Bwletin Newyddion: Parhau â’r cynllun i lacio cyfyngiadau covid yn raddol; Cefnogwyr chwaraeon yn dychwelyd i ddigwyddiadau awyr agored wrth i Gronfa Chwaraeon Gwylwyr gael ei dyrannu

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

21 Ionawr 2022


corona

Parhau â’r cynllun i lacio cyfyngiadau covid yn raddol – Y Prif Weinidog

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu.

Bydd y cynllun i lacio’r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn ôl i lefel rhybudd sero yn parhau.

Mae’r data iechyd cyhoeddus diweddaraf yn awgrymu bod y don Omicron wedi pasio ei hanterth yng Nghymru a bod achosion o’r coronafeirws yn gostwng i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn gynharach yn yr hydref. Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn ysbytai hefyd yn gostwng.

O ddydd Gwener 21 Ionawr ymlaen, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored.
  • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol gofynnol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
  • Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.
  • Mae’r Pàs Covid yn ofynnol ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod wedi pasio brig y don Omicron. Gallwn felly lacio’r mesurau lefel rhybudd dau fel rhan o’n cynllun gofalus a graddol.

“Byddwn yn dileu’r cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n cael ymgynnull mewn digwyddiadau awyr agored. Mae angen gofal o hyd, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn mynd i’r cyfeiriad cywir ac y gallwn, wythnos nesaf, symud yn llawn i lefel rhybudd sero, oni bai bod y sefyllfa’n newid er gwaeth.

“Rydym yn gallu gwneud hyn diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru a’n rhaglen frechu ragorol. Mae’n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a’r canllawiau i ddiogelu eu hunain a’u hanwyliaid. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.”

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben.
  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.

Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf Covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl fesurau ar lefel rhybudd sero.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (21 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.

Covid-19 easing of restrictions timeline

Ni fydd cyfyngiadau mwyach ar faint fydd yn cael ymgynnull unrhyw le yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus a thraethau, mannau awyr agored ar safle a reoleiddir neu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored. Ond, mae’n rhaid i chi barhau i gynnal asesiad risg coronafeirws penodol a chymryd camau rhesymol i leihau cysylltiad pobl â’r feirws, a lleihau ei ledaeniad.


Lefelau rhybudd COVID-19

Gweler holl fesurau lefelau rhybudd yma: Lefelau rhybudd COVID-19 | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.

Mae canllawiau diweddaraf UK Hospitality ar gael yma: Canllawiau Cymru ar gyfer Lletygarwch – UKHospitality.


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.


Cefnogwyr chwaraeon yn dychwelyd i ddigwyddiadau awyr agored wrth i Gronfa Chwaraeon Gwylwyr gael ei dyrannu

Wrth i'r cyfyngiadau ar gyfer chwaraeon gwylwyr awyr agored symud i lefel rhybudd sero y penwythnos hwn, mae cam cyntaf Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3 miliwn Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei dyrannu, yn ôl y Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Y Gronfa Chwaraeon Gwylwyr (21 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram