Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

24 Mawrth 2022


beach

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ar y Coronafeirws ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaeth; Gweminar VisitBritain – Canlyniadau Ton 4 Traciwr Teimladau Rhyngwladol am COVID-19, 6 Ebrill 2022NODYN ATGOFFA: Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2022; Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaeth; Arolwg nodedig yn canfod bod pobl anabl wedi bod o dan anfantais ar ôl y cyfnod clo; Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd – Gweminar, Dydd Iau, 7 Ebrill 2022; ‘Cledrau Cymru’ - lansio prosiect twristiaeth gynaliadwy newydd; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru: NODYN ATGOFFA: Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir – Ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Mawrth 2022; Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022; Eisteddfod Genedlaethol 2022; Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru; £22 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd; NCSC yn cynghori sefydliadau i weithredu yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19 


Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaeth

Mae'r adroddiad Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaeth yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau i dwristiaid er mwyn darparu gwell dealltwriaeth o'r sector i’r diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Dros y misoedd nesaf bydd Croeso Cymru yn gweithio gyda Strategic Research and Insight (SRI) i gynnal arolwg o atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, a fydd yn casglu ffigurau ymwelwyr ar gyfer 2021. Bydd Strategic Research and Insight yn cysylltu ag atyniadau i ymwelwyr yn uniongyrchol dros yr wythnos i ddod.  Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth atyniadau i ymwelwyr i ddarparu niferoedd yr ymwelwyr a data hanfodol eraill. Caiff y data hyn eu defnyddio i lywio strategaethau a fydd yn ein helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth. 

Os nad yw eich atyniad i ymwelwyr yn clywed oddi wrth SRI ond yr hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Jennifer.Velu@llyw.cymru.


Gweminar VisitBritain – Canlyniadau Ton 4 Traciwr Teimladau Rhyngwladol am COVID-19, 6 Ebrill 2022.

Bydd VisitBritain yn cynnal gweminar ar 6 Ebrill, 11am-12.30pm. Bydd yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i mewn i’r DU a chanlyniadau ton 4 y Traciwr Teimladau Rhyngwladol am COVID-19. Mae’r weminar hon am ddim ac ar agor i bawb.

I archebu eich lle cofrestrwch ar: Business support webinars | VisitBritain.


NODYN ATGOFFA: Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2022

Mae tîm Digwyddiadau Cymru, Cwrdd yng Nghymru yn arddangos gyda stondin â brand Cymru mewn tri digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes yn 2022:

  • IMEX: Frankfurt, 31 Mai - 02 Mehefin 2022
  • The Meetings Show: ExCel, Llundain, 29 - 30 Mehefin 2022
  • IBTM: Fira, Barcelona, 29 Tachwedd - 01 Rhagfyr 2022

Fel sbardun i gynlluniau adfer busnes COVID-19, bydd Cwrdd yng Nghymru yn cynnig cymhorthdal tuag at y gost ar gyfer nifer cyfyngedig o gwmnïau cymwys i fynychu hyd at dri digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes ym mhafiliwn Cwrdd yng Nghymru yn 2022 (10 cwmni cymwys i fynychu IMEX ac IBTM a hyd at 14 o gwmnïau ar gyfer The Meetings Show.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 1 Ebrill 2022.

Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais: Digwyddiadau Busnes Cymru – Cyfleoedd  Arddangos | Busnes Cymru (llyw.cymru).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Cwrdd yng Nghymru CwrddyngNghymru@llyw.cymru.


Arolwg nodedig yn canfod bod pobl anabl wedi bod o dan anfantais ar ôl y cyfnod clo

Arolwg Mynediad ‘Euan’s Guide’ yw'r arolwg mwyaf hirhoedlog o'i fath yn y DU, ac mae'n gofyn i bobl anabl am yr hyn sy'n dda a’r hyn nad yw cystal o ran mynediad i'r anabl yn y lleoedd y maent yn ymweld â nhw.

Mae gwaith ymchwil newydd wedi datgelu bod 59% o bobl anabl yn credu bod COVID wedi gwneud mynediad ar gyfer pobl anabl yn waeth.

Dywedodd 73% o'r ymatebwyr eu bod wedi canfod bod gwybodaeth ar wefan lleoliad yn gamarweiniol, yn ddryslyd neu'n anghywir, ac ategwyd hyn gan 73% o ymatebwyr a oedd wedi cael taith siomedig neu a oedd wedi gorfod newid cynlluniau oherwydd hygyrchedd gwael.

Mae parcio hygyrch a thoiledau hygyrch yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ymwelwyr anabl, gydag 81% ac 80% o'r ymatebwyr yn dweud y byddent yn helpu i fagu hyder wrth ymweld â lleoedd newydd.

Mae rhagor o fanylion yma: Canlyniadau Arolwg Mynediad ‘Euan’s Guide’ 2021 (euansguide.com) a gallwch weld canlyniadau diweddaraf yr arolwg mynediad blynyddol yma: Yr Arolwg Mynediad – ‘Euan’s Guide’ (euansguide.com).

Dysgwch pa addasiadau a allai eich helpu i fynd i'r afael ag anghenion mynediad eich cwsmeriaid a rhoi profiad gwych iddynt, drwy gwblhau'r cwrs hyfforddiant byr am ddim gan elusen ‘Tourism for All’: ‘So what makes you think you are not accessible?’ (tourismforall.org.uk).


Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd – Gweminar, Dydd Iau, 7 Ebrill 2022

Mae tua 420,000 o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru, sy’n golygu bod cronfa enfawr o dalent heb ei chyffwrdd yn aros i lenwi eich swyddi gwag. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y weminar fer ac am ddim hon i gael cyngor arbenigol ar sut mae creu gweithlu amrywiol yn gallu cynyddu ceisiadau o safon ar gyfer eich swyddi gwag, a chreu gweithlu cynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eich cwsmeriaid, ewch i: Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd – Gweminar | Busnes Cymru (llyw.cymru).


‘Cledrau Cymru’ - lansio prosiect twristiaeth gynaliadwy newydd

Mae prosiect twristiaeth newydd ‘Cledrau Cymru’ wedi'i lansio i annog mwy o bobl i deithio o amgylch Cymru yn gynaliadwy gan ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, rheilffyrdd treftadaeth a bysiau.

Mae Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru a Croeso Cymru wedi cyd-ariannu’r fenter newydd i hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu cysylltu atyniadau allweddol i dwristiaid a rhoi cyfle i ymwelwyr brofi rhai o rwydweithiau rheilffyrdd mwyaf golygfaol y byd.

Gall ymwelwyr gynllunio eu taith o amgylch Cymru a dewis o blith themâu atyniadau ymwelwyr, megis bwyd gwych, anturiaethau anhygoel, treftadaeth arwrol, gerddi godidog a'r awyr agored hygyrch – trwy ddefnyddio'r wefan: Cledrau Cymru / Wales on Rails.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae hon yn bartneriaeth ragorol sy'n annog anturiaethau diogel, cynaliadwy llawn golygfeydd godidog ledled Cymru, ac sy'n arddangos y cyfoeth o brofiadau sy'n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.   Mae'r fenter newydd hon yn ei gwneud hi'n haws i bobl gynllunio eu teithiau – tra hefyd yn defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio.”

Rhagor o wybodaeth yma: ‘Cledrau Cymru’ - Lansio Prosiect Twristiaeth Gynaliadwy Newydd (trc.cymru).


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru:

Mae holl ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar gael i chi eu gweld ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU (cliciwch ar ‘ar agor’ i weld y rhai byw). Mae ymgynghoriad yn rhoi cyfle ichi gael dweud eich dweud am ddatblygiadau newydd Llywodraeth Cymru. I gael newyddlen, cliciwch ar Tanysgrifiwch i gael newyddlen | LLYW.CYMRU.

NODYN ATGOFFA: Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir – Ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Mawrth 2022

Gofynnir am sylwadau ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl. Ymgynghoriad yn cau: 28 Mawrth 2022. Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir | LLYW.CYMRU.

Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar Orchymyn drafft. Mae'r Gorchymyn yn newid y ffordd y caiff llety hunanddarpar ei drin at ddibenion trethiant lleol. Ymgynghoriad yn cau: 12 Ebrill 2022. Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 | LLYW.CYMRU.


Eisteddfod Genedlaethol 2022

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Nhregaron, Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.

Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae manylion a dyddiadau cau ar gyfer cymryd rhan, a’r cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa Gymraeg yn bennaf, ar gael yma: Eisteddfod Genedlaethol 2022 | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru

O 21 Mawrth 2022 ymlaen, mae’n anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i roi lle canolog i hawliau plant yn ei pholisïau.

O dan Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, mae pob math o gosbi corfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon. Mae’r gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022 ymlaen.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar: Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru | LLYW.CYMRU.

Mae adnoddau ar gael yma: Magu Plant. Rhowch amser iddo | LLYW.CYMRU.


£22 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd

Y ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd at £22 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd.

Mae buddsoddi yn y theatr eiconig yn Sir y Fflint yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Theatr Clwyd yw'r theatr sy'n cynhyrchu fwyaf yng Nghymru, sy'n adnabyddus am gynyrchiadau theatr o'r safon uchaf ac effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd sylweddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Cewch ragor o wybodaeth ar Llyw.Cymru.


NCSC yn cynghori sefydliadau i weithredu yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin

Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Prydain (NCSC) yn cynghori sefydliadau i fanteisio ar y cyfle i gryfhau gwydnwch seiber, wrth i’r bygythiad seiber gynyddu. Gallai hynny olygu mesurau technegol, ond mwy o graffu a gwyliadwriaeth hefyd, sicrhau bod systemau'n cael eu clytio a'u diweddaru, ac atgoffa staff o arferion da gydag e-byst ac ymosodiadau gwe-rwydo.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram