Dathlu Pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed: Sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i hyrwyddo’ch busnes
Mae Llwybr Arfordir Cymru eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, a'r wythnos diwethaf (3 Mawrth), cynhaliwyd gweminar gan y tîm sydd wrthi’n cynllunio’r gweithgareddau i ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Y nod oedd sicrhau bod gan randdeiliaid yn y diwydiant yr wybodaeth a’r dolenni y mae eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan yn y dathliadau. Gan amrywio o newyddion am y rhaglen o weithgareddau i gyfleoedd i ddefnyddio logo'r 10fed pen-blwydd ac adnoddau eraill, tynnwyd sylw yn ystod y sesiwn at yr holl adnoddau sydd ar gael.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhan bwysig o waith hyrwyddo Croeso Cymru a bydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Bydd y gwaith yn cynnwys deunydd newydd ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau uchel eu proffil a gweithgareddau i'r wasg gyda National Geographic a llawer o rai eraill.
Yn ystod y weminar, rhannodd ein siaradwyr gwadd o Lwybr Arfordir Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru newyddion am raglen o weithgarwch cynaliadwy a fydd yn:
- codi ymwybyddiaeth am fanteision Llwybr Arfordir Cymru ymhlith trigolion ac ymwelwyr
- cynyddu defnydd o'r Llwybr
- parhau i ysbrydoli ymwelwyr i'w fwynhau a'i werthfawrogi
Mae’r recordiad, y cyflwyniad ac adnoddau defnyddiol eraill, gan gynnwys Pecyn Cymorth Busnes a logos pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed, i’w gweld yma: Dathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru | (gov.wales).
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|