edrych i weld a oes gennym ni gymorth priodol i bobl ifanc 18-25 oed sydd ddim yn derbyn cefnogaeth gan CAMHS bellach ond sydd ddim yn gyffyrddus yn defnyddio gwasanaethau oedolion eto.”

Cafodd holl ganlyniadau’r sesiwn eu cofnodi gan ddarlunydd gweledol, ac yn bwysig, cynhaliwyd sesiwn adborth ddilynol gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Roedd hyn yn gyfle i’r un bobl ifanc rannu eu safbwyntiau â’r Gweinidog ar ôl y sesiwn.

Mae’r llun yn rhoi cipolwg ar rai o’r prif feysydd trafod ac mae manylion llawn yr holl gwestiynau a’r atebion yma: Digwyddiad gwrando gyda phobl ifanc – Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru

Yng Nghymru: Sefyll gyda Wcráin

Ymysg y pryder mawr am yr ymosodiad ar Wcráin a’r rhyfel yno, mae’n naturiol y bydd rhai pobl ifanc yng Nghymru’n teimlo’n bryderus, yn ofidus ac yn flin am yr hyn sy’n digwydd yno. Mae’n amhosibl gwybod beth fydd yn digwydd nesaf ond mae’n bwysig deall beth arweiniodd at yr ymosodiad a beth mae pobl o amgylch y byd yn ei wneud i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ryfel. Mae rhoi cyfleoedd i sgwrsio, rhannu pryderon a chyfeirio ein pobl ifanc at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy yn bwysig iawn. Ac mae yna ddigonedd o adnoddau a all helpu gyda’r sgyrsiau hyn.

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (wcia.org.uk) yn cynnwys gwybodaeth ar ei gwefan sy’n cysylltu ag ystod o adnoddau rhagorol. Mae yna wefannau newyddion sy’n rhoi mynediad i gyngor ar gyfer pobl ifanc sy’n gofidio oherwydd y newyddion, yn cynnwys CBBC Newsround a Ffeil; a Meic (meiccymru.org) yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. 

Yng Nghymru: Ffoaduriaid o Afghanistan yn dod o hyd i obaith a chartrefi yng Nghymru

Gyda’r rhyfel yn Wcráin yn gwaethygu, mae Ewrop yn delio ag argyfwng ffoaduriaid ar raddfa nas gwelwyd ers yr Ail Ryfel Byd. Eto, does dim sbel ers roedd yr Urdd yn canolbwyntio ar argyfwng gwahanol, yn cefnogi ffoaduriaid o Afghanistan a hedfanwyd i Brydain wrth i’r Taliban ddod yn ôl i rym.

Refugees

Mae’r gwaith arloesol hwn dan arweiniad yr Urdd haf diwethaf wedi’i ganmol fel enghraifft o ddarpariaeth arfer gorau i’r rhai sy’n ceisio lloches yn y DU heddiw. Mae ffilm gan Channel 4 yma yn edrych ar sut y gweithredodd yr Urdd ddull arloesol ac unigryw. Daeth y ganolfan breswyl yng Nghaerdydd yn llety argyfwng i ffoaduriaid (110 o unigolion, 42 o oedolion a 68 o blant a phobl ifanc) gan ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar iddynt. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Yng Nghymru: Grant Cotiau Plant a Phobl Ifanc

Ym mis Chwefror 2022, daeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Thîm Gweithgarwch Corfforol a Chwarae Cyngor Sir Ceredigion at ei gilydd i lansio’r ‘Grant Cotiau’.

Coat grant

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru (ar gyfer plant o dan 11 oed) a chan gyfraniad gan Grant Cymorth Ieuenctid Ceredigion (ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed). Mae’r cynllun yn gobeithio rhoi cymorth i 450 o blant a phobl ifanc drwy ddarparu cotiau cynnes i’r rhai mewn angen. Mae ffigurau cyfredol yn dangos bod 32.4% o gartrefi yng Ngheredigion yn byw mewn tlodi a bod 30.8% o blant Ceredigion yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim.

Mae ‘Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi 2020-22’ hefyd yn dangos effaith y pandemig ar ei ddinasyddion ac mae’r Grant Cotiau Plant a Phobl Ifanc wedi’i ddatblygu mewn ymateb i angen lleol.

Mae teuluoedd yn wynebu mwy o ddyled ariannol, llai o incwm cartref a chynnydd yn y galw am barseli bwyd.  Yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion, penderfynwyd y byddai cynllun syml fel y grant cotiau yn helpu cannoedd o blant a phobl ifanc – yn darparu eitem hanfodol bob dydd ond yn cael effaith sylweddol. Mae’n hawdd cymryd rhan yn y cynllun ac mae’r broses yn gynnil – i sicrhau nad yw gwneud cais am gymorth yn rhwystr i bobl ifanc. Bydd effaith ac effeithiolrwydd y cynllun yn cael ei werthuso ym mis Ebrill 2022 a bydd yn llywio darpariaeth debyg yn y dyfodol. I wybod mwy, cysylltwch â Lowri.Evans@ceredigion.gov.uk

O amgylch y Byd

Diwrnod Gwybodaeth Ieuenctid Ewrop – 17 Ebrill

Ar 17 Ebrill, mae ERYICA - The European Youth Information and Counselling Agency yn dathlu Diwrnod Gwybodaeth Ieuenctid Ewrop. Mae Cymru’n aelod drwy Lywodraeth Cymru ac mae sefydliadau ledled Cymru’n gymwys i gymryd rhan mewn prosiectau ERYICA. Bydd y Diwrnod Gwybodaeth yn dangos y rôl hanfodol sydd gan wasanaethau gwybodaeth ieuenctid o ran darparu gwybodaeth i bobl ifanc. Beth am gymryd rhan? #EYID2022

EYID

Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol newydd Cymru ar gyfer dysgu

Ym mis Chwefror 2022, lansiodd Cymru ei rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd gyffrous ar gyfer dysgu, sef Taith.

Taith

Bydd y rhaglen yn galluogi pobl Cymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ym mhob cwr o’r byd, ac yn galluogi sefydliadau yng Nghymru i wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yng Nghymru. Beth am weld beth sydd ar gael? Ieuenctid - Trosolwg - Taith

Cofrestru am y newyddion diweddaraf am Taith

Gallwch gofrestru yma i dderbyn y newyddion diweddaraf am raglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu Taith. Mae’r tîm hefyd yn cynnal digwyddiadau i ddarparu cyngor a chymorth i sefydliadau sy’n awyddus i wneud cais. I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau ym mis Mawrth a mis Ebrill, e-bostiwch BevanE@cardiff.ac.uk

Taith CYM

Pam mae ansawdd yn hanfodol i ddysgu rhyngwladol

Ym mlog diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg, mae Howard Williamson, Athro Polisi Ieuenctid Ewropeaidd ym Mhrifysgol De Cymru, yn rhoi cipolwg ar waith ieuenctid rhyngwladol a sut y dylem ganolbwyntio ar ansawdd nawr bod drysau rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn ailagor.

ewc
LGBTQ

Hanes a gwybodaeth LHDTC+

I lawer o bobl ym mhob cwr o’r bryd roedd Chwefror yn fis i ddathlu hanes LHDTC+. Ymunodd Meic (meiccymru.org) yn y dathliadau drwy edrych ar wahanol agweddau ar LHDTC+ yn ei ymgyrch ddiweddaraf, gan ddarparu gwybodaeth ac adnoddau gwych yma.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, Dug Caeredin Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful, YMCA Abertawe, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen a’r Urdd yw’r sefydliadau diweddaraf i adennill safon efydd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Llongyfarchiadau i chi gyd!

I gefnogi proses achredu’r Marc Ansawdd ymhellach, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn chwilio am aseswyr cymheiriaid newydd. Mae’r rôl yn rhoi boddhad, yn ysgogi ac yn cynnig cyfle datblygu proffesiynol parhaus rhagorol. Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i’r wefan.

QM

Ydych chi wedi clywed?

Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Maint Cymru a CWVYS yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cyfiawnder hinsawdd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Mehefin. Mwy yma.

Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru yma!

Fis Chwefror lansiodd Llywodraeth Cymru ei phecyn cymorth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed. Mae’n darparu gwybodaeth a dolenni perthnasol i ystod eang o adnoddau ar-lein, yn cynnwys gwefannau hunangymorth, apiau, a llinellau cymorth sy’n cefnogi’ch iechyd meddwl a’ch lles.

Ymgynghoriad: Cynigion i ychwanegu at gategorïau’r rhai y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wrth ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid

Ar 1 Mawrth, agorodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ymgynghoriad i gasglu barn ar ddiwygio’r categorïau cofrestru y mae’n rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg eu rheoleiddio. Gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cyfrif – cyflwynwch eich sylwadau erbyn 24 Mai yma.

Hybu lles ariannol pobl ifanc

Nid oes llawer o bobl ifanc 16 oed neu drosodd yn gwybod bod y Llywodraeth wedi neilltuo Cronfa Ymddiriedolaeth Plant iddyn nhw adeg eu geni. Gallai hwn fod yn werth £1000 neu fwy pan fyddan nhw’n troi’n 18 oed. Mae The Share Foundation yn helpu miloedd o bobl ifanc 16 oed neu drosodd i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Dywedwch wrth eich pobl ifanc am edrych!

Digwyddiadau i ddod gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau â’i gyfres o ddigwyddiadau gyda digwyddiad arbennig awr o hyd ar 27 Ebrill a gynhelir gan Ronald E. Dahl dan y teitl ‘Insights into the adolescent brain: implications for health, education, and social policy’. Ewch i dudalennau digwyddiadau’r Cyngor i gadw’ch lle am ddim.

PLP

Cefnogi’ch datblygiad proffesiynol

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn eich galluogi i gofnodi a myfyrio ar eich dysgu proffesiynol ac ymchwilio i bynciau sydd o ddiddordeb i chi.

 

Mae’n cynnwys templedi i’ch cefnogi chi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, adnoddau i ryngweithio â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a mynediad am ddim i EBSCO, cronfa ddata ymchwil gynhwysfawr o lyfrau academaidd, e-gyfnodolion a thanysgrifiadau cylchgronau i gefnogi’ch dysgu proffesiynol parhaus.

Diogelu pobl ifanc Caerdydd rhag trosedd

Mae’r Gronfa Waddol Ieuenctid (YEF) wedi cyhoeddi pum ardal hyperleol yng Nghymru a Lloegr (naill ai ward cyngor unigol neu gymdogaeth) lle byddant yn cefnogi cymunedau lleol i wario hyd at £1 miliwn i ddiogelu plant rhag trosedd. Mae Grangetown a Butetown yng Nghaerdydd wedi’u dewis fel un o’r pum ardal. Darllenwch fwy yma am sut i gymryd rhan.

YEF

Twf Swyddi Cymru Plws – yma i helpu ein pobl ifanc i ffynnu!

Os ydych chi’n gwybod am berson ifanc 16-18 oed a allai elwa ar gymorth i gael swydd neu benderfynu ar ei lwybr gyrfa, gallai #TwfSwyddiCymruPlws ei helpu. Darllenwch fwy yma.

PT

Datgloi Sgiliau ar gyfer Gwaith gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru

O 29 Mawrth - 7 Ebrill (4 sesiwn) mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cynnal ei rhaglen Menywod i Waith ar-lein, wedi’i chynllunio ar gyfer menywod ifanc 16-30 oed. I wybod mwy cysylltwch ag alysha.khan@princes-trust.org.uk, paul.jenkins@princes-trust.org.uk neu rhys.hills@princes-trust.org.uk neu ffoniwch 0800 842 842.

Co-op

Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc sy’n amlinellu ei huchelgais i wneud Cymru’n lle gwych i dyfu, byw a gweithio. Gwnewch yn siŵr bod y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw’n gwybod am y Cynllun, ei nodau a’i flaenoriaethau ar gyfer tymor y Senedd gyfredol.

Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Mae cryfhau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Yn dilyn ymgynghoriad yn 2021, mae gwaith ar droed i ddarparu canllawiau wedi’u diweddaru ar y Fframwaith. Bydd y canllawiau’n dangos sut mae cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ifanc yn helpu i ategu’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith.

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2022 – 23 i 30 Mehefin!

Ein thema ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid yw 5 Ffordd at Les – cysylltu; bod yn actif; cymryd sylw; parhau i ddysgu; rhoi. Rydym yn chwilio am bum gweithgaredd i’w hyrwyddo’n genedlaethol – i annog pobl i gymryd rhan. Allwch chi awgrymu gweithgaredd a fyddai’n dda i’w rannu? Os felly, cysylltwch ag ellie@cwvys.org.uk. Diolch!

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: