Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN : Ymgyrch yn tynnu sylw at fanteision gweithio yn y sector lletygarwch yn sgil prinder staff; Sgiliau a Recriwtio; Lefel rhybudd sero- pa ofynion cyfreithiol sy’n parhau?; Teithio: coronafeirws; Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle; Rhaglen Grant Cyfalaf ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor; Lleoedd ar gael ar gyfer yr International Golf Travel Market (IGTM) Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru 18-21 Hydref 2021; A yw eich cofnod ar visitwales.com yn gyfredol?; Helpu i gadw ein hymwelwyr yn ddiogel – y cynllun “Barod Amdani”; Creu Straeon Nid Sbwriel; Deall Cynulleidfaoedd Cymru Greadigol – Arolwg Ar-Lein; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Ymgyrch yn tynnu sylw at fanteision gweithio yn y sector lletygarwch yn sgil prinder staff
Mae Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch fel ymateb i’r prinder staff trwy’r wlad yn sgil pandemig y coronafeirws. Mae’r apêl am weithwyr yn canolbwyntio ar y cyfleoedd datblygu personol, y llwybrau i ddatblygu gyrfa a’r manteision gweladwy sydd ar gynnig i bobl mewn swyddi fel croesawyr blaen tŷ, cogyddion, gweinyddion, pobl cadw tŷ yn ogystal â gweithwyr goruchwylio a rheoli. Am fanylion llawn ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd rhagor o storïau ar fideo ac mewn gair yn cael eu hychwanegu at y safle yn yr wythnosau i ddod.
Mae cyngor ar recriwtio a rhaglenni gwaith gan gynnwys prentisiaethau ar gael ar y Porth Sgiliau.
Sgiliau a Recriwtio
I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.
Lefel rhybudd sero- pa ofynion cyfreithiol sy’n parhau?
Mae’r holl fanylion ar gael yn y Canllawiau lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau. Nod y canllawiau hyn yw darparu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i helpu busnesau, cyflogwyr a sefydliadau neu fudiadau eraill i fodloni'r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd arnynt i leihau'r risg y bydd pobl yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws neu'n ei ledaenu ar eu safle.
Ar lefel rhybudd sero, mae nifer o’r gofynion cyfreithiol wedi'u dileu mewn lleoliadau twristiaeth a lletygarwch ond bydd cynnal asesiad risg ar gyfer y coronafeirws yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau a rhaid iddynt cymryd mesurau rhesymol i reoli’r risg o ran y coronafeirws.
Dyma grynodeb o beth mae hyn yn ei olygu i Dwristaeth & Lletygarwch ar lefel rhybudd sero:
- Bydd pob busnes a safle yn gallu ailagor, gan gynnwys clybiau nos.
- Nid oes gofyniad cyfreithiol i gau unrhyw safle ac nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n cael cwrdd ag eraill, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus ac mewn digwyddiadau.
- Nid oes gofyniad cyfreithiol ar gyfer pellter cymdeithasol o 2m, gwasanaeth bwrdd neu rheoli mynediad a mae rhein nawr yn rhai o’r mesurau rhesymol dylai busnesau ystyried.
- Mae casglu manylion ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu nawr yn rhai o’r mesurau rhesymol dylai busnesau ystyried.
- Dyma grynodeb o’r mesurau rhesymoldylai busnesau ystyried fel rhan o’r asesiad risg:
- Sicrhau awyru da;
- Pan fydd modd, cymryd mesurau i sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn gallu cadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd ac osgoi mannau gorlawn, e.e. archebu o flaen llaw, systemau un ffordd, rheoli’r niferoedd mewn ardaloedd cyfyngedig (lifftiau, toiledau, ceginau ac ardaloedd egwyl ayyb);
- Lleihau’r mannau cyffwrdd e.e. defnyddiwch Apiau;
- Cynnal arferion glanhau ac hylendid trylwyr e.e. darparu hylif diheintio dwylo;
- Arwyddydion clir yn eich safle.
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, ac eithrio tafarndai, bwytai a chaffis a lleoliadau addysg.
- Os mai prif bwrpaseich busnes yw gweini bwyd a diod (e.e. bwyty, caffi neu dafarn), nid oes gorfodaeth ar eich staff nac ar eich cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb, ond dylech ystyried hynny os oes mannau cyfyng, wrth giwio, mewn lifftiau a choridorau ayyb, fel rhan o’ch asesiad risg.
- Os yw’ch busnes yn un aml-bwrpasa’i fod yn gweini bwyd a diod (e.e. gwesty â bwyty, atyniad dan do â chaffi, canolfan ddigwyddiadau neu gynadledda â bwyty, sinema neu theatr â bar), rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o’ch busnes heblaw am y rhannau penodol hynny lle bydd pobl yn cael bwyta ac yfed.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru hefyd ar gael mewn fformatau eraill drwy e-bostio: Covid19.Legislation@llyw.cymru
Teithio: coronafeirws
Mae’r canllawiau diweddaraf ar beth sydd angen i chi wneud os ydych yn teithio i neu o Gymru ar gael ar Llyw.Cymru:
Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle
Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Rhaglen Grant Cyfalaf ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor
Mae Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.
Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau llwyddiannus i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau er mwyn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern a deniadol mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Lleoedd ar gael ar gyfer yr International Golf Travel Market (IGTM) Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru 18-21 Hydref 2021
Fel sbardun i gynlluniau adfer busnes yn dilyn pandemig COVID-19, bydd Croeso Cymru yn cyfrannu at gostau hyd at 10 cwmni cymwys i fynychu’r IGTM.
Cost: £150 + TAW (pris cyhoeddedig €3,910 + TAW)
Bydd meini prawf dethol Croeso Cymru yn cael eu defnyddio i asesu eich cais.
Mae'r International Golf Travel Market (IGTM) yn arddangosfa a sioe flynyddol a drefnir gan RX (Reed Exhibitions Limited).
Mae’r IGTM yn gymuned ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes teithiau golff sy'n chwilio am ffordd benodedig a chost-effeithiol o dyfu eu busnes. Mae cyfarfodydd a drefnir ymlaen wrth wraidd yr IGTM, ac mae’n rhoi cyfle i gyrchfannau, safleoedd a chyrsiau golf gysylltu ag asiantau teithio golff blaenllaw a gweithredwyr teithiau sy'n helpu i dyfu marchnad twristiaeth golff ryngwladol y byd.
Mae'r digwyddiad yn arbennig o addas ar gyfer y canlynol:
- Gweithredwyr golff
- Cyrsiau golff
- Gwestai a chyrchfannau golff
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd 20 Awst 2021. Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth.
A yw eich cofnod ar Croeso.Cymru yn gyfredol?
Mae nifer y chwiliadau ar Croeso.Cymru am lety, atyniadau a phethau i'w gwneud yn uchel. Os oes gennych gofnod ac nad ydych wedi'i diweddaru ers cryn amser, mae'n werth i chi wirio'r wybodaeth drwy fewngofnodi i'r offeryn rhestru cynnyrch. Er mwyn helpu eich ymwelwyr i baratoi ar gyfer eu hymweliad, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gynnwys gwybodaeth fel: amseroedd agor, trefniadau archebu ymlaen llaw a chyfleusterau hygyrchedd.
Os hoffech gael rhywfaint o help i fewngofnodi, anfonwch e-bost at Stiward Data Croeso Cymru vw-steward@nvg.net, ffoniwch 0330 808 9410 neu os hoffech drefnu hyfforddiant ar ddefnyddio'r offeryn neu rywfaint o gyngor ar sut y gallwch wella'r cynnwys, anfonwch e-bost at product.database@llyw.cymru.
Helpu i gadw ein hymwelwyr yn ddiogel – y cynllun “Barod Amdani”
Rydym yn falch o ddweud bod dros 1,500 o'r busnesau a restrir ar Croeso.Cymru bellach wedi ymuno â chynllun “Barod Amdani” y DU. Mae gan y busnesau hyn y “Barod Amdani” sy'n ymddangos ar eu cofnod a gall ymwelwyr chwilio am fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.
Creu Straeon Nid Sbwriel
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth wneud y gorau o barciau, traethau a mannau prydferth Cymru dros yr haf. Ledled Cymru, mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau Covid lacio.
Mae'r ymgyrch ‘Creu straeon nid sbwriel’ yn cael ei rhedeg fel rhan o Caru Cymru mudiad cynhwysol sy’n cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol er mwyn ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Deall Cynulleidfaoedd Cymru Greadigol – Arolwg Ar-Lein
Ydych chi yn y diwydiannau creadigol? Beth a sut ydych chi am glywed gan Cymru Greadigol?
Mae Cymru Greadigol wedi llunio arolwg yn ffurfio rhan o brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’n perthynas gyda phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys y sectorau gemau, animeiddio, teledu, ffilm, technoleg greadigol, cyhoeddi a cherddoriaeth. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|