Bwletin Newyddion: Dim newidiadau i’r rheolau COVID wrth i'r Prif Weinidog ddiolch i bobl Cymru am eu help i dorri cyfraddau achosion

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Tachwedd 2021


cu

Dim newidiadau i’r rheolau COVID wrth i'r Prif Weinidog ddiolch i bobl Cymru am eu help i dorri cyfraddau achosion

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.

Mae ef wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf.

Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu.

Ni fydd y Pàs COVID yn cael ei ymestyn ychwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Dair wythnos yn ôl, roedden ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Ond mae pawb wedi tynnu ynghyd ac mae achosion wedi syrthio i lawr o'r lefelau uchel na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.

“Hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled ac am y camau y maen nhw wedi'u cymryd i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd a’u ffrindiau.

“Mae cytuno i gael y brechiad yn parhau i fod yn gam hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru, ac mae’n hollbwysig bod pobl hefyd yn cael y brechiad atgyfnerthu.

“Wrth inni ddechrau cynllunio ar gyfer y Nadolig, mae angen inni barhau i gydweithio i ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth. ‘Dyw'r pandemig ddim wedi diflannu – mae pedwaredd don yn llifo ar draws Ewrop, ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau llymach unwaith eto.

“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac i ddiogelu Cymru. Mae hyn yn golygu cadw'r opsiwn o ymestyn y defnydd o'r Pàs COVID os bydd nifer yr achosion yn codi eto a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i’r pandemig yn cynyddu. Bydd gwneud hyn yn helpu i gadw'r sector lletygarwch ar agor a sicrhau bod busnesau yn gallu masnachu yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.

“Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa o safbwynt iechyd y cyhoedd a byddwn ni’n gweithio gyda'r sector lletygarwch wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig. Gadewch inni barhau i gadw ein gilydd yn ddiogel – er mwyn i ni i gyd allu mwynhau Nadolig gyda’n gilydd.”

Bydd canlyniad yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 10 Rhagfyr.


Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram