Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Mark Drakeford AS Prif Weinidog Cymru:
Adolygwyd y cyfyngiadau coronafeirws ddiwethaf ar 18 Mehefin pan wnaethom rewi camau i symud yn llwyr i lefel rhybudd un am bedair wythnos. Bydd y cyfnod hwn yn helpu i leihau’r nifer dyddiol uchaf o gleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai, gan ei haneru o bosibl, ac yn rhoi amser i fwy o bobl gael eu hail ddos o frechlyn.
Rydym wedi cynnal yr adolygiad tair wythnos ffurfiol o’r rheoliadau yr wythnos hon. Rydym wedi ystyried y data a’r dystiolaeth yn ofalus ac yn cadarnhau y dylai’r cyfyngiadau sydd mewn grym gael eu cadw tan o leiaf yr adolygiad rheoleiddiol nesaf. Bydd yr adolygiad hwnnw’n cael ei gynnal erbyn 15 Gorffennaf.
Mae gwybodaeth am y cyfyngiadau presennol sydd ar waith ar gael ar Llyw.Cymru.
Cymryd mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd
Mae canllawiau o dan reoliad 18 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r diwygiadau a ddaeth i rym ar 21 Mehefin 2021.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|