Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Awst 2021


cv blue

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN:  I’ch Atgoffa - Canllaw Lefel Rhybudd 0 a Chardiau Gweithredu Penodol i Sector; I’ch Atgoffa - Rhaid Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus awyr agored ac eithrio tafarndai, bwytai, caffis a safleoedd addysgol; Ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector lletygarwch; Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan; Cyfle i ddweud eich dweud am drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau; Nodwch y dyddiad: Diweddariad marchnata gan Croeso Cymru (sesiwn ar-lein) – 23 Medi 2021; Uchelbwyntiau’r Arolwg o Ymwelwyr â Chymru; Profiad realiti estynedig rhyngwladol newydd yn dod i Gymru; Mae Ramblers Cymru wedi sicrhau £1.2m o gyllid ar gyfer prosiect newydd, Llwybrau i Lesiant!; Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Awst nawr; Gweminarau Tŷ’r Cwmnïau; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


I’ch Atgoffa: Canllaw Lefel Rhybudd 0 a Chardiau Gweithredu Penodol i Sector 

Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau – dyma’r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau a chyrff eraill i’w helpu i gadw at ofynion y gyfraith a lleihau’r risg y daw pobl i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle, a’i ledaenu.

Ar Lefel Rhybudd 0, mae llawer o’r gofynion cyfreithiol ar dwristiaeth a lletygarwch wedi’u codi er ei bod yn dal yn ofyn cyfreithiol ar fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i gynnal asesiad risg coronafeirws a bod angen iddynt roi mesurau rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.  

Mae Cardiau Gweithredu Mesurau Rhesymol  wedi’u paratoi ar gyfer Lletygarwch, Busnesau Twristiaeth gan gynnwys Llety ac Atyniadau, Digwyddiadau a Chlybiau Nos a Lleoliadau Cerddoriaeth. Os oes gennych fusnes aml-bwrpas, dylech ddarllen yr holl gardiau gweithredu perthnasol.


I’ch Atgoffa: Rhaid Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus awyr agored ac eithrio tafarndai, bwytai, caffis a safleoedd addysgol

  • Os mai prif bwrpas eich busnes yw gweini bwyd a diod (e.e. bwyty, caffi neu dafarn), nid oes gorfodaeth ar bobl i wisgo gorchudd wyneb yn y lle hwnnw ond dylech ystyried hynny yn eich asesiad risg ar gyfer y mannau ‘cyfyng’ ar y safle lle bydd pobl yn ciwio, mewn lifftiau, yn y coridorau ac ati.
  • Os yw’ch busnes yn un aml bwrpas, gyda bwyd a diod yn un o sawl rheswm dros ymweld â chi (e.e. gwesty gyda bwyty, atyniad dan do gyda chaffi, canolfan ddigwyddiadau neu gynadledda gyda bwyty, sinema neu theatr â bar), rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb ym mhob rhan o’r busnes ar wahân i’r mannau hynny lle bydd yna fwyta ac yfed.

Ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector lletygarwch

Yn dilyn lansio’n hymgyrch recriwtio yn gynharach y mis hwn, sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Cymru’n Gweithio, rydyn ni wrthi’n crynhoi amrywiaeth o astudiaethau achos i ddod â lleisiau o bob rhan o’r sector ynghyd i ddangos y manteision niferus a ddaw o weithio mewn lletygarwch a helpu i roi profiadau gwych i ymwelwyr. 

Cadwch olwg am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a helpu’r ymgyrch trwy ddefnyddio #CreuwyrProfiad.  Am fanylion llawn ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.


Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2021.

Bydd y mesur hwn yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol yn cael eu hatal rhag fforffedu lesoedd safleoedd o’r fath am beidio â thalu rhent tan 25 Mawrth 2022, ond dylai tenantiaid barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd. Mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyfle i ddweud eich dweud am drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau

Mae pobl yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru.

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn rhan o haf o weithredu a gafodd ei lansio gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James fis diwethaf i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar rai o gymunedau Cymru

Er y gall perchnogion ail gartrefi a phobl sy’n aros mewn llety gwyliau wneud cyfraniad pwysig at ein heconomïau lleol, rydym am sicrhau bod pob perchennog tŷ a busnes yn gwneud cyfraniad teg at y cymunedau lle maen nhw’n berchen ar eiddo neu’n gosod eiddo.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Nodwch y dyddiad: Diweddariad marchnata gan Croeso Cymru (sesiwn ar-lein) – 23 Medi 2021

Yn dilyn gweminar Cadw’n Ddiogel yn yr awyr agored a gynhaliwyd yr haf hwn, mae’n bleser gan Croeso Cymru gynnal sesiwn arall ar-lein ar 23 Medi am 2:00 pm hyd 3:15 pm. Byddwn yn trafod natur ein gwaith marchnata yn yr hydref/gaeaf a hefyd yn rhoi trosolwg o’r cynulleidfaoedd y byddwn yn eu targedu – oll ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad defnyddwyr. Bydd rhagor o fanylion a manylion cofrestru yn cael eu cyhoeddi’n fuan.


Uchelbwyntiau’r Arolwg o Ymwelwyr â Chymru

Mae fideo fer wedi’i llunio i ddangos uchelbwyntiau’r Arolwg o Ymwelwyr â Chymru ar gyfer y diwydiant.  Cafodd yr arolwg ei gynnal cyn y pandemig ond mae’n bwysig ar gyfer deall proffil yr ymwelwyr hamdden â Chymru.  Mae’n cynnwys gwybodaeth hefyd am lefelau boddhad ymwelwyr i helpu Croeso Cymru i ddeall cymhellion, anghenion ac ymddygiad ymwelwyr â Chymru.


Profiad realiti estynedig rhyngwladol newydd yn dod i Gymru

Ar Ddydd Gwener 20 Awst, lansiwyd gan dîm o bobl greadigol, gan gynnwys partneriaid o Gymru, 'Fix Up The City', y profiad realiti estynedig (AR) dinesig cyntaf erioed yn seiliedig ar y ddeuawd eiconig Wallace a Gromit, yng Nghaerdydd, San Francisco a Bryste.

Mae'r antur estynedig newydd wedi'i chreu gan Aardman, stiwdio animeiddio sydd wedi ennill sawl gwobr, a Fictioneers: sy'n gydweithrediad rhwng partneriaid gan gynnwys Gemau Tiny Rebel o Gasnewydd, Potato (rhan o rwydwaith AKQA), a Sugar Creative.

Mae'r gweithgaredd, a ariennir gan UK Research and Innovation (UKRI), yn dilyn lansiad llwyddiannus Fictioneers o The Big Fix Up yn gynharach eleni. Cafodd y prosiect gefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mae Ramblers Cymru wedi sicrhau £1.2m o gyllid ar gyfer prosiect newydd, Llwybrau i Lesiant!

Bydd y prosiect dwy flynedd yn gweld Ramblers Cymru yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i nodi llwybrau cerdded newydd, eu cynnal a'u cadw, uwchraddio rhai sy'n bodoli eisoes, a helpu i'w hyrwyddo i aelodau o'ch cymuned leol.

Drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a gwelliannau amgylcheddol, gobeithiwn roi cerdded wrth galon cymunedau. Rydym am weithio gyda busnesau i sicrhau bod eu staff a'u teuluoedd yn gysylltiedig â deall manteision bod mewn natur a gweithgarwch corfforol awyr agored. Bydd y prosiect hwn yn elw bawb yn eich ardal. Rydym eisiau gweld pobl o bob oed a chefndir i gymryd rhan!

Byddwn hefyd yn helpu natur ar hyd y ffordd, gyda gweithgareddau fel plannu coed, hau blodau gwyllt a diwrnodau hwyl. Byddwch yn helpu i wneud eich cymuned yn wyrddach er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu a bydd gweithgareddau i bawb gymryd rhan ynddynt!

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Ewch i wefan Ramblers Cymru i gael rhagor o wybodaeth neu e-bostiwch y Swyddog Ymgysylltu Llwybrau i Lesiant gydag unrhyw gwestiynau.


Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Awst nawr

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Awst 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Awst 2021 erbyn 14 Medi  2021.

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn dod i ben ar 30 Medi 2021.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gweminarau Tŷ’r Cwmnïau

Ymunwch â gweminarau byw diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau i gael cyfarwyddyd cyflym a defnyddiol.  Mae’r gweminarau’n mynd i’r afael â nifer o bynciau, yn cynnwys:

  • sefydlu cwmni cyfyngedig a’ch cyfrifoldebau chi i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM
  • sut y gall eiddo deallusol fel patentau, nodau masnach a hawlfraint effeithio ar eich busnes

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram