Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

16 Gorffennaf 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - “Y camau nesaf tuag at lai o reolau COVID” – Prif Weinidog Cymru; Cwestiynau Cyffredin: Pwy all aros mewn llety gwyliau/beth yw'r rheolau ar gwrdd dan do?; Nodyn atgoffa i fusnesau; Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru; Diogelu Cymru Gyda’n gilydd; Gweminarau profi yn y gweithle, taflenni gwybodaeth ac asedau; Ymestyn y cynllun taliadau cymorth £500 ar gyfer hunanynysu; Sgiliau a Recriwtio; "Helpwch ni i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld"; Coedwig Genedlaethol i Gymru - Grant Buddsoddi Mewn Coetir; Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolfan ddringo i anelu’n uwch; Helpu i gefnogi Cadernid Ariannol a Lles eich staff


“Y camau nesaf tuag at lai o reolau COVID” – Prif Weinidog Cymru

Bydd Cymru'n cymryd ei cham nesaf tuag at ddyfodol gyda llai o gyfyngiadau cyfreithiol ar covid wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford amlinellu cynllun tymor hirach ar  gyfer yr haf. (Dydd Mercher Gorffennaf 14)

Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf. Gohiriwyd gwneud y newidiadau hyn bedair wythnos yn ôl oherwydd ymddangosiad a lledaeniad amrywiolyn Delta ar draws y DU, ac er mwyn gallu brechu mwy o bobl yng Nghymru.

A bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer y tu allan wrth i Gymru gymryd y cam gofalus cyntaf tuag at lefel rhybudd sero newydd.

Mae manylion lefel rhybudd sero wedi’u hamlinellu yn y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, bydd Cymru yn symud i’r lefel hon ar 7 Awst.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae gwybodaeth ar gael am Coronafeirws - Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod (COVID-19).


Cwestiynau Cyffredin: Pwy all aros mewn llety gwyliau/beth yw'r rheolau ar gwrdd dan do?

Cartrefi preifat, a llety teithio neu lety gwyliau

Gall aelodau eich aelwyd estynedig neu uchafswm o chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed o unrhyw un o’r aelwydydd hynny neu ofalwyr unrhyw un sy’n bresennol) gwrdd dan do ac aros dros nos mewn cartrefi preifat a llety teithio neu lety gwyliau.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Mae gwybodaeth hefyd ar gael am newidiadau diweddar a rhai sydd ar y gweill.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau sydd i'w hystyried i weithredu'r busnes yn ddiogel.


Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru

Mae'r Gweinidogion wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws yng Nghymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Diogelu Cymru Gyda’n gilydd

Mae asedau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ac asedau eraill ar gael i'w defnyddio yn eich cyfathrebiadau i helpu Cadw Gymru'n Ddiogel, ynghyd â phoster sy’n hawdd i brintio ac arddangos a'i ddosbarthu i safleoedd a allai eu defnyddio.


Gweminarau profi yn y gweithle, taflenni gwybodaeth ac asedau  

Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o reoli risg er mwyn cadw eich staff, eich cwsmeriaid a'ch busnes yn ddiogel.

Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, felly mae'n bwysig profi'n rheolaidd i helpu i atal y lledaeniad.  

Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl na allant weithio o gartref, a gall busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr gael profion COVID-19 cyflym am ddim drwy ymuno â rhaglen profion yn y gweithle Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy drwy fynychu Gweminarau Profi COVID-19 yn y Gweithle ar 28 Gorffennaf 3pm - 4pm neu 29 Gorffennaf 1pm – 2pm. Cofrestrwch ar gyfer y naill ddyddiad neu'r llall drwy e-bostio COVID19.ProfiYnYGweithle@llyw.cymru .  

Edrychwch hefyd ar y taflenni gwybodaeth profi yn y gweithle ac mae asedau ar gael i chi eu defnyddio yn eich gweithle.


Ymestyn y cynllun taliadau cymorth £500 ar gyfer hunanynysu

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ar gyflogau isel drwy roi £500 iddynt os oes rhaid iddynt hunanynysu, wedi cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Sgiliau a Recriwtio

Hyrwyddo swyddi gwag yn Ninas a Sir Abertawe - Gall Tîm Twristiaeth Cyngor Abertawe helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch yn Ninas a Sir Abertawe i hyrwyddo eu swyddi gwag drwy eu gwefan a chylchlythyr i’r diwydiant. E-bostiwch tourism.team@swansea.gov.uk  am ragor o wybodaeth.

Hysbysfwrdd swyddi gwag yng Ngwynedd – Gwaith Gwynedd - Mewn ymateb i’r her bresennol o ran swyddi yn y sector lletygarwch, mae menter Cyngor Gwynedd, Gwaith Gwynedd, wedi creu ‘Hysbysfwrdd swyddi gwag yng Ngwynedd’ ar Facebook. Mae’n hysbysfwrdd ar gyfer swyddi sydd ar gael yng Ngwynedd ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am waith neu sydd eisiau hysbysebu swyddi. Gall cyflogwyr rannu manylion swyddi gwag trwy’r grŵp, sy’n cael ei gymedroli gan staff Gwaith Gwynedd.

 

Mae'r dudalen Sgiliau a Recriwtio ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau wedi'i diweddaru.  I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.  


"Helpwch ni i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld"

Gyda chau ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru ddydd Iau 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, apêl i sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i sicrhau eu bod yn helpu i greu'r Gymru Wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Coedwig Genedlaethol i Gymru - Grant Buddsoddi Mewn Coetir

Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn darparu cyllid i greu coetir newydd ac i wella ac ehangu coetir sy'n bodoli eisoes.

Mae'r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan ddiwedd mis Awst a bydd yn darparu grantiau rhwng £10,000 a £250,000 i ariannu'r gwaith o greu a gwella coetiroedd sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat gyda'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. 

Gall yr arian gynnwys eitemau fel coed a phlanhigion; gweithgareddau i gynnwys cymunedau lleol yn y coetir; creu a gwella mynediad i'r cyhoedd, yn amrywio o lwybrau troed/llwybrau natur hygyrch. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y Grant Buddsoddi mewn Coetir drwy ymuno â chyflwyniad byw ddydd Mercher nesaf 21 Gorffennaf am 10am.  Dewch yn ôl a cliciwch yma i ymuno â’r sesiwn byw a rhowch y ddolen yn eich calendr.  Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn y Nodiadau Cyfarwyddyd TWIG.


Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolfan ddringo i anelu’n uwch

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd i weld sut mae'r ganolfan wedi defnyddio Cyllid Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu - a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth £2.5 biliwn o gymorth i fusnesau ledled Cymru, gan helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.

Mae'r cyllid wedi galluogi Boulders i ehangu ei arlwy, gan ganiatáu i fwy o gwsmeriaid ddefnyddio’r cyfleuster yn ddiogel, tra'n cadw pellter cymdeithasol. Gwnaeth Boulders ailgynllunio’r cyfleuster er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau COVID, buddsoddi mewn llwyfan digidol newydd i wella effeithlonrwydd, rheoleiddio niferoedd a chyflymu'r broses gyrraedd a chofrestru. Gwnaeth y ganolfan hefyd fuddsoddi mewn byrddau hyfforddi digidol newydd i sicrhau bod rhan o'r ganolfan nad oedd yn cael ei defnyddio lawer yn fwy hygyrch.

Wrth i atyniadau a busnesau lletygarwch edrych ymlaen at haf prysur, mae llawer o fusnesau eraill wedi defnyddio cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Helpu i gefnogi Cadernid Ariannol a Lles eich staff

Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu’n hallt pa mor fregus yw sefyllfa ariannol pobl heb gynilion neu rai sydd â dim ond ychydig o arian wrth gefn. Ni fu erioed amser gwell nag yn awr i wella lles ariannol eich gweithlu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i gyflogwyr helpu drwy bartneru ag undeb credyd i gynnig cynllun cynilo i’r rheini ar gyflogres y gweithle a mynediad at gredyd fforddiadwy. 

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram