Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2021 Rhifyn 06: Gorffennaf 2021

Rhifyn 06: Gorffennaf 2021

 
 

Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Eich Uned Gymorth – Yma i Chi!

Ar hyn o bryd rydym yn brysur yn cynllunio llawer o dudalennau a meysydd cynnwys newydd ar gyfer y wefan er mwyn sicrhau nad oes angen i ymwelwyr fynd i unrhyw le arall - ni yw'r wefan 'Un Stop' ar gyfer newyddion Datblygu Gwledig. Cadwch eich llygaid ar agor am newidiadau sy’n dod yn fuan! Buom hefyd yn brysur fel arfer yn sicrhau ein bod yn parhau i ychwanegu cynnwys diddorol i'r wefan bob dydd, newyddion; astudiaethau achos; a phrosiectau.

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

rbis

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – An-Amaethyddiaeth

Mae'r ffenestr gais bellach ar agor tan 20 Awst

Cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach sy'n arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol.

Cyswllt Ffermio

study

Teithiau Astudio

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Teithiau Astudio ar agor tan 30 Gorffennaf 2021

Gall grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr cymwys wneud cais am hyd at £3,000 i bob grŵp er mwyn ariannu 50% o gost taith astudio o fewn y DU am gyfnod o hyd at 4 diwrnod.

Sioe Rithwir Frenhinol Cymru 2021

rws

Sioe Ddigidol Frenhinol Cymru

Roedd y Gymdeithas yn siomedig iawn o gyhoeddi bod rhaid canslo Sioe Frenhinol Cymru 2021 eto oherwydd y pandemig. Ond aeth y Sioe yn Rhithwir. Dyma ddetholiad bach o weminarau.

Derbyniad Brecwast HCC Rhithwir gyda’r Gweinidog Lesley Griffiths a’r Cadeirydd Catherine Smith

Sut mae arferion ffermio yn dylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion

Gweminar ffermio defaid godro

Geni yn ffermwr neu eni ar fferm?

Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned

menter mon

Menter Môn

Yr ardal Datblygu Lleol dan sylw y mis hwn yw Menter Môn sy'n gwasanaethu dwy ardal - Ynys Môn a Gwynedd o dan y ddau Grŵp Gweithredu Lleol - Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn.
Mae Menter Môn yn gweithio gyda busnesau, cymunedau ac unigolion, i gyflawni prosiectau ystyrlon sy'n defnyddio eu cryfderau ac yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
Prosiectau lleol – ar hyn o bryd mae 69 o brosiectau ar gyfer Ynys Môn a 157 ar gyfer Gwynedd wedi'u rhestru ar dudalennau gwe'r Rhwydwaith Gwledig. Prosiect arbennig o lwyddiannus yw Morlais - prosiect Ynni'r Llanw a ddechreuodd yn fach gyda chyllid LEADER ac sydd bellach wedi symud ymlaen i brosiect ar raddfa fawr sydd wedi sicrhau cyllid gan gynlluniau eraill, mae mes bach LEADER yn tyfu'n goed derw mawr.

Ymadael â’r UE

eu

Ymadael â’r UE: Adnoddau

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y gall eich busnes addasu i’r rheolau masnachu newydd ar gael ar wefan Paratoi Cymru, a hefyd ar Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru. Cofiwch hefyd ymweld â gwefan Pontio sydd bellach yn cynnwys y gwiriwr Brexit a fydd yn rhoi rhestr wedi’i bersonoli o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich busnes a’ch teulu.

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru Dolenni Defnyddiol

Rhwydweithiau Cenedlaethol y DU

Cylchlythyrau Eraill

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: