Bwletin Newyddion: Y Gronfa Cadernid Economaidd yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol brys; Y Gronfa Argyfwng Busnes ar agor

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Ionawr 2022


corona

Y Gronfa Cadernid Economaidd yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol brys

Gall busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron wneud cais am gymorth ariannol brys gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y byddai £120 miliwn ar gael ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt gan y symud i Lefel Rhybudd 2 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar ddydd Mercher 22 Rhagfyr. Mae’n cynnwys busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ynghyd â’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 a £25,000, gyda grantiau'n dibynnu ar faint y busnes a nifer y gweithwyr.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor am bythefnos, gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru ers dechrau’r pandemig, ac rydyn ni’n parhau i weithredu i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.

“Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol â busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill, newidiwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gan y gronfa hon yn ddiweddar. Mae grant y Gronfa Cadernid Economaidd yn gwneud taliad ychwanegol, sydd ar gael yng Nghymru yn unig, i gefnogi busnesau cymwys mae eu hincwm wedi gollwng 60% rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl. Mae’r meini prawf newydd yn golygu bellach y bydd busnesau yn y sectorau hyn mae eu trosiant wedi gollwng 50% hefyd yn gallu cael mynediad at y Gronfa Cadernid Economaidd.

“Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o fusnesau yn cael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru.”

Gall busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol yng Nghymru hefyd gael cymorth gan y grant sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig, sy'n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Bydd gan fusnesau hawl i gael taliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweinyddu cronfa ddewisol ar gyfer unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis a busnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes. Yr wythnos diwethaf cafodd y cymorth hwn ei ddyblu i £1,000.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £2.5 biliwn o gyllid ar gyfer busnesau Cymru ers dechrau'r pandemig. Gan ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau yng Nghymru, mae wedi cael ei weinyddu mewn ffordd dargedig helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi cael eu colli fel arall.

Gwnewch gais am gymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yma: COVID-19 Cymorth i Fusnes

Mae ceisiadau am y gronfa hon nawr ar agor a byddant yn parhau ar agor hyd at 4pm ar 1 Chwefror 2022.


Y Gronfa Argyfwng Busnes ar agor

Bydd Awdurdodau Lleol yn darparu cronfa ddewisol i fusnesau sy'n anghymwys i gael cymorth Cyfradd Ardrethi Annomestig gyda throsiant llai na £85,000 drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis yn gallu gwneud cais am £1,000 a gall busnesau sy'n cyflogi pobl wneud cais am £2,000.

Mae'r cyllid hwn hefyd ar gael i weithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram