Bwletin Newyddion: Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau; Arolwg tracio teimladau defnyddwyr y DU COVID-19 – Proffil Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Chwefror 2022


covid

Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau

Bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi.

O 18 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad cyfreithiol i ddangos Pás COVID i fynd i mewn i leoliadau a digwyddiadau penodol yn cael ei ddileu ac o Chwefror 28 ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man dan do cyhoeddus bellach.

Cadarnhawyd y newidiadau heddiw (dydd Gwener 11 Chwefror), yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o fesurau lefel rhybudd sero Cymru.

Awgryma’r canlyniadau diweddaraf o Arolwg Heintio’r ONS fod y lefelau haint wedi lleihau’n ddiweddar, ond fod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn parhau’n gymharol uchel ym mhob rhan o Gymru.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud:

“Gyda niferoedd cynyddol o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu, a gyda diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ledled Cymru, rydym yn hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn lleihau ac y gallwn edrych ymlaen at amseroedd gwell i ddod.

“Gallwn ddechrau dileu’n raddol ac yn ofalus rai o’r mesurau diogelu sydd gennym mewn grym o hyd ar lefel rhybudd sero. Ond nid ydym yn dileu’r holl fesurau ar yr un pryd gan nad yw’r pandemig wedi dod i ben eto.

“I ddiogelu Cymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o hyd a gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu meddyliau pobl sy’n teimlo eu bod yn wynebu’r risg fwyaf. Byddwn yn cadw rhai o’r mesurau diogelu pwysig sydd mewn grym, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ym mhob siop. Byddwn hefyd yn cadw’r rheolau hunanynysu sydd mewn grym.

“Fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn nodi sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd sero a’r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn ers bron i ddwy flynedd.

“Bydd hyn yn helpu pob un ohonom i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, ni fydd y Pás COVID domestig yn ofynnol bellach ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do neu awyr agored, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond bydd digwyddiadau a lleoliadau yn gallu parhau i’w ddefnyddio os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Bydd y Pás COVID rhyngwladol yn parhau i fod yn rhan annatod o drefniadau ar gyfer teithio rhyngwladol mwy diogel. Bydd angen i deithwyr edrych ar reolau’r wlad berthnasol ynghylch mynediad, gan gynnwys unrhyw ofynion gwahanol i blant.

O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd ysgolion yn dychwelyd at ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol o 28 Chwefror ymlaen. Yn ogystal, o 11 Chwefror ymlaen, bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru er mwyn ei gwneud yn glir y gall oedolion dynnu eu gorchudd wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau i’r oedrannau hynny.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth, pan fydd yr holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym yn cael eu hadolygu.

 

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (11 Chwefror 2022) | LLYW.CYMRU


Arolwg tracio teimladau defnyddwyr y DU COVID-19 – Proffil Cymru

Cyhoeddwyd adroddiad proffil diweddaraf Tracio Defnyddwyr Cymru COVID-19 yn seiliedig ar waith maes Waves 40-42, sy'n cwmpasu dechrau mis Tachwedd 2021 i ganol mis Ionawr 2022.

Gan adlewyrchu lefelau hyder a sicrwydd uwch, mae'n dangos bod trigolion y DU a Chymru yn rhagweld y bydd yn mynd ar lawer mwy o deithiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf, na'r 12 mis blaenorol. Mae Cymru'n wythfed ar y rhestr o gyrchfannau arfaethedig ar gyfer taith dros nos yn y Gaeaf/Gwanwyn (ac mae mwy o ddiddordeb ar gyfer tripiau yn rhan olaf y cyfnod hwn), ac yn drydydd ar y rhestr ar gyfer teithiau dros nos yr haf.

Darllenwch yr adroddiad ar: Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): 4 Tachwedd 2021 i 10 Ionawr 2022 | LLYW.CYMRU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram