Bwletin Newyddion: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020; Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; Datganiad gan y Prif Swyddog Meddygol Adolygiad COVID-19, 21 Diwrnod

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

29 Hydref 2021


cu

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 28 Hydref.

Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol. Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn ers yr adolygiad tair wythnos diwethaf o'r rheoliadau. Maent wedi cyrraedd eu pwynt uchaf ers dechrau'r pandemig, gyda mwy na 700 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Mae brechu wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng heintiadau, salwch difrifol a derbyn pobl i’r ysbyty ond nid yw wedi torri'r cysylltiad. Yn anffodus, mae'r cyfraddau uchel parhaus presennol o heintiadau yn y gymuned yn troi'n niferoedd uwch o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19. Mae hyn yn erbyn cefndir o bwysau yn sgil achosion brys ac argyfwng nad ydynt yn ymwneud â COVID-19 mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n debyg i'r hyn a brofwyd fel arfer yn ystod cyfnodau anoddaf y gaeaf. Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Os bydd y cyfraddau uchel hyn o heintiadau a throsglwyddiadau yn y gymuned yn parhau, rydym yn debygol o weld mwy o bwysau sy'n gysylltiedig â’r pandemig ar y GIG a mwy o bobl sydd angen gofal yn yr ysbyty.

Bydd Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero dros y tair wythnos nesaf. Ond dim ond drwy gryfhau'r mesurau diogelu sydd gennym ar waith y gallwn wneud hynny. Y gobaith yw y bydd y mesurau hyn, ynghyd â chynyddu'r nifer o bobl sydd wedi cael eu brechu, yn helpu i leihau'r lefelau uchel o drosglwyddiadau yn y gymuned yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ac yn diogelu iechyd pobl.

Os bydd cyfraddau achosion yn parhau i godi dros y cylch tair wythnos hwn, bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried codi'r lefel rhybudd yn yr adolygiad nesaf ac ailgyflwyno cyfyngiadau.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y feirws. Cynhaliwyd trafodaethau gyda'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch y bwlch gorau rhwng ail ddos y brechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu.

Er mwyn cryfhau mesurau diogelu ar lefel rhybudd sero, rydym yn bwriadu ymestyn y defnydd o'r Pàs COVID, gan ei gwneud yn ofynnol i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd ymlaen, yn amodol ar ddadl a phleidlais yn y Senedd. Mae'r rhain i gyd yn lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull dan do am gyfnodau o amser, yn aml heb orchuddion wyneb.

Os na fydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, bydd yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau coronafeirws yn ystyried ehangu'r Pàs COVID ymhellach i gynnwys mwy o leoliadau lletygarwch.

Bydd y canllawiau hunanynysu yn cael eu newid. Rhaid i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng pump a 17 oed hunanynysu os oes gan rywun ar eu haelwyd symptomau neu ganlyniad prawf positif am COVID-19 nes eu bod wedi cael canlyniad prawf PCR negatif. Os nad ydynt wedi cael eu brechu, rhaid iddynt hunanynysu am 10 diwrnod.

Mae'r newid hwn yn cael ei wneud i adlewyrchu tystiolaeth, er bod cael eich brechu'n llawn yn lleihau'r risg o gael eich heintio, fod siawns y gallai un o bob pedwar person sydd wedi'i frechu'n llawn ddal COVID-19 gan rywun rydych yn byw gydag ef.

Mae'n hanfodol bod pob busnes a sefydliad yn deall natur a phwysigrwydd mesurau sylfaenol lefel rhybudd sero – bydd y rhain yn helpu i'n diogelu ni i gyd ac yn helpu i gadw Cymru ar agor drwy fisoedd yr hydref a'r gaeaf.

Rwyf wedi ysgrifennu at bartneriaid cymdeithasol ac mae Gweinidogion yn ymgysylltu â sefydliadau a chynrychiolwyr busnes i atgyfnerthu'r pwyntiau canlynol:

  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol o'r coronafeirws a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg y bydd pobl yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws a'i ledaenu.
  • Rhaid i oedolion a phlant 11 oed a throsodd wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac eithrio lleoliadau lletygarwch. Dylai cyflogwyr a busnesau ei gwneud yn glir bod hwn yn ofyniad cyfreithiol.
  • Dylai pobl weithio gartref lle bynnag y bo modd i helpu i leihau nifer y cysylltiadau rhwng pobl. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd cyfraddau achosion yn y gymuned yn uchel.

Gall pob cysylltiad rydym yn ei gael â phobl eraill helpu i ledaenu'r feirws pan fo cyfraddau'r feirws mor uchel â hyn. Mae hyn yn gwneud yr holl fesurau eraill y gallwn ni i gyd eu cymryd yn bwysig iawn, gan gynnwys aros gartref os ydym yn sâl; cael prawf os oes gennym symptomau COVID-19, cwrdd â phobl yn yr awyr agored neu mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda, cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd ac osgoi torfeydd.

Byddwn yn rhoi cymorth pellach i benaethiaid i helpu i leihau cylchrediad y feirws mewn ysgolion. Bydd pecyn cymorth yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf, a fydd yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i ysgolion i wneud y broses o dynhau a llacio mesurau yn gyflymach ac yn haws. Bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi hefyd ar bwysigrwydd staff a myfyrwyr ysgol uwchradd yn cymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos.

Rydym angen i bawb ledled Cymru wneud ymdrech ar y cyd i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth. Dim ond drwy wneud yr ymdrech hon gyda’n gilydd y gallwn barhau i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor.


Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG. 


Datganiad gan y Prif Swyddog Meddygol Adolygiad COVID-19, 21 Diwrnod : 28 Hydref 2021

Gallwch hefyd ddarllen Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad 21 diwrnod COVID-19 ar Llyw.Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram