Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

13 Ionawr 2022


aber

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig; £15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru; NODYN ATGOFFA - Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19; NEGESEUON ATGOFFA COVID-19: Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws, Diogelu Cymru – yn y gwaith, Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; Lefel rhybudd 2; SGILIAU A RECRIWTIO: Cymorth recriwtio prentisiaid, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru; Barod Amdani yn parhau i 2022; Strategaeth Digwyddiadau Cymru 2022-2030 - penodi ymgynghorwyr; Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir; Cyfraddau Tâl Statudol o fis Ebrill 2022; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig

Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Mae'n nodi ymrwymiad yr holl bartneriaid i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru, partneriaeth arloesol sy'n dod â buddsoddiad cyfunol o £110 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddo ysgogi buddsoddiad ychwanegol sylweddol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill gan greu cymaint o effaith â phosib yn rhanbarth Canolbarth Cymru.

Yn ogystal, bydd disgwyl i'r rhaglenni a'r prosiectau a gefnogir gan y Fargen Dwf greu manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach, megis gwell ansawdd bywyd, creu cyfleoedd busnes yn dilyn effaith COVID-19, datgarboneiddio mewn diwydiant ac ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Gwneir y cytundeb ar ôl datblygu a chyflwyno Achos Busnes y Portffolio ar sail y gyfres gyfredol o raglenni a phrosiectau ar y rhestr fer sy'n cwmpasu ystod o gynigion buddsoddi ar draws nifer o themâu, digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesi a chefnogi menter. 

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


£15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19.

Mae'r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i'r sectorau diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig COVID-19.

Lansiodd Cyngor Celfyddydau Cymru ei broses ymgeisio ar gyfer sefydliadau o fewn y sector celfyddydau ar 12 Ionawr. Mae'r gronfa sefydlogrwydd y gaeaf a gyhoeddwyd yn flaenorol bellach wedi'i chyfuno â thrydedd rownd Cronfa Adfer y Gaeaf er mwyn sicrhau aliniad â'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Cysylltir â sectorau eraill yr effeithiwyd arnynt gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, lleoliadau digwyddiadau a threfnwyr, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol a gefnogwyd yn flaenorol drwy y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru drwy lythyr yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr.  Bydd y llythyr yn  nodi sut y gallant gael gafael ar gymorth ariannol.

Cewch wybod mwy am y £15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru | LLYW.CYMRU a’r Datganiad Ysgrifenedig: Rownd 3 y Gronfa Adferiad Diwylliannol (12 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU


NODYN ATGOFFA - Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 60% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Bydd ceisiadau am y gronfa hon yn dechrau agor o'r wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr 2022 a byddant yn parhau ar agor am bythefnos.

Cewch ragor o fanylion ar wefan Busnes Cymru a darllen y cyhoeddiad ar Llyw.Cymru.

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i wirio'ch cymhwysedd ar gyfer y pecyn pellach hwn o gymorth.

Bydd y cyllid hefyd ar gael i fusnesau sydd newydd eu sefydlu yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd.  Mae’r manylion i’w gweld ar:

Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth Ariannol Covid Brys gan gynnwys Busnesau sydd Newydd eu Sefydlu (7 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.


Lefel rhybudd 2

Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 2:


SGILIAU A RECRIWTIO:

I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.

Cymorth recriwtio prentisiaid

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a'r asesiadau.

I helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion tan 28 Chwefror 2022 (yn amodol ar argaeledd cyllideb).

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.

Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru  

Mae swydd wag ar gyfer Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru, a sefydlwyd i nodi materion sy'n ymwneud â hyfforddi, datblygu a chadw staff yn y sectorau Twristiaeth a Lletygarwch yng Nghymru ac i hyrwyddo atebion i'r asiantaethau perthnasol.

Mae'r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd arweinwyr y diwydiant a chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector Addysg a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Mae'n ceisio galluogi a llunio strategaeth gynhwysfawr ar gyfer dysgu, cymwysterau a safonau prentisiaeth i'w datblygu a chynorthwyo a galluogi'r sector i gynnig gyrfaoedd gwerth chweil a deniadol i ddarpar staff o bob oed a chefndir yn y blynyddoedd i ddod.

Ar hyn o bryd mae'r Bartneriaeth o dan arweiniad y diwydiant yn cyfarfod bob chwarter ac mae'n cynnwys Croeso Cymru, sydd hefyd yn darparu swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: CADEIRYDD_PARTNERIAETH_SGILI.pdf (ymaws.com)


Barod Amdani yn parhau i 2022

Bydd safon y diwydiant 'Barod Amdani' sy'n sicrhau cwsmeriaid bod eich busnes yn dilyn canllawiau diogelwch diweddaraf COVID y Llywodraeth, yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

Gall busnesau sy'n cymryd rhan nawr lawrlwytho eu tystysgrif 2022 Barod Amdani i'w harddangos ar y safle a dangos eich bod wedi cymryd y camau gofynnol i groesawu eich ymwelwyr yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth ac Iechyd y Cyhoedd. I gael mynediad i'ch tystysgrif, mewngofnodwch a dilynwch y tab 'Tystysgrif a Logos' yn y pennawd.

Lawrlwythwch eich tystysgrif ar: Mewngofnodi / Barod Amdani (visitbritain.com).


Strategaeth Digwyddiadau Cymru 2022-2030 - penodi ymgynghorwyr

Amlygir pwysigrwydd digwyddiadau i'r economi ymwelwyr yng Nghymru yn Strategaeth twristiaeth "Croeso i Gymru".  Cynhaliwyd y strategaeth ddigwyddiadau bresennol rhwng 2010 a 2020 ac er bod y ffocws diweddar wedi bod ar gefnogi'r sector digwyddiadau drwy COVID-19, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, gan gynnwys adolygiad allanol dan arweiniad ymgynghorwyr, i ystyried datblygu strategaeth Digwyddiadau Cymru 2022-2030. 

Yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol, penodwyd Purple Moon Consulting Ltd i ddatblygu'r strategaeth a bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid, y diwydiant digwyddiadau, Gweinidogion a thîm Digwyddiadau Cymru dros y misoedd nesaf i gyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion ei hystyried.  Mae gan dîm y Purple Moon, o dan arweiniad arbenigwr digwyddiadau mawr, Stuart Turner, brofiad helaeth ar draws digwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes a'r nod yw lansio'r strategaeth yn Haf 2022.


Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl.

Ymgynghoriad yn cau: 28 Mawrth 2022

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir | LLYW.CYMRU.


Cyfraddau Tâl Statudol o fis Ebrill 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhiant a thâl salwch o fis Ebrill 2022.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Gallwch weld bwletinau ynghylch y Coronafeirws (COVID-19) ar dudalen Cylchlythyrau / Bwletinau Diwydiant Twristiaeth 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram