Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

19 Ionawr 2022


cambrian mountains

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Y Gronfa Cadernid Economaidd yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol brys; Y Gronfa Argyfwng Busnes ar agor; Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau; Lefel rhybudd 2; Negeseuon Atgoffa COVID-19: Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws, Diogelu Cymru - yn y gwaith, Pàs COVID y GIG - pecyn hyrwyddo; COVID-19: Dyletswydd cyflogwyr o ran beichiogrwydd a mamolaeth; Cofrestru awtomatig - dyletswyddau pensiwn gweithle; Adnodd Seiber Am Ddim i Fusnesau - CyberAlarm yr Heddlu; Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd; Beth am fod yn achubwr bywyd? Mae’r RNLI yn chwilio am achubwyr bywyd; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Y Gronfa Cadernid Economaidd yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol brys

Gall busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron wneud cais am gymorth ariannol brys gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y byddai £120 miliwn ar gael ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt gan y symud i Lefel Rhybudd 2 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar ddydd Mercher 22 Rhagfyr. Mae’n cynnwys busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ynghyd â’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 a £25,000, gyda grantiau'n dibynnu ar faint y busnes a nifer y gweithwyr.

Mae ceisiadau am y gronfa hon nawr ar agor a byddant yn parhau ar agor hyd at 4pm ar 1 Chwefror 2022.

Gwnewch gais am gymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yma: COVID-19 Cymorth i Fusnes.


Y Gronfa Argyfwng Busnes ar agor

Bydd Awdurdodau Lleol yn darparu cronfa ddewisol i fusnesau sy'n anghymwys i gael cymorth Cyfradd Ardrethi Annomestig gyda throsiant llai na £85,000 drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis yn gallu gwneud cais am £1,000 a gall busnesau sy'n cyflogi pobl wneud cais am £2,000.

Mae'r cyllid hwn hefyd ar gael i weithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau

Cafodd cynllun i ddychwelyd Cymru i fesurau lefel sero ei nodi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford ar 14 Ionawr.

Mae’r cynllun cymalog yn llacio’n gyntaf y mesurau ar weithgareddau awyr agored wrth i Gymru symud yn raddol o lefel rhybudd dau ac yn ôl yn llwyr i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr.

Ond er mwyn i ni allu symud yn llwyr i lefel rhybudd sero, rhaid i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd barhau i wella.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Review of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No.5) (Wales) Regulations 2020 (14 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.

keep wales safe

Lefel rhybudd 2

Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 2:


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG


COVID-19: Dyletswydd cyflogwyr o ran beichiogrwydd a mamolaeth

Oni bai bod angen addasiadau i amodau gwaith am resymau sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch neu feichiogrwydd ar weithiwr beichiog, dylech eu trin yr un fath ag unrhyw weithiwr arall.

Mae canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyngor syml ar y pethau y dylai ac na ddylai cyflogwyr eu gwneud er mwyn gofalu nad ydyn nhw’n gwahaniaethu yn erbyn y rhai sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cofrestru awtomatig – dyletswyddau pensiwn gweithle

O dan Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU drefnu bod staff penodol yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle a chyfrannu ato. Gelwir hyn yn 'gofrestru awtomatig'. Os ydych chi'n cyflogi o leiaf un person, rydych chi'n gyflogwr â dyletswyddau cyfreithiol penodol.

Mae'n bwysig eich bod yn deall beth i'w wneud ac erbyn pryd, er mwyn cyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn brydlon.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Adnodd Seiber Am Ddim i Fusnesau – CyberAlarm yr Heddlu

Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn am y Cyd-ddatganiad drafft ar Bysgodfeydd (JFS).

Ymgynghoriad yn cau: 12 Ebrill 2022.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn arbennig o berthnasol i:

  • Unigolion, grwpiau neu fusnesau sy'n ymwneud â'r sectorau pysgota, bwyd môr neu ddyframaethu
  • Unigolion, grwpiau neu fusnesau eraill sy'n defnyddio’r môr, er enghraifft, diwydiannau morol fel olew a nwy, ynni adnewyddadwy ar y môr a chyrff hwylio
  • Grwpiau buddiant cenedlaethol a lleol fel mudiadau amgylcheddol a hamdden anllywodraethol, a ffederasiynau diwydiannau.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd | LLYW.CYMRU.


Beth am fod yn achubwr bywyd? Mae’r RNLI yn chwilio am achubwyr bywyd

Ydych chi’n hoff iawn o nofio ac yn chwilio am swydd ar gyfer yr haf gyda phobl sy’n rhannu’r un diddordeb â chi? Hoffech chi weithio yn rhai o leoliadau harddaf Cymru?

Tymor 2021 oedd un o dymhorau prysuraf erioed yr RNLI ac er mwyn paratoi ar gyfer blwyddyn arall brysur hoffai recriwtio rhagor o achubwyr bywyd ar gyfer traethau ar draws y wlad. Ewch I wefan yr RNLI i gael rhagor o wybodaeth.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram