Bwletin Newyddion: Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Gorffennaf 2021


cv

Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru

Mae'r Gweinidogion wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws yng Nghymru.

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws wedi'i ddiweddaru, yn nodi’r hyn a fydd yn digwydd y tu hwnt i lefel rhybudd un, bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol mewn rhai lleoliadau, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn tacsis ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, o leiaf, tra bo’r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd.

Mae ystyriaeth weithredol bellach yn cael ei rhoi i a ddylai gorchuddion wyneb fod yn ofynnol mewn lleoliadau eraill hefyd, fel lleoliadau manwerthu, os caiff y cyfyngiadau eu llacio ymhellach.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar lefel rhybudd un – mae gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob man cyhoeddus dan do ar lefel rhybudd un ac uwch.

Bydd y Gweinidogion yn cynnal yr adolygiad 21 diwrnod rheolaidd o’r rheoliadau coronafeirws wythnos yma , a fydd yn nodi a ellir llacio'r cyfyngiadau mewn rhai mannau dan do, gan gynnwys yng nghartrefi pobl.

Byddant hefyd yn cyhoeddi cynlluniau newydd yn nodi sut y bydd Cymru yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd un i lefel rhybudd sero newydd, gyda llai o gyfyngiadau cyfreithiol.

Fodd bynnag, cadarnhaodd y Gweinidogion y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol o dan y gyfraith mewn rhai mannau tra bo’r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Bydd angen help pawb arnom i gadw’r coronafeirws dan reolaeth wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig – yn sicr nid yw'r feirws hwn wedi diflannu.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn parhau i boeni ac yn bryderus am fynd allan. Byddwn yn cynnal y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau – ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn llefydd eraill yn ôl yr angen – er mwyn helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.”

Mae tystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r defnydd o orchuddion wyneb, ochr yn ochr â chamau eraill, fel ffordd o leihau trosglwyddiad y feirws.

Yn bennaf, maent yn diogelu pobl eraill, yn hytrach na'r rhai sy’n eu gwisgo, rhag lledaeniad yr haint, a hynny drwy orchuddio'r trwyn a'r geg, sef y prif ffynonellau ar gyfer trosglwyddo’r feirws. Maent yn arbennig o ddefnyddiol mewn ardaloedd dan do prysur neu lawn sydd wedi’u hawyru'n wael.

Mae cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn fannau caeedig. Os yw trên neu fws yn llawn, ni all bobl ddewis peidio â mynd arnynt os mai dyna’r unig ffordd sydd ganddynt o gyrraedd y gwaith.

Gall lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn amgylcheddau risg uchel lle gallai cleifion sâl ac aelodau o staff fod mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â'r feirws. Gall gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ardaloedd hyn helpu i ddiogelu eraill.

Bydd y rheolau ar orchuddion wyneb hefyd yn newid mewn ysgolion.

Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i helpu i ddiogelu ein gilydd. Mae diogelu pawb wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gydol y pandemig a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yn nodi canlyniad yr adolygiad 21 diwrnod ac yn rhoi rhagor o fanylion am y lefel rhybudd sero newydd.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau sydd i'w hystyried i weithredu'r busnes yn ddiogel.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram