Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

9 Gorffennaf 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN : Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 (ERF) - gwiriwr cymhwysedd bellach ar agor; Profion llif unffordd i ymwelwyr â Chymru; Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dull tair elfen o roi sylw i’r “argyfwng ail gartrefi”; Canllawiau UKH ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru; Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – pumuned grant; VisitBritain: lansio cronfa gymorth i ddigwyddiadau busnes domestig; Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol; Camau at Gynaliadwyedd – Rhaglen y Gronfa Dreftadaeth; Cynllun Cadw Golwg ar Iechyd; Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 (ERF) - gwiriwr cymhwysedd bellach ar agor

Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar agor ar wefan Busnes Cymru, a fydd yn caniatáu i fusnesau wirio eu bod yn gymwys i gael y cymorth a faint o gymorth y maent yn gymwys i wneud cais amdano. Bydd hyn yn eu helpu i ddechrau paratoi eu ceisiadau.

Bydd y gronfa'n agor i geisiadau o ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021 a bydd yn cae ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021.

 Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Profion llif unffordd i ymwelwyr â Chymru 

Mae profion llif unffordd cyflym ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws a maent ar gael o bwyntiau casglu lleol neu mae modd eu harchebu ar-lein i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Anogir ymwelwyr â Chymru i gymryd prawf cyn teithio o gartref ac i ddod â profion gyda nhw i barhau i brofi tra byddant ar eu gwyliau. Dim ond y rhai sydd â chanlyniad prawf negyddol a dim symptomau coronafeirws ddylai deithio. Nid ydym yn annog busnesau i stocio profion ar gyfer eu cwsmeriaid na'u gwesteion.  

Darllenwch fwy am gael prawf a rôl profion llif unffordd a PCR


Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dull tair elfen o roi sylw i’r “argyfwng ail gartrefi”

Mae Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, wedi amlinellu “dull tair elfen uchelgeisiol” i roi sylw i effaith ail gartrefi ar gymunedau Cymru.  Mae’r cynllun newydd yn canolbwyntio ar degwch – er mwyn sicrhau bod modd i bawb yng Nghymru gael mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd uchel.

Bydd y dull tair elfen yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cefnogaeth – rhoi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai
  • Fframwaith a system rheoleiddio – edrych ar y gyfraith gynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau
  • Cyfraniad tecach – defnyddio systemau treth lleol a chenedlaethol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i’r cymunedau lle maen nhw’n prynu.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Canllawiau UKH ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru ac mae ar gael ar wefan UK Hospitality.


Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – pumuned grant

Hawliwch y pumed grant os ydych yn credu y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar elw eich busnes rhwng 1 Mai a 30 Medi 2021.

Os ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflenni Treth, bydd CThEM yn cysylltu â chi o ganol mis Gorffennaf ymlaen i roi dyddiad i chi pan fydd y gwasanaeth hawlio ar gael. Bydd yn cael ei roi i chi naill ai drwy e-bost, llythyr neu drwy’r gwasanaeth ar-lein.  Bydd y gwasanaeth ar-lein i hawlio’r pumed grant ar gael o ddiwedd mis Gorffennaf 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion


VisitBritain: lansio cronfa gymorth i ddigwyddiadau busnes domestig

Bydd cronfa newydd sy'n cefnogi adferiad y diwydiant digwyddiadau yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau nid-er-elw sy'n cynnal digwyddiadau busnes domestig rhwng 21 Mehefin ac 17 Rhagfyr 2021.  Mae'r Gronfa Cymorth Domestig (Domestic Support Fund) newydd wedi'i chynllunio i gynnig cymorth ariannol i roi hwb cychwynnol i ddigwyddiadau busnes a dangos bod y DU yn barod i gyfarfod eto ac wedi addasu i ffyrdd newydd o gyfarfod mewn amgylchedd COVID-19 diogel.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol

Mae i Gymdeithasau a Sioeau Amaethyddol hanes hir a chlodfawr ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig yng Nghymru.  Mae i bob un rôl bwysig wrth hyrwyddo ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy i’r cyhoedd ehangach ac wrth gynnal cydlyniant cymunedol, ein diwylliant, a’r agenda gwell iechyd.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cafodd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r sioeau amaethyddol ar draws Cymru eu canslo yn 2020 a bydd nifer fawr yn cael eu canslo yn 2021.  Mae hi’n bwysig fod Cymdeithasau sioeau amaethyddol yn gallu dychwelyd i sefyllfa o rywfaint o normalrwydd ar ôl y pandemig sy’n cynnwys ailgyflwyno sioeau amaethyddol ar draws Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn gweinyddu Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol (y Gronfa Arloesi) ar ran Llywodraeth Cymru.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Bydd Sioe Frenhinol Cymru yn mynd yn ei blaen drwy lwyfan rhithiol rhwng 19 a 22 Gorffennaf, a bydd yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas, lle bydd dilynwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o fideos addysgiadol.


Camau at Gynaliadwyedd – Rhaglen y Gronfa Dreftadaeth

Mae sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gyda llawer yn wynebu heriau eithafol er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog.  Gydag effaith ychwanegol Covid-19, mae angen diwylliant o fentergarwch i adeiladu sector treftadaeth cynaliadwy a gwydn yn awr yn fwy nag erioed.

Bydd Camau at Gynaliadwyedd, rhaglen newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol, yn darparu llwybr cymorth i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Bydd yn helpu eich sefydliad i fod yn uchelgeisiol a blaengar ac i gyflawni prosiectau newydd cyffrous.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23 Gorffennaf 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cynllun Cadw Golwg ar Iechyd

Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol cadw golwg ar iechyd ar gyfer rhai risgiau iechyd.  Mae cadw golwg ar iechyd yn gynllun o wiriadau iechyd a gynhelir yn rheolaidd i nodi afiechydon a achosir gan waith.  Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi gadw golwg ar iechyd pan fydd eich gweithwyr yn parhau i wynebu risgiau i iechyd ar ôl i chi roi rheolaethau ar waith.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes

Mae’r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS) yn cynnig gwasanaeth annibynnol a hygyrch, yn rhad ac am ddim, i ddatrys anghydfodau rhwng busnesau cymwys a banciau sy’n cymryd rhan.

Mae cynrychiolwyr busnes a’r sector bancio wedi cydweithio i lunio’r BBRS i fynd i’r afael â chwynion cyfredol gan fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ac fel bod dewis ganddynt yn lle herio banc yn y llys.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram