Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

2 Gorffennaf 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt; Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel yr haf hwn; Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru; Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021; Sgiliau a Recriwtio; Barod Amdani yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf; Baromedr Busnes Twristiaeth; Busnes sy'n agored i bawb; Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Mehefin nawr; Darparu Gwybodaeth ar gyfer Ailbrisio 2023; Yr UE yn penderfynu defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd’ i adael i ddata barhau i lifo i’r DU yn ddirwystr


Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt

Bydd busnesau yng Nghymru sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yr wythnos hon.

Bydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf a mis Awst 2021 busnesau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau ac sy'n parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau.

Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi y mae’r cyfyngiadau yn dal i effeithio’n ddifrifol arnynt, megis asiantau teithio, atyniadau y mae’r mesurau cadw pellter wedi cyfyngu arnynt a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol, hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru ar 5 Gorffennaf, a fydd yn caniatáu i fusnesau wirio eu bod yn gymwys i gael y cymorth a faint o gymorth y maent yn gymwys i wneud cais amdano. Bydd hyn yn eu helpu i ddechrau paratoi eu ceisiadau.

Bydd y gronfa'n agor i geisiadau o ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021, a bydd yn parhau ar agor am gyfnod o 2 wythnos, gan gau ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel yr haf hwn

Mewn sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI a Mentro’n Gall Cymru am sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i fod yn fwy diogel yn yr awyr agored yr haf hwn.

Gydag 870 milltir o arfordir trawiadol i grwydro ar ei hyd, mae'r RNLI yng Nghymru yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ddiogelwch arfordirol i unrhyw un sy'n dymuno mynd allan ar y môr a chymryd rhan yn y gweithgareddau dŵr niferus sydd ar gael. Roedd hefyd yn gyfle i hyrwyddo cynllun llysgenhadon dŵr lleol yr RNLI lle gall busnesau sydd ar yr arfordir helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo negeseuon diogelwch dŵr allweddol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Dywedodd Chris Cousens, RNLI: "Roedd yn gyfle gwych i gael  siarad â chymaint o fusnesau twristiaeth am bwysigrwydd diogelwch dŵr a thrafod sut y gall yr RNLI ac Adventure Smart UK eu cefnogi i helpu pobl i fwynhau yn ddopgel yn y dŵr agored yr haf hwn a thu hwnt.

“Gwyddom fod 30 miliwn o bobl yn bwriadu ymweld â'r arfordir yr haf hwn ac rydym am i gynifer ohonynt â phosibl ddewis traeth sydd ag achubwyr bywyd, i wybod i arnofio i fyw os ydynt mewn trafferth yn y dŵr a gwybod i ffonio 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng.

“Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd rhai o'r busnesau sy'n bresennol yn y digwyddiad heddiw yn ymuno â'r cannoedd sydd eisoes wedi ymuno â Chynllun Llysgenhadon Lleol yr RNLI yn RNLI.org/LocalAmbassador.”

Hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn roedd Paul Donovan ac Emma Edwards-Jones, rheolwyr prosiect ar gyfer Mentro’n Gall, sydd â'r nod o leihau nifer y digwyddiadau y gellir eu hosgoi y mae'r gwasanaethau achub ac argyfwng yn ymdrin â hwy bob blwyddyn.  Meddai Paul Donovan: "Mae Mentro’n Gall yn ymgyrch genedlaethol i ymgysylltu pobl yn gadarnhaol â'r wybodaeth syml sydd angen arnynt i gymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch a'u cysur eu hunain wrth fwynhau'r awyr agored. Er bod yr ymgyrch yn hyrwyddo hamdden awyr agored, mae'n pwysleisio'r potensial ar gyfer cael diwrnod mwy pleserus a chyfforddus drwy ddilyn y negeseuon syml.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i estyn allan a chefnogi busnesau twristiaeth i rannu negeseuon syml ond effeithiol y cytunwyd arnynt ac sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan dros 70 o sefydliadau'r sector antur."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething; "Gyda mwy o bobl yn mynd ar wyliau gartref eleni, yn ddealladwy byddant yn mynd allan i fwynhau amgylchedd naturiol Cymru i brofi grym natur i godi ein hysbryd – mae hefyd yn bwysig bod ganddynt yr wybodaeth gywir i'w cadw eu hunain a'n cymunedau'n ddiogel.

"Mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i gyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i barhau i barchu cefn gwlad a'r cymunedau rydyn ni'n ymweld â hwy drwy wneud addewid i ofalu am ein gilydd, ein tir a'n cymunedau. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio menter o'r math yma - gan annog ymwelwyr i gadw yr addewid i helpu i ofalu am y bobl a'r lleoedd y maent yn ymweld â hwy ac i'w hamddiffyn.  Mae hyrwyddo diogelwch wrth i ni fentro allan dros yr haf yn rhan o'r ymgyrch hon."

Gellir llofnodi'r addewid rhithwir ar https://www.croeso.cymru/cy


Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben yfory (1 Gorffennaf).

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ei chyfnod rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch o 100 y cant yn gostwng ar 30 Mehefin, gyda gostyngiad o 66 y cant yn dod i rym am weddill y flwyddyn ariannol.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y gostyngiad llawn o 100 y cant i bob busnes ac elusen yn y sectorau hamdden a lletygarwch tan fis Ebrill 2022. Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500k hefyd yn parhau i dderbyn gostyngiadau llawn ar eu cyfraddau am weddill y flwyddyn.

Mae'r pecyn gwerth £380m yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag effeithiau'r pandemig. Mae'n gweithredu ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol sy'n darparu £240m o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru eleni.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021.

Bydd y cam hwn yn fodd i sicrhau, tan 30 Medi eleni, na fydd busnesau’n fforffedu eu tenantiaethau busnes am beidio â thalu rhent, ond dylent barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, ac mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Bydd y mesur hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ar adeg sy'n parhau’n gyfnod masnachu hynod heriol, tra bydd y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws yn cael eu llacio.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Sgiliau a Recriwtio:

Adolygiad o’r sector teithio, twristiaeth, hamdden, lletygarwch ac arlwyo: Holiaduron Ar-lein

  • A yw cymwysterau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a chyflogwyr?
  • A ydyn nhw’n paratoi dysgwyr yn dda ar gyfer cyflogaeth?
  • Pa welliannau y gellid eu gwneud ar gyfer y dyfodol?

Mae Cymwysterau Cymru eisiau clywed eich barn chi am y cymwysterau, a’r system gymwysterau yn y sector teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo.

Rydym yn annog cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu i gymryd rhan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur, cysylltwch â teithioatwristiaeth@cymwysteraucymru.org

Gweminarau Acas ar gyfer cyflogwyr

Mae arbenigwyr Acas yn cynnal gweminarau rheolaidd ar bynciau cyfraith cyflogaeth a chysylltiadau cyflogaeth.

Gallwch ymuno am ddim, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ymlaen llaw. Does dim llawer o leoedd ar gael.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

 

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Barod Amdani yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf 

Mae 12 mis bellach ers lansio cynllun "Barod Amdani" sydd wedi derbyn dros 6070 o geisiadau gan fusnesau yng Nghymru felly llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wneud eu busnes neu gyrchfan yn Covid-ddiogel i gwsmeriaid. 

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch ati yn awr – mae'n broses syml a bydd yn golygu y gall eich busnes ddefnyddio nod safonol y diwydiant i roi hyder i'ch ymwelwyr bod gennych brosesau clir ar waith a'ch bod yn dilyn canllawiau COVID-19 y diwydiant a'r Llywodraeth ar lendid a chadw pellter cymdeithasol. 

Mae'r cynllun yn cael ei ddefnyddio ledled y DU ac mae darpar ymwelwyr yn chwilio fwyfwy am leoliadau a gwasanaethau sy'n cymryd rhan, wrth gynllunio eu taith.

Bydd yn parhau’n rhan allweddol o neges Croeso Cymru i ddefnyddwyr a hefyd bydd defnyddwyr CroesoCymru.com yn gallu chwilio am yr holl gynhyrchion drwy opsiwn hidlo “Barod Amdani”.

Mae'r marc hwn bellach yn cael ei gydnabod gan Gyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd (WTTC) fel ffordd o roi sicrwydd i gwsmeriaid mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ei fod yn bodloni protocolau iechyd a hylendid safonedig byd-eang rhyngwladol WTTC. 


Baromedr Busnes Twristiaeth 

Mae adroddiad diweddaraf Baromedr COVID-19 Busnes Twristiaeth Cymru (Ton 7) wedi'i gyhoeddi.   

Mae'r Baromedr hwn yn asesu effaith COVID-19 ar fusnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac mae wedi cynnwys cyfres o gwestiynau am archebion ymlaen llaw a materion recriwtio staff.  Mae'r canlyniadau'n dangos perfformiad cymysg dros hanner tymor mis Mai gydag un o bob pum gweithredwr a oedd ar agored yn cael mwy o gwsmeriaid na blwyddyn arferol a 28% yn cael llai.


Busnes sy'n agored i bawb

Mae gan un o bob pump o bobl yn y DU nam, a allai effeithio ar lle maen nhw'n dewis aros neu ymweld ag e. Mae gwella eich hygyrchedd o fudd i bob cwsmer a does dim angen gwneud newidiadau mawr na drud bob amser – gall darparu Canllaw Hygyrchedd am ddim ar gyfer eich lleoliad eich helpu i fod yn fwy cynhwysol i bobl ag ystod eang o namau gweladwy a chudd.

Mae VisitBritain wedi cynhyrchu canllawiau, offer ac adnoddau i helpu eich busnes i gynnig mynediad i bawb.

Yn ychwanegol i hyn, mae Euan's Guide yn cynnig ei 10 awgrym gorau i helpu lleoliadau i gefnogi cwsmeriaid anabl y yn ystod pandemig Covid-19.


Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Mehefin nawr

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Mehefin 2021.

Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Mehefin 2021 erbyn 14 Gorffennaf 2021.

Dyma'r dyddiadau hawlio yn y dyfodol:

  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 16 Awst 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Awst 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Medi 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Medi 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Hydref 2021

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Darparu Gwybodaeth ar gyfer Ailbrisio 2023

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cysylltu â busnesau i ofyn am wybodaeth i gefnogi’r broses o ailbrisio ardrethi busnes ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr.

Unwaith y bydd trethdalwyr yn derbyn cais drwy lythyr, mae angen iddynt fynd ar-lein a chyflwyno’u manylion diweddaraf. I rai dosbarthiadau eiddo arbenigol, gofynnir i chi ddarparu’ch gwybodaeth drwy e-bost, felly unwaith y byddwch yn derbyn cais dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llythyr.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Yr UE yn penderfynu defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd’ i adael i ddata barhau i lifo i’r DU yn ddirwystr

Bydd busnesau a sefydliadau eraill yn y DU yn gallu manteisio ar drosglwyddiadau data personol heb gyfyngiadau.

Gall data personol barhau i lifo’n ddirwystr rhwng Ewrop a’r DU yn dilyn penderfyniad gan yr UE i ddechrau defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd data’.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram