Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

5 Awst 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Codi’r taliad cymorth hunanynysu i £750; Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn; Os bydd ymwelwyr sydd yn aros mewn llety yng Nghymru yn teimlo’n sâl ac yn profi unrhyw symptomau COVID-19; Profion llif unffordd i ymwelwyr â Chymru; COVID-19 – sut y gall profion helpu i reoli’r risg i’ch busnes; Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o 1 Awst 2021; Sgiliau a Recriwtio; Hyb cyngor newydd i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau yn y gwaith; Confensiwn Blynyddol UKinbound 2021 Manceinion 16 a 17 Medi (a gweithdy rhithwir 24 Medi); Gweithdy ac Aelodaeth Cymdeithas Hyfforddwyr Twristiaeth; Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adnoddau newydd er mwyn cefnogi busnesau bwyd sy’n paratoi ar gyfer newidiadau labelu alergenau; Effaith technoleg ddigidol ar dwristiaeth Cymru; Pecyn hyfforddi seiberddiogelwch ar gyfer elusennau a busnesau bach; Arferion gorau ar gyfer adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau; Taith Prydain 2021; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Codi’r taliad cymorth hunanynysu i £750

Yn dilyn newidiadau i'r polisi hunanynysu, bydd taliad cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru yn cael ei godi o £500 i £750.

Bydd y cynnydd yn dod i rym ar 7 Awst a chaiff ei adolygu gan y Gweinidogion ymhen tri mis. Mae'r taliad wedi'i gynllunio i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) GIG Cymru am eu bod wedi cael prawf positif, am fod ganddynt symptomau coronafeirws neu am eu bod yn gysylltiadau agos sydd heb eu brechu'n llawn.

Mae'r cynllun taliadau, sydd wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022, yn helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref yn ogystal â rhieni a gofalwyr â phlant, sydd wedi profi'n bositif ac sy'n hunanynysu.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn

Cadarnhaodd y Prif Weinidog (29 Gorffennaf) na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.  Bydd y newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn yn dod i rym o 7 Awst.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Os bydd ymwelwyr sydd yn aros mewn llety yng Nghymru yn teimlo’n sâl ac yn profi unrhyw symptomau COVID-19:

Rhaid iddynt ac unrhyw un sy’n teithio gyda nhw, (oni bai eu bod o dan 18 oed neu wedi cael eu brechu'n llawn) fynd adref mor fuan â phosibl, os ydynt yn ddigon iach i wneud hynny. Rhaid iddynt fynd adref y ffordd fwyaf uniongyrchol ac ni ddylent ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.


Profion llif unffordd i ymwelwyr â Chymru 

Mae profion llif unffordd cyflym ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws a maent ar gael o bwyntiau casglu lleol neu mae modd eu harchebu ar-lein i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Anogir ymwelwyr â Chymru i gymryd prawf cyn teithio o gartref ac i ddod â profion gyda nhw i barhau i brofi tra byddant ar eu gwyliau. Dim ond y rhai sydd â chanlyniad prawf negyddol a dim symptomau coronafeirws ddylai deithio. Nid ydym yn annog busnesau i stocio profion ar gyfer eu cwsmeriaid na'u gwesteion.  

Darllenwch fwy am gael prawf a rôl profion llif unffordd a PCR


COVID-19 – sut y gall profion helpu i reoli’r risg i’ch busnes

Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau wrth inni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr â bodolaeth y feirws. Mae cynllunio ymlaen llaw yn helpu i gadw eich staff, eich cwsmeriaid, a’ch busnes yn ddiogel.

  • Gall busnesau, sydd â 10 neu fwy o weithwyr na allant weithio o gartref, gael profion COVID-19 cyflym am ddim drwy ymuno â rhaglen profion yn y gweithle Llywodraeth Cymru.
  • Os oes gan eich busnes lai na 10 o weithwyr na allant weithio o gartref, gall eich staff archebu pecynnau o hunan-brofion cyflym ar lein, neu eu casglu o’u pwynt casglu agosaf.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Mae pecyn cymorth newydd i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn COVID-19 hefyd ar gael ar Llyw.Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu.


Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o 1 Awst 2021

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi newid, rhwng 1 Awst 2021 a 30 Medi 2021 (pan fydd y cynllun yn cau), bydd Llywodraeth y DU yn talu 60% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydyn nhw’n cael eu gweithio, hyd at derfyn o £1,875.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Sgiliau a Recriwtio

I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.


Hyb cyngor newydd i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau yn y gwaith

Mae hyb cyngor newydd wedi’i lansio i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau cyflogaeth yn y gwaith.

Bydd yr hyb ar-lein, sef partneriaeth rhwng DBEIS ac Acas, yn rhoi cyngor clir i bobl anabl a chyflogwyr ar hawliau cyflogaeth – o wahaniaethu yn y gweithle i addasiadau rhesymol.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Confensiwn Blynyddol UKinbound 2021 Manceinion 16 a 17 Medi (a gweithdy rhithwir 24 Medi)

Er mwyn cefnogi'r diwydiant twristiaeth mewnol ehangach yn ei adferiad, mae UKinbound yn agor archebion i'r rhai nad ydynt yn aelodau am y tro cyntaf ar gyfer eu confensiwn blynyddol (gall aelodau UKinbound fwynhau cyfraddau ffafriol).

Bydd #UKiCon21 yn cynnwys rhaglen hybrid ar ei newydd wedd 'Adeiladu'n Well' a fydd yn cynnwys dau ddiwrnod o drafodaethau amserol yn y diwydiant, areithiau ysbrydoledig, noson rwydweithio â thema, gweithdy busnes i fusnes estynedig, cynnwys wedi'i deilwra ar gyfer prynwyr a chyflenwyr, gweithdai addysgol ac ystod wych o ymweliadau ymgyfarwyddo.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd busnes i bawb sy'n bresennol, fel rhan o'r digwyddiad cynhelir gweithdy busnes i fusnes rhithwir ychwanegol ddydd Gwener 24 Medi, ynghyd â chynnwys rhithwir unigryw gan gynnwys seminarau marchnad a diweddariadau cenedlaethol i'r bwrdd croeso.

Ewch i wefan UKinbound i gael gwybod mwy ac archebu eich lle nawr (dyddiad cau 20 Awst).


Gweithdy ac Aelodaeth Cymdeithas Hyfforddwyr Twristiaeth

Mae Croeso Cymru yn aelod partner o'r Gymdeithas Hyfforddwyr Twristiaeth sy'n cynnal gweithdy a digwyddiad Rhwydweithio yn Lerpwl, 27-28 Medi.

Mae croeso i aelodau newydd o Gymru, yn enwedig cwmnïau bysiau a gwestai sy'n darparu ar gyfer grwpiau – gael gwybod mwy am aelodaeth a gwneud cais.


Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adnoddau newydd er mwyn cefnogi busnesau bwyd sy’n paratoi ar gyfer newidiadau labelu alergenau

Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Effaith technoleg ddigidol ar dwristiaeth Cymru

Twristiaeth, o'r holl ddiwydiannau, a deimlodd ergyd pandemig Covid-19 drymaf. Yng Nghymru yn enwedig mae twristiaeth wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, gydag adroddiad seneddol yn datgan ei fod wedi arwain at gau 97% o fusnesau ar unwaith, a rhoi 80% o'r staff ar ffyrlo. Dros Gŵyl Banc y Pasg yn ddiweddar, yn unig, amcangyfrifir bod Gogledd Cymru wedi colli dros £100 miliwn mewn refeniw.

Mae COVID-19 wedi ail-lunio sawl rhan o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ond ddylai busnesau ddim aros tan ddiwedd y pandemig i fanteisio ar drawsnewid digidol. Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn dal i gynnig llu o weithdai ar-lein rhad ac am ddim, wedi’u hategu gan gyfarfod un-i-un gyda Chynghorydd Busnes Digidol cyfeillgar sy’n gallu darparu cynllun gweithredu wedi'i deilwra i chi.  Ewch i wefan Cyflymu Cymru i Fusnesau am fwy o fanylion.


Pecyn hyfforddi seiberddiogelwch ar gyfer elusennau a busnesau bach

Gall elusennau a busnesau bach fanteisio ar becyn e-ddysgu am ddim a fydd yn rhoi hwb i’w gallu i amddiffyn eu hunain rhag y bygythiadau a ddaw yn sgil seiberdroseddwyr.

Mae’r hyfforddiant, Cyber Security for Small Organisations and Charities, yn tywys busnesau drwy’r camau y dylent eu cymryd er mwyn lleihau’n ddramatig y risg o’r ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin, fel meddalwedd wystlo a gwe-rwydo.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Arferion gorau ar gyfer adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cyflogi 250 neu fwy o bobl gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Tra bod gan gyflogwyr tan 5 Hydref 2021 i adrodd ar ddata o 2020/21, mae arweinwyr busnes yn cael eu hannog i goladu eu data cyn gynted â phosibl, er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i gynllunio camau pwrpasol i fynd i’r afal ag unrhyw fylchau.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Taith Prydain 2021 

Bydd Taith Prydain 2021 yn 5-12 Medi ac mae'n cynnwys dau gam llawn yng Nghymru.  Bydd y ras yn mynd yn ei blaen yn amodol ar amodau lleol ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol perthnasol a phrotocolau UCI.  Efallai y bydd busnesau am gysylltu eu marchnata a’u cyfryngau cymdeithasol â'r Daith:

  • Cam tri: Llandeilo i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - Dydd Mawrth 7 Medi
  • Cam pedwar: Aberaeron i'r Gogarth, Llandudno - Dydd Mercher 8 Medi

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys pencampwyr Olympaidd, byd a Tour de France, ac mae'n denu cynulleidfa ochr y ffordd o dros 1.5m o wylwyr.  Mae'r Tour yn rhan o ProSeries UCI, sy'n ei wneud yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf uchel ei barch yng nghalendr y gamp yn fyd-eang.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram