Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

24 Mehefin 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Y Gweinidog Iechyd yn annog pawb i Ddiogelu Cymru yr haf hwn; Datganiad Ysgrifenedig: Ewro 2020 – cyngor teithio i gefnogwyr pêl-droed; Mae atyniadau Cymru ar agor ac yn barod i groesawu ymwelwyr" – Vaughan Gething; "Helpu Gwesteion Ac Ymwelwyr i Fod Yn Fwy Diogel Yn Yr Awyr Agored – Holwch Yr Arbenigwyr"; Y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau; Sgiliau a Recriwtio; £1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru; Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl; Bluestone yn partneriaethau gyda Ail-lenwi Cymru ac yn dweud na wrth boteli blastig H2o; Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru; Cyfreithloni cofrestriadau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored; Oes angen Cymorth Lles arnoch ar gyfer eich Gweithwyr?; Hyb Hinsawdd Busnes y DU


Y Gweinidog Iechyd yn annog pawb i Ddiogelu Cymru yr haf hwn

Mae y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi atgoffa pawb i chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru yr haf hwn.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Ewro 2020 – cyngor teithio i gefnogwyr pêl-droed

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn bod Cymru unwaith eto wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf yn un o’r prif gystadlaethau pêl-droed ac rydym yn gobeithio am lwyddiant pellach yng nghystadleuaeth Ewro 2020. Mae’n gyfnod cyffrous i dîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru ac i’n cefnogwyr gwych. Mae pawb yn dymuno pob hwyl i’r tîm yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn.

Mae cystadleuaeth Ewro 2020 yn cael ei chynnal yn ystod pandemig byd-eang ac, yn anffodus, bydd y cyfyngiadau sydd mewn grym i’n diogelu ni i gyd yn effeithio ar gefnogwyr Cymru sy’n gobeithio teithio i ddilyn ein tîm cenedlaethol.

Ein cyngor pendant yw mai’r ffordd orau inni i gyd ddangos ein cefnogaeth i Gymru yw drwy gefnogi’r tîm o gartref.

Rydym hefyd yn cynghori pawb – nid cefnogwyr pêl-droed yn unig – i beidio â theithio dramor yr haf hwn ac er bod llwyddiant Cymru i gyrraedd rownd nesaf yr Ewros yn bwysig iawn – nid yw teithio yno yn hanfodol. Dyma’r flwyddyn i aros gartref.

Mae ein hymdrechion i leihau achosion o’r coronafeirws o’r lefelau uchel iawn a welwyd ar ddechrau’r flwyddyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac rydym am wneud popeth y gallwn ni i gadw’r feirws o dan reolaeth, yn enwedig yn sgil lledaeniad yr amrywiolyn delta yng Nghymru. Bydd aros gartref i gefnogi Cymru, yn yr awyr agored yn ddelfrydol, yn ein helpu i wneud hynny.

Darllenwch yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mae atyniadau Cymru ar agor ac yn barod i groesawu ymwelwyr" – Vaughan Gething

Ar ymweliad ag atyniad mwyaf newydd Cymru, Zip World Tower, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething fod atyniadau Cymru ar agor ac yn barod i groesawu ymwelwyr dros yr haf.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Wythnos nesaf – cyfle i ymuno â sesiwn ar-lein yn benodol ar gyfer partneriaid yn y diwydiant: "Helpu Gwesteion Ac Ymwelwyr i Fod Yn Fwy Diogel Yn Yr Awyr Agored – Holwch Yr Arbenigwyr" 

Ar ddydd Iau 1 Gorffennaf am 2pm mae Croeso Cymru yn falch o fod yn cynnal sesiwn rhad ac am ddim awr o hyd ar-lein cyn cyfnod gwyliau'r haf. Bydd busnesau'n cael cyfle i glywed gan yr RNLI a Adventure Smart – bydd siaradwyr hefyd yn ateb cwestiynau mewn sesiwn holi ac ateb.   

RNLI – Bydd Chris Cousens (Arweinydd Diogelwch Dŵr yr RNLI yng Nghymru) yn cwmpasu'r holl adnoddau busnes y gellir eu defnyddio, a fydd yn cynnwys negeseuon craidd,  a sut i ddod yn Llysgennad Dŵr yr RNLI yr haf hwn; ffordd syml iawn y gall busnes helpu i ledaenu'r gair ac annog ymweliadau diogel.  

Adventure Smart  Paul Donovan ac Dr Emma Edwards Jones ar ddiogelwch yn yr awyr agored a'r hyn y gall busnes ei ddefnyddio a thynnu sylw i helpu gwestai/ymwelwyr i wneud y gorau o'u hamser yng Nghymru, yn ddiogel, wrth fwynhau gweithgareddau fel nofio dŵr agored i gerdded bryniau.   

I ymuno â ni, archebwch eich lle erbyn 3pm dydd Mawrth 29 Mehefin. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin a bydd pawb sy'n bresennol hefyd yn derbyn deunydd dilynol ar ôl y sesiwn.   


Y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau:

Canllawiau derbynfa priodas a phartneriaethau sifil - Mae'r canllawiau ar gyfer sut y mae'n rhaid i leoliadau sy'n cynnal derbyniadau priodas a phartneriaethau sifil weithredu yn ystod pandemig COVID-19 bellach wedi'u diweddaru a'u cyhoeddi: Canllawiau ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil: derbyniadau a digwyddiadau dathlu.  

Canllawiau Digwyddiadau - Mae canllawiau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau crynoadau a reoleiddir yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar gael a gellir eu gweld ar Cadwch Gymru'n Ddiogel: creu digwyddiadau sy'n ymwybodol o COVID-effro.

Canllawiau lliniarol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru - Mae’r canllawiau lliniaru ar gyfer busnesau lletygarwch yng Nghymru yn cael eu diweddaru'n reolaidd (gwiriwch yn ôl). Mae’r manylion llawn ar gael ar Canllawiau UKHospitality Cymru.

Canllawiau ymweliadau addysgol - Mae'r canllawiau ar gyfer ymweliadau addysgol wedi'u diweddaru yn y Canllawiau Gweithredol i Ysgolion a Lleoliadau (gwnewch 'ganfod' i gyrraedd yr adran Ymweliadau Addysgol).


Sgiliau a Recriwtio:

Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu hyfforddiant prentisiaeth sy’n seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae'n arbenigo mewn cefnogi busnesau yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth. 

Bydd eu tîm yn trafod eich anghenion busnes a’r cyllid sydd ar gael i recriwtio a hyfforddi staff a gallent gefnogi eich busnes i wneud cais am leoliadau Kickstart, helpu i hysbysebu a recriwtio prentis yn rhad ac am ddim a darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel: Hysbysebir eu swyddi prentisiaeth gwag ar eu gwefan, gwasanaeth cenedlaethol swyddi gwag prentisiaeth a'u cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Hyfforddiant Cambrian.

 

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.

​I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


£1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru

Bydd wyth amgueddfa a llyfrgell yn elwa o gyllid o £1.1 miliwn drwy Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Nod y cynllun yw cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i adfywio cyfleusterau gan ganolbwyntio'n benodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth a datblygu gwasanaethau cynaliadwy.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.

Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Bluestone yn partneriaethau gyda Ail-lenwi Cymru ac yn dweud na wrth boteli blastig H2o

Ar Ddiwrnod Ail-lenwi'r Byd yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Bluestone National Park Resort na fydd dŵr mewn potel blastig yn cael ei werthu yn unman yn y gyrchfan mwyach. 

Mae'r newid  yn rhan o bartneriaeth newydd gyda'r sefydliad amgylcheddol City to Sea, sydd yn rhan o’r ymgyrch Ail-lenwi genedlaethol ac ap sy'n cynorthwyo cyhoedd i fwyta, yfed a siopa a defnyddio llai o blastig. 

Mae'r penderfyniad i beidio gwerthu dŵr mewn poteli plastig yn rhan o ymgyrch gynaliadwyedd hirdymor ar gyfer Bluestone. Dwy flynedd yn ôl, rhoddwyd fflasgiau diodydd i'r holl staff a gellir eu ail-defnyddio, fel canlyniad i hyn roedd yno leihad yn y defnydd o boteli dŵr plastig a chwpanau coffi tafladwy mewn ardaloedd staff o dros 12,000 o eitemau y flwyddyn. 

Mae y gyrchfan nawr am stopio gwerthu dŵr mewn poteli plastig ar draws y safle, daw hyn i rym ar 16 Gorffennaf.  

Amcangyfrifir y bydd hyn yn atal 25,000 o boteli plastig rhag cael eu defnyddio bob blwyddyn; yn hytrach, anogir ymwelwyr i baratoi ar gyfer eu hymweliad drwy bacio potel ddŵr y gellir ei hail lenwi am ddim. Cynigir gostyngiad o 10% i westeion ar ddiodydd poeth hefyd os ydynt yn dod â chwpan y gellir ei ailddefnyddio i unrhyw un o fannau lluniaeth yn y gyrchfan yn hytrach na gofyn am gwpan tecawê. 

Bydd ymwelwyr â'r gyrchfan hefyd yn cael eu hannog i lawrlwytho'r ap Ail-lenwi, sy'n eu galluogi i chwilio am gannoedd o orsafoedd Ail-lenwi dŵr tap ledled Cymru, lle byddant yn gallu llenwi wrth fynd, am ddim. 


Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref fel rhaglen beilot i roi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam.

Bydd y gronfa hon ar gael fel grant dewisol o rhwng £2,500 - £10,000 fesul busnes i gefnogi gyda'r costau refeniw sydd ynghlwm â dechrau busnes mewn canol tref neu adleoli i ganol tref.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Cyfreithloni cofrestriadau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored

Mae seremonïau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored ar fin cael eu cyfreithloni am y tro cyntaf – gan gynnig rhagor o ddewis i gyplau a rhoi hwb i’r sector priodasau. 

O dan ddeddfau presennol ar gyfer eiddo cymeradwy fel gwesty, mae’n rhaid cynnal y seremoni briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol mewn ystafell gymeradwy neu adeiledd parhaol. Bydd hyn yn newid fel bod modd i gwpl gynnal y seremoni gyfan y tu allan i leoliad o’r fath.

Bydd y newid hwn yn cynnig mwy o ddewisiadau i gyplau o ran sut y maen nhw’n dathlu ac yn cynnal y diwrnod mawr trwy sicrhau bod modd cynnal pob agwedd ar briodas yn yr awyr agored o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen. Bydd hyn yn darparu mwy o hyblygrwydd, yn enwedig yn ystod y pandemig pan fo angen ystyried llawer o faterion iechyd y cyhoedd.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i  GOV.UK.


Oes angen Cymorth Lles arnoch ar gyfer eich Gweithwyr?

Wedi’i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae’r tîm Lles drwy Waith yn cyflwyno Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle am ddim i fusnesau bach a chanolig lleol sydd eisiau gweithredu’n rhagweithiol er mwyn hybu a chefnogi iechyd a lles staff.

Fel rhan o’u Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle rhad ac am ddim, maen nhw’n cynnig amrywiaeth o Weithdai Lles rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021 ar gyfer perchnogion/rheolwyr/goruchwylwyr busnes, yn ogystal â sesiynau ymwybyddiaeth lles yn y gweithle i staff:

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Mae toreth o gymorth ar gael ichi ar-lein: Lles ac Iechyd Meddwl | Drupal

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Lles drwy Waith ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://www.wellbeingthroughwork.org.uk/cy/


Hyb Hinsawdd Busnes y DU

Ymgyrch yw Hyb Hinsawdd Busnes y DU sy’n gofyn i fusnesau bach y DU gyda hyd at 250 o weithwyr i ymuno yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Wrth ymrwymo, byddwch yn cael yr adnoddau i’ch helpu i ddeall eich allyriadau, sut i fynd i’r afael â nhw a sut i rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch cwsmeriaid a’ch cymuned.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Hyb Hinsawdd Busnes y DU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram