Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Mawrth 2022


castle

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ar y Coronafeirws ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Arolwg Ailgysylltu Croeso Cymru 2021; UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU – yn dod i Gymru ar 30 Mawrth; Dathlu Pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed: Sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i hyrwyddo’ch busnes; Ail-lenwi Cymru – Cymerwch ran i helpu i fynd i'r afael â llygredd plastig untro!; Cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid anabl wedi cynyddu a’i ymestyn am flwyddyn arall; Beth Yw Eich Barn Am Y Cynnig Sgiliau A Hyfforddiant Yn Ne-Orllewin Cymru – Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022; Coedwig Genedlaethol Cymru; Ceisiadau terfynol ar gyfer y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol; Cyfres Gweminarau Busnes Cymru am y Weledigaeth Werdd 21 - 24 Mawrth 2022; Ymgynghoriad cenedlaethol yn gofyn i’r cyhoedd helpu i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Arolwg Ailgysylltu Croeso Cymru 2021

Mae Adroddiad Arolwg Ailgysylltu Croeso Cymru 2021 wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Ionawr gyda sampl o ddefnyddwyr gwefan www.croeso.cymru/cy a chysylltiadau defnyddwyr y DU.

Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y rhai a aeth ar wyliau yng Nghymru y llynedd ac yn rhoi cipolwg defnyddiol ar broffil ymwelwyr a'r mathau o deithiau gwyliau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer 2022.  Mae hyn yn dangos bod diddordeb mawr mewn mynd ar wyliau gartref eleni, ond mae'n ymddangos y bydd pobl yn dal i ffafrio osgoi mannau gorlawn yn 2022.  Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am agweddau a disgwyliadau ymwelwyr o ran teithio cynaliadwy, gan gynnwys cytuno y dylai busnesau twristiaeth flaenoriaethu lleihau gwastraff a phlastig untro, ac arwyddion bod ymwelwyr yn awyddus i flaenoriaethu prynu bwyd a diod lleol.

Mae’r adroddiad ar gael yma: Arolwg ailgysylltu Croeso Cymru: 19 Ionawr i 7 Chwefror 2022 | LLYW.CYMRU


UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU – yn dod i Gymru ar 30 Mawrth

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn ddathliad o greadigrwydd sy'n digwydd ledled y DU yn 2022. Mae’n cynnwys 10 prosiect mawr sy’n deillio o gydweithio ar draws meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg. Mae'r rhaglen UNBOXED yn cynnwys digwyddiadau mawr, gosodiadau a phrofiadau digidol hygyrch am ddim.

Cafodd UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ei lansio yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi gydag ‘Amdanom Ni / About Us’, sef un o ddeg prosiect a gomisiynwyd sy’n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU yn 2022.

Bydd UNBOXED yn dod i Gymru am y tro cyntaf ar 30 Mawrth, a Chaernarfon fydd y lleoliad cyntaf. Dyma ddigwyddiad awyr agored ysblennydd, rhad ac am ddim a grëwyd gan 59 Productions, The Poetry Society a Stemettes sy’n archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes drwy'r ffyrdd di-ben-draw y mae pobl wedi'u cysylltu â'r cosmos, byd natur, a'i gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy'n dod i Gymru, gan gynnwys prosiect comisiwn swyddogol ein gwlad, sef ‘Galwad: Stori o’n Dyfodol’, ewch i unboxed2022.uk.


Dathlu Pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed: Sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i hyrwyddo’ch busnes

Mae Llwybr Arfordir Cymru eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, a'r wythnos diwethaf (3 Mawrth), cynhaliwyd gweminar gan y tîm sydd wrthi’n cynllunio’r gweithgareddau i ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Y nod oedd sicrhau bod gan randdeiliaid yn y diwydiant yr wybodaeth a’r dolenni y mae eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan yn y dathliadau. Gan amrywio o newyddion am y rhaglen o weithgareddau i gyfleoedd i ddefnyddio logo'r 10fed pen-blwydd ac adnoddau eraill, tynnwyd sylw yn ystod y sesiwn at yr holl adnoddau sydd ar gael. 

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhan bwysig o waith hyrwyddo Croeso Cymru a bydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Bydd y gwaith yn cynnwys deunydd newydd ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau uchel eu proffil a gweithgareddau i'r wasg gyda National Geographic a llawer o rai eraill.  

Yn ystod y weminar, rhannodd ein siaradwyr gwadd o Lwybr Arfordir Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru newyddion am raglen o weithgarwch cynaliadwy a fydd yn:

  • codi ymwybyddiaeth am fanteision Llwybr Arfordir Cymru ymhlith trigolion ac ymwelwyr
  • cynyddu defnydd o'r Llwybr
  • parhau i ysbrydoli ymwelwyr i'w fwynhau a'i werthfawrogi

Mae’r recordiad, y cyflwyniad ac adnoddau defnyddiol eraill, gan gynnwys Pecyn Cymorth Busnes a logos pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed, i’w gweld yma: Dathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru | (gov.wales).


Refill Cymru badge being placed in window of business

Ail-lenwi Cymru – Cymerwch ran i helpu i fynd i'r afael â llygredd plastig untro!

Eisiau gwybod sut y bydd ymuno â'r Chwyldro Ail-lenwi o fudd i'ch busnes? Gwyliwch y ffilm fer hon i gael gwybod. Mae cael eich rhestru ar yr ap Refill yn eich cysylltu â miloedd o ddefnyddwyr apiau yng Nghymru sy'n chwilio am fannau ail-lenwi dŵr am ddim.

Rhowch eich tap ar y map ac elwa ar fwy o amlygrwydd, cynyddu nifer yr ymwelwyr... a dangos i'ch cwsmeriaid eich bod yn cymryd camau yn erbyn llygredd plastig!

Cofrestrwch eich busnes fel Gorsaf Ail-lenwi ar yr ap Refill heddiw am ddim ac ymunwch â'r Chwyldro Ail-lenwi! Gyda'n gilydd gallwn helpu i fynd i'r afael â phroblem llygredd poteli plastig untro.

Mae rhagor o wybodaeth ar | Ail-lenwi Cymru – Cenedl Ail-lenwi gan Lywodraeth Cymru a dysgwch sut i gymryd rhan ar: Cymryd Rhan - Ail-lenwi - Ymuno â'r Chwyldro Ail-lenwi ac atal plastig.


Cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid anabl wedi cynyddu a’i ymestyn am flwyddyn arall

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd busnesau sy'n recriwtio prentisiaid anabl llawn amser dros y flwyddyn nesaf yn gallu disgwyl derbyn cymhelliant ychwanegol o £2,000.

Mae Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl, yn cael ei ymestyn o 1 Ebrill 2022 tan ddiwedd mis Mawrth 2023, gyda chynnydd o £500.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid anabl wedi cynyddu a’i ymestyn am flwyddyn arall | LLYW.CYMRU.


Beth Yw Eich Barn Am Y Cynnig Sgiliau A Hyfforddiant Yn Ne-Orllewin Cymru – Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022

Ers cyhoeddi'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio; y mathau o swyddi sydd ar gael ac, yn bwysicach efallai, y sgiliau sydd eu hangen bellach gan ddiwydiant i hybu busnesau ar ôl y pandemig. 

Bydd eich cyfranogiad chi yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025 yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y sgiliau sydd eu hangen a ble mae angen dyrannu cyllid er mwyn bodloni'r gofynion sgiliau a nodwyd.

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) yn gofyn am eich barn am y Cynnig Sgiliau a Hyfforddiant yn Ne-orllewin Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr arolwg yma: Beth yw eich Barn am y Cynnig Sgiliau a Hyfforddiant yn Ne-orllewin Cymru – Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Coedwig Genedlaethol Cymru

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters y byddai pob cartref yng Nghymru yn gallu casglu coeden ar gyfer eu gardd neu gael coeden wedi'i phlannu ar eu rhan.

Gan weithio gyda Coed Cadw lansiwyd ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig ar 25 Chwefror pan agorwyd y 5 canolfan gyntaf. 

Mae map rhyngweithiol ar-lein wedi’i lansio bellach i helpu Llywodraeth Cymru ddeall ble yr hoffai pobl weld mwy o goed yn cael eu plannu yn eu cymunedau drwy ollwng pin ar y map. Bydd yr wybodaeth a gesglir o hyn yn cael ei defnyddio i weld ble y gallai fod yn bosibl plannu coed a gweithio gyda thirfeddianwyr i weld beth sy'n cael ei ganiatáu a beth sy'n bosibl. 

Gallwch gymryd rhan a gweld y map yma: Coedwig Genedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU

Mae gwybodaeth am blannu coed ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael help i blannu coed a chreu coetir.


Ceisiadau terfynol ar gyfer y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol

Bydd y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn dod i ben ar 17 Mawrth 2022. Bydd gennych hyd at 24 Mawrth 2022 i gyflwyno unrhyw geisiadau am gyfnodau o absenoldeb hyd at 17 Mawrth 2022, neu i ddiwygio ceisiadau rydych chi eisoes wedi’u cyflwyno.

Ni fyddwch yn gallu hawlio Tâl Salwch Statudol yn ôl ar gyfer absenoldebau cysylltiedig â’r coronafeirws neu hunanynysu gan eich gweithwyr sy’n digwydd ar ôl 17 Mawrth 2022.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cyfres Gweminarau Busnes Cymru am y Weledigaeth Werdd 21 - 24 Mawrth 2022

Mae Busnes Cymru yn helpu busnesau i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o effeithlonrwydd adnoddau, ac yn eich helpu i gymryd camau i liniaru eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Os yw’r Weledigaeth Werdd sydd gennych chi’n anelu at fod yn garbon sero net yn y dyfodol, bydd y gyfres hon o fudd i chi.

Mae’r gyfres ar y Weledigaeth Werdd yn cynnig cyngor ac adnoddau ar gyfer pob busnes yng Nghymru, a bydd y sesiynau arbenigol yn ymdrin â:

  • Phecynnu gyda phlastig a gweithgynhyrchu
  • Dylunio cynnyrch ac arloesedd
  • Mesur effaith a sgiliau cynaliadwyedd
  • Datblygiadau yn y farchnad a datgarboneiddio

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Uchelgais Werdd | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Ymgynghoriad cenedlaethol yn gofyn i’r cyhoedd helpu i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ar hyd a lled y wlad i ymuno ag ymgynghoriad cenedlaethol a fydd yn helpu i lunio ei strategaeth i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2021 i helpu i lunio strategaeth tybaco hirdymor Cymru, ac mae ar agor tan 31 Mawrth 2022.

Mae felly lai na mis i fynd ac mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gymunedau ledled y wlad i fanteisio ar y cyfle i ymuno â’r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu barn ar greu dyfodol di-fwg ar gyfer Cymru.

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau mai byw’n ddi-fwg yw’r norm yng Nghymru. O ganlyniad i ymdrechion i gefnogi’r nod hwnnw, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno meysydd chwarae, tiroedd ysgol a thiroedd ysbyty di-fwg. Yn fwy diweddar, ar 1 Mawrth 2022, mae smygu mewn llofftydd gwestai a thai llety wedi’i wahardd ac mae gofynion di-fwg wedi’u cyflwyno mewn llety gwyliau hunangynhwysol megis bythynnod a charafannau.

I gael dweud eich dweud am sut y dylai Cymru greu cymdeithas ddi-fwg ewch i: Strategaeth rheoli tybaco i Gymru a’r cynllun cyflawni | LLYW.CYMRU

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar: Ymgynghoriad cenedlaethol yn gofyn i’r cyhoedd helpu i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram