Bwletin Gwaith Ieuenctid

Medi 2021

 
 

Cynnwys

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Cadeirydd y Bwrdd, Keith Towler

Llais Keith

Croeso i rifyn Hydref 2021 o’r Bwletin Gwaith Ieuenctid. Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, wedi gweld gwasanaethau gwaith ieuenctid yn gweithio mewn ffyrdd newydd er mwyn cefnogi pobl ifanc. Mae’r creadigrwydd a’r tosturi a welwyd gan y sector wrth iddo ymateb i bobl ifanc yn ystod y pandemig wedi bod yn eithaf syfrdanol. Mae’n amserol felly i’r cylchlythyr hwn fyfyrio ar ein profiadau cyfunol a rhannu datblygiadau’n ymwneud ag ymarfer.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad terfynol – Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru – ar 16 Medi. Mae’n nodi ein hargymhellion ar gyfer datblygu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. O’r diwrnod cyntaf, ceisiodd y Bwrdd weithio mewn ffordd gydweithredol â phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu a helpu i lywio ein gwaith. Mae’n wych nodi bod Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi awgrymu y bydd yn cyhoeddi ymateb ym mis Rhagfyr, unwaith y mae wedi myfyrio ar ein cynigion. O ran y camau nesaf, efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol i'r Bwrdd ddatgan ar y dechrau y byddem yn parhau i weithredu fel bwrdd tan fis Rhagfyr. Ond yn dilyn sgyrsiau â swyddogion Llywodraeth Cymru bydd y rhan fwyaf o aelodau'r Bwrdd bellach yn parhau tan y bydd y cam nesaf ymlaen yn cael ei gymryd gan y Bwrdd neu’r Corff newydd.

Byddwn wrth fy modd cael datgan beth yn union fydd yn digwydd nesaf ond wrth gwrs y Gweinidog fydd yn penderfynu ar y materion hynny. Serch hynny, rydw i’n obeithiol y byddwn yn gweld sail ddeddfwriaethol gryfach ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid, gyda chorff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, ac y bydd trefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cael eu sefydlu a fydd yn cynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol, gyda threfniadau ariannu tryloyw ac atebolrwydd clir. Mae’n rhaid i’r camau nesaf ymwneud yn gyfan gwbl â diogelu, datblygu a gwella darpariaeth ein gwaith ieuenctid i bob person ifanc rhwng 11 a 25 yng Nghymru heddiw, ac i genedlaethau’r dyfodol.

Yr hyn sy’n bendant, fodd bynnag, yw’r ffaith bod gennym lawer iawn i edrych ymlaen ato. Unwaith eto, derbyniodd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid nifer dda o enwebiadau ac mae’r gwaith beirniadu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, yn barod ar gyfer ein seremoni wobrwyo rithwir ym mis Rhagfyr.

Cynhelir ein Cynhadledd Gwaith Ieuenctid hefyd ar 14 Hydref, a fydd yn cynnwys Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a fydd yn agor diwrnod a fydd yn canolbwyntio ar rannu profiadau, syniadau ac arferion gorau o bob rhan o’r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt.

Mae’r erthyglau yn y cylchlythyr hwn yn dangos unwaith eto gwerth gwaith ieuenctid i’n pobl ifanc. 

Dylai fod gan bob pentref, pob tref a phob dinas yng Nghymru wasanaeth gwaith ieuenctid. Nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto ond mae’n rhaid i ni weithio’n galed er mwyn sicrhau dyfodol ble gall pobl ifanc yng Nghymru gael mynediad at y math hwnnw o gefnogaeth. Y math o gefnogaeth sy’n gwrando, yn cynnig cyngor y gellir ymddiried ynddo, ac yn darparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau a fydd yn cyffroi ac ysbrydoli - hyn oll mewn amgylchedd ble gall pobl ifanc gael hwyl, teimlo’n ddiogel a chael eu parchu. 

Mae wir yn Bryd Cyflawni Dros Bobl Ifanc yng Nghymru.

Llais Person Ifanc

Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro sefydlu Pwyllgor Pobl Ifanc er mwyn rhoi mewnbwn gwerthfawr i’w waith. Mae’r pwyllgor wedi rhoi cipolwg diddorol ar ei ymwneud hyd yma...

Y Pwyllgor Pobl Ifanc yw llais pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n cynnwys 22 aelod ac mae’n grŵp amrywiol iawn, gan gynrychioli pob agwedd ar gymdeithas Cymru. Nod y Pwyllgor Pobl Ifanc yw ‘i weithio i, ac i adrodd yn ôl i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i ystyried yn benodol sut fyddai model newydd gwaith ieuenctid, dan arweiniad hawliau pobl ifanc, yn edrych wrth symud ymlaen.'

Ers mis Chwefror rydym wedi bod yn gweithio, gydol y cyfnod clo, i helpu i roi prosesau ar waith er mwyn cyflawni’r nod hwn. Rydym wedi cyfarfod wyth o weithiau, gyda’r holl gyfarfodydd ar ZOOM gyda’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Llamau ac Urdd Gobaith Cymru yn gweinyddu, yn cefnogi ac yn rhoi cyngor ar ddefnyddio ZOOM!

I gychwyn, roedd yn eithaf anodd edrych ar yr argymhellion yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Fodd bynnag, gofynnwyd i ni ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Beth fyddai natur strwythur llywodraethu a arweinir gan bobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru?
  • Egwyddorion gwasanaeth gwybodaeth ieuenctid i Gymru fel rhan o ddarpariaeth ddigidol a gynigir ar gyfer gwaith ieuenctid
  • Safbwyntiau ar y broses o gyflwyno cerdyn Hawliau Ieuenctid Cymru
  • Argymhelliad i’r sector gwaith ieuenctid i gydweithio er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth

Roedd ein cyfarfodydd ZOOM yn heriol, ond yn llawn ffocws, ac yn canolbwyntio ar drafod argymhellion a pharatoi a chyflwyno ein hymateb. Ymunodd aelodau o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro â’r cyfarfodydd er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth ac i egluro’r manylion y tu ôl i’r argymhellion yn yr adroddiad.

O ran cynlluniau’r dyfodol, rydym yn awyddus i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn ymwybodol o’r newidiadau sylweddol sy’n cael eu hargymell ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor Pobl Ifanc yn trefnu digwyddiad ym mis Hydref ac yn gwahodd pobl ifanc eraill o fforymau / cynghorau a byrddau ieuenctid amrywiol i gymryd rhan.

Felly, sut rydym ni ar ein hennill o’r profiad eleni?

Mae’r profiad hwn wedi rhoi llais i bobl ifanc yn y gwaith sy’n ymwneud yn uniongyrchol â nhw. Mae gwaith ieuenctid yn fwy nag ymarfer ticio bocs yn unig, mae’n wasanaeth hanfodol i bobl ifanc yng Nghymru ac mae’n darparu cyswllt ac agosrwydd at bobl a chymunedau. Mae cael y gallu i eirioli dros eich hun a chael pobl yn gwrando arnoch chi gyda pharch yn newid mawr o ystyried y rhyngweithio y mae llawer ohonon ni wedi’i gael gydag awdurdod ac oedolion hŷn yn y gorffennol.  

Mae Cymru’n datblygu’n gyflym i fod yn wlad ble mae llais a safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w thwf ac mae cael bod yn berson ifanc sy’n rhan o’r broses hon yn eich grymuso.  

Ffocws Arbennig – Myfyrio a dysgu

Myfyrdodau o’r Dŵr – Defnyddio Gofodau Glas mewn Gwaith Ieuenctid

Yn y rhifyn hwn rydym yn myfyrio ar brofiadau a heriau’r 18 mis diwethaf, gan amlygu’r ffordd rydym yn rhoi’r dysgu a gododd yn sgil y pandemig ar waith.  

challenge wales

Wrth ystyried gweithgareddau tymhorol Her Cymru sy’n cynnwys gwaith ieuenctid arloesol a rhaglen dysgu awyr agored yn y môr, roedd yn deimlad braf iawn cael dychwelyd i’r dŵr ar gyfer y daith gyntaf ym mis Mehefin, wedi seibiant o 20 mis.

Bob gaeaf yn ystod rhaglen gynnal a chadw wedi’i chynllunio, mae Her Cymru yn myfyrio ar ei weithgareddau, gan addasu er mwyn gwella a datblygu syniadau newydd ar gyfer y dyfodol. Ond ni chafwyd cyfle i ailgychwyn gweithgareddau yn ystod y gwanwyn y llynedd. Mae hyfforddiant hwylio ar long Challenge Wales sy’n 72 troedfedd ac Adventure Wales sy’n 60 troedfedd yn addysgu pobl sut i ymdrin â sefyllfaoedd heriol a newydd, yn cryfhau gwydnwch, yn gwella cyfathrebu, yn gwella gallu pobl i wneud penderfyniadau a chynllunio wrth weithio dan bwysau, ac weithiau yn erbyn yr annisgwyl. Mae mynd i’r môr yn dysgu llawer i chi ac fe wnaeth Her Cymru drosglwyddo llawer o’r gwersi hynny i’r sefydliad yn ystod y pandemig.

Ar ddechrau 2021, cynhaliodd Her Cymru ymgynghoriad â phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid/arweinwyr grŵp er mwyn deall sut mae bywyd wedi newid ‘ar ôl Covid’ a’r ffordd roedd hyn am ddylanwadu ar raglen hyfforddiant hwylio Her Cymru. Roedd y canlyniadau’n dangos fod pobl ifanc eisiau cyfarfod eu ffrindiau unwaith eto, cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n meithrin hyder a gwella eu hiechyd meddwl.

Mae rhaglen hyfforddiant hwylio Her Cymru yn gallu ymateb yn naturiol i’r anghenion hyn ac, yn benodol, mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn gwella iechyd meddwl pobl ifanc. Felly, roedd ail-lansio rhaglen hyfforddiant hwylio yn ystod haf 2021 gyda mwy o ymwybyddiaeth o anghenion pobl ifanc yn cael lle amlwg ar yr agenda. Lansiwyd rhaglen ‘Môr ac Adrodd’ ddiwygiedig ar y lan hefyd gan alluogi pobl ifanc iau i gael profiad o ddysgu ar gwch ac yn y dŵr mewn ffordd ddiogel a hwyliog, waeth beth fo’u gallu.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gofodau glas. Mae ymarfer corff a gweithgarwch corfforol ar gychod Her Cymru yn helpu i sbarduno cemegion fel endorffinau sy'n gallu codi ysbryd pobl- mae’n llesol i’n pobl ifanc ac i’n gwirfoddolwyr hefyd.

challenge wales

Fel sawl sefydliad, mae Her Cymru wedi llwyddo i addasu er mwyn parhau â’i weithgareddau gwaith ieuenctid. Ni all Her Cymru newid cyfeiriad y gwynt – ond fel y gwelwyd eleni, mae’n fater o addasu’r hwyliau a chael y bobl iawn ar y daith gyda chi er mwyn goresgyn heriau a manteisio ar gyfleoedd.

I ddysgu mwy am Her Cymru ewch i www.challengewales.org, e-bostiwch: reservations@challengewales.org neu ewch i chwilio ar y cyfryngau cymdeithasol @hercymru.

Yng Nghymru: Fy Ngwaith Ieuenctid

Mae Rachel Davies yn Weithiwr Ieuenctid a Chymunedol gyda Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. Gan fyfyrio ar ymateb Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot i’r materion a gododd o’r pandemig, mae Rachel yn nodi rhai o’r heriau, ond y cyfleoedd hefyd, sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n nodi’n benodol bod canlyniadau cadarnhaol a newidiadau er gwell yn gallu deillio o sefyllfa anodd. 

Gwaith ieuenctid ac adfer ar ôl Covid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot – ein stori ni

Cyn y pandemig Covid-19, roedd llawer o Glybiau Ieuenctid Cyfrwng Saesneg ac roedd nifer fawr yn eu mynychu yn ein hardal ni. Fodd bynnag, fel mewn llefydd eraill, gorfodwyd pob un i gau ym mis Mawrth 2020. Yn amlwg, roedd ynysigrwydd cymdeithasol cynyddol pobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn her. Gan fod dewisiadau’n gyfyngedig, cynhaliwyd ymgynghoriad er mwyn nodi’r hyn a oedd yn bwysig i bobl ifanc, ac roedd y canlyniadau’n dangos, fel y byddem yn disgwyl mae’n debyg, bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn colli cyfleoedd i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Roeddent yn dangos hefyd, fodd bynnag, bod pobl ifanc o gartrefi Saesneg eu hiaith yn bryderus nad oeddent yn cael cyfleoedd i ddefnyddio a chynnal eu sgiliau iaith Gymraeg.

Ymateb i hyn oedd un o’n blaenoriaethau. Aethom ati i gynllunio clwb ieuenctid rhithwir cyfrwng Cymraeg, y cyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chawsom gefnogaeth Rhaglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Gwneud gwahaniaeth

Mae’r clwb yn darparu man diogel ble gall pobl ifanc feithrin hyder, ennill sgiliau newydd, cymdeithasu a gwella eu lles a’u hiechyd meddwl. Mae gweithgareddau sydd wedi’u trefnu yn galluogi pobl ifanc i ddysgu a dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru gan ddysgu sgiliau a chymwysterau newydd yr un pryd. Mae’n hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg hefyd, ac yn annog pobl ifanc i barhau i ddefnyddio’r iaith mewn ffordd hwyliog a difyr.

Mae’r rhai sy’n cofrestru yn cael dolen ddiogel i ymuno â’r sesiwn rithwir. Danfonir pecynnau celf a chrefft, deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau at bob person ifanc cyn y sesiynau er mwyn sicrhau bod gan bawb popeth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan. Y gobaith yw y bydd rhywfaint o sesiynau wyneb yn wyneb yn bosibl yn y dyfodol hefyd, gan gynnwys cyfle i fynychu sesiwn breswyl gan staff Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan yr Urdd, Llangrannog. Fodd bynnag, gydol y pandemig, mae natur rithwir y sesiynau wedi sicrhau hygyrchedd a chysondeb i bobl ifanc.

Mae’r clwb wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth yn sgil y pandemig, drwy helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol pobl ifanc sydd am ymgysylltu gan ddefnyddio’r iaith o’u dewis a helpu pobl ifanc i wneud ffrindiau newydd o wardiau gwledig eraill Castell-nedd Port Talbot. Yn ychwanegol, bydd y sesiynau sy’n canolbwyntio’n benodol ar baratoi i ddychwelyd i’r ysgol yn helpu i leddfu a mynd i’r afael ag unrhyw orbryder wrth i ni gychwyn blwyddyn academaidd newydd, a gellir addasu’r ‘model rhithwir’ hwn a’i ddefnyddio i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion gwahanol yn y dyfodol.  

Rhagor o wybodaeth

Cynhelir Clwb Ieuenctid Symudol bob dydd Mawrth am 6.30pm. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch y gwasanaeth ieuenctid: youth.service@npt.gov.uk.

Myfyrdodau – sianelu creadigrwydd a ysbrydolwyd gan y cyfnod clo

5-9 club

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf yn helpu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i wella eu gwydnwch ar gyfer ymdrin â heriau cyfredol a heriau’r dyfodol, gan gefnogi eu llesiant wrth iddyn nhw ymgysylltu’n gadarnhaol â’r cymunedau y maent yn byw ynddynt ac yn cyfrannu atynt.

Yn ystod y pandemig Covid-19, sylwodd y tîm YEPS pa mor greadigol oedd pobl ifanc, ac roedd rhai yn defnyddio eu diddordebau a’u sgiliau newydd i gefnogi eu teuluoedd a’u cymunedau, ac i godi arian at elusennau ac i gynnal eu hunain. Ychydig o bobl ifanc a ddychmygodd, fodd bynnag, y byddai’r brwdfrydedd newydd hwn yn troi’n fusnes hyfyw. Dyma ble’r oedd YEPS yn gallu helpu gyda chyfle cyffrous i ddarparu’r rhaglen entrepreneuriaeth gyntaf dan arweiniad pobl ifanc, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru (Welsh ICE) o’r enw y ‘Clwb 5 - 9’. Golygai hyn y gallai YEPS helpu pobl i ddysgu sut i droi’r sgiliau, y diddordebau a’r syniadau hynny yn fusnes. 

rct yeps

Datblygwyd rhaglen i roi’r adnoddau i bobl ifanc fel y gallent farchnata eu syniadau, dangoswyd iddynt sut i gael gafael ar gyllid a cawsant ddysgu gan entrepreneuriaid eraill er mwyn datblygu eu busnes eu hunain. Bellach mae’r rhaglen yn mynd rhagddi, ac yn ymgysylltu â grŵp gwych o bobl ifanc bob wythnos. Cynigir y rhaglen drwy ddull dysgu cyfunol, sy’n golygu ei bod yn bosibl darparu ar gyfer cyfranogwyr a fyddai’n ffafrio dysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal â darparu ar gyfer y rhai sy’n dewis mynychu sesiynau ar-lein. Mae cymuned gymorth ar gael gydol y rhaglen a thu hwnt, gyda grŵp WhatsApp, grŵp Facebook a chymorth gan Welsh ICE.

Diben y rhaglen hon oedd rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc (16-25 oed) i allu dilyn eu breuddwydion a lansio busnes newydd. Mae’r tîm YEPS yn obeithiol y bydd gan ein pobl ifanc y siawns gorau posibl o lwyddo gyda’u busnes newydd ar ôl cwblhau’r rhaglen – rydym yn edrych ymlaen at eu gweld ar Dragon’s Den!

Gallwch wybod mwy am YEPS yma.

Rhyngwladol

Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu. Bydd Prifysgol Caerdydd yn datblygu’r rhaglen dros y 12 mis nesaf gan weithio gyda bwrdd cynghori o randdeiliaid.

Mae Helen Jones, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), a Steve Davis, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro, yn cynrychioli’r sector ieuenctid ar y bwrdd cynghori, wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi.

Mae croeso i bobl ar draws y sector anfon awgrymiadau am y rhaglen gyfnewid ryngwladol at Helen (helen@cwvys.og.uk) neu Steve (Steve.Davis@pembrokeshire.llyw.du). Byddant yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd â’r sector. Disgwylir gweithgareddau a gyllidir yn 2022/3.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Marc Ansawdd

Tri yn rhagor o sefydliadau gwaith ieuenctid yn ennill Gwobr Efydd y Marc Ansawdd

Yn ddiweddar cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg y pleser o argymell bod tri corff newydd yn derbyn gwobr Efydd y Marc Ansawdd. Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyflwyno gwobr lefel Efydd i Wasanaeth Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid Rhonnda Cynon Taf, Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid Powys a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Rydym yn dymuno'r gorau iddynt gyda'u camau nesaf.

I glywed sut mae sefydliadau’n elwa o fod yn rhan o’r Marc Ansawdd, gwyliwch y fideo byr hwn.

quality mark

Am ddysgu mwy? Mynediad at ein modiwl e-ddysgu byr.

 

A yw eich sefydliad yn barod am asesiad y Marc Ansawdd? Rhowch wybod i ni drwy gyflwyno ffurflen mynegiant o ddiddordeb

Ydych chi wedi clywed?

Ymunwch â ni yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid!  

Eleni, cynhelir y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid ar-lein ar 14 Hydref. Bydd yn cynnwys Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a fydd yn agor diwrnod o weithgareddau yn canolbwyntio ar rannu profiadau, syniadau ac arferion gorau o bob rhan o’r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt. Gallwch ddysgu mwy ac archebu eich lle yma.

Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gwaith Ieuenctid

Mae’r rhaglen arweinyddiaeth a rheolaeth bwrpasol gyntaf ers 15 mlynedd ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cychwyn ym mis Hydref. Mae’r rhaglen ar gyfer darpar arweinwyr a rheolwyr a’r rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y sectorau a gynhelir a’r sectorau gwirfoddol ac sydd am wella eu sgiliau. Gallwch ddysgu mwy yma.

Hyrwyddwyr Cymru

Nod prosiect Hyrwyddwyr Cymru yw gwneud Cymru yn wlad fwy diogel a chynhwysol i ferched, drwy ddarparu gweithdai sy’n cefnogi pobl ifanc i archwilio canfyddiadau o hawliau merched, profiadau o anghydraddoldeb o ran rhywedd, a datblygu sgiliau i ymgyrchu dros newidiadau. I ddysgu mwy cysylltwch â https://www.ymcacardiff.wales/.

champions of wales

Cyfle cyffrous i gefnogi gwaith ymchwil i iechyd meddwl

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â’i Grŵp Cynghori Ieuenctid er mwyn eu helpu i lywio ymchwil a pholisïau iechyd meddwl. Os ydych chi rhwng 14 a 25 oed ac wedi cael profiad o iechyd meddwl, hoffai’r Ganolfan Wolfson glywed gennych chi. Gallwch ddysgu mwy yma.

wolfson centre

Rhaglenni datblygu a chyflogadwyedd

Mae gan y Prince's Trust Cymru lawer iawn o gyrsiau gwych ar y gweill, yn cynnwys rhaglenni cyflogadwyedd a rhaglen Explore er mwyn rhoi hwb i’r hyder a gwella sgiliau adeiladu tîm. Gallwch ddysgu mwy yma.

 

prince's trust
talk money

Trafod Arian…

Ydych chi’n rhan o’r gwaith o gefnogi pobl ifanc gyda materion ariannol? Gallai Money Guiders Cymru eich helpu chi i’w helpu nhw. Gallwch ddysgu mwy yn:-

www.maps.org.uk/money-guiders/ , https://www.hafal.org/cy/money-guiders-cymru/ 

www.facebook.com/moneyguiderwales/

neu, www.twitter.com/money_wales/

 

Adroddiad o Arolwg Llesiant y Sector Gwaith Ieuenctid

Ym mis Chwefror 2021, cynhaliodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru arolwg cenedlaethol o lesiant arweinwyr yn y sector gwaith ieuenctid. Mae Adroddiad yr Arolwg Lles: Sector Gwaith Ieuenctid yn nodi’r prif ganfyddiadau - darllenwch y cyfan yma.

 

nael

Mapio’r gweithlu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru (ETS), gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn ceisio cael pawb – hynny yw pawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol a’r sector gwaith ieuenctid a gynhelir – ar y map! Cadwch lygad ar wefan ETS Cymru er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cynnwys.

ETS article
Youth Endowment Fund

Allwch chi helpu i wneud bywydau plant yn fwy diogel?

Mae’r Pecyn Cymorth Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn grynodeb am ddim o’r gwaith ymchwil gorau sydd ar gael ar atal trais. Mae ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r rhaglenni, y polisïau a’r ymarfer mwyaf perthnasol. Gallwch helpu i ddatblygu a diweddau’r pecyn cymorth yn y dyfodol drwy lenwi’r arolwg cyflym hwn – dim ond pum munud sydd angen!

 

Ydych chi’n awyddus i fod yn Weithiwr Ieuenctid gyda chymwysterau proffesiynol

Yng Nghampws Dinas Casnewydd, Prifysgol De Cymru, gallwch astudio Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ar lefelau gradd BA (Anrhydedd)  ac ôl-radd (MA), a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus yn gweithio gyda phobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am y cyrsiau cyffrous hyn yn ein diwrnod agored nesaf, archebwch eich lle yma.

 

USW
Racial equity funding

Cyllid Cydraddoldeb Hiliol ar gael, gellir ymgeisio gydol y flwyddyn

Mae’r Lloyds Bank Foundation for England and Wales wedi lansio ei gyllid Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer elusennau bach a lleol sy’n cefnogi cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac sy’n cael eu harwain ganddynt. Gall elusennau wneud cais gydol y flwyddyn am grantiau dwy flynedd anghyfyngedig o £50,000 ochr yn ochr â chymorth datblygu. Gallwch ddysgu mwy yma, neu gallwch wneud cais am gyllid yn uniongyrchol yma.

 

Ymgyrch etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ar y gweill

Mae’r cyfle i bleidleisio dros ymgeisydd yn Senedd Ieuenctid Cymru ar gael i bobl ifanc rhwng 11 oed (erbyn 31 Awst, 2021) ac 18 oed, a chynhelir yr etholiad ym mis Tachwedd 2021. Gallwch ddysgu mwy yma.

 

Welsh Youth Parliament

Canllawiau COVID Gwaith Ieuenctid NEWYDD allan nawr

Mae'r Cerdyn Gweithredu hwn yn ymwneud â'r mesurau y mae'n rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am weithgareddau wedi'u trefnu i blant eu cymryd yn ôl y gyfraith, mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau y mae plant a phobl ifanc yn eu mynychu, gan gynnwys gwaith ieuenctid a grwpiau ieuenctid cyffredinol. Cliciwch yma am fanylion.

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: