Bwletin Newyddion: Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt; Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Mehefin 2021


cv

Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bydd busnesau yng Nghymru sy'n dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf a mis Awst 2021 busnesau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau ac sy'n parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau.

Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi y mae’r cyfyngiadau yn dal i effeithio’n ddifrifol arnynt, megis asiantau teithio, atyniadau y mae’r mesurau cadw pellter wedi cyfyngu arnynt a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol, hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.

“Rydym wedi darparu dros £2.5biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi'i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Rydym hefyd wedi ymestyn ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r dull hwn sydd wedi'i dargedu, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.

"Er mwyn cefnogi busnesau ymhellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi cymorth ychwanegol i helpu i dalu costau'r busnesau hynny yng Nghymru y mae angen iddynt aros ar gau, neu sy’n dal i ddioddef yn sgil y newid graddol yng Nghymru i Lefel Rhybudd Un, a oedd yn angenrheidiol oherwydd y risgiau a achosir gan yr amrywiolyn Delta.

"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn."

Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau, i gynnwys cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst.

I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i fusnesau ddangos bod eu trosiant wedi gostwng mwy na 60% o gymharu â'r llinell amser gyfatebol yn 2019 neu gyfwerth.  Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y cyllid. 

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru ar 5 Gorffennaf, a fydd yn caniatáu i fusnesau wirio eu bod yn gymwys i gael y cymorth a faint o gymorth y maent yn gymwys i wneud cais amdano. Bydd hyn yn eu helpu i ddechrau paratoi eu ceisiadau.

Bydd y gronfa'n agor i geisiadau o ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021, a bydd yn parhau ar agor am gyfnod o 2 wythnos, gan gau ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld mai hwn fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i'r busnesau hynny sy'n gallu masnachu, yn seiliedig ar lefel bresennol cyfyngiadau Covid. Os bydd angen cyfyngiadau newydd mewn ymateb i amrywiolyn newydd neu ddatblygiadau eraill sy'n dod i'r amlwg, bydd Gweinidogion yn adolygu'r angen am gymorth ychwanegol.

Ar ôl y cyfnod argyfwng, pe bai'r sefyllfa'n caniatáu, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu darparu Cronfa Datblygu Busnes ac Adfer, a gynlluniwyd i gefnogi busnesau gydag arian cyfatebol i ail-lansio, datblygu a thyfu yn dilyn y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau Covid ymhellach. Bydd hyn yn cyd-fynd yn llwyr â'r blaenoriaethau a nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.


restaurant

Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben yfory (1 Gorffennaf).

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ei chyfnod rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch o 100 y cant yn gostwng ar 30 Mehefin, gyda gostyngiad o 66 y cant yn dod i rym am weddill y flwyddyn ariannol.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y gostyngiad llawn o 100 y cant i bob busnes ac elusen yn y sectorau hamdden a lletygarwch tan fis Ebrill 2022. Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500k hefyd yn parhau i dderbyn gostyngiadau llawn ar eu cyfraddau am weddill y flwyddyn.

Mae'r pecyn gwerth £380m yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag effeithiau'r pandemig. Mae'n gweithredu ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol sy'n darparu £240m o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru eleni.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Wrth i filiau ddechrau glanio yn Lloegr, rydym yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd angen iddynt dalu ardrethi tan fis Ebrill 2022.

“Rydym wedi gwrando ar y sectorau ac eisiau helpu siopau a lleoliadau i godi nôl ar eu traed. Er y gall y busnesau hyn agor erbyn hyn, mae anawsterau'r flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â'r cyfyngiadau sy'n parhau yn eu lle, yn golygu y byddai llawer yn ei chael hi’n anodd i dalu hyd yn oed rhai o'u hardrethi arferol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae ein disgownt rhyddhad ardrethi o 100% yn rhan hanfodol o'r pecyn cymorth economaidd rydym wedi'i ddarparu i helpu busnesau ledled Cymru, gan roi'r amser sydd ei angen arnynt i ganolbwyntio ar adfer.

“Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi cefnogi busnesau Cymru gyda gwerth £2.5bn o gymorth, sydd wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.”


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram