Cymru’n symud i lefel rhybudd sero
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pawb i barhau i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws wrth iddo gadarnhau y bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybudd sero newydd ddydd Sadwrn [7 Awst].
Ar lefel rhybudd sero, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes agor. Er hynny, bydd rhai mesurau diogelwch pwysig yn parhau i fod ar waith i roi’r hyder i bawb fwynhau’r haf eleni.
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Rhaid i bawb barhau i hunanynysu am 10 diwrnod os oes ganddynt symptomau Covid-19 neu os ydynt yn cael canlyniad prawf positif.
- Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol o hyd yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau gofal iechyd. Bydd pobl na all eu gwisgo yn parhau i gael eu heithrio o’r gofyniad hwn.
- Rhaid i bawb sy’n gyfrifol am leoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd gynnal asesiad risg Covid a pharhau i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae symud i lefel rhybudd sero yn gam pwysig arall ymlaen inni i gyd. Am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig, bydd pob busnes yn gallu agor a bydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd â phobl mewn lleoedd preifat o dan do yn cael eu dileu.
“Nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant. Ond mae’n golygu y gallwn ni i gyd fwynhau mwy o ryddid gyda’r hyder bod mesurau diogelwch pwysig ar waith o hyd i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu pan fyddwn yn mynd allan.
“Yn anffodus, nid yw’r pandemig drosodd eto ac mae angen inni weithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn ni i gadw’r feirws hwn o dan reolaeth – ar lefel rhybudd sero, bydd popeth yr ydyn ni’n ei wneud yn cael effaith ar y feirws hwn.
“Hyd yn oed os ydych wedi’ch brechu’n llawn, mae’n fwy diogel cwrdd tu allan na thu mewn. Cofiwch adael awyr iach i mewn i fannau o dan do, cael prawf hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn, a hunanynysu pan fo’n ofynnol ichi wneud hynny.
“Fe ddylen ni barhau i gadw ein pellter pan fyddwn allan a gweithio gartref os yw’n bosib. Fe ddylen ni hefyd barhau i wisgo masg wyneb, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae cymryd cyfrifoldeb a gweithio gyda’n gilydd yn golygu y gallwn ni i gyd wneud y pethau yr ydyn ni wedi’u methu fwyaf. Mae gan bawb ei reswm i ddiogelu Cymru.”
Bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero am 6am ar 7 Awst, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru. Ar lefel rhybudd sero:
- Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl y cewch gwrdd â nhw, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus a digwyddiadau.
- Bydd busnesau a oedd yn gorfod bod ar gau yn cael ailagor, gan gynnwys clybiau nos.
- Bydd gan leoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd fwy o hyblygrwydd o ran pa fesurau rhesymol i’w cymryd i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws. Ond dylai’r rhain gael eu teilwra i’w hasesiad risg a’u hamgylchiadau penodol.
- Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau lletygarwch lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini. Er hynny, byddant yn parhau i fod yn ofynnol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do.
Hefyd ar 7 Awst (o 00.01 ymlaen), ni fydd oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn, na phlant a phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn yr hysbysiad (5 Awst), bod Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar 6yb ar 7 Awst.
Ar lefel rhybudd sero, mae nifer o’r gofynion cyfreithiol wedi'u dileu mewn lleoliadau twristiaeth a lletygarwch. Bydd cynnal asesiad risg ar gyfer y coronafeirws yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau a rhaid iddynt cymryd mesurau rhesymol i reoli’r risg o ran y coronafeirws.
Mae’r holl fanylion ar gael yn y Canllawiau Cyffredinol lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau. Dyma grynodeb o beth mae hyn yn ei olygu i Dwristaeth & Lletygarwch ar lefel rhybudd sero:
- Bydd pob busnes a safle yn gallu ailagor, gan gynnwys clybiau nos.
- Nid oes gofyniad cyfreithiol i gau unrhyw safle ac nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n cael cwrdd ag eraill, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus ac mewn digwyddiadau.
- Nid oes gofyniad cyfreithiol ar gyfer pellter cymdeithasol o 2m, gwasanaeth bwrdd neu rheoli mynediad a mae rhein nawr yn rhai o’r mesurau rhesymol dylai busnesau ystyried.
- Mae casglu manylion ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu nawr yn rhai o’r mesurau rhesymol dylai busnesau ystyried.
- Dyma grynodeb o’r mesurau rhesymol dylai busnesau ystyried fel rhan o’r asesiad risg:
- Sicrhau awyru da;
- Pan fydd modd, cymryd mesurau i sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn gallu cadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd ac osgoi mannau gorlawn, e.e. archebu o flaen llaw, systemau un ffordd, rheoli’r niferoedd mewn ardaloedd cyfyngedig (lifftiau, toiledau, ceginau ac ardaloedd egwyl ayyb);
- Lleihau’r mannau cyffwrdd e.e. defnyddiwch Apiau;
- Cynnal arferion glanhau ac hylendid trylwyr e.e. darparu hylif diheintio dwylo;
- Arwyddydion clir yn eich safle.
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, ac eithrio tafarndai, bwytai a chaffis a lleoliadau addysg.
- Os mai prif bwrpas eich busnes yw gweini bwyd a diod (e.e. bwyty, caffi neu dafarn), nid oes gorfodaeth ar eich staff nac ar eich cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb, ond dylech ystyried hynny os oes mannau cyfyng, wrth giwio, mewn lifftiau a choridorau ayyb, fel rhan o’ch asesiad risg.
- Os yw’ch busnes yn un aml-bwrpas a’i fod yn gweini bwyd a diod (e.e. gwesty â bwyty, atyniad dan do â chaffi, canolfan ddigwyddiadau neu gynadledda â bwyty, sinema neu theatr â bar), rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o’ch busnes heblaw am y rhannau penodol hynny lle bydd pobl yn cael bwyta ac yfed.
Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog Mark Drakeford AS Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|