Bwletin Gwaith Ieuenctid

Rhagfyr 2021

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Keith edited

Llais Keith

Rwy’n ysgrifennu’r darn yma ar ôl dychwelyd o ffilmio ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni. Buom yn ffilmio yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ac roedd yn gyfle prin, ac un i’w groesawu’n fawr, i gyfarfod â rhai cydweithwyr wyneb yn wyneb. Dyma un enghraifft fach o’r cyd-destun ar gyfer gwobrau eleni.

Wrth i chi ddarllen hwn, mae’n bosibl eich bod chi eisoes wedi gwylio’r seremoni ar-lein ond, rhag ofn, mae’r seremoni rithwir lawn ar gael i’w gwylio yma, a gallwch hefyd ddarllen am bob un o’r ymgeiswyr gwych yn y rownd derfynol ar y dudalen we.

Nod y Gwobrau yw dathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru. Maen nhw’n gyfle i roi sylw i’r holl bethau bendigedig sy’n digwydd i bobl ifanc drwy ddulliau gwaith ieuenctid. Mae gan bawb sydd ar y rhestr fer rywbeth i’w ddathlu ac mae’r enillwyr yn haeddu’r holl gydnabyddiaeth a ddaw i’w rhan.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn adeg ddigynsail. Mae wedi bod yn gyfnod sydd wedi mynnu dulliau newydd a chreadigol o ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Mewn cyfnod mor anodd, rydyn ni wedi gweld gwerth gwaith ieuenctid yn cael ei gydnabod fwy a mwy ac fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog i adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bydd mwy ynglŷn â hynny yn y Bwletin nesaf.

Yr hyn sy’n glir iawn yw bod yr heriau rydyn ni i gyd wedi bod yn eu hwynebu wedi amlygu pa mor amhrisiadwy yw gwaith ieuenctid i bobl ifanc yng Nghymru. Rwy’n hynod ddiolchgar am eich holl ymdrechion i’w cefnogi.

Felly, diolch i chi un ac oll – diolch i bawb sy’n cyfrannu at les pobl ifanc. Rwy’n gobeithio y bydd 2022 yn flwyddyn dda ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru gyda rhaglen waith sy’n gallu atgyfnerthu’ch cyflawniadau.

Llais Person Ifanc

Sut brofiad yw beirniadu Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid?

Eleni, cafodd pedwar panel beirniadu’r dasg o lunio rhestr fer a dewis enillwyr ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Roedd pob panel yn cynnwys beirniad arweiniol annibynnol, ynghyd ag o leiaf un cynrychiolydd o’r sectorau gwirfoddol a statudol a chynrychiolydd person ifanc.

Volunterering

Rhys Baldwin o Volunteering Matters yn Nhorfaen oedd un o’r bobl ifanc a wirfoddolodd i gymryd rhan. Mae’n esbonio sut brofiad oedd hynny…

“Rwy’n credu bod y gwobrau’n dangos popeth sy’n dda am waith ieuenctid, felly pan ddaeth yr alwad am wirfoddolwyr i fod yn feirniaid, roeddwn i’n teimlo y byddai’n beth da i fod yn rhan ohono.

Rhys updated

Dyma’r eildro i mi fod yn feirniad – mae’n ddiddorol iawn gweld yr holl brosiectau a’r hyn maen nhw wedi’i wneud er mwyn cael eu henwebu.

Ymunais â phanel beirniadu o bump, gyda Deb Austin, Rheolwr Rhaglen o Gyda’n Gilydd i Blant a Phobl Ifanc(T4CYP) fel ein Harweinydd Annibynnol. Fel arfer, mae panel yn pwyso a mesur nifer o gategorïau, ond un oedd gennym un, sef ‘Cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid yn ystod y pandemig’. Y rheswm am hynny oedd oherwydd bod cymaint o enwebiadau. Fe wnaethon ni dderbyn y ffurflenni ychydig wythnosau cyn ein cyfarfod a gofynnwyd i ni lunio rhestr fer o’n pump neu chwech uchaf – roedd hynny’n dipyn o her gan fod cymaint ohonyn nhw’n wych, ac roedd cryn dipyn o waith darllen hefyd!

Cynhaliwyd cyfarfod y panel beirniadu ar Teams. Dechreuwyd drwy restru ein prif enwebiadau a’u cymharu. Y peth anoddaf am hynny oedd bod gennym ni farn wahanol ar rai prosiectau weithiau. Roedd yn anodd dewis rhestr fer glir gan fod syniadau mor wahanol gan bob un o’r panel. Fodd bynnag, roedd dewis yr enillydd yn benderfyniad eithaf unfrydol.

Pan ddaw’n fater o gymharu nifer fawr o brosiectau da, yr hyn a ddysgais yn y bôn oedd bod llawer o’r gwaith o wneud y penderfyniad yn ymwneud â pha mor dda y mae’r wybodaeth ar y ffurflenni yn bodloni’r holl feini prawf a pha mor dda mae wedi’i hysgrifennu, ac mae hynny’n gallu bod yn drueni, yn enwedig pan fydd y prosiect yn ymddangos yn dda ond nad yw’r wybodaeth yno. Cafwyd llawer o drafod am y ‘dystiolaeth’ a ddarparwyd hefyd. Felly roedd y rhai a sgoriodd orau wedi darparu llawer o dystiolaeth a digonedd o enghreifftiau gan bobl ifanc ynghylch pa wahaniaeth yr oedd y prosiect neu’r person wedi’i wneud iddyn nhw.

Ar y cyfan, roedd yn anhygoel gweld beth oedd wedi bod yn digwydd, yn enwedig drwy gydol COVID. Byddwn yn argymell yn gryf bod pobl yn rhoi cynnig ar feirniadu – mae’n agoriad llygad. Byddwn wrth fy modd yn cymryd rhan eto y flwyddyn nesaf os bydd cyfle i wneud hynny. Mae’n wych gweld beth sy’n digwydd, nid yn unig yn eich cymuned, ond yng Nghymru gyfan.

Ffocws Arbennig – Dathlu Cyflawniadau

10+ Blynyddoedd o Eirioli dros Blant a Phobl Ifanc

meic

Mae Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn dathlu dros 10 mlynedd o wasanaeth drwy lansio fideo newydd wedi’i animeiddio i blant a phobl ifanc ddeall y gwasanaethau mae’r llinell gymorth yn gallu eu cynnig iddyn nhw.

Mewn gwirionedd, pasiodd Meic garreg filltir y 10 mlynedd pan oedd y pandemig COVID-19 yn ei anterth. Fodd bynnag, er i’r tîm weithio’n galed yn ystod y cyfnod hwn i gynyddu allbwn y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol i helpu i lywio ac egluro’r holl reolau a newidiadau newydd i bobl ifanc, yn ogystal ag ymateb i bawb a oedd yn cysylltu â nhw, doedd hi ddim yn teimlo fel yr amser iawn i fod yn nodi carreg filltir o’r fath. Yn wir, mae dathlu ‘croch’ mewn cyfnod mor anodd yn dal i deimlo’n anaddas, felly yn hytrach, mae’r garreg filltir wedi’i nodi drwy fideo newydd, sy’n myfyrio’n dawel ar sut mae Meic wedi helpu dros y blynyddoedd.

Darluniwyd y fideo newydd gan Lleucu Williams, arlunydd ifanc o Fro Ffestiniog. Mae’n dilyn taith person ifanc, o’r adeg pan mae’n dod ar draws Meic am y tro cyntaf ac yn cysylltu â nhw am help. Yn y fideo, mae Meic yn cael ei bortreadu fel coeden, yn gryf ac yn sefydlog ac yno o hyd i bwyso arni. Mae’r ffilm yn dilyn bywyd y person ifanc, o’r adegau pan fydd angen eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth arno i’r adeg pan mae’n dychwelyd ar y diwedd i rannu’r goeden (Meic) gyda’i blentyn ei hun. Dysgwch fwy am 10+ mlynedd Meic yma.

meic

Ystadegau 10 mlynedd Meic

Mewn 10 mlynedd, mae Meic wedi cael dros 56,500 o gysylltiadau gan blant a phobl ifanc Cymru. Cysylltu dros y ffôn (40%) oedd yn fwyaf poblogaidd, yna sgwrs ar-lein (37%), a negeseuon testun (22%). Y dyddiau prysuraf yw dyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Sul.

Y pum prif destun pryder ers dechrau Meic yw:

  • Perthnasoedd ar wahân i rai teuluol
  • Iechyd meddwl
  • Perthnasoedd teuluol
  • Hawliau a dinasyddiaeth
  • Iechyd corfforol

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Meic, cysylltwch ag info@meic.cymru

Lansio Cynllun Trywydd End Youth Homelessness Cymru (EYHC)

Cynghrair yw End Youth Homelessness Cymru sy’n benderfynol o roi terfyn ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc drwy ffurfio mudiad cenedlaethol i greu’r newid systematig a diwylliannol angenrheidiol i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Bydd Cynllun Trywydd EYHC yn cael ei 'lansio' mewn digwyddiad yn y Senedd yn y Flwyddyn Newydd. Mae'n cynrychioli dull cydweithredol o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan adeiladu ar y dulliau ataliol a nodwyd dros y tair blynedd diwethaf a'r cannoedd o sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda phobl ifanc, cydweithwyr o nifer o sectorau a phartneriaid rhyngwladol.

Mae’r Cynllun Trywydd yn crynhoi’r hyn rydyn ni’n ei wybod a’r hyn y dylem ni ei wneud yn ei gylch, gan olygu bod modd  llunio argymhellion arbenigol, gwybodus i bobl ifanc a thystiolaeth i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Mae’r ymateb i COVID-19 wedi dangos pa mor gyflym y mae safbwyntiau’n gallu newid, ac mae’r Cynllun Trywydd yn sicrhau bod y wybodaeth a gronnwyd drwy ymgyrch EYHC yn barod i’w defnyddio, i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau ac fel adnodd i Awdurdodau Lleol nodi bylchau posibl yn narpariaeth eu gwasanaethau.

EYHC

Yng Nghymru: Darparu cymorth iechyd meddwl a lles cadarnhaol i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Enwebwyd Prosiect Newid NYAS Cymru, dan arweiniad Cydlynydd y Prosiect, Johanne Jones, a’i gefnogi gan y Gweithiwr Prosiect, Shelby Morris, yn y categori ‘cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid yn ystod y pandemig’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni, a hynny am ei ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc ar iechyd meddwl a lles. Daljit Morris, Rheolwr Gweithrediadau NYAS Cymru, sy’n esbonio’r prosiect a chyflawniadau’r tîm hyd yma.

NYAS

Beth yw pwrpas y prosiect?

“Mae risgiau iechyd meddwl gwael sy’n wynebu plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn sylweddol uwch na’u cyfoedion. Sefydlodd NYAS Cymru y Prosiect Newid i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu cymorth i bobl ifanc sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ac sydd angen cymorth yn ystod y cyfnod pontio i lefel is o gymorth.”

Beth mae’n ei gynnwys a pha wahaniaeth y mae’n ei wneud?

“Nod y prosiect yw sefydlu darpariaeth cymorth ieuenctid dan arweiniad cyfoedion a datblygu a darparu gwybodaeth i rieni/gofalwyr. I’r rhai sydd eisoes â chyflyrau iechyd meddwl, a’r rhai sydd wedi ei chael yn anodd delio â’r pandemig a’r cyfyngiadau cymdeithasol a ddeilliodd ohono, mae Newid yn cynnig y lefel ychwanegol honno o gymorth gyda gweithgareddau, adnoddau a thechnegau i helpu i wella iechyd meddwl a lles. Mae Johanne a thîm Newid yn canolbwyntio ar ddarganfod beth sy’n gweithio i’r unigolyn, cyfeirio at wasanaethau a hyrwyddo mynediad at weithgareddau gan gyfoedion i bobl ifanc.

Sefydlwyd clinigau cymorth galw heibio dyddiol rhithwir ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr. Dangosodd tystiolaeth o’n hymyriad eiriolaeth bod gadael CAMHS, hyd yn oed mewn cyfnod ‘normal’, yn gallu creu straen, pryder a diffyg cysondeb i bobl ifanc – gan arwain weithiau at y canlyniadau mwyaf trasig.

O ran canlyniadau, mae NYAS Cymru wedi gweithio gyda miloedd o blant a phobl ifanc ers dechrau’r pandemig, gan ddiogelu eu hawliau a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae’r prosiect Newid wedi chwarae rhan bwysig drwyddi draw.

Rydyn ni’n gwybod fod pandemig COVID-19 wedi creu a dwysáu pryderon iechyd meddwl, ac mae pobl ifanc sy’n gyfarwydd i ni wedi sôn am gynnydd sylweddol mewn lefelau pryder a hwyliau isel. Mae ein Prosiect Newid wedi parhau i gefnogi pobl ifanc yn ystod yr amgylchiadau eithriadol o heriol hyn.”

Sut mae cael gafael ar ragor o wybodaeth?

Mae NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru) yn elusen hawliau plant flaenllaw sy’n cefnogi ac yn grymuso plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru drwy ddarparu gwasanaethau fel eiriolaeth, ymweld annibynnol, mentora, cyfranogiad ieuenctid a chymorth iechyd meddwl. Dysgwch fwy amdanom ni yma.  Ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid sy’n chwilio am wybodaeth neu sy’n dymuno gwneud atgyfeiriad, cysylltwch â: Johanne.jones@nyas.net

Rhyngwladol

WCIA

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli rhyngwladol yn parhau i fod ar gael i bobl ifanc yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau niferus presennol.

Bwriedir cynnal prosiectau gwirfoddoli grŵp ar gyfer cyfnewidfeydd rhyngwladol ar gyfer 2022. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â michaelarohmann@wcia.org.uk

Ar hyn o bryd, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o rannu cyfle i berson ifanc rhwng 18 a 30 oed o Gymru gael ei ystyried ar gyfer lleoliad ESC wedi’i ariannu’n llawn yn Estonia yng Nghanolfan Ddiwylliant Wcrain yn Tallinn. Dysgwch fwy yma.

around the world

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Marc Ansawdd

Marc Ansawdd Astudiaethau Achos Arfer Da Gwaith Ieuenctid

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio tudalen we Marc Ansawdd – Enghreifftiau o Arfer Da. Mae’r dudalen yn cynnwys sawl astudiaeth achos gan sefydliadau sydd wedi’u hachredu gyda’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, pob un yn darparu enghreifftiau go iawn o sut mae sefydliadau ledled Cymru yn gweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc.

Quality mark

Ydych chi wedi clywed?

Etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru – Cyhoeddi Aelodau Newydd

Mae’r rhestr o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru bellach yn fyw ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru Senedd Ieuenctid Cymru (senedd.cymru).

Welsh Youth Parliament

Brechiadau – pobl ifanc 16 ac 17 oed

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyngor newydd yn argymell ail frechiad ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed. Darllenwch y datganiad llawn yma.

Vaccines

Internet Watch Foundation

Bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth ychwanegol i’w hamddiffyn rhag cynnydd mewn bygythiadau ar-lein wrth i Lywodraeth Cymru ddod yn aelod o elusen amddiffyn plant Internet Watch Foundation – y llywodraeth gyntaf i wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Fideos TikTok – cymorth gan Linell Gymorth Diogelwch Ar-lein Gweithwyr Proffesiynol

Mae’r duedd feirol ddiweddar o dargedu athrawon ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar blatfformau’r  cyfryngau cymdeithasol yn peri cryn bryder ledled Cymru. Mae cymorth a chyngor ar ddelio â’r mater hwn ar gael yma.

TikTok

Y Warant i Bobl Ifanc

Ar 16 Tachwedd 2021, gwnaeth Vaughan Gething AS ddatganiad llafar yn y Senedd ynghylch y Gwarant i Bobl Ifanc. Darllenwch y datganiad yma a’i rannu gyda phobl ifanc yn eich lleoliadau.

Urdd

Ymrwymiad yr Urdd i blant a phobl ifanc difreintiedig

Mae’r Urdd wedi datgan ymrwymiad i gefnogi plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel drwy gynnig blwyddyn o aelodaeth am £1, yn hytrach na £10. Dysgwch fwy yma.

 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol bellach ar gael yn eich Pasbort Dysgu Proffesiynol

Adnodd ar-lein yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol sy’n eich galluogi i gofnodi a myfyrio ar eich dysgu proffesiynol, neu bynciau ymchwil sydd o ddiddordeb i chi. Mae hefyd yn rhoi’r adnoddau i chi ryngweithio â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, i gysylltu eich profiadau â’r safonau, ac i chi hunanasesu eich hyder yn eu cylch.

Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru

Wrth i’r cyfyngiadau clo lacio yng Nghymru, bydd cam newydd Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru yn darparu cyllid grant ‘goroesi’ a ‘ffynnu’ ar gyfer sefydliadau gwirfoddol sy’n wynebu heriau presennol a newydd wrth iddynt ddelio ag effeithiau parhaus COVID-19. Dysgwch fwy yn https://wcva.cymru/tsrf

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) – Digwyddiadau i ddod

Mae CGA yn cynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n berthnasol i weithwyr ieuenctid dros y misoedd nesaf. Ewch i dudalennau digwyddiadau CGA i weld rhestr lawn o’r digwyddiadau.

Mapio’r ddarpariaeth addysg ariannol i blant a phobl ifanc – cyfranogwch!

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi lansio prosiect i greu darlun cyfredol o waith sydd ar waith ledled Cymru i wella sgiliau ariannol plant a phobl ifanc. Os ydych yn ariannu neu’n darparu ymyriad addysg ariannol i bobl ifanc, gallwch gyfranogi drwy gwblhau’r arolwg mapio darpariaeth addysg ariannol erbyn 17 Rhagfyr.

MaPS
Educators Wales

Addysgwyr Cymru

Ydych chi eisiau cymryd eich camau gyrfaol nesaf mewn addysg? Neu efallai eich bod yn sefydliad sy’n awyddus i hysbysebu swydd, cymhwyster neu gyfle dysgu proffesiynol? Gall Addysgwyr Cymru helpu – a hynny’n rhad ac am ddim. I gael gwybod mwy, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.

 

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: